Framwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru: Mai 2026
Fframwaith uwchgyfeirio Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan gynnwys y meini prawf ymyrrd ac isgyfeirio
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad ym mis Ebrill 2026, cafodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) ei uwchgyfeirio i Lefel 4, gan adlewyrchu pryderon difrifol a systemig a oedd yn gofyn am ymyrraeth gydlynol gan Lywodraeth Cymru.
Lefel 4 yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau ac ymyriadau uniongyrchol i gefnogi sefydliad i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti i ysgogi gwelliannau. Mae'n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd â'r nod o unioni'r problemau mewn cyfnod rhesymol o amser. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru 2025 fydd yn ymgymryd â'r ymyriadau, dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Hanes uwchgyfeirio
Hydref 2024
Lefel 1 gyda chamau goruchwylio cryfach, gyda llythyr yn nodi bod angen i Fwrdd IGDC gymryd camau i wella'r gallu i gyflawni a'r hyder ym mhartneriaid system IGDC.
Mawrth 2025
Uwchgyfeiriwyd IGDC i lefel 3 gyda mesurau uwch i fonitro perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â chyflawni rhaglenni mawr.
Rhagfyr 2025
Arhosodd ar lefel 3 gyda mesurau uwch i fonitro perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â chyflawni rhaglenni mawr.
Ebrill 2026
Uwchgyfeiriwyd y sefydliad cyfan i lefel 4 oherwydd bod pryderon cynyddol ynglŷn â pherfformiad, cyflawni rhaglenni, llywodraethu a heriau o ran rhanddeiliaid ac arweinyddiaeth.
NHS Wales oversight and escalation framework
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob un o gyrff y GIG eu hasesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: yn cyd-fynd â strwythurau cenedlaethol
- yn gyfunol: dulliau gweithredu a dysgu ar y cyd
- yn canolbwyntio ar effaith: tystiolaeth o gyflawniad a chanlyniadau
- yn dryloyw: gyda natur agored a chyd-atebolrwydd
Isgyfeirio
Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas â phob parth uwchgyfeirio.
Mae'r broses isgyfeirio:
- yn digwydd 1 lefel ar y tro
- yn gofyn am gynnydd parhaus dros 2 chwarter yn olynol
- yn seiliedig ar gyflawni yn erbyn cynlluniau a meini prawf y cytunwyd arnynt
Mae 2 ddull isgyfeirio:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos cynnydd yn erbyn y cynllun gwella y cytunwyd arno gyda gwelliannau parhaus yn erbyn y meini prawf isgyfeirio dros ddau chwarter yn olynol.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.
Rolau a chyfrifoldebau
Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:
- darparu her a goruchwyliaeth strwythuredig
- cyfeirio Perfformiad a Gwella GIG Cymru a chymorth ymyrryd
- hyrwyddo arferion gorau a dysgu ar y cyd
- gweithio gydag IGDC i gefnogi galluogwyr system allweddol (er enghraifft, pensaernïaeth genedlaethol, cynaliadwyedd ariannol)
Rolau a chyfrifoldebau'r sefydliad yw:
- penodi Prif Berchennog Cyfrifol
- sicrhau bod trefniadau goruchwylio a llywodraethu cryf ar lefel y Bwrdd
- cyflwyno cynllun gwella Lefel 4 credadwy
- darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Ymyriad Lefel 4
Yn sgil asesiad Llywodraeth Cymru o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn erbyn y parthau uwchgyfeirio ym mis Mehefin a mis Tachwedd 2025, codwyd pryderon yn ymwneud â chyflawni rhaglenni mawr yn effeithiol a'r trefniadau llywodraethu a arweinyddiaeth cysylltiedig. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, gwnaed penderfyniad ym mis Ebrill 2026 i uwchgyfeirio'r sefydliad i lefel 4. Wrth wneud hynny, cydnabuwyd bod llawer o feysydd yn y sefydliad yn gweithio'n effeithiol, ond bod angen prosesau asesu a chymorth ym mhob rhan o'r sefydliad at ddibenion cyflawni rhaglenni, llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant.
Crynodeb o'r pryderon lefel uchel: nodwyd ym mis Ebrill 2026
Ceir dadansoddiad manylach, gan gynnwys enghreifftiau, yn Atodiad 1.
