Adolygiad o’r farchnad agored ar gyfer ehangu band eang cyflym
Rydym yn chwilio am wybodaeth gan ddarparwyr seilwaith band eang a rhyngrwyd am eu seilwaith band eang.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Pwrpas yr Adolygiad o’r Farchnad Agored (OMR) hwn yw cadarnhau pa adeiladau yng Nghymru sydd heb strwythur band eang Mynediad y Genhedlaeth Nesaf (NGA) sy’n darparu 30 MB yr eiliad o leiaf, neu lle nad oes unrhyw gynlluniau i ddarparu seilwaith o'r fath dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r broses OMR hon yn galluogi cwmnïau telathrebu i ddarparu gwybodaeth am eu cynlluniau rhwydwaith a’u darpariaeth, ar hyn o bryd ac yn yr arfaeth.
Bydd canlyniadau’r Adolygiad yn diffinio’r ardal ymyrryd ar gyfer y prosiect Ehangu Band Eang Cyflym (EHSB) i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i’r adeiladau hynny sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn.
Sut mae ymateb
Anfonwch neges e-bost i EHSB.Fframwaith@llyw.cymru gan nodi “Ymateb i'r Adolygiad o'r Farchnad Agored” fel y disgrifir yn Adran 5 a 6 isod.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Is-adran y Seilwaith Digidol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: EHSB.Fframwaith@llyw.cymru
Mae’r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
WG54132
1. Cyflwyniad
Mae cyflwyno seilwaith digidol yng Nghymru wedi’i gyfyngu gan dopograffeg a dwysedd poblogaeth, sy’n gallu gwneud y ddarpariaeth yn y Gymru wledig ac anghysbell yn anymarferol yn economaidd i raddau helaeth. Mae cyflwyno band eang a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys Cyflymu Cymru, wedi arwain at fand eang cyflym iawn yn cael ei ymestyn i tua 97 y cant o adeiladau yng Nghymru, o’i gyfuno â chyflwyno masnachol.
Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion y diwydiant telathrebu ac ymyriadau’r sector cyhoeddus, mae yna adeiladau yng Nghymru o hyd sydd heb fynediad at gyflymder band eang cyflym iawn o leiaf.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r prosiect Ehangu Band Eang Cyflym (EHSB) i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i’r adeiladau hynny sydd heb fynediad at fand eang cyflym iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal proses gaffael i sefydlu fframwaith agored i gyflawni’r prosiect EHSB.
O dan y fframwaith, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyfarnu cyfres o gontractau yn ôl y gofyn (yn dilyn prosesau dethol cystadleuol unigol), a fydd yn darparu cyllid grant i gyflenwyr telathrebu i dalu am y "bwlch" mewn costau sy'n ofynnol i ddarparu cysylltiadau cyflym iawn i gymunedau / adeiladau yng Nghymru na fyddent fel arall yn cael eu gwasanaethu gan weithredwyr masnachol o dan amodau arferol y farchnad, oherwydd cost seilwaith uchel adeiladu cysylltiadau i'r cymunedau / adeiladau hynny.
Fodd bynnag, er mwyn cyflawni’r prosiect EHSB, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei data ar ddarpariaeth seilwaith band eang ar gyfer adeiladau yn gyfredol. Fel y mae ar hyn o bryd, mae’r prosiect EHSB yn cael ei hysbysu yn hyn o beth gan Adolygiad o’r Farchnad Agored (OMR) a gynhaliwyd yn 2022.
Nododd OMR 2022 nad oedd gan tua 84,000 o adeiladau yng Nghymru fynediad at gyflymderau lawrlwytho cyflym iawn (o leiaf 30Mbps). Mae Llywodraeth Cymru yn hyderus bod nifer yr adeiladau heb gyflymderau lawrlwytho cyflym iawn wedi lleihau’n sylweddol ers OMR 2022 wrth i gwmpas cyflwyno masnachol a sectorau cyhoeddus eraill, gan gynnwys Prosiect Gigadid, ddod yn gliriach.
Mae Llywodraeth y DU, drwy ei huned Building Digital UK (BDUK) yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), yn cynnal ei OMR treigl ei hun bob 4 mis ledled Cymru a Lloegr. Mae hwn yn casglu data ar gyflenwyr sy’n darparu seilwaith sy’n gallu delio â gigadid (1,000Mbps o leiaf). Fodd bynnag, nid yw’r ddarpariaeth gyflym iawn bresennol yn hysbys ar lefel adeiladau.
Rydym yn dymuno cydweithio â’r diwydiant i sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posibl, lleihau ystumio’r farchnad a chyflawni ein hamcanion o fewn amserlen dynn. I wneud hyn, rhaid i ni nodi’n gyntaf yr ardaloedd ymyrryd nad ydynt yn fasnachol hyfyw ar hyn o bryd, lle nad oes seilwaith yn bodoli neu lle bwriedir adeiladu seilwaith yn ystod y tair blynedd nesaf.
