Neidio i'r prif gynnwy

Diben y ddogfen hon

Mae'r ddogfen hon yn rhoi sicrwydd yr ymdriniwyd â’r holl gamau gweithredu a ddeilliodd o gyfarfod agoriadol y Bwrdd Cynghori Allanol ar 23 Mawrth 2026. Mae'n crynhoi’r holl gamau y cytunwyd arnynt ac mae’n nodi tystiolaeth sy'n dangos bod y camau wedi’u cwblhau neu wedi gwneud cynnydd.

Hygyrchedd a thechnoleg

Cam gweithredu 1.1

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn adolygu trefniant y cyfarfod hybrid i fynd i'r afael â materion sain a hygyrchedd.

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad

  • Casglwyd barn aelodau’r Bwrdd Cynghori Allanol trwy ohebiaeth e-bost ac yn ystod y cyfarfod agoriadol.
  • Cynhaliwyd sesiynau Teams gydag aelodau’r Bwrdd Cynghori Allanol ar 28, 29 a 30 Ebrill 2026. Bydd cyfarfod ychwanegol yn cael ei gynnal ar 21 Mai ar gyfer y rhai na allant fynychu sesiynau Ebrill.
  • Bydd cyfarfodydd y Bwrdd Cynghori Allanol a gynhelir yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar-lein trwy ddefnyddio platfform Teams a bydd yr ysgrifenyddiaeth yn adolygu hyn er mwyn sicrhau cyfranogiad parhaus.

Cam gweithredu 1.2

Bydd aelodau'n ystyried a ddylid cynnal cyfarfodydd yn y dyfodol yn llawn ar-lein i wella hygyrchedd i gyfranogwyr o bell.

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad

  • Bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cynnal ar-lein a bydd cyfarfod hybrid yn cael ei drefnu unwaith y flwyddyn.

Cylch gorchwyl

Cam gweithredu 2.1

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cynhyrchu Cylch Gorchwyl drafft diwygiedig sy'n adlewyrchu'r drafodaeth ac yn ei ddosbarthu i'r aelodau, fel blaenoriaeth.

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad

  • Ar 1 Ebrill 2026, dosbarthwyd Cylch Gorchwyl diwygiedig i holl aelodau'r Bwrdd ar gyfer cyflwyno sylwadau.

Cam gweithredu 2.2

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno'r Cylch Gorchwyl diwygiedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar neu cyn 7 Ebrill 2026.

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad

  • Cylch gorchwyl a gyflwynwyd i Ysgrifennydd y Cabinet ar 7 Ebrill 2026.

Paru rolau, diddordebau a gallu

Cam gweithredu 3.1

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb i ymuno â'r Bwrdd Cynghori Allanol gan aelodau ar feysydd penodol o ddiddordeb gwaith i lywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Er enghraifft, "trafnidiaeth".

Statws: Ar y gweill

Diweddariad

  • Datganiadau o ddiddordeb a nodwyd yn ystod y cyfarfod.
  • Bydd ymatebion yn cael eu defnyddio i lywio dogfennau ffyrdd o weithio a fydd yn cael ei rhannu gyda'r Bwrdd ar ôl eu cwblhau.

Cam gweithredu 3.2

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn mapio cysylltiadau â grwpiau perthnasol eraill Llywodraeth Cymru (gan gynnwys gwrth-hiliaeth, hunanladdiad a hunan-niweidio, ac anghenion dysgu ychwanegol).

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad

  • Mae'r Ysgrifenyddiaeth wedi mapio a chadarnhau cysylltiadau â meysydd polisi perthnasol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwrth-hiliaeth, atal hunanladdiad a hunan-niweidio, anghenion dysgu ychwanegol, awtistiaeth, anabledd dysgu a niwrowahaniaeth. Mae ymgysylltu presennol ar waith gyda thimau allweddol a grwpiau llywodraethu (e.e. yr Is-adran Cydraddoldeb, Hil a Ffydd; yr Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed; Polisi ADY a hen strwythurau llywio), ochr yn ochr â chydweddu â fframweithiau deddfwriaethol, cynlluniau cyflawni a strategaethau cyfredol. Mae hyn yn cadarnhau bod cysylltiadau perthnasol yn cael eu sefydlu a'u monitro i gefnogi gweithio cydgysylltiedig ar draws meysydd polisi perthynol.

Cam gweithredu 3.3

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn bwrw ymlaen â recriwtio tri aelod ychwanegol o'r Bwrdd, gan flaenoriaethu arbenigedd mewn: plant anabl, anghenion dysgu ychwanegol a chwarae; cynllunio ar gyfer argyfwng a newid hinsawdd; cynrychiolaeth gan berson anabl iau (18 i 24 oed).

Statws: Parhaus

Diweddariad

  • Bydd y gwaith recriwtio’n dechrau ar ôl i’r cabinet newydd gael ei sefydlu.

Materion penodol i'r pwnc

Gwahaniaethu ar dai a morgeisi

Cam gweithredu 4.1

Relevant research from the Cross-Party Group on Women will be shared with the Board by EAB member – Fair Treatment for the Women of Wales.

Statws: Cwblhawyd

Diweddariad
  • Anfonwyd at yr aelodau ar 22 Mai.

Cam gweithredu 4.2

Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn trafod y materion a godwyd gyda thimau polisi cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru ynghylch y polisïau ariannol ac economaidd sy'n effeithio ar incwm, annibyniaeth a llesiant, yn unol â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Statws: Parhaus

Diweddariad
  • Trefnwyd cyfarfod gydag aelod o'r Bwrdd Cynghori Allanol i drafod anghydraddoldeb ynghylch cynhwysiant ariannol a morgeisi er enghraifft.

Cynrychiolaeth trafnidiaeth

Cam gweithredu 4.3

Bydd manylion cyswllt perthnasol grwpiau/fforymau trafnidiaeth yn y DU yn cael eu rhannu gyda'r Cyd-Gadeiryddion gan yr aelod o’r Bwrdd Cynghori Allanol sy'n cynrychioli ar Bwyllgor Cynghori ar Drafnidiaeth Pobl Anabl y DU (DPTAC).

Statws: Parhaus

Cynllunio ar gyfer argyfwng a newid hinsawdd

Cam gweithredu 4.4

Bydd aelod o'r Bwrdd Cynghori Allanol yn cael ei nodi i arwain ar y maes hwