Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Gallaf gadarnhau heddiw fy ymrwymiad di-dor i gyflwyno EIDCymru – system electronig ar gyfer cofnodi symudiadau defaid yng Nghymru.  Mae fy mhenderfyniad yn golygu buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru i hwyluso gwaith ffermwyr defaid o ran cofnodi symudiadau eu hanifeiliaid ac i’n helpu i ymateb yn well i glefydau yn y dyfodol.  Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ar 30 Mai 2014.

Wrth ddatblygu EIDCymru, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion roi sylw arbennig i’r gwersi sydd i’w dysgu yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig ac i weithio â’r rheini sy’n ymwneud â symud defaid i sicrhau bod system Cymru’n dod â’r gorau i Gymru.  Rwyf wedi pwysleisio bod yn rhaid i’r system fod yn rhwydd ei gweithio, y dylai’r cyfarwyddiadau fod yn syml a bod defnyddwyr y system yn cael gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud ymhell ymlaen llaw.

Yn ogystal â’r manteision mawr i’r diwydiant o gael system dracio effeithiol, bydd EIDCymru a’r lefel fanylach o olrhain y mae’n ei gynnig yn gyfle i ffermwyr ddatblygu’u busnesau ac efallai i wneud mwy o elw.  Mae Hybu Cig Cymru’n rhedeg porthol di-dâl ar y we i ffermwyr a busnesau bach allu rhoi gwybod i EIDCymru am symudiadau eu hanifeiliaid yn electronig.  Unwaith y caiff ei ddiweddaru, bydd ffermwyr yn gallu defnyddio’u meddalwedd rheoli i drosglwyddo data’n syth i EIDCymru.  Bydd ar gael i farchnadoedd da byw a lladd-dai hefyd. 

Byddwn yn mynd ati i roi EIDCymru ar waith mewn ffordd strategol a threfnus. Bydd yn cael ei chyflwyno ym mis Tachwedd 2015, i ddechrau mewn marchnadoedd a lladd-dai er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio’n effeithiol yn y canolfannau prysur hyn yn gyntaf.  Bydd yn cael ei chyflwyno’n llawn i ffermwyr defaid erbyn mis Ionawr 2016, yn unol â’r newid arfaethedig i reoliadau Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru).

Rwyf wedi penderfynu hefyd mai dim ond y tag lladd electronig fydd yn cael ei ganiatáu fel opsiwn tag sengl i adnabod ŵyn sy’n cael eu lladd.  Bydd hyn yn cael ei gyflwyno o 1 Ionawr 2016 gan roi amser i ffermwyr ddefnyddio unrhyw dagiau lladd sydd ganddynt sydd ddim yn electronig ar gyfer ŵyn 2015.  

Mae'r penderfyniad yn cefnogi e-gofnodi, ac o gofio argymhellion Hwyluso’r Drefn, bydd yn symleiddio'r opsiynau tagio a sicrhau mwy o gydymffurfio â'r gofyn i gofnodi gwahanol farciau diadell mewn llwyth cymysg.  Rwy'n cydnabod yn llawn pa mor bwysig yw symudiadau a masnachu ar draws ffiniau, ac mae'r penderfyniad hwn yn cyd-fynd â'r trefniadau ar gyfer llacio’r rheolau lladd yng ngweddill Prydain.    

Ochr yn ochr â'r gwaith ar ddatblygu EIDCymru, bydd fy swyddogion ynghyd â HCC yn parhau i gysylltu â'r diwydiant, yn enwedig gyda rhanddeiliaid ar y Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw a ffermwyr unigol i sicrhau ein bod yn clywed barn y rhai sy'n defnyddio'r system newydd a’u bod yn ei deall yn iawn er mwyn inni allu cael y gorau posibl o fanteision y newidiadau.