Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw , mae'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, natur a chymunedau gwledig ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • £10 miliwn i adfer bioamrywiaeth, creu swyddi ac atgyfnerthu cysylltiadau cymunedau â'r amgylchedd naturiol.
  • Cynllun Hinsawdd a Natur Newydd i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.
  • Gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau cyllideb amlflwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai dros £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a fydd yn adfer bioamrywiaeth, yn creu swyddi ac yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng cymunedau a'u hamgylchedd naturiol.

Cyhoeddodd hefyd fod gwaith eisoes wedi dechrau ar Gynllun Hinsawdd a Natur uchelgeisiol, i nodi'r camau gweithredu i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.

Bydd y cynllun yn sicrhau bod gweithredu ar hinsawdd a natur yn gyfrifoldebau ar lefel Cabinet ar draws pob portffolio, gan gynnwys tai, trafnidiaeth, iechyd a'r economi.

Mae'r camau gweithredu â blaenoriaeth yn cynnwys plannu coed ac adfer mawndiroedd, cyflawni'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol Ar Fawndiroedd, a datblygu Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd Llifogydd newydd i Gymru i gydlynu dull cenedlaethol o ymdrin â llifogydd.

Bydd cynigion ar gyfer dyletswydd statudol newydd ar brawfesur gwledig hefyd yn cael eu cyflwyno, a bydd Strategaeth Datblygu Gwledig yn mynd i'r afael â thlodi ac yn creu cyfleoedd newydd ledled Cymru.

Mae Llywodraeth newydd Cymru yn gweithio i sicrhau cyllideb amlflwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er mwyn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned ffermio.

Bydd Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru hefyd yn meithrin diogelwch bwyd, yn atgyfnerthu cadwyni cyflenwi ac yn cefnogi'r diwydiant bwyd a diod.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu'r Gweinidog â phlant o ysgolion yn y Barri wrth iddyn nhw ddysgu am amddiffynfeydd arfordirol, erydu arfordirol a chynnydd yn lefel y môr. 

Dywedodd:

"Mae'r gwres eithafol rydyn ni'n ei brofi yr wythnos hon yn ein hatgoffa nad risg y dyfodol yw newid hinsawdd – mae eisoes yn effeithio ar bobl, natur, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

"Roedd gweld pobl ifanc yn y Barri yn dysgu am newid arfordirol yn ein hatgoffa bod rhaid inni weithredu ar unwaith. Yn y Gymru maen nhw'n cael eu magu ynddi mae tywydd eithafol, llifogydd, pwysau ar natur a newidiadau i'n harfordir yn dod yn fwy gweladwy. Ein gwaith ni yw ymateb gydag uchelgais, gonestrwydd a gweithredu ymarferol.

"Bydd ein Cynllun Hinsawdd a Natur yn rhoi hinsawdd a natur wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar draws y llywodraeth; o dai a thrafnidiaeth i iechyd, bwyd a'r economi.

"Nid yw aer glân, dŵr glân, priddoedd iach ac ecosystemau ffyniannus yn opsiynau dewisol. Maen nhw'n sylfaen ein cyfleoedd economaidd, sy'n gefnogi swyddi diogel, cartrefi cynhesach a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

"Ffermydd teuluol yw calon fyw ein cymunedau gwledig ac asgwrn cefn yr economi wledig. Rwyf am leihau'r baich biwrocrataidd arnyn nhw ac rwyf eisoes wedi penodi John Davies i arwain adolygiad annibynnol i dorri biwrocratiaeth ddiangen fel y gellir treulio amser ar bethau fel rheoli stoc neu gynllunio ar gyfer y dyfodol.

"Rwyf wedi ymrwymo i wrando, gweithio mewn partneriaeth a chyflawni newid ymarferol wedi'i lunio gan y bobl sy'n adnabod eu cymunedau orau."