Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf: Mai i Awst 2026
Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Pleidleisiodd pobl Cymru dros lywodraeth sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid. Mae ein 100 diwrnod cyntaf yn gyfle i greu momentwm, dechrau cyflawni ein blaenoriaethau allweddol a gosod y sylfeini ar gyfer y diwygiadau tymor hwy sydd eu hangen i wella bywydau pobl ledled Cymru.
Mae’r Llywodraeth hon wedi bwrw iddi’n syth. Mae’r Gweinidogion eisoes yn gweithio’n gyflym i weithredu ar y mandad y mae pobl Cymru wedi’i roi inni. Mae ein ffocws ar gamau gweithredu ymarferol, canlyniadau mesuradwy ac ymrwymiad di-baid i wella bywydau pobl a chymunedau ledled y wlad.
Mae’r ymrwymiadau a nodir yn y cynllun hwn yn cwmpasu pob rhan o’r llywodraeth. Maent yn cynnwys camau i daclo rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, codi safonau addysg, ehangu gofal plant, lleihau tlodi plant, cryfhau cymunedau lleol, cefnogi twf economaidd, gwella trafnidiaeth, mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, a sicrhau bod gan Gymru y pwerau a’r adnoddau sydd eu hangen arni i lwyddo.
Mae llawer o’r camau a amlinellir yn y ddogfen hon wedi’u cynllunio i greu’r sylfeini ar gyfer newid parhaol. Maent yn sefydlu strwythurau cyflawni, partneriaethau, adolygiadau a rhaglenni newydd, a fydd yn galluogi’r llywodraeth i weithio’n fwy effeithiol, gwneud gwell defnydd o dystiolaeth a data, a chanolbwyntio adnoddau ar yr hyn sydd bwysicaf. Mae’r camau eraill dan sylw yn dechrau ar y gwaith o weithredu ymrwymiadau penodol, a fydd yn arwain at fanteision amlwg i bobl ledled Cymru.
Mae’r cynllun hwn hefyd yn ymrwymiad i dryloywder ac atebolrwydd. Rydym yn glir ynglŷn â’r hyn yr ydym am ei gyflawni a’r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud hynny. Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy ddull disgybledig ar sail tystiolaeth, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac effaith yn y byd go iawn.
Y ddogfen hon yw’r cam cyntaf yn ein rhaglen lywodraethu. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad i lywodraethu’n effeithiol, i weithio ar y cyd â phartneriaid, ac i gyflawni newid ystyrlon i bobl Cymru.
Rhun ap Iorwerth
Prif Weinidog Cymru
Ein blaenoriaethau
Mae Llywodraeth newydd Cymru yn darparu arweinyddiaeth newydd i Gymru, gan gyflawni newid pendant ar gyfer y prif faterion sy’n ein hwynebu ni heddiw – yr argyfwng costau byw, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion a swyddi.
Byddwn nawr yn gweithio’n gyflym i fynd i’r afael â’r pethau sy’n bwysig i bobl yn eu bywydau bob dydd, gan gyflawni newid y gall pawb ei deimlo ac adfer ymddiriedaeth yn y llywodraeth.
Mae hon yn llywodraeth sy’n gweithredu. Llywodraeth i bawb. Llywodraeth sy’n dod ag egni newydd a syniadau newydd, sy’n barod ac yn abl i sefyll dros Gymru fel partner cryf a chyfartal yn y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth newydd Cymru fydd y mwyaf agored ers dechrau datganoli, gan feithrin ymddiriedaeth drwy gyflawni’n weladwy ar flaenoriaethau gwirioneddol pobl Cymru:
- torri rhestrau aros, a datblygu gwasanaeth iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y Dyfodol
- helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon
- datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda
- codi safonau yn ein hysgolion a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu
- mynd i’r afael â thlodi plant
- sefyll dros Gymru a mynnu tegwch gan San Steffan.
Mae ein cynllun 100 diwrnod yn nodi’r camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r blaenoriaethau hyn.