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â pherfformiad a chanlyniadau yn cynnwys:
- methiant mynych i gyflawni rhaglenni mawr yn ôl y cynllun
- enghreifftiau cyfyngedig o wireddu manteision er gwaethaf buddsoddiad parhaus
- hyder cyflawni wedi'i wanhau oherwydd camau mynych i ailosod ac ailbroffilio
- anghysondeb rhwng cerrig milltir a pharodrwydd gweithredol
- oedi cenedlaethol o ran cyflawniad yn effeithio ar allu byrddau iechyd i gynllunio
- capasiti arweinwyr yn cael ei feddiannu gan weithgarwch adfer
Mae crynodeb o'r pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â llywodraethu, arweinyddiaeth, y gweithlu a'r diwylliant yn cynnwys:
- gafael annigonol mewn prosesau cyflawni a diffyg realaeth o ran ymddygiadau'r arweinwyr
- risgiau yn cael eu nodi a'u huwchgyfeirio'n hwyr
- pwyslais ar gyflawni cerrig milltir yn hytrach na chanlyniadau ar gyfer y system
- ymgysylltiad gwan â'r system a chyd-berchnogaeth wan gyda byrddau iechyd
- llai o hyder yng ngallu'r system i gyflawni mewn modd dibynadwy
- nid yw capasiti a gallu yn cyd-fynd â maint a chymhlethdod y portffolio
- gorddibyniaeth ar unigolion allweddol
- model gweithlu anghynaliadwy (rolau dros dro ac allanol)
- hyblygrwydd cyfyngedig i ymateb i flaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg
- twf nad yw aeddfedrwydd cyflawni yn cyfateb iddo
- hyder yn dirywio ymhlith byrddau iechyd a phartneriaid
- ymrwymiadau digidol cenedlaethol yn llai credadwy
- mwy o graffu allanol a risg i enw da
- risg o ymddieithrio oddi wrth raglenni cenedlaethol yn y dyfodol
Mae crynodeb o bryderon lefel uchel sy'n ymwneud â chyllid, strategaeth a chynllunio yn cynnwys:
- buddsoddiad parhaus heb gyflawniad cyfatebol
- cysondeb gwael rhwng cyllid a hyder cyflawni
- gafael ariannol cyfyngedig ar lefel portffolio
- defnydd annigonol o fecanweithiau atal a ailosod
- diffyg eglurder o ran cynaliadwyedd ariannol hirdymor
Cymorth ymyrryd
Mae IGDC wedi dechrau gweithgarwch gwella, gan gynnwys:
- adfer ac ailosod rhaglenni
- cryfhau swyddogaethau cyflawni a sicrwydd
- adolygu trefniadau ariannol a gwireddu manteision
- Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Tîm Cymorth Dwys, Adfer a Gwyrdroi Perfformiad a Gwella'r GIG i asesu:
- digonolrwydd y camau gweithredu presennol
- achosion sylfaenol
- maint a chyflymder y gwelliant sydd ei angen
Bydd yr ymyrraeth hon ar ffurf 2 gam.
Cam 1: Y Cam Gwerthuso
Bydd Llywodraeth Cymru, gyda chymorth Perfformiad a Gwella'r GIG ac ar y cyd ag arweinwyr y sefydliad, yn trefnu adolygiad annibynnol yn erbyn y meysydd pryder sydd wedi arwain at uwchgyfeirio a'i chamau gweithredu arfaethedig er mwyn deall a chynghori pob parti ar y canlynol:
- achosion sylfaenol y meysydd a uwchgyfeiriwyd a herio gyda ffocws penodol ar reoli rhaglenni, llywodraethu, diwylliant sefydliadol ac arweinyddiaeth.
- barn ynglŷn â dilysrwydd ac effeithiolrwydd tebygol y cynlluniau gwella sefydledig.
- amlinelliad o'r dull a ddefnyddir i ymdrin â rhaglen ymyrryd cam 2
Bydd Cam 1 yn cymryd tua 8 i 12 wythnos, a chaiff ei gynnal gan unigolion annibynnol a medrus addas sydd â phrofiad mewn swyddi gweithredol ac uwch-weithredol i gefnogi dealltwriaeth o'r ddynameg ddiwylliannol sylfaenol o fewn y sefydliad.
Cam 2: Y Cam Cyflawni
Cytunir ar y cylch gorchwyl ar gyfer y cam cyflawni yn dilyn allbynnau Cam 1.
