Neidio i'r prif gynnwy

Mae rheoliadau wedi 'u gosod i ganiatáu cyflwyno Cofrestru Pleidleiswyr Awtomatig (AVR) ledled Cymru mewn pryd ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol 2027, yn dilyn llwyddiant rhaglenni peilot yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae rheoliadau wedi 'u gosod i ganiatáu cyflwyno Cofrestru Pleidleiswyr Awtomatig ledled Cymru cyn etholiadau Llywodraeth Leol 2027.
  • Cadarnhaodd gwerthusiad annibynnol gan y Comisiwn Etholiadol lwyddiant rhaglenni peilot yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys.

Cadarnhaodd gwerthusiad annibynnol gan y Comisiwn Etholiadol lwyddiant y cynlluniau peilot, gan baratoi'r ffordd i Lywodraeth Cymru osod y rheoliadau. Disgwylir y bydd y rhain yn dod i rym yr hydrefn hwn.

O dan y system newydd, bydd awdurdodau lleol yn paru data er mwyn adnabod etholwyr posibl, rhoi gwybod iddynt am y broses a'u hawl i optio allan, ac ychwanegu unigolion cymwys at y gofrestr etholiadol llywodraeth leol. Mae'r newid wedi'i gynllunio i wella cywirdeb y gofrestr a chynyddu nifer y bobl sydd arni, gan helpu mwy o bobl ledled Cymru i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:

Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran Cofrestru Pleidleiswyr yn Awtomatig yn y DU. Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i wella cywirdeb y gofrestr etholiadol llywodraeth leol a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru arni, ac maent yn gam pwysig tuag at gryfhau ein democratiaeth.

Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau am eu cymorth amhrisiadwy i ddatblygu AVR yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar ymlaen llaw am eu cydweithrediad parhaus wrth i ni baratoi i'w roi ar waith ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gymuned etholiadol i sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni'n ofalus ac yn effeithiol, gan ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol i bob awdurdod lleol.