Cabinet
Gweinidogion y Cabinet
- Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
- Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Y Gwir Anrh Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid
- Heledd Fychan AS, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
- Dafydd Trystan Davies AS, Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
- Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
- Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
- Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
- Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Dirprwy weinidogion
- Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
- Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
- Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Cefin Campbell AS, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
- Y Gwir Anrh Elfyn Llwyd, Cwnsler Cyffredinol
Gwell llywodraeth
Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad:
- Creu ‘Swyddfa Cabinet’ Gymreig gyda’r gallu a’r adnodd digidol i sbarduno ein blaenoriaethau, a fydd yn cynnwys arbenigwyr ym meysydd polisi, cyflawni a data.
- Penodi gweinidog penodol, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm craidd o weinidogion, i sicrhau cynnydd ar ein blaenoriaethau allweddol ac i adrodd yn rheolaidd i’r Cabinet.
- Cytuno ar gyfres o ganlyniadau mesuradwy a cherrig milltir ar gynnydd – gyda’r rhain yn cael eu rhannu’n eang – lle gallwn fesur llwyddiant ein hymdrechion i newid bywydau pobl er gwell.
- Cymryd agwedd o brofi a dysgu at gyflawni ein blaenoriaethau allweddol, er mwyn galluogi gweithredu’n gyflym ac yn hyblyg.
- Dechrau’r gwaith o gyflwyno rhaglen well o hyfforddi a datblygu ar draws sector cyhoeddus Cymru, er mwyn datblygu sgiliau a meithrin yr un bwriad a gweledigaeth wrth Ddatblygu Ysgol Lywodraethu Genedlaethol.
Sefyll dros Gymru
Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad
- Pwyso ar Lywodraeth y DU am Fil Cymru newydd a phan gytunir arno, gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y Bil hwn yn addas i’r diben ac yn cael ei weithredu cyn gynted â phosibl.
- Dechrau’r gwaith i sefydlu Comisiwn Cenedlaethol sefydlog ar y Cyfansoddiad.
Y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad a’r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
- Pwyso ar Lywodraeth y DU i ddyfeisio a gweithredu fformiwla gyllido newydd, sy’n seiliedig ar anghenion, er mwyn mynd i’r afael â diffyg cyllido hanesyddol.
Cymru iach a gofalgar
Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
- Creu rôl o fewn y llywodraeth sy’n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd, er mwyn goruchwylio’n strategol holl weithgarwch y llywodraeth o ran creu poblogaeth iachach.
- Cyfarwyddo swyddogion Trysorlys Cymru i ymchwilio i ddichonoldeb sefydlu Llinell Wariant Ataliol Adrannol ddynodedig yng nghyllideb Cymru ar gyfer 2027-2028.
- Dechrau cyflwyno rhaglenni iechyd ataliol, megis ein rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr Newydd i Ysgolion a’r fenter Milltir y Dydd yn ysgolion Cymru.
Y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
- Comisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad y GIG yng Nghymru – gyda phwyslais arbennig ar effaith rhestrau aros ar iechyd y boblogaeth.
- Cynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal a Gynlluniwyd, gydag arbenigwyr perthnasol, a fydd yn gyfrifol am ddatblygu cynllun cyflawni ar gyfer sefydlu hyd at ddeg o ganolfannau gofal a gynlluniwyd newydd ledled Cymru. Bwriedir cyhoeddi’r cynllun erbyn diwedd 2026.
- Ymgynghori ar ddylunio cynllun gweithredu teleiechyd i Gymru.
- Sefydlu tîm effeithlonrwydd cyllid iechyd yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso perfformiad ariannol gwasanaethau iechyd, ac am ddatblygu cymelliadau cryf i reoli cyllidebau yn ddarbodus.
- Datblygu map trywydd i ddileu gwariant ar staff asiantaethau preifat yn y GIG erbyn 2030.
- Comisiynu archwiliad cynhwysfawr o ffynonellau data iechyd yng Nghymru.
- Comisiynu adolygiad ar y cyd gydag Archwilio Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar effeithiolrwydd y Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd presennol.
- Dechrau datblygu rhaglen gyflawni ddeng mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ar sail yr uchelgais cyffredinol o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran arloesi ym maes iechyd digidol.