Monitro ac asesu
Yn ystod cyfnod ymyrryd lefel 4, bydd trefniadau monitro ac adrodd yn cynnwys:
- Bwrdd Uwchgyfeirio a gaiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr a Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal ac Atal GIG Cymru
- goruchwyliaeth Weinidogol yn unol â'r fframwaith
- adolygiadau misol o berfformiad a chyflawniad
Meini Prawf Isgyfeirio
Arweinyddiaeth a Llywodraethu
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:
- bod gan y Bwrdd brosesau goruchwylio effeithiol a threfniadau llywodraethu aeddfed
- camau cynnar a thryloyw i uwchgyfeirio risgiau
- hyder cyflawni amlwg a gafael ar brosesau gwneud penderfyniadau
- hyder gwell gan randdeiliaid ac ymgysylltiad gwell â'r system
- capasiti cryfach ymhlith y gweithlu a llai o ddibyniaeth ar bobl allweddol
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:
- bod gan y Bwrdd brosesau goruchwylio effeithiol a threfniadau llywodraethu aeddfed
- camau cynnar a thryloyw i uwchgyfeirio risgiau
- hyder cyflawni amlwg a gafael ar brosesau gwneud penderfyniadau
- hyder gwell gan randdeiliaid ac ymgysylltiad gwell â'r system
- capasiti cryfach ymhlith y gweithlu a llai o ddibyniaeth ar bobl allweddol
Rhaid i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth o'r meini prawf ar ffurf y canlynol:
- trefniadau llywodraethu mwy aeddfed mewn perthynas â chyflawniad, a ddangosir drwy hunanasesiad ddwywaith y flwyddyn sy'n cyd-fynd â'r matrics aeddfedrwydd llywodraethu digidol cenedlaethol, gyda thystiolaeth glir o gamau gweithredu yn cael eu cwblhau a'u cynnal.
- mae systemau llywodraethu a sicrwydd clir ar waith a chaiff materion eu huwchgyfeirio'n briodol drwy strwythurau a phrosesau clir gyda goruchwyliaeth effeithiol gan y Bwrdd a fframwaith clir sy'n ysgogi gwelliant.
- dangos bod trefniadau llywodraethu a sicrwydd ar lefel portffolio wedi'u hymgorffori'n llawn, gan gynnwys y canlynol:
- caiff risg gyhoeddus a gweinidogol ei rheoli'n weithredol, gyda llai o broblemau cyflawni proffil uchel sy'n gofyn am ymyrraeth adweithiol
- defnydd rheolaidd o hyder cyflawni, dibyniaeth a sicrwydd manteision fel mewnbynnau penderfynu sylfaenol
- trothwyon clir a chytunedig ar gyfer oedi, ailosod neu atal a gaiff eu defnyddio'n glir
- dangos bod gwaith goruchwylio a chraffu effeithiol cyson gan y Bwrdd a'r Pwyllgorau priodol mewn perthynas â'r ddarpariaeth bresennol a'r broses o gyflawni rhaglenni allweddol â blaenoriaeth genedlaethol.
- dangos trefniadau rheoli risg cadarn ar gyfer nodi, cofnodi a rheoli risgiau ar draws y sefydliad, gyda risgiau'n cael eu huwchgyfeirio'n gynnar ac yn dryloyw, a llai o achosion o ddarganfod risgiau yn hwyr ar y pwynt effaith.
- tystiolaeth amlwg bod prosesau goruchwylio'r Bwrdd a Bwrdd Arweinyddiaeth Digidol, Data a Thechnoleg yn effeithiol, gan gynnwys:
- herio hyder cyflawni yn rheolaidd ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
- gwneud penderfyniadau pan fo hyder yn isel (gan gynnwys ailflaenoriaethu neu ddad-gwmpasu).
- mae ymddygiadau'r uwch-arweinwyr yn atgyfnerthu realaeth, uwchgyfeirio cynnar ac effaith ar y system, wedi'u cefnogi gan arwyddion hyder gwell gan fyrddau iechyd a fforymau cenedlaethol.
- gwell hyder gan gyrff goruchwylio a sicrwydd fel Archwilio Cymru a llywodraethu Digidol, Data a Thechnoleg.