Ar ôl asesu cymhwysedd yr adeiladau drwy OMR, bydd yr adeiladau y mae Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod yn gymwys yn cael eu grwpio’n ardal ymyrryd i sicrhau bod yr ardaloedd cywir yn cael eu targedu ar gyfer buddsoddiad gan y llywodraeth. Bydd yr ardal ymyrryd yn cael ei rhoi i gyflenwyr fframwaith EHSB er mwyn i gyflenwyr allu gwneud cais am gyllid i gefnogi’r gwaith o ddarparu i’r ardaloedd hynny.
Rydym yn gwahodd cyflenwyr i roi gwybodaeth i ni am eu seilwaith yng Nghymru er mwyn i ni allu cynnal asesiad o gysylltedd band eang presennol ac arfaethedig.
A all cyflenwyr hefyd gynnwys yn eu cyflwyniadau unrhyw seilwaith presennol neu arfaethedig (o fewn tair blynedd) rydych chi wedi’i gael gyda chymorth cymhorthdal y Llywodraeth, er enghraifft, Prosiect Gigadid, Cynllun Talebau Band Eang Gigadid (GBVS), Cyflym Iawn (NBS 2012 neu NBS 2016) a Hybiau (Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol, GigaHubs a Rhaglenni Cysylltedd Gigadid Gwledig) yn ogystal ag unrhyw brosiectau seilwaith band eang eraill sy’n cael eu hariannu gan gyrff lleol.
2. Pam ddylech chi fel cyflenwyr gymryd rhan yn yr OMR hwn?
Drwy weithio gyda ni, byddwch yn helpu i wneud y defnydd gorau posibl o gymhorthdal cyhoeddus i helpu i ddarparu cysylltedd cyflymach a gwell ar draws pob rhan o Gymru. Byddwch yn ein helpu i nodi ardaloedd a fydd yn cael eu hepgor oherwydd nad ydynt yn fasnachol hyfyw.
Os oes gennych ddarpariaeth rhwydwaith ar hyn o bryd, neu os ydych yn bwriadu adeiladu seilwaith o fewn y tair blynedd nesaf, rydym yn eich annog yn frwd i ymateb i’r OMR hwn, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn targedu’r ardaloedd cywir ar gyfer cymhorthdal cyhoeddus ac yn osgoi goradeiladu seilwaith masnachol.
3. Cwmpas daearyddol
Bydd y Cais hwn am Wybodaeth (RFI) yn ein galluogi i nodi ardaloedd ymyrryd posibl ar gyfer buddsoddi. Mae’r Cais am Wybodaeth hwn ar gyfer yr OMR yn ymwneud â Chymru gyfan. Mae manylion yr ardal ymyrryd NGA bresennol, a gafodd ei hysbysu’n wreiddiol yn dilyn OMR ac adolygiad cyhoeddus yn 2022, ar gael yma (gan gynnwys rhestr codau post ardal ymyrryd wen NGA): Band Eang: adolygiad cyhoeddus 2022
Mae gwefan Llywodraeth Cymru hefyd yn dangos gwybodaeth am ddarpariaeth y gellir ei gweld drwy ddilyn y ddolen hon: Adolygiad Cyhoeddus 2022: Mynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf
Mae’r adeiladau sydd o fewn cwmpas y Cais am Wybodaeth hwn ar gyfer yr OMR wedi’u cynnwys yn y daenlen/taenlenni y gall Darparwyr Cyfathrebu sy’n cymryd rhan yn yr OMR ofyn amdanynt. Daw’r data hwn o AddressBase Premium Epoch 127, gan Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ym mis Mai 2026. Bydd angen i chi llenwi a llofnodi trwydded Defnyddiwr Terfynol Arolwg Ordnans i gael mynediad at y data hwn fel y disgrifir yn Adran 5. Bydd templed Ymateb yr OMR yn cael ei ryddhau i ddarparwyr ar ôl i Lywodraeth Cymru gael Ffurflen Trwydded Defnyddiwr Terfynol Sector Cyhoeddus Arolwg Ordnans wedi’i llofnodi, a gellir gwneud cais amdani drwy anfon e-bost at EHSB.Fframwaith@llyw.cymru.
4. Gofynion cymhwystra allweddol ar gyfer cymhorthdal
Mae adeiladau’n cael eu dosbarthu ar sail eu seilwaith band eang presennol neu arfaethedig fel adeiladau ‘Gwyn’, ‘Llwyd’, ‘Du’ a ‘Dan Adolygiad’. Dim ond i adeiladau sydd wedi’u dynodi’n rhai Gwyn y rhoddir cymhorthdal ar eu cyfer. Amlinellir diffiniadau’r dosbarthiad isod:
- Gwyn: mae hyn yn dangos adeiladau lle nad oes seilwaith rhwydwaith NGA cymwys (h.y., sy’n gallu darparu cyflymderau lawrlwytho o 30 Mb yr eiliad o leiaf) yn bodoli ac nad oes yr un yn debygol o gael ei adeiladu o fewn tair blynedd.
- Du: adeiladau sydd â dau seilwaith NGA cymwys, neu ragor, gan wahanol gyflenwyr ar gael neu a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf.
