Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

O 30 Medi 2025 ymlaen, daw data gweithlu practisau cyffredinol o System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol, sy'n disodli System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru a fu'n ffynhonnell ddata ers 2020. 

Gan fod patrymau recriwtio tymhorol, dylid gwneud cymariaethau dros amser gyda'r un dyddiadau cyfeirio yn y blynyddoedd blaenorol yn unig. Mae gwaith dilysu helaeth wedi dangos bod data System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol yn gymaradwy â data System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru. 

Mae System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol yn cael ei gynnal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. 

Mae setiau data sydd fel arfer yn cael eu diweddaru'n flynyddol wedi'u cyhoeddi gyda data newydd ar gyfer 30 Medi 2025 ar StatsCymru. Mae'r rhain yn ymwneud â phobl sy’n ymuno ac yn gadael, llif y gweithlu, nodweddion staff (gan gynnwys oedran, rhywedd ac ethnigrwydd), gallu staff yn y Gymraeg a staff fesul pen o'r boblogaeth.

Mae data newydd ar gyfer amddifadedd mewn meddygfeydd teulu wedi'u cyhoeddi ar StatsCymru. Mae hyn yn cyfeirio at gleifion a gofrestrwyd mewn meddygfeydd ym mis Ebrill 2026 ac mae bellach yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025. Nid yw'r data gweithlu cysylltiedig ar gyfer mis Mawrth 2026 ar gael eto a bydd yn cael ei gynnwys yn y setiau data amddifadedd yn y cyhoeddiad nesaf o ystadegau gweithlu meddygfeydd teulu.

Y prif bwyntiau

  • Ar 31 Rhagfyr 2025, roedd 1,633 o feddygon teulu cwbl gymwysedig cyfwerth ag amser llawn (FTE) yn darparu gofal iechyd o 368 o bractisau cyffredinol yng Nghymru.
  • Cynyddodd nifer y meddygon teulu cwbl gymwysedig 53 (3.4%) a gostyngodd nifer y practisau cyffredinol 2 (0.5%) o 31 Rhagfyr 2024.

Ar ôl dadansoddi yn ôl mathau penodol o feddygon teulu, roedd:

  • 988 o feddygon teulu sy’n bartneriaid FTE, sef gostyngiad blynyddol o 3.1%
  • 498 o feddygon teulu cyflogedig FTE, sef cynnydd blynyddol o 11.6%
  • 135 o feddygon teulu locwm FTE oedd wedi gweithio yn ystod y chwarter, sef cynnydd blynyddol o 32.5%
  • 12 o feddygon teulu wrth gefn FTE, sef gostyngiad blynyddol o 0.6%

Ochr yn ochr â meddygon teulu cwbl gymwysedig, roedd:

  • 427 o gofrestryddion mewn practis cyffredinol (meddygon teulu dan hyfforddiant) FTE, sef gostyngiad blynyddol o 3.2%
  • 981 o nyrsys cofrestredig FTE, sef gostyngiad blynyddol o 3.6%
  • 951 o staff gofal uniongyrchol i gleifion FTE (staff and ydynt yn feddygon teulu na nyrsys ond sy’n darparu gwasanaethau iechyd i gleifion megis cynorthwywyr gofal iechyd, cyflenwyr meddyginiaeth a fferyllwyr), sef gostyngiad blynyddol o 0.5%
  • 3,907 o staff gweinyddol neu staff practis anghlinigol eraill FTE, sef gostyngiad blynyddol o 0.6%

Os nad oes cytundeb rhwng bwrdd iechyd lleol a phartner meddygaeth deulu, gall y bwrdd iechyd reoli practis meddyg teulu yn uniongyrchol. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi staff yn uniongyrchol, ac mae’r practisau’n cael eu harwain fel arfer gan feddygon teulu ar gyflog neu feddygon teulu locwm.

  • Ar 31 Rhagfyr 2025, roedd 24 o bractisau’n cael eu rheoli gan fwrdd iechyd lleol, sef cynnydd blynyddol o 5. Roedd y practisau hyn yn cyflogi 113 o feddygon teulu cwbl gymwysedig FTE a 402 o staff practis ehangach FTE. Mae’r staff hyn wedi’u cynnwys yn y cyfansymiau ar gyfer staff.

Amddifadedd mewn practisau cyffredinol

Yn seiliedig ar ganran poblogaeth pob practis sy'n byw yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl MALlC 2025, roedd hanner y cleifion mewn practisau yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ym mis Ebrill 2026 (50.5%). Mae'r ganran hon yn gostwng ym mhob cwintel i bron i sero yn y cwintel lleiaf difreintiedig. Ers mis Ebrill 2025, mae cyfran y cleifion yn y cwintel practisau mwyaf difreintiedig wedi gostwng ychydig o 1.2 pwynt canran.

Cyhoeddir data fesul cwintel ymarfer ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r ystadegau hyn yn cyfeirio at weithlu practisau cyffredinol sy'n gweithredu o dan gontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol o fewn y GIG. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata o bractisau preifat.

Mae rhagor o wybodaeth am brosesau casglu data ac ansawdd ystadegol ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Manylion cyswllt

Ystadegau Gweithlu'r GIG a Gofal Sylfaenol
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099