- dangos bod pryderon ynghylch perfformiad yn cael eu rheoli drwy fecanweithiau llywodraethu arferol yn hytrach na phrosesau craffu a ysgogir gan gamau uwchgyfeirio.
- hyder gwell gan fyrddau iechyd a ddangosir drwy:
- adborth rhanddeiliaid a llai o bryderon.
- llai o ddibyniaeth ar froceriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau camau i fabwysiadu neu ymrwymiad.
- mae dulliau atebolrwydd a rennir ac a gydluniwyd wedi'u hymgorffori, gan gynnwys:
- cyfranogiad cynnar byrddau iechyd mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â chwmpas, dilyniant a dibyniaeth.
- mynegi parodrwydd lleol, cost ac effeithiau ar y gweithlu yn glir cyn gwneud ymrwymiadau cenedlaethol.
- llai o anwadalrwydd mewn ymrwymiadau cyflawni cenedlaethol, gyda llai o newidiadau hwyr i ddilyniant, cwmpas neu ddisgwyliadau.
- mae capasiti a gallu cyflawni rhaglenni a phortffolios cadarn wedi gwella ac yn cyd-fynd â risg a chymhlethdod y portffolio, gan gynnwys:
- modelu capasiti penodol ar lefel portffolio.
- penderfyniadau blaenoriaethu clir lle ceir capasiti cyfyngedig.
- llai o ailosodiadau adfer a chamau ailbroffilio a achosir gan fylchau mewn dibyniaeth neu allu.
- sgoriau hyder gwell gan swyddogaethau sicrwydd annibynnol neu her fewnol.
- lleihad mewn risgiau dibyniaeth pwynt unigol, a ddangosir gan:
- drefniadau dirprwy ac olyniaeth cryfach ar gyfer rolau hanfodol.
- llai o ddibyniaeth ar nifer bach o unigolion i ymgymryd â swyddogaethau cyflawni, diogelwch neu sicrwydd.
- model gweithlu mwy cynaliadwy, gyda llai o ddibyniaeth ar rolau byrdymor neu a ariennir yn allanol ar gyfer swyddogaethau cyflawni a sicrwydd craidd.
Perfformiad a Chanlyniadau
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:
- y gallu i gyflawni rhaglenni blaenoriaeth yn barhaus dros ddau chwarter
- cerrig milltir sy'n gyson â pharodrwydd gweithredol
- tystiolaeth o fanteision yn cael eu gwireddu ar raddfa
- llai o ddibyniaeth ar gyflawniad a arweinir gan adferiad
Rhaid i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth o'r meini prawf ar ffurf y canlynol:
- cyflawni cerrig milltir y cytunwyd arnynt mewn modd cynaliadwy ar draws rhaglenni blaenoriaeth cenedlaethol (e.e. ap GIG Cymru, LIMS, RISP, WICIS), lle:
- ceir sicrwydd annibynnol bod cerrig milltir yn gyflawnadwy ac yn gysylltiedig â chanlyniadau, nid yn seiliedig ar weithgarwch yn unig.
- caiff perfformiad cyflawni ei gynnal dros ddau chwarter yn olynol heb ddibynnu ar ailosod llinell sylfaen neu ailbroffilio dro ar ôl tro.
- mae cyflawni cerrig milltir yn cyd-fynd â pharodrwydd i ddefnyddio gwasanaethau byw, a ddangosir gan:
- lai o faterion diogelwch clinigol, sefydlogrwydd technegol a pharodrwydd gweithredol ar ôl cyflawni cerrig milltir.
- cymeradwyaeth byrddau iechyd yn cadarnhau parodrwydd ar bwyntiau y cytunwyd arnynt.
- gwireddu manteision mesuradwy ar raddfa, gydag o leiaf:
- un rhaglen genedlaethol fawr sy'n dangos budd clinigol, gweithredol neu gynhyrchiol dilys, y tu hwnt i gynllun peilot neu broses gyflwyno rannol.
- tystiolaeth glir nad yw'r gallu i gyflawni bellach yn canolbwyntio'n anghymesur ar adfer rhaglenni sy'n tanberfformio, gan ryddhau ffocws arweinwyr ar gyfer rheoli portffolios mewn modd rhagweithiol.
