Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Awst 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn chwilio am wybodaeth gan ddarparwyr seilwaith band eang a rhyngrwyd am eu seilwaith band eang.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n gofyn i’r holl ddarparwyr rhyngrwyd a seilwaith band eang cydnabyddedig am fanylion eu cynlluniau yng Nghymru.
Rydyn ni am wybod ble maen nhw wedi buddsoddi mewn seilwaith band eang eisoes ac am eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Rydyn ni’n gofyn am fanylion ar lefel eiddo, o ran eu cwmpas a’u cynlluniau ar gyfer mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf (NGA) sy'n darparu o leiaf 30Mbps.
Bydd hyn yn ein helpu i fapio pa eiddo yng Nghymru sy'n derbyn band eang NGA ar hyn o bryd neu sydd â chynlluniau i dderbyn band eang NGA o fewn y 3 blynedd nesaf a pha rai ddim.
