Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, wedi cyflawni llawer yn ddiweddar drwy raglenni ataliol a dulliau adferol eraill sydd wedi'u targedu i atal pobl ifanc rhag cael eu cyhuddo. Mae'r nifer o bobl ifanc sy'n mynd yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf yn parhau i leihau, a chofnodwyd y nifer lleiaf o blant a phobl ifanc yn y ddalfa yn 2013, sef 50.  Fodd bynnag, mae'r cyfraddau aildroseddu bellach yn codi. Mae hyn yn digwydd yn rhannol gan fod llai o blant yn y System Cyfiawnder Ieuenctid sydd ag anghenion mwy cymhleth a phatrymau troseddu mwy cyson.  

Roedd dros draean o’r bobl ifanc a oedd yn rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn 2010 wedi aildroseddu o fewn 12 mis, ac mae’r nifer yn parhau i gynyddu.

Mae nifer o enghreifftiau o blant sy'n mynd yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid oherwydd na lwyddwyd i ddiwallu'u hanghenion. Mae dogfen ymgynghori ar y Papur Gwyn, sef ‘Atal Troseddu gan Bobl Ifanc’, wedi’i lansio heddiw. Bydd y cynigion yn rhoi cyfle i gryfhau’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y bobl ifanc , a’u helpu i dorri'r cylch dieflig o aildroseddu.

Bydd y cynigion ar gyfer Bil y Cynulliad yn canolbwyntio ar y grŵp penodol o bobl ifanc sydd fwyaf mewn perygl o aildroseddu ac o fynd ymhellach drwy'r system cyfiawnder ieuenctid ac i'r ddalfa.  Bydd hefyd yn sicrhau eu bod yn ailsefydlu'n effeithiol yn dilyn dedfryd o garchar, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r bobl ifanc hynny yn y dyfodol. Un o brif gynigion y Bil fydd sefydlu Partneriaethau Rhanbarthol ar gyfer Ailintegreiddio ac Ailsefydlu. Bydd y rhain yn allweddol wrth sicrhau bod anghenion y bobl ifanc hyn yn cael eu nodi a'u diwallu.

Dylem fod yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yma. Fodd bynnag, mae angen dull newydd arnom os ydym am fynd i’r afael â’r achosion mwy heriol hyn yn effeithiol.

Mae’r Bil yn cynnig cyfle unigryw i allu rhoi’r cymorth penodol sydd ei angen i atal aildroseddu a helpu pobl ifanc i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen ymgynghori drwy glicio ar-lein.

Edrychaf ymlaen at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a fydd yn cael eu derbyn erbyn 30 Ebrill 2014.