- Adeiladau llwyd: mae un seilwaith NGA cymwys gan un cyflenwr ar gael neu bydd yn cael ei gyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf
- Dan Adolygiad: adeiladau lle mae cyflenwyr wedi rhoi gwybod am ddarpariaeth band eang masnachol arfaethedig, ond lle mae’r cynlluniau hynny wedi cael eu barnu drwy’r OMR fel rhai a allai fod mewn perygl o beidio â chael eu cwblhau
Bydd adeiladau sy’n cael eu categoreiddio fel rhai Dan Adolygiad yn cael eu monitro a’u dilysu’n barhaus o fewn y cyfnod o dair blynedd. Gall Llywodraeth Cymru ofyn am ymrwymiad gan y cyflenwr bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o fewn tair blynedd. Os bydd y cynlluniau masnachol hyn yn diflannu, bydd yr adeiladau hyn yn cael eu mapio fel rhai cymwys ac yn dod yn rhan o’r ardal ymyrryd arfaethedig ac felly’n gymwys i gael ymyriad.
Mae Llywodraeth Cymru yn dosbarthu adeiladau ar sail eu seilwaith band eang presennol neu arfaethedig, fel y nodir yn Atodiad B. Mae dadansoddiad data’r OMR o honiadau darpariaeth band eang cyflenwyr yn cael ei gynnal ar lefel UPRN (adeiladau).
Beth yw gofynion “newid sylweddol”?
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y dylai ymyriadau cyhoeddus allu sicrhau ‘newid sylweddol’ yn argaeledd band eang o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn ogystal â rhwydweithiau arfaethedig credadwy. Dangosir hyn gan:
- yn gyffredinol, mae’n rhaid i gyflymder lawrlwytho gael ei ddyblu o leiaf a chyflymder lanlwytho fod yn sylweddol uwch o ganlyniad i’r ymyriad o’i gymharu â chyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol
- mae buddsoddiadau newydd sylweddol yn cael eu gwneud yn y rhwydwaith band eang (h.y. buddsoddiadau sy’n gorfod cynnwys gwaith sifil a gosod elfennau goddefol newydd)
- mae’r seilwaith newydd yn dod â galluoedd newydd sylweddol i’r farchnad o ran argaeledd gwasanaethau band eang, capasiti a chyflymder a/neu gystadleuaeth
Bydd y ‘newid sylweddol’ mewn argaeledd band eang yn cael ei gymharu â’r rhwydweithiau presennol yn ogystal â’r rhwydweithiau arfaethedig credadwy.
Wrth gyflawni’r ‘newid sylweddol’ hwn ar gyfer technolegau NGA, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld bod yr ateb technegol:
- yn gallu darparu cyflymderau mynediad o fwy na 30 Mbps ar gyfer lawrlwytho, nid yn unig drwy gyfeirio at theori a safonau technegol, ond hefyd drwy dystiolaeth o fesuriadau perfformiad wedi’u graddnodi ar gyfer defnydd presennol yn yr ardal o ddiddordeb neu gyflwyno sy’n amlwg yn gyfatebol mewn amgylchedd daearyddol tebyg
- yn cael ei ddylunio gan ddisgwyl darparu cyflymder lawrlwytho o 15Mbps o leiaf i ddefnyddwyr am 90% o’r amser yn ystod oriau brig yn yr ardal darged, fel sy’n cael ei ddangos gan fesuriadau annibynnol dibynadwy neu safonol gan y diwydiant
- rhaid iddo ddangos sut byddai’r ateb yn addasu i gynnal gallu a phrofiad y defnyddiwr terfynol o ganlyniad i newidiadau i baramedrau allweddol fel mwy o ddefnydd a mwy o alw am gapasiti, a gallu dangos, gan ddefnyddio cyfrifiadau clir, bod hyn yn ymarferol yn dechnegol ac yn fasnachol
- rhaid iddo gynnwys nodweddion (e.e. oedi, cryndod) sy’n galluogi darparu gwasanaethau uwch e.e. darparu fideogynadledda a ffrydio fideo Manylder Uwch i ddefnyddwyr terfynol fel y dangosir gan ganlyniadau treialon (nad ydynt o reidrwydd wedi’u cael yn yr ardal darged) a
- bod â hirhoedledd sy’n golygu y byddai’n rhesymol disgwyl cynnydd mewn perfformiad o fewn y 7 mlynedd nesaf
5. Cyflwyno ymateb data
I gyflwyno ymateb data, dilynwch y camau hyn:
- Llenwch fanylion eich cwmni a llofnodi Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol Cytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA), a fydd yn ofynnol cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r Templed Data Cyfeiriadau, dogfen ganllawiau ar sut i lenwi’r Templed Data Cyfeiriadau a’r Templed Tystiolaeth Ategol yn Atodiad B. Gellir gwneud cais am Gytundeb Trwydded Defnyddiwr drwy anfon e-bost at EHSB.Fframwaith@llyw.cymru
- Yn ogystal â dychwelyd Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol PSGA wedi’i lofnodi, nodwch hefyd yr ardal ddaearyddol yng Nghymru y mae gennych ddiddordeb ynddi, gall hyn fod naill ai’n Gymru gyfan neu’n Ardal(oedd) Awdurdod Lleol penodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar fersiwn o’r Templed Data Cyfeiriadau sydd wedi’i deilwra i’r ardaloedd penodol hyn.