Cyllid, Strategaeth a Chynllunio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:
- trefniadau llywodraethu ariannol cryf a phrosesau cryf ar gyfer goruchwylio portffolios
- cysondeb rhwng cyllid a hyder cyflawni
- defnydd effeithiol o reolaethau atal a ailosod
- model cynaliadwyedd ariannol hirdymor clir
- cynllun tair blynedd credadwy
Rhaid i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth o'r meini prawf ar ffurf y canlynol:
- sicrhau bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf.
- gafael ariannol gryfach ar lefel portffolio, gan gynnwys:
- cysondeb clir rhwng buddsoddiad, hyder cyflawni a'r tebygolrwydd y caiff manteision eu gwireddu
- cyfaddawdau amlwg rhwng rhaglenni pan fydd fforddiadwyedd neu hyder yn gyfyngedig
- defnydd amlwg o fecanweithiau oedi, ailosod neu atal i reoli amlygiad i gostau ar drywyddau lle ceir lefel isel o hyder
- mae buddsoddiad parhaus mewn rhaglenni cenedlaethol yn amodol ar barodrwydd sicr i gyflawni, wedi'i ategu gan benderfyniadau wedi'u dogfennu
- cyfleu model cynaliadwyedd ariannol tymor canolig i dymor hir ar gyfer gwasanaethau digidol cenedlaethol yn glir, gan gynnwys:
- costau parhaus llwyfannau.
- effeithiau ar gost, gweithlu a chymorth byrddau iechyd i lawr y gadwyn.
- gwelliannau strategaeth a chynllunio gyda hunanasesiad blynyddol y cytunwyd arno, wedi'i ategu gan y matrics aeddfedrwydd cynllunio
- cyflwyno cynllun tair blynedd credadwy yn unol â'r fframwaith cynllunio cyfredol.
Ansawdd a Diogelwch
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo ddangos:
- tystiolaeth o drefniadau llywodraethu a gwella ansawdd cadarn
Rhaid i'r sefydliad ddarparu tystiolaeth o'r meini prawf ar ffurf y canlynol:
- ansawdd a diogelwch, llywodraethu ansawdd a gwella ansawdd gyda hunanasesiad ddwywaith y flwyddyn y cytunwyd arno
Atodiad 1: trosolwg o bryderon lefel uchel
Mae pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â pherfformiad a chanlyniadau yn cynnwys y canlynol:
Methiant mynych i gyflawni rhaglenni cenedlaethol mawr yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt, gydag enghreifftiau o lithriad wrth gyflawni'n cael eu normaleiddio er gwaethaf camau adfer a sicrwydd gweithredol (er enghraifft, oedi parhaus mewn perthynas ag ap GIG Cymru, LIMS, RISP a WICIS).
Enghreifftiau parhaus o beidio â gwireddu manteision clinigol, gweithredol a chynhyrchiol bwriadedig, gyda thystiolaeth o lwyddiant yn aml yn cael ei darparu drwy weithgarwch neu gyflwyniad rhannol yn hytrach na chanlyniadau (er enghraifft, ap GIG Cymru a rhaglenni diagnostig yn dangos tystiolaeth gyfyngedig o fanteision a wireddwyd ar raddfa er gwaethaf buddsoddiad parhaus).
Nid yw amserlenni diwygiedig, camau i ailosod rhaglenni a chymorth ychwanegol wedi adfer hyder, cyflymder nac ansawdd cyflawniad, gan danseilio hygrededd blaengynlluniau ac adroddiadau ar berfformiad (er enghraifft, ailbroffilio cerrig milltir dro ar ôl tro ar draws diagnosteg genedlaethol a WICIS heb ganlyniadau sylweddol wahanol).
Nid yw cyflawni cerrig milltir wedi cyd-fynd yn gyson â pharodrwydd i wasanaethau gael eu defnyddio'n fyw, fel y dangosir gan broblemau ar ôl cyflawni cerrig milltir (er enghraifft, pryderon parhaus ynghylch diogelwch clinigol, sefydlogrwydd technegol a chymorth gweithredol yn dilyn datganiadau allweddol o fewn LIMS, RISP a llwyfannau cenedlaethol eraill).
Mae oedi ac ansicrwydd o ran cyflawniad digidol cenedlaethol yn cyfyngu ar allu byrddau iechyd i gynllunio, parodrwydd gweithredol a gweithgarwch trawsnewid lleol (er enghraifft, ansicrwydd ynghylch dilyniant ap GIG Cymru yn cyfyngu ar gynlluniau mabwysiadu lleol a gwireddu manteision).
