Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni, mewn digwyddiad a gynhelir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, gan ymuno â chymunedau i gydnabod gwasanaeth a chyfraniad y Lluoedd Arfog.
- Y Dirprwy Brif Weinidog yn bresennol mewn digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Sir Gaerfyrddin.
- Cefnogir y digwyddiad eleni gan gyfraniad o £20,000.
- Cymorth wedi’i dargedu ar draws meysydd datganoledig ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog wedi derbyn £20,000 o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026 i 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru, gan helpu i ddarparu gwasanaethau fel cymorth iechyd meddwl arbenigol i gyn-filwyr, cymorth mewn ysgolion i blant o deuluoedd aelodau’r Lluoedd Arfog, gwell mynediad at weithgareddau iechyd a lles, a swyddogion cyswllt penodedig sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol.
Bydd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, yn bresennol yn y digwyddiad i nodi’r achlysur. Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd:
“Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy’n gwasanaethu, ac sydd wedi gwasanaethu, ac i gydnabod y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i’n cymunedau. Mae hefyd yn gyfle i gydnabod y cyfraniad y mae teuluoedd aelodau’r Lluoedd Arfog yn ei wneud, ac i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael iddynt.
“Rydyn ni eisiau i gyn-filwyr a theuluoedd aelodau’r lluoedd arfog gael cymorth i lwyddo yng Nghymru, yn eu cartrefi, yn eu cymunedau ac yn eu gyrfaoedd, fel bod eu sgiliau, eu profiad a’u doniau yn parhau i gyfoethogi cymdeithas Cymru.”
“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd. Hoffwn hefyd ddiolch i’r sefydliadau a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino trwy gydol y flwyddyn i gefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog.”