- Gallwch ofyn am eglurhad ynghylch cyflwyno ymateb data, ar unrhyw adeg o 14 Gorffennaf 2026 i 25 Awst 2026. Anfonwch y cwestiynau hyn atom yn EHSB.Fframwaith@llyw.cymru
- Dylech gyflwyno eich Templed Data Cyfeiriadau wedi’i lenwi a Thempled Tystiolaeth Ategol Atodiad B i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol EHSB.Fframwaith@llyw.cymru gan nodi’r neges fel “Ymateb i Adolygiad o’r Farchnad Agored” ym mhennawd y pwnc.
- Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ymatebion i’r OMR yw 25 Awst 2026.
Sylwch y bydd y data rydych chi’n ei ddarparu yn eich ymateb yn cael ei drin yn fasnachol gyfrinachol, er efallai y bydd angen rhannu rhywfaint/y cyfan o’ch ymateb data â’n cynghorwyr proffesiynol. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddiffinio’r ardaloedd ymyrryd (yn unig) ar gyfer y prosiect Ehangu Band Eang Cyflym.
Bydd gwybodaeth a ddarperir gan gyflenwyr yn ystod yr OMR hwn yn cael ei defnyddio i lunio mapiau i ddiffinio ardaloedd ‘Gwyn’, ‘Llwyd’, ‘Du’ a ‘Dan Adolygiad’ ar gyfer band eang NGA. Fodd bynnag, dim ond yr ardaloedd band eang ‘Gwyn’, ‘Llwyd’, ‘Du’ a ‘Dan Adolygiad’ cyfunol y bydd y mapiau cyhoeddedig yn eu dangos, ac nid y data a ddarperir fesul cyflenwr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i gadarnhau a fyddai angen Datganiad Sicrwydd Peidio â Datgelu arnoch i’ch galluogi i rannu eich data â Llywodraeth Cymru fel rhan o’r broses OMR hon. Os felly, bydd copi o Ddatganiad Sicrwydd Peidio â Datgelu safonol Llywodraeth Cymru yn cael ei e-bostio atoch i’w lenwi a’i lofnodi. Os oes gennych gwestiynau am unrhyw beth o'r uchod, cysylltwch â: EHSB.Fframwaith@llyw.cymru
6. Gofynion cyflwyno
Rhaid i ymatebion cyflenwyr i’r Cais am Wybodaeth hwn ar gyfer yr OMR gynnwys y canlynol:
- Templed Data Cyfeiriadau wedi’i lenwi’n llawn sy’n rhoi manylion lefel UPRN eich darpariaeth band eang cyflym iawn bresennol a/neu arfaethedig i adeiladau. Bydd canllawiau llawn ar sut i lenwi a chyflwyno’r Templed Data Cyfeiriadau yn cael eu darparu i chi ar ôl dychwelyd Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol PSGA wedi’i lofnodi. Er gwybodaeth, dangosir y meysydd data gofynnol yn y Templed Data Cyfeiriadau fel enghraifft yn Atodiad A.
- Eich Atodiad B wedi’i gwblhau: Templed Tystiolaeth Ategol. Yn yr un modd â’r Templed Data Cyfeiriadau, bydd hwn yn cael ei ddarparu i chi fel dogfen ar wahân i’w llenwi ar ôl i chi ddychwelyd a llofnodi Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Terfynol PSGA.
7. Ymatebion gan randdeiliaid eraill
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu ymatebion gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, ynghylch adeiladau y maent yn deall na allant gael darpariaeth band eang cyflym iawn, neu na allant ddisgwyl cael darpariaeth o’r fath, yn ystod y 3 blynedd nesaf (a thu hwnt). Ar gyfer Awdurdodau Lleol, byddem hefyd yn croesawu unrhyw wybodaeth sydd gennych am unrhyw brosiectau seilwaith band eang a ariennir yn lleol sydd naill ai yn y camau cynllunio, yn aros i gontract gael ei ddyfarnu, neu’r rheini sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd. Dylai unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r OMR hwn gynnwys (ond nid oes angen ei chyfyngu i) yr UPRN, neu’r ardal (h.y. Cod post) y mae’r cyflwyniad yn ymwneud â hi, a natur y pryder.
Ar gyfer pob cyflwyniad, byddai Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau’r canlynol:
- enw’ch sefydliad (os yw’n berthnasol)
- eich sefydliad, neu gyfeiriad preswyl a/neu UPRN (os yw’n berthnasol)
- eich enw
- eich cyfeiriad e-bost
Dylid marcio ymatebion gan randdeiliaid eraill â’r geiriau “Ymateb i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored” a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: EHSB.Fframwaith@llyw.cymru
8. Dyddiad dychwelyd
Cyflwynwch ymatebion i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored hwn erbyn y dyddiad cau, sef 5pm ar 25 Awst 2026. Ar ôl cau’r OMR ac ar ôl gwerthuso’r cyflwyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r mapiau sy’n dangos yr ardaloedd ‘Gwyn’, ‘Llwyd’, ‘Du’ a ‘Dan Adolygiad’ cyfun.
