Neidio i'r prif gynnwy

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan unigolion ag anableddau dysgu yr un hawl â phawb arall i fyw bywydau iach, diogel a boddhaol yn eu cymunedau eu hunain, gan allu elwa ar y gefnogaeth, y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd wedi’i wneud tuag at gyflawni hyn. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod bod gormod o bobl yn parhau i brofi anghydraddoldebau o ran iechyd a lles, a bod rhai yn aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach nag sydd ei angen neu sy’n briodol. 

Heddiw, felly, rwy’n amlinellu tri cham arwyddocaol rydym yn eu cymryd i gryfhau gwasanaethau, gwella atebolrwydd a chefnogi ein huchelgais hirdymor o sicrhau bod unigolion sydd ag anableddau dysgu yn gallu byw yn annibynnol, yn ddiogel ac yn agosach at eu cartref pan fo hynny’n bosibl. 

Rwy’n falch o ddatgan y cyhoeddir Data Cleifion Mewnol Arbenigol Anabledd Dysgu i Gymru am y tro cyntaf. Mae’r cyhoeddiad newydd hwn yn darparu gwybodaeth am breswylwyr yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu sy’n derbyn gofal arbenigol fel cleifion mewnol yng Nghymru a Lloegr. O’r cyfrifiad chwarterol o gleifion mewnol, a gynhelir gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru ac a gyhoeddir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, y daw’r data. 

Mae cyhoeddi’r data hyn Anabledd Dysgu mewn data cleifion yn nodi carreg filltir bwysig.  Os ydym am ddeall yr angen, nodi meysydd i’w gwella ac olrhain cynnydd dros amser, mae’n hanfodol inni gael gwybodaeth a thystiolaeth well ar flaenau ein bysedd. Drwy gyhoeddi’r data, rydym hefyd yn ymateb yn uniongyrchol i’r argymhellion a wnaed gan yr ymgyrch Bywydau Wedi’u Dwyn Cymru ac adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu, O Ysbytai i Gartrefi. Tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw at bwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â gwasanaethau cleifion mewnol. 

Byddwn yn parhau i gyhoeddi data o gyfrifiadau chwarterol yn y dyfodol, gan helpu i fonitro’r cynnydd o ran lleihau derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi, cefnogi trefniadau i ryddhau unigolion o’r ysbyty yn amserol a sicrhau bod unigolion yn derbyn gofal yn y lleoliad mwyaf priodol. 

Yr ail gam allweddol fydd cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd Integredig ar gyfer Pobl ag Anabledd Dysgu yn hwyrach yn ystod y mis. Mae’r Datganiad Ansawdd yn sefydlu fframwaith cenedlaethol clir ar gyfer gwella ansawdd, cysondeb a phrofiad o ofal a chymorth i unigolion sydd ag anableddau dysgu ledled Cymru. 

Datblygwyd y Datganiad Ansawdd gan ddefnyddio mewnbwn gan unigolion â phrofiad bywyd, teuluoedd, gweithwyr proffesiynol a phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n nodi’r safonau a’r disgwyliadau a ddylai fod yn sail i wasanaethau a chymorth. Agwedd bwysig ar y datganiad yw’r ffaith ei fod yn hyrwyddo dull integredig ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai, gan sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion unigolion a gwella canlyniadau. 

Y trydydd cam yw gweithredu ein Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Anabledd Dysgu dair blynedd newydd. Dechreuodd hon yn 2026, a bydd yn gyfrwng ar gyfer gwireddu newid ar draws y system gyfan. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i ymateb i’r themâu allweddol a'r argymhellion sydd wedi dod i'r amlwg o’r adroddiad O Ysbytai i Gartrefi, ac mae hefyd yn adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd drwy’r Cynllun Gweithredu Strategol ar Anabledd Dysgu. 

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gryfhau cymorth cymunedol, gwella mynediad at wybodaeth a chyngor, datblygu modelau newydd o ofal cymunedol integredig, gwella llwybrau cleifion mewnol, a sicrhau bod unigolion yn cael y gefnogaeth iawn, ar yr amser iawn ac yn y lle iawn. Bydd hefyd yn cefnogi’r paratoadau ar gyfer diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd ar ddigwydd, a sicrhau bod gweithio mewn partneriaeth yn cael ei ymwreiddio ymhellach ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a thai. 

Drwy’r rhaglen hon, byddwn yn parhau i symud y pwyslais wrth ddarparu gofal tuag at gefnogaeth yn y gymuned, lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty, gwella trefniadau rhyddhau o’r ysbyty a chryfhau’r gwasanaethau sy’n helpu unigolion i fyw yn annibynnol ac yn dda yn eu cymunedau lleol.

Gyda’i gilydd, mae’r tri cham gweithredu hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i wella canlyniadau i unigolion ag anableddau dysgu yng Nghymru. 

Maen nhw’n dangos maint ein penderfyniad i adeiladu gwasanaethau sy’n fwy tryloyw, mwy integredig ac sy’n rhoi mwy o bwyslais ar yr unigolyn, gan sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi i fyw bywydau boddhaol, yn elwa ar gyfle cyfartal ac yn parhau i fod mewn cysylltiad â’r teuluoedd, y cartrefi a’r cymunedau sydd bwysicaf iddynt.