Neidio i'r prif gynnwy

Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus agored, a gynhaliwyd yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, ystyriwyd bod Phil Berrington yn addas i gael ei benodi i rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a chafodd ei roi ar y rhestr wrth gefn. Felly, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi ei ddewis fel fy ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae adran 7.10 o'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus yn caniatáu i Weinidogion benodi ymgeiswyr y canfuwyd eu bod yn addas i'w penodi mewn ymgyrch benodi gyhoeddus flaenorol, os yw Gweinidog o'r farn bod y rôl newydd yn ddigon tebyg i rôl a hysbysebwyd yn flaenorol, ac y canfuwyd bod yr ymgeisydd yn addas i'w benodi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Mae'r penodiad hwn yn amodol ar broses graffu cyn penodi gan y Senedd, a gynhelir ym mis Medi 2026 ( dyddiad i'w gadarnhau). Ar ôl y gwrandawiad, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad, gan roi gwybod i’r aelodau am y penderfyniad hwnnw.