Atodiad A: fformat cyflwyno data
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am feysydd data penodol ar gyfer pob cyfeiriad perthnasol yng Nghymru fel y nodir gan y Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) i fonitro’r gwasanaethau band eang sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Gwneir hyn drwy ofyn am ddata ar gysylltiadau presennol a chysylltiadau yn y dyfodol gan gyflenwyr perthnasol.
Fformatau ffeil
Ar gyfer yr OMR hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu’r Templed Data Cyfeiriadau gyda manylion UPRN wedi’u llenwi ymlaen llaw y byddwn yn gofyn i chi eu llenwi â gwybodaeth am fand eang fel y dangosir yn y tabl isod. Bydd y Templed Data Cyfeiriadau a roddir i chi naill ai’n cynnwys y manylion UPRN ar gyfer ardal ddaearyddol gyfan Cymru neu is-set o UPRN sy’n benodol i Ardal(oedd) Awdurdod Lleol penodol, yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi gofyn amdano.
Dim ond manylion cyfredol neu fanylion ar gyfer y dyfodol, neu’r ddau, y mae modd eu nodi. Os nad ydych yn cyflenwi neu’n bwriadu cyflenwi adeilad penodol ar hyn o bryd, gallwch naill ai adael y meysydd yn wag neu hepgor y cofnod yn gyfan gwbl.
StrUPRN
Yr UPRN (gweler isod) gyda’r rhagddodiad “str”, mae hyn yn lliniaru yn erbyn rhai adnoddau taenlen sy’n trin yr UPRN fel rhif mawr ac yn cael gwared ar ddigidau arwyddocaol.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
UPRN
Cyfeirnod unigryw’r eiddo.
Math: cyfanrif (rhif)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Cyfeiriad_Un_Llinell
Cyfeiriad un llinell wedi’i rannu ag atalnodau e.e. 1, Acacia Avenue, Anytown
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Cod post
Cod post safonol.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Ardal_Awdurdod_Lleol
Ardal yr awdurdod lleol.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Hydred
Hydred mewn fformat gradd ddegol.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Lledred
Lledred mewn fformat gradd ddegol.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan Lywodraeth Cymru
Technoleg_Bresennol
Llenwch y maes hwn ar gyfer UPRN sy’n Barod ar gyfer Gwasanaeth (RFS) yn unig) gyda’r dechnoleg rydych chi’n ei defnyddio i gyflenwi’r adeilad penodol hwnnw. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys ADSL, FTTP, FTTC, ac ati. Rhaid i hyn fod yn seilwaith band eang chi eich hun yn unig, nid ydym yn gofyn i chi ddweud wrthym am unrhyw dechnoleg hysbys arall sy’n gwasanaethu’r UPRN.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Uchafswm_Cyflymder_Lawrlwytho_Presennol
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’. Y cyflymder lawrlwytho uchaf mewn Mbit/s yr eiliad y gallwch ei gyflenwi i’r eiddo hwn.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Uchafswm_Cyflymder_Lanlwytho_Presennol
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’. Y cyflymder lanlwytho uchaf mewn Mbit/s yr eiliad y gallwch ei gyflenwi i’r eiddo hwn.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Technoleg_y_Dyfodol
Llenwch y maes hwn ar gyfer UPRNs rydych chi’n bwriadu eu cysylltu â’r dechnoleg rydych chi’n bwriadu ei defnyddio i gyflenwi’r adeilad penodol hwnnw yn unig. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys FTTP, FTTC, ac ati.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Uchafswm_Cyflymder_Lawrlwytho_y_Dyfodol
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_y_Dyfodol’. Y cyflymder lawrlwytho uchaf mewn Mbit/s yr eiliad rydych chi’n bwriadu gallu ei gyflenwi i’r eiddo hwn.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Uchafswm_Cyflymder_Lanlwytho_y_Dyfodol
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_y_Dyfodol’. Y cyflymder lanlwytho uchaf mewn Mbit/s yr eiliad rydych chi’n bwriadu gallu ei gyflenwi i’r eiddo hwn.
Math: fflôt (rhif degol)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Dyddiad_Cyflwyno_yn_y_Dyfodol
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_y_Dyfodol’. Y dyddiad rydych chi’n bwriadu cyflenwi’r eiddo hwn, h.y. y dyddiad RFS arfaethedig.
Myth: fflôt (dyddiad - DD/MM/BBBB)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Cam_Dylunio
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’ neu ‘Technoleg_y_Dyfodol’
Dylai’r Cam Dylunio fod naill ai yn:
- 1. Yn aros am HLD: Nid yw’r Dyluniad Lefel Uchel (HLD) wedi’i gwblhau eto.
- 2. HLD wedi’i gwblhau: cynllun lefel ardal/HLD wedi’i gwblhau. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith Dylunio Lefel Isel (LLD) wedi’i gwblhau eto neu mae’n mynd rhagddo.
- 3. LLD wedi’i gwblhau: mae’r dyluniad lefel isel (LLD) a gwaith arolygu wedi’i gwblhau, fodd bynnag, mae isgontractwyr/partneriaid adeiladu, neu adnoddau mewnol ar gyfer cwblhau’r gwaith o adeiladu’r rhwydwaith, eto i’w penodi.