- Drafftio deddfwriaeth i osod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar sail statudol, er mwyn meithrin trefniadau cydweithio systematig a rhannu adnoddau rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol.
- Comisiynu adolygiad o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
- Ymgynghori â’r Comisiwn Ewropeaidd i ddysgu o’r arferion gorau wrth ddatblygu ei Ap GofalClyfar, gyda’r nod o atgynhyrchu swyddogaethau’r ap hwnnw yn Ap GIG Cymru.
- Dechrau paratoi Cynllun Canser newydd i Gymru.
- Drafftio deddfwriaeth ar yr ‘Hawl i anghofio’ i bobl sy’n goroesi canser i’w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ar ffurf premiymau yswiriant uwch neu anawsterau wrth gael morgais.
- Comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu Canolfan Diagnosis Cyflym newydd ym Mhowys.
- Dechrau paratoadau ar gyfer Cynhadledd Canser Cymru yn 2027, gyda’r nod o ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid ynghyd i rannu’r arferion gorau a’r datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser.
- Gwneud cais am ymweliad gan y fenter European Cancer Pulse yn 2027 i asesu gwahaniaethau rhanbarthol a chymdeithasol yn ansawdd y gofal canser yng Nghymru.
- Drafftio cynlluniau ar gyfer ffrwd gyllido ddynodedig i gefnogi costau teithio a llety i gleifion sy’n teithio y tu allan i Gymru i gael triniaeth arbenigol ar gyfer canser.
- Cynnull uwchgynhadledd o holl brif weithredwyr y byrddau iechyd i ddatblygu map trywydd ar gyfer symud adnoddau’r GIG yn gynaliadwy tuag at ofal sylfaenol.
- Sicrhau cytundeb gyda’r byrddau iechyd y bydd y gyfran o’u cyllidebau a neilltuir i ofal sylfaenol yn cynyddu o 0.5% bob blwyddyn o 2027/28 ymlaen.
- Comisiynu ymchwil ar ail-lunio’r fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid i feddygon teulu.
Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
- Cynnal proses recriwtio agored i benodi cyfarwyddwr Cymru ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i’r ysbyty.
- Cyfarwyddo Llais i benodi ‘Hyrwyddwr Gofal Cymdeithasol’, a fydd yn cael cyfarfodydd chwarterol rheolaidd gyda’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd.
Y dechrau gorau I bob plentyn
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Sefydlu grŵp llywio o arbenigwyr a thasglu gofal plant yn y gwasanaeth sifil Cymreig – i roi Sylfaen gadarn i gyflwyno’r cynnig newydd fesul cam, gyda chynllunio’r gweithlu, gwella mynediad a mireinio ceisiadau yn flaenoriaethau amlwg.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant ar gynlluniau i fynd ati ar frys i orffen cyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn 2 oed – cynllun a ddechreuwyd o dan y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth Cymru Lafur flaenorol.
- Pan fo’r gwaith hwn eisoes wedi’i gwblhau neu ar fin cael ei gwblhau, datblygu cynlluniau lleol i ehangu i 20 awr ar gyfer pob plentyn 2 oed, ac i estyn 20 awr o ofal i blant 3 a 4 oed nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant presennol Cymru ar hyn o bryd – gan roi cyfrif am gynllunio a datblygu’r gweithlu, ac ehangu nifer a chapasiti lleoliadau gofal plant.
- Cyflwyno cynlluniau i fynd ati i ehangu oriau gofal a ariennir i blant rhwng 9 mis a 2 oed.
- Dechrau gwaith ar unwaith i ddatblygu targedau lleihau tlodi penodol, uchelgeisiol a chyraeddadwy i gefnogi creu cynllun newydd wedi’i dargedu, er mwyn taclo tlodi plant.
- Paratoi i weithredu cynllun peilot Cynnal – y Taliad Plant Cymreig – gan gomisiynu tîm arbenigol i helpu i arwain ar ei ddylunio, ei gyflwyno, ei fonitro a’i werthuso.
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw gyfyngiad ar incwm, o fis Medi 2026 ymlaen.
Codi safonau addysg
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Bwrw ymlaen â datblygu Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd a chytuno ar linell amser ar gyfer ei weithredu.
