Bydd pobl yng Nghymru sy'n profi digartrefedd neu'n byw mewn llety dros dro anaddas yn elwa o hwb o £20 miliwn i ddarparu mwy o gartrefi cymdeithasol o safon yn gyflym.
- £20 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i gynyddu'r cyflenwad tai cymdeithasol ledled Cymru
- Bydd cyllid yn helpu i symud pobl allan o lety dros dro anaddas i gartrefi o safon
- Mae buddsoddiad yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd
Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu'r cyllid ychwanegol i'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) eleni, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd ym mis Gorffennaf.
Mae TACP yn cefnogi ystod hyblyg o ddulliau - gan gynnwys caffael eiddo presennol, trawsnewid adeiladau, a dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd - i gael pobl mewn tai sefydlog yn gyflym.
Mae'r buddsoddiad yn cyfrannu'n uniongyrchol at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, ac mae'n rhan o gamau ehangach i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a lleihau'r ddibyniaeth ar lety dros dro sy'n anaddas ar gyfer byw yn y tymor hir.
Ymwelodd y Gweinidog Cabinet Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, â datblygiad Cae Bryn Hyfryd yn Llanrwst, Conwy yr wythnos hon — cynllun o 14 o gartrefi cymdeithasol newydd a gyflwynwyd gan Adra gyda chymorth grant Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymweliad yn dangos sut mae tai cymdeithasol wedi'u cynllunio'n dda yn galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau wrth symud i gartrefi sydd wir yn diwallu eu hanghenion.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cartref diogel, sefydlog. Mae'r buddsoddiad hwn o £20 miliwn yn golygu y gallwn gael mwy o bobl allan o lety dros dro ac i gartrefi o safon yn gyflymach.
Mae ymweld â Chae Bryn Hyfryd heddiw yn ein hatgoffa o'r hyn sy'n bosibl - cartrefi cynaliadwy, fforddiadwy sy'n rhoi cyfle i bobl osod gwreiddiau a chadw mewn cysylltiad â'r cymunedau maen nhw'n eu caru.
Dywedodd Lowri Budd, tenant newydd yn y datblygiad:
Mae gennym nawr dŷ y gallwn ei alw'n gartref ac allwn ni ddim bod yn hapusach. Bydd y tŷ yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'n bywydau - mae gennym rywle sy'n ddiogel ac yn gyfforddus, mewn amgylchedd hyfryd, tra'n dal i fod yn rhan o'r gymuned leol yn Llanrwst. Mae'n gwireddu breuddwyd i ni fel teulu.
Dywedodd Huw Evans, Pennaeth Datblygu Adra:
Mae galw amlwg am dai fforddiadwy wedi bod yn y rhan hwn o Ddyffryn Conwy - adlewyrchiad o'r galw am gartrefi o'r fath ledled Cymru. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i adeiladu hyd at 800 o gartrefi newydd ledled Gogledd Cymru erbyn 2030, cartrefi sy'n ddiogel, yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni.
