Cymorth ariannol ar gyfer troi o ffermio confensiynol i gynhyrchu organig.
Mae hwn yn gymorth sy'n seiliedig ar arwynebedd sydd ar gael i gynhyrchwyr amaethyddol presennol ledled Cymru sy'n dymuno newid o gynhyrchu confensiynol i gynhyrchu organig. Drwy gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod trawsnewid dwy flynedd, y nod yw darparu cymorth i sicrhau manteision rheoli tir ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae Troi'n Organig yn ddyfarniad grant 5 mlynedd a gaiff ei ariannu am y 2 flynedd gyntaf.