- Cynllunio i gyflwyno’r rhaglen newydd o Lyfrgelloedd mewn Ysgolion Cynradd.
- Cynyddu cymelldaliadau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA), mewn pynciau lle mae prinder, i £5,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.
- Gweithredu argymhellion y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol i ddechrau lleihau’r baich biwrocrataidd ar athrawon.
- Gweithio gydag athrawon, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd a gofal Cymdeithasol i ddatblygu fframwaith, er mwyn mynd i’r afael â’r pynciau sy’n gorgyffwrdd – presenoldeb ac ymddygiad gwael – a gwella amodau a chanlyniadau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr.
- Dechrau’r gwaith o dreialu rhaglen gofleidiol newydd ‘Ysgolion Cymunedol a Mwy’, gan edrych ar sut y gellir cydgrynhoi gwahanol ffrydiau cyllido, er mwyn gwreiddio cefnogaeth arbenigol sy’n ystyriol o drawma yn well i ymdrin â heriau o ran iechyd meddwl, llesiant ac ymddygiad yn ein hysgolion.
- Comisiynu arolwg cenedlaethol o gyflwr adeiladau ysgolion i gael gwell darlun o’r ystad ysgolion yng Nghymru ac i nodi’r gwaith trwsio ac uwchraddio mwyaf brys.
- Cyflwyno cynlluniau i roi’r grym i awdurdodau lleol hyrwyddo diogelwch, dysgu a llesiant myfyrwyr drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion i’r rhai o dan 16 oed.
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
- Comisiynu adolygiad trawsbleidiol a chynhwysfawr o sut y caiff prifysgolion yng Nghymru eu hariannu, gyda chylch gorchwyl clir sy’n cynnwys sicrhau bod mwy o werth buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn Addysg Uwch yn aros yng Nghymru, a bod mwy o fyfyrwyr Cymru yn cael eu cefnogi i astudio yng Nghymru.
- Ystyried opsiynau ar gyfer diwygio rhaglen Seren, fel ei bod yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y carfanau sy’n manteisio ar gyfleoedd a’r rhai hynny nad ydynt yn manteisio, yn hytrach nag anfon myfyrwyr dros y ffin, a chefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i ddilyn addysg uwch.
Datgloi potensial economaidd Cymru
Y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
- Sefydlu panel o arbenigwyr busnes ac economaidd i fireinio cylch gorchwyl, llywodraethiant, a model gweithredu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd.
- Sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol newydd i gefnogi’r gwaith o gasglu a dadansoddi data economaidd Cymru, a gosod targedau clir ar yr economi.
- Blaenoriaethu paratoi Strategaeth Ynni Genedlaethol, a fydd yn cynnwys: Cytundeb gyda’r Sector Ynni Adnewyddadwy – ffurfio partneriaethau newydd rhwng y llywodraeth, diwydiant, cymunedau, addysg bellach ac uwch, a phartneriaid cymdeithasol; targedau ar gynhyrchu drwy dechnoleg; mwy o gefnogaeth i brosiectau ynni sy’n eiddo i gymunedau; a diwygiadau i’r system gynllunio, a fydd yn gosod terfynau amser cadarnach ar gyfer ymatebion i geisiadau cynllunio.
- Cyflwyno cynlluniau i ddatblygu Trydan Gwyrdd Cymru yn gwmni ynni sengl, cyfunol, sy’n eiddo i bobl Cymru ac er budd pobl Cymru, gyda chylch gorchwyl clir i helpu i leihau biliau ynni dros y tymor canol a’r tymor hir.
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
- Lansio archwiliad sgiliau ar draws Cymru i nodi anghenion sgiliau economi Cymru yn y Dyfodol ac i lywio ein penderfyniadau polisi.
- Paratoi i gynnull Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol – i gynnwys cynrychiolwyr o’r sector Addysg Bellach/Addysg Uwch, busnesau a rhanddeiliaid perthnasol eraill, er mwyn creu un weledigaeth ac un strategaeth ar gyfer dyfodol ein system sgiliau a sut y caiff ei chyllido.
Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- Sefydlu tasglu canol trefi i ystyried yr opsiynau o ran diwygio ardrethi busnes sy’n rhoi gwell cefnogaeth i adfywio’r stryd fawr, ynghyd â newidiadau polisi eraill, a fydd yn cefnogi canol ein trefi – gan gynnwys diwygiadau i’r system gynllunio i fireinio’r broses o droi eiddo Masnachol yn eiddo preswyl.
- Datblygu Bil Hawl y Gymuned i Brynu i’w gyflwyno yn y Senedd.
Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid a’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Cychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar symiau canlyniadol o brosiect HS2 a phrosiectau
rheilffyrdd eraill sy’n gymwys i Loegr yn unig, cyfran decach o gyllid rheilffyrdd cyffredinol y DU, a llwybr tuag at ddatganoli rheilffyrdd yn llawn.
Y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o integreiddio ein Rhwydwaith trafnidiaeth yn llawn, gan gynnwys tocynnau clyfar, prisiau tecach a chapio prisiau.
- Paratoi i lansio gwasanaeth bysiau cyflym i gysylltu’r Gogledd a’r De, fel cam cyntaf tuag atwella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De.
Cynaliadwyedd, adnoddau a gwydnwch gwledig
Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
- Dechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur diwygiedig i Gymru, a fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050.
- Amlinellu’r cylch gorchwyl ar gyfer Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd rhag Llifogydd Newydd i Gymru, a fydd yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaethau brys, a sefydliadau cymunedol i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.
- Cadarnhau cylch cyllido amlflwyddyn yn lle’r taliad blwyddyn presennol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
- Comisiynu adolygiad annibynnol o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru, er mwyn lleihau dyblygu a gwaith papur diangen i ffermwyr.
- Dechrau gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr, a fydd yn diogelu cyflenwadau bwyd a llythrennedd bwyd, yn cryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, ac yn defnyddio’r plât Cymreig cyhoeddus i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod.
- Cyflwyno cynlluniau i greu dyletswydd statudol newydd ar brawfesur gwledig, gan sicrhau bod rhaglenni a modelau cyllido Llywodraeth Cymru yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig.
Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid
- Pwyso ar Lywodraeth y DU am gyfiawnder amgylcheddol i gymunedau glofaol drwy ddarparu cyllid ar gyfer i adfer tomenni glo a thir halogedig.
Tai, llywodraeth leol a system gynllunio sy’n canolbwyntio ar gymunedau
Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- Sefydlu Unnos – corff datblygu cenedlaethol a galluogwr tai cymdeithasol newydd, a fydd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i grynhoi tir a sicrhau cyllid ar gyfer tai cymdeithasol.
- Dechrau’r gwaith o ddeddfu am Hawl i Gartref Digonol.
- Amlinellu cynigion ar wneud rhentu yng Nghymru yn decach.
- Adolygu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes bresennol, a gweithio i gyflwyno newidiadau er mwyn mynd ymhellach ac yn gyflymach i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – codi safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon mwy o aelwydydd, yn gyflymach.
- Comisiynu adolygiad o’r fformiwla gyllido llywodraeth leol i gyflwyno argymhellion ar gyfer ei diwygio, fel ei bod yn adlewyrchu’n well wir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru.
- Sefydlu perthynas weithio gadarnhaol gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gytuno ar flaenoriaethau ar y cyd a ffyrdd o weithio, ar sail Cytundeb Partneriaeth Strategol wedi’i adnewyddu.
- Ystyried dewisiadau ar gyfer lleihau cymhlethdod a biwrocratiaeth prosesau cynllunio ac estyn hawliau datblygu a ganiateir, gan gynnwys ar gyfer tai a arweinir gan y gymuned ac ynni adnewyddadwy i aelwydydd.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol eraill i ddatblygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd sy’n diwallu anghenion Cymru, yn grymuso llywodraeth leol ac yn lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu.
Cymru greadigol lle mae lles o bwys
Y Trefnydd, y Prif Chwip a’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
- Lansio ymgynghoriad ar ein blaenoriaethau i greu Strategaeth Ddiwylliannol newydd, gan gynnwys ymwneud yn ffurfiol â phartneriaid ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a’r diwydiannau creadigol.
- Comisiynu adolygiad o’r cyfleoedd i fuddsoddi ym meysydd diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon, er mwyn cefnogi cynnydd mewn gwariant ar y meysydd hyn, yn rhan o symudiad ehangach tuag at weithgarwch ataliol ym maes iechyd a llesiant ar draws y llywodraeth.
- Sefydlu Fforwm Creadigol a Diwylliannol traws-sector, gyda chylch gorchwyl cychwynnol a fydd yn cynnwys casglu tystiolaeth a nodi camau i sicrhau tâl teg ac amodau gwaith gwell yn y sector.
- Cyhoeddi cynlluniau ac amserlen i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, er mwyn gwarchod a chryfhau platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yng Nghymru.
- Sefydlu ffrwd waith unswydd yn y llywodraeth i nodi cyfleoedd ar gyfer lefelau uwch o ymwneud â chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac ymgynghori ar sut i gryfhau trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau iechyd a sefydliadau chwaraeon.
- Comisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol ac ymwneud â phartneriaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol cenedlaethol, er mwyn llywio buddsoddiad cyfalaf wedi’i dargedu dros dymor y llywodraeth.
- Cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr newydd i ysgolion.
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg a’r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth
- Cynnal adolygiad cyflym o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg a’r Cynlluniau Cyflawni Addysg Gymraeg i fod yn sail i dargedau lleol, er mwyn sicrhau twf cyson addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol, gan symud ysgolion ymlaen ar hyd y continwwm iaith. Byddwn hefyd yn cymryd camau ar unwaith i wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan gychwyn gydag adolygiad o’r Mesur Teithio i Ddysgwyr, ac yn comisiynu asesiad o ddarpariaeth ADY mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cynnwys strwythur y gefnogaeth a’r hyfforddiant presennol i athrawon a staff cymorth ysgolion.
Y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
- Gweithio gyda darparwyr addysg drydyddol i gynyddu’r gyfran o gyllid a roddir i Addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, gan roi sylw arbennig i brentisiaethau.
- Dechrau gwaith i estyn Safonau’r Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DU a gwasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau cyfathrebu, gwasanaethau cyfleustodau, banciau, meysydd parcio ac archfarchnadoedd.
- Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Mudiad Meithrin, y grŵp arbenigol gofal plant a’r tasglu gofal plant, er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, fel rhan allweddol o’r gwaith o ddarparu ein cynnig gofal plant cyffredinol.
- Dechrau’r broses o ddeddfu ar gyfer mesurau diogelu newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uwch, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan weithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu sut a ble y dylid dynodi’r ardaloedd hyn. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â Gwaith y Comisiwn ar ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg.
Tuag at gymru fwy cyfiawn
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:
- Bwrw ati â chynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, gan adeiladu ar fesurau diogelu hawliau presennol a gwreiddio Safonau rhyngwladol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.
- Gweithio i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar draws pob maes o lywodraeth, drwy agwedd ataliol ar draws y system gyfan.
- Cyflwyno cynlluniau ar gyfer Asiantaeth Atal Troseddu Genedlaethol i Gymru, er mwyn cydlynu gwaith atal troseddu a dargyfeirio ar draws heddluoedd, y GIG, awdurdodau lleol, ysgolion, a phartneriaid trydydd sector.
- Pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau lles i Gymru, ar yr un sail â’r Alban, fel y gallwn adeiladu system nawdd cymdeithasol yng Nghymru, ar gyfer Cymru.
- Adolygu cynlluniau budd-daliadau presennol Cymru a’r cynlluniau cysylltiedig, gan gynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol, er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf a gwarantu gwerth am arian.
- Dechrau’r gwaith o ymgorffori Cynnal fel budd-dal newydd yng Nghymru.
- Diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau VAWDASV arbenigol, sy’n canolbwyntio ar oroeswyr yn y maes hwn.
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb a’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
- Eithrio llochesi o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi ar unwaith, er mwyn sicrhau bod gan oroeswyr fynediad at lety diogel.