Mae tanberfformio parhaus ar draws nifer o raglenni yn mynd â lefel anghymesur o sylw uwch-arweinwyr a'u capasiti cyflawni ac yn lleihau'r gallu i ganolbwyntio ar fentrau â lefelau uwch o hyder (er enghraifft, ffocws estynedig gan uwch-swyddogion ar adfer ap GIG Cymru, diagnosteg a WICIS yn cyfyngu ar gynnydd mewn perthynas â blaenoriaethau cenedlaethol eraill).
Mae pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant yn cynnwys:
Nid yw'r uwch-arweinwyr wedi modelu diwylliant cyflawni cryf yn gyson sy'n seiliedig ar realaeth, uwchgyfeirio'n gynnar a chamau gweithredu pendant (er enghraifft, tuedd optimistiaeth a her hwyr yn dod i'r amlwg mewn perthynas â hyder adfer mewn rhaglenni mawr fel ap GIG Cymru a diagnosteg).
Mae'n ymddangos bod ffactorau diwylliannol yn llesteirio prosesau adrodd cynnar ac agored ar risg cyflawni, dibyniaethau a hyder, gan arwain at faterion yn dod i'r amlwg ar y pwynt effaith yn hytrach na thrwy reolaeth ragweithiol (er enghraifft, pryderon ynghylch cyflawni a pharodrwydd yn cael eu huwchgyfeirio'n hwyr ar draws rhaglenni fel WICIS a RISP).
Mae arweinwyr wedi tueddu i ganolbwyntio ar flaenoriaethu'r gwaith o gyflawni cerrig milltir sefydliadol yn hytrach na chanlyniadau system o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys parodrwydd byrddau iechyd ac effaith weithredol (er enghraifft, cerrig milltir rhaglenni yn cael eu cyflawni heb gapasiti lleol sicr, parodrwydd na chamau i wireddu manteision ar gyfer mentrau fel ap GIG Cymru).
Nid yw gweithgarwch ymgysylltu â byrddau iechyd wedi adlewyrchu prosesau cydlunio nac atebolrwydd a rennir yn gyson, gan atgyfnerthu gwaith systemau trafodiadol yn hytrach na chydweithredol (er enghraifft, lefelau amrywiol o ymrwymiad gan fyrddau iechyd a dibyniaeth barhaus ar froceriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod rhaglenni cenedlaethol yn cael eu mabwysiadu).
Nid yw ymddygiadau a strwythurau arweinwyr wedi atgyfnerthu cyfrifoldeb a rennir dros ganlyniadau trawsbynciol yn gyson, gan gyfyngu ar ymddiriedaeth a hyder yn y system (er enghraifft, hyder isel ac amrywiol ymhlith byrddau iechyd a fforymau llywodraethu cenedlaethol yng ngallu IGDC i gyflawni rhaglenni cymhleth a rhyngddibynnol yn ddibynadwy).
Capasiti a gallu cyflawni annigonol ar draws portffolios cenedlaethol risg uchel
Nid oes digon o gapasiti a gallu o fewn y gweithlu i ymdopi â graddfa, cymhlethdod a chydamseredd rhaglenni cenedlaethol sy'n cyfyngu ar gyflymder y broses gyflawni a'r gallu i adfer gwaith sy'n tanberfformio (er enghraifft, roedd angen ail-ragamcanu a chyweirio rhaglenni gan gynnwys cyflwyno EPS, LIMS, RISP a WICIS dro ar ôl tro, gan adlewyrchu heriau wrth reoli dibyniaethau, cyflenwyr a pharodrwydd Cymru gyfan).
Gwendid sy'n deillio o orddibyniaeth ar unigolion hanfodol. Mae rhaglenni a swyddogaethau sicrwydd allweddol yn dibynnu ar nifer bach o unigolion, gan greu pwyntiau methiant unigol a chynyddu'r risg mewn perthynas â chyflawni ac uwchgyfeirio (er enghraifft, tynnodd trafodaethau sylw dro ar ôl tro at ddibyniaeth ar arweinwyr rhaglenni, diogelwch clinigol a phensaernïaeth penodol, gyda chynnydd yn arafu pan nad oedd yr unigolion hyn ar gael neu pan oeddent yn cael eu dargyfeirio i ymdrin â blaenoriaethau brys).