- 4. Penodwyd y tîm adeiladu: Isgontractwyr/partneriaid adeiladu neu, os yw’n berthnasol, adnodd sifil mewnol, wedi eu penodi a’u comisiynu i ddechrau adeiladu’r rhwydwaith yn unol â’r LLDs. Mae’r holl waith gytundebau cynllunio, caffaeliadau a fforddfraint angenrheidiol wedi cael eu cwblhau er mwyn gallu adeiladu’r rhwydwaith.
- 5. Yn cael ei adeiladu: mae’r rhwydwaith wrthi’n cael ei adeiladu; fodd bynnag, nid yw’r adeiladau’n gallu manteisio ar wasanaeth eto.
- 6. RFS: mae’r gwaith o adeiladu’r rhwydwaith a phrofi o’r dechrau i’r diwedd wedi’i gwblhau, ac mae’r adeiladau yn RFS
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Cam_Cyllido
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_y_Dyfodol’
Dylai’r Cam Dylunio fod naill ai yn:
- 1. Dim cyllid wedi’i gynllunio na’i ymrwymo: Er y gallech fod yn bwriadu darparu ar gyfer yr UPRN hwn, nid yw’r cyllid ar gael eto i wneud hynny a/neu rydych yn chwilio am gyllid.
- 2. Cyllid wedi’i gynllunio, ond heb ei ymrwymo: Rydych chi wedi cytuno mewn egwyddor i ddarparu ar gyfer yr UPRN hwn, ond nid yw’r cyllid ar gael ar unwaith, mae angen penderfyniadau pellach fel cymeradwyaeth y Bwrdd, neu mae’n dibynnu ar fetrigau perfformiad (er enghraifft).
- 3. Cyllid wedi’i ymrwymo: Mae cyllid wedi cael ei nodi ac wedi cael ei ddyrannu i ddarparu ar gyfer yr UPRN hwn. Nid oes unrhyw amodau pellach o ran tynnu i lawr neu ddefnyddio cyllid ac mae’r cyllid wedi’i neilltuo ar gyfer darparu ar gyfer adeiladau cysylltiedig yn unig.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Ymyriad_Cyhoeddus
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’ neu ‘Technoleg_y_Dyfodol’.
Diffiniwch a oes darpariaeth wedi cael ei chysylltu neu wedi’i chynllunio i gael ei chysylltu gan ddefnyddio ymyriad cyhoeddus. Bydd ‘Oes’ yn cael ei farcio pan fydd adeilad yn dibynnu ar gyllid gan raglenni GBVS, GigaHubs, Cyflym Iawn, LFFN, RGC neu GIS, neu pan gafodd gwasanaeth presennol ei adeiladu gyda chyllid gan un o’r Rhaglenni hynny.
Dylai ymyriadau cyhoeddus eraill (fel cynlluniau Awdurdodau Lleol) hefyd gael eu cydnabod a’u nodi fel ‘Oes’ yma.
Byddai cofnodi ‘Na’ yn dangos bod bwriad i adeiladu’r eiddo, neu ei fod eisoes wedi cael ei adeiladu, yn gyfan gwbl drwy gyllid masnachol heb unrhyw ddibyniaeth ar ymyriad cyhoeddus.
Math: Oes / Na
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Math_o_Ymyriad_Cyhoeddus
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’ neu ‘Technoleg_y_Dyfodol’ lle mae ‘Ymyriad_Cyhoeddus’ yn ‘Oes’.
Dyma’r math o ymyriad cyhoeddus, lle awgrymir defnyddio’r cofnodion maes canlynol:
- GIS (cyn dyfarnu contract): Cymhorthdal Seilwaith Gigadid, cyn dyfarnu contract
- GIS (ar ôl dyfarnu contract): Cymhorthdal Seilwaith Gigadid, ar ôl dyfarnu contract ar gyfer adeiladau dan gontract, sy’n berthnasol dim ond pan fyddwch wedi sicrhau contract GIS.
- Cyflym Iawn
- GBVS (cyn gwneud cais); Cynllun Talebau Band Eang Gigadid, cyn y bydd cais wedi’i wneud am Daleb a’i rhoi
- GBVS (ar ôl gwneud cais): Cynllun Talebau Band Eang Gigadid, ar ôl gwneud cais am Daleb a’i rhoi
- LFFN: Rhwydweithiau Ffeibr Llawn Lleol
- Gigahubs
- RGC: Cysylltedd Gigadid Gwledig
Gellir darparu mathau ychwanegol o ymyriadau cyhoeddus hefyd, fel cynlluniau Awdurdodau Lleol.
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Cyfeirnod_Ymyriad_Cyhoeddus
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’ neu ‘Technoleg_y_Dyfodol’ lle mae ‘Ymyriad_Cyhoeddus’ yn ‘Oes’.