Risgiau cynaliadwyedd o ganlyniad i fodel y gweithlu a chyfyngiadau o ran sgiliau arbenigol. Mae dibyniaeth drwm ar rolau dros dro, contract a rolau a ariennir yn allanol, ynghyd â sgiliau arbenigol dan straen, yn tanseilio gwydnwch sefydliadol a'r gallu i gadw gwybodaeth (er enghraifft, mae cyflawniad ar draws rhaglenni a ariennir gan y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol wedi cael ei gefnogi gan rolau byrdymor, gyda phryder parhaus ynghylch y gallu i gynnal hyn unwaith y bydd y cyllid allanol yn dod i ben a rheoli'r risg trosglwyddo).
Hyblygrwydd cyfyngedig i ymdrin ag adfer, gweithgarwch ymchwydd neu ailflaenoriaethu. Ychydig iawn o hyblygrwydd a gynigir gan broffil presennol y gweithlu i ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg neu flaenoriaethau gweinidogol heb ddisodli gwaith arall yr ymrwymwyd iddo (er enghraifft, roedd gweithgarwch monitro ac uwchgyfeirio uwch yn meddiannu capasiti swyddogion uwch ac arbenigol, gan leihau gallu'r sefydliad i gefnogi adferiad yn rhagweithiol mewn rhaglenni eraill sy'n wynebu risg).
Twf sefydliadol nad yw aeddfedrwydd cyflawni yn cyfateb iddo eto. Nid yw twf sylweddol o ran cwmpas, staffio a chyllid wedi arwain at welliant cymesur mewn aeddfedrwydd cyflawni na chanlyniadau eto. (er enghraifft, roedd y newid o gylch gwaith manwl a oedd yn canolbwyntio’n drwm ar garreg filltir 25/26 i gylch gwaith 26/27 a oedd yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau yn adlewyrchu cydnabyddiaeth nad oedd mwy o weithgarwch wedi gwella hyder cyflawni).
Hyder yn dirywio ymhlith byrddau iechyd a phartneriaid system. Mae oedi, ailosod a newid amserlenni cyflawni dro ar ôl tro wedi lleihau hyder yng ngallu IGDC i gyflawni rhaglenni cenedlaethol mewn modd rhagweladwy, gan effeithio ar ymgysylltiad ac ymrwymiad lleol (er enghraifft, mae llithriad parhaus ac ailbroffilio mewn rhaglenni fel ap GIG Cymru a chyflwyno EPS wedi cyfrannu at wneud byrddau iechyd yn fy gochelgar mewn perthynas â chynllunio, mabwysiadu ac ymrwymiadau dibyniaeth).
Ymrwymiadau cyflawni digidol cenedlaethol yn llai credadwy. Mae risg y bydd tangyflawni rhaglenni mawr yn barhaus yn tanseilio hyder mewn uchelgeisiau digidol cenedlaethol ac ymrwymiadau yn y dyfodol ar draws y GIG a Llywodraeth Cymru (er enghraifft, mae heriau parhaus mewn rhaglenni fel LIMS, RISP a Mamolaeth Ddigidol wedi lleihau hyder y gellir cyflawni cerrig milltir a gyhoeddir yn genedlaethol yn ôl y cynllun).
Mwy o graffu a her gan gyrff goruchwylio. Mae problemau mewn perthynas â pherfformiad, sicrwydd a chyflawni yn cynyddu'r risg o graffu negyddol pellach, gyda goblygiadau i enw da IGDC a Llywodraeth Cymru (er enghraifft, mae prosesau uwchgyfeirio parhaus, monitro uwch a gweithgarwch ymgysylltu gan Archwilio Cymru a Chyfarfodydd Atebolrwydd Cyhoeddus wedi rhoi mwy o sylw i bryderon cyflawni a phroblemau o ran hyder yn y system).
Risg o ymddieithrio oddi wrth raglenni trawsnewid cenedlaethol yn y dyfodol. Gall y risg ganfyddedig o ran cyflawni wneud byrddau iechyd yn fwy gochelgar neu'n fwy cyndyn o gymryd rhan mewn mentrau cenedlaethol yn y dyfodol, gan danseilio rhaglenni trawsnewid digidol ar draws y system (er enghraifft, mae profiad o gyflawni rhaglenni cenedlaethol cymhleth wedi cynyddu amheuaeth ynghylch cyflwyno rhaglenni Cymru gyfan yn y dyfodol, yn enwedig lle mae'r effeithiau ar gostau, gweithlu a newid lleol yn aneglur).
Effaith ar hyder gweinidogion, y cyhoedd ac ar enw da yn ehangach
Mae risg y bydd amlygrwydd parhaus anawsterau mewn rhaglenni proffil uchel yn dylanwadu ar ganfyddiadau ehangach o allu IGDC, ni waeth pa gynnydd a wneir mewn meysydd eraill, a gall ddenu sylw'r cyhoedd neu'r cyfryngau. (er enghraifft, mae risg y bydd rhaglenni proffil uchel sy'n gysylltiedig â gwasanaethau rheng flaen, ynghyd â mwy o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a sylwebaeth gyhoeddus ar gyflawniad digidol, yn cynyddu'r difrod i enw da yn absenoldeb ymyrraeth bendant ar lefel y system).
Mae pryderon lefel uchel sy'n ymwneud â chyllid, strategaeth a chynllunio yn cynnwys:
Amlygiad cynyddol i gostau mewn rhaglenni cenedlaethol sy'n tanberfformio. Mae buddsoddiad sylweddol wedi parhau mewn rhaglenni digidol cenedlaethol mawr heb gynnydd cyfatebol tuag at eu cyflawni, gan gynyddu'r risg o werth gwael am arian a chadarnhau costau suddedig (er enghraifft, nid yw lefelau uchel o fuddsoddiad hanesyddol a pharhaus, gan gynnwys gweithgarwch a ariennir gan y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol, wedi trosi'n gyson yn ganlyniadau dangosadwy mewn rhai rhaglenni blaenoriaeth).
Cysondeb gwael rhwng gwariant ariannol a hyder cyflawni. Nid oes cysylltiad clir wedi bod bob amser rhwng cyllid parhaus a pharodrwydd cyflawni a sicrhawyd yn annibynnol neu'r tebygolrwydd y caiff manteision eu gwireddu, gan gyfyngu ar yr hyder bod gwariant yn gymesur (er enghraifft, mae ailbroffilio dro ar ôl tro a cheisiadau am gyllid ychwanegol wedi digwydd er gwaethaf risgiau cyflawni cyson a thrywyddau lle ceir lefel isel o hyder).
Gafael ariannol cyfyngedig a gallu cyfyngedig i wneud penderfyniadau ar lefel portffolio. Mae prosesau goruchwylio ariannol yn gryfach ar lefel rhaglenni unigol nag ar draws y portffolio cenedlaethol, gan gyfyngu ar y gallu i ailgydbwyso buddsoddiad tuag at ganlyniadau lle ceir lefel uwch o hyder neu fwy o effaith (er enghraifft, nid yw cyfaddawdau o ran fforddiadwyedd ar lefel portffolio a blaenoriaethu yn amlwg bob amser, sy'n lleihau'r sicrwydd bod gwariant yn adlewyrchu risg a budd strategol).
Defnydd annigonol o fecanweithiau oedi, ailosod neu atal i reoli costau. Nid yw'r trefniadau llywodraethu wedi galluogi ymyrraeth ariannol amserol yn gyson pan fydd hyder cyflawni yn dirywio, gan arwain at wariant parhaus ar drywyddau lle ceir lefel isel o hyder (er enghraifft, mae buddsoddiad yn aml wedi parhau yn ystod cyfnodau lle bu camau monitro uwch neu adfer, yn hytrach na chael ei gyfyngu neu ei ailosod yn weithredol).
Mae risgiau fforddiadwyedd tymor canolig i dymor hir ar gyfer y system yn aneglur o hyd. Nid yw cost gronnol cynnal, cefnogi a datblygu nifer o systemau digidol cenedlaethol wedi'i mynegi o fewn model cynaliadwyedd ariannol hirdymor cydlynol, gan gynnwys effeithiau ymhellach i lawr y gadwyn ar fyrddau iechyd (er enghraifft, mae risg y bydd datrysiadau cenedlaethol yn creu pwysau nas ariennir ar brosesau gweithredu, gweithluoedd a chymorth lleol ynghyd â chostau parhaus i'r system ganolog).