Cyfeirnod ymyriad cyhoeddus yw hwn; dyma enghreifftiau o gofnodion maes:
- GIS (cyn dyfarnu’r contract, lle mae’r Gwahoddiad i Dendro wedi'i lansio ar gyfer contract GIS): ID Atamis GIS
- GIS (ar ôl dyfarnu’r contract, dim ond yn berthnasol pan fyddwch chi wedi cael contract GIS): ID Atamis GIS
- Cyflym Iawn: Contract Band Eang Cyflym Iawn
- GBVS (cyn gwneud cais): Cynllun Talebau Band Eang Gigadid yn ‘wag’ gan nad oes IDs Talebau ar gael
- GBVS (ar ôl gwneud cais): ID Taleb Cynllun Talebau Band Eang Gigadid ar ôl gofyn amdano a’i roi
- LFFN: Enw’r Prosiect
- RGC: Enw’r Prosiect
- GigaHubs: Enw’r Prosiect
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Cyfeirnod_GBVS_PRP
Llenwch y maes hwn ar gyfer pob UPRN gyda ‘Technoleg_Gyfredol’ neu ‘Technoleg_y_Dyfodol’ lle mae ‘Ymyriad_Cyhoeddus’ yn ‘Oes’
Cyfeirnod prosiect Cynllun Talebau Band Eang Gigadid yw hwn; dyma enghreifftiau o gofnodion maes:
- AA1001 (Platfform Ariannu Talebau Cyn-BDUK)
- AB10000001 (Llwyfan Ariannu Talebau Ôl-BDUK)
Math: llinyn (testun)
Darparwyd gan y Darparwr Cyfathrebu
Colofnau ychwanegol
Ar wahân i’r colofnau safonol uchod, efallai yr hoffech ychwanegu colofnau ychwanegol at y Templed Data Cyfeiriadau a rhoi rhagor o wybodaeth am eich rhwydwaith. Os felly, ychwanegwch golofn(au) ychwanegol ar ddiwedd eich ffurflen ddata a rhowch esboniad clir yn eich Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol o’r hyn y mae’r colofnau hyn yn ei ddangos.
Atodiad B: templed tystiolaeth ategol
I gadarnhau eich darpariaeth fasnachol bresennol ac arfaethedig, mae tri maes hanfodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i werthuso eich gallu technolegol cyffredinol ac i sicrhau hyfywedd cyffredinol unrhyw fuddsoddiad arfaethedig. Bydd ein hasesiad yn seiliedig ar y gyfres o dystiolaeth rydych chi’n ei darparu i Lywodraeth Cymru yn Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol, a bydd yn cynnwys:
- technoleg: a yw’r dechnoleg rydych chi wedi’i defnyddio ac yn bwriadu ei defnyddio yn addas ar gyfer NGA ac yn bodloni’r meini prawf technegol a amlinellir yn Adran 4
- y gallu i gyflawni: a yw eich cynlluniau cyflwyno yn cyd-fynd â’r camau/adeiladau a amlinellir yn eich cynllun busnes, gyda’r camau a’r prosesau adeiladu allweddol wedi’u hamlinellu
- hyfywedd masnachol/ariannol: a oes gennych gynlluniau masnachol credadwy fel mynediad digonol at gyfalaf ac a yw tynnu eich arian i lawr yn cyd-fynd â’ch cynllun cyflwyno a’ch rhaglen adeiladu
Yn ogystal â’ch Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol, efallai y byddwch hefyd yn dymuno darparu dogfennau ategol i gadarnhau eich honiadau ynghylch darpariaeth fel diagramau rhwydwaith, cynllun busnes, cynlluniau cyflwyno ac ati.
Dylai’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu fod yn gyson ar draws yr holl feysydd uchod er mwyn galluogi a chefnogi gwerthusiad cyfunol o’ch cyflwyniad OMR. Ar ben hynny, dylai eich Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol wedi’i lenwi, hefyd gyfateb i’ch Atodiad A: Cyflwyno data.
Er mwyn i Lywodraeth Cymru werthuso unrhyw honiadau am fuddsoddiad a darpariaeth arfaethedig, rhaid i gyflenwyr ddarparu tystiolaeth fel yr amlinellir yn ‘Rhan D: Buddsoddiadau Arfaethedig’ yn Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol.
Wrth asesu a yw buddsoddiadau arfaethedig yn gredadwy, gall Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:
- adolygu’r cynlluniau busnes a’r cynlluniau cyflwyno ar sail calendr i sicrhau bod y rhain yn gyson ac yn ddigon manwl ar gyfer pob cam o’r gwaith adeiladu arfaethedig
- gofyn am dystiolaeth i ddangos cymeriad credadwy a dichonadwy y buddsoddiad arfaethedig a ddylai o leiaf gynnwys cynllun busnes, cynllun cyflwyno manwl ar sail calendr, tystiolaeth o gyllid digonol, ystyriaeth o risg a phensaernïaeth dechnegol arfaethedig
- sicrhau bod cynlluniau cyflwyno ar sail calendr yn cynnwys y camau adeiladu allweddol a phryd mae cyflenwyr yn disgwyl ymgymryd â gweithgareddau sylweddol yn eu rhaglen adeiladu fel dylunio, arolygu, caffael, adeiladu rhwydwaith, gosod rhwydwaith ac ati neu’r prosesau allweddol sy’n gysylltiedig â’ch cynllun adeiladu ar gyfer y cam dylunio, cyfnod yr arolwg, hysbysiadau ffyrdd/ffyrddfreintiau ac ati
- adolygu’r cyllid sydd ar gael i sicrhau ei fod yn ddigonol ar gyfer pob cam o’r gwaith adeiladu arfaethedig a bod y cyfalaf a ddyrannwyd ar gyfer yr ardal OMR benodol yn ddigonol ac yn gyson â’r cynllun cyflwyno
- adolygu telerau unrhyw drefniadau cyllido ac unrhyw ddibyniaethau a thybiaethau sy’n gysylltiedig â’r cyllid gan gynnwys telerau ad-dalu, DPA, ROI disgwyliedig, a oes angen unrhyw gymhorthdal gan y Llywodraeth fel talebau gigadid neu gynlluniau cymhorthdal rhanbarthol
- sicrhau bod dyluniad y rhwydwaith a’r wybodaeth ddimensiynol a ddarperir yn cyd-fynd â’r amcanestyniadau a wnaed yn y cynllun busnes o ran cysylltiadau cwsmeriaid a disgwyliadau twf
Ategwch Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol, gyda dogfennau eraill sy’n briodol yn eich barn chi, e.e. adroddiadau cyhoeddedig.
Atodiad C: rhestr o dermau
Building Digital UK (BDUK)
Rhan o’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg; yn gyfrifol am gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwell cysylltedd symudol a band eang.
Du
Ardaloedd/adeiladau lle mae o leiaf ddau rwydwaith gan wahanol weithredwyr yn bodoli neu a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd nesaf.
Ffibr i’r Cabinet (FTTC)
Mae ffeibr yn rhedeg o’r gyfnewidfa i gabinet stryd, yna mae gwifrau copr presennol yn cysylltu’r pellter sy’n weddill i bob adeilad.
Ffibr i’r Adeilad (FTTP)
Mae ffeibr optegol yn cael ei redeg yn uniongyrchol i bob adeilad, gan alluogi cysylltiad sy’n gwbl addas ar gyfer y dyfodol.
Gbps
Gigadidiau yr eiliad.
Yn Gallu Delio â Gigadid
Cyflymder lawrlwytho o 1 Gbps (1,000 Mbps) o leiaf wedi’i ddarparu ar draws rhwydwaith.
Llwyd
Ardaloedd/adeiladau sydd ag un rhwydwaith presennol neu arfaethedig yn unig o fewn y tair blynedd nesaf.
Mbps
Megadid yr eiliad.
Mynediad y Genhedlaeth Nesaf (NGA)
Rhwydweithiau cyflymder uchel sy’n darparu o leiaf 30 Mbps, gydag ôl-drosglwyddo data optegol neu gyfatebol yn ddigon agos i warantu cyflymderau uchel iawn, cefnogi gwasanaethau digidol uwch, a darparu cyflymderau lanlwytho uwch.
Ofcom
Awdurdod rheoleiddio cenedlaethol y DU ar gyfer diwydiannau telathrebu.
Adolygiad o'r Farchnad Agored (OMR)
Ymarfer ymgysylltu â’r farchnad i bennu’r defnydd a ddisgwylir o fand eang preifat a nodi ardaloedd heb ddarpariaeth neu gynlluniau cymwys yn ystod y tair blynedd nesaf.
Barod am Wasanaeth (RFS)
Mae RFS yn golygu y gall Darparwr Cyfathrebu (CP) neu ddefnyddiwr terfynol archebu gwasanaeth ar gyfer yr adeilad ac y gellir ei ddarparu o fewn amserlenni safonol y diwydiant heb godi unrhyw gostau adeiladu ychwanegol ar y darparwr cyfathrebu na’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (h.y. ni fyddai unrhyw ddefnyddiwr terfynol yn disgwyl talu dim ond tâl cysylltu cyhoeddedig y cytunwyd arno ymlaen llaw, pe bai un yn cael ei bennu, hefyd), oni bai ac i’r graddau bod costau adeiladu ychwanegol o’r fath yn codi oherwydd rheswm y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i dir preifat y defnyddiwr terfynol, neu unrhyw landlord y defnyddiwr terfynol.
Gwibgyswllt
Cyflymder lawrlwytho o 300 Mbps o leiaf a ddarperir ar draws y rhwydwaith.
Dan Adolygiad
Ardaloedd sydd â darpariaeth arfaethedig ond lle ystyrir bod cynlluniau mewn perygl; yn cael eu monitro am hyd at dair blynedd. Os bydd cynlluniau'n diflannu, bydd adeiladau'n troi’n 'wyn' a gallant fod yn rhan o Ardal Ymyrryd yn y dyfodol.
Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN)
Cod adnabod unigryw ar gyfer pob cyfeiriad gofodol ym Mhrydain, a ddefnyddir drwy gydol oes eiddo o’r cam cynllunio i’r cam dymchwel.
Gwyn
Ardaloedd/adeiladau heb unrhyw seilwaith band eang cymwys a dim un yn debygol o fewn tair blynedd.
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod inni wrth anfon eich ymateb ac fe wnawn ni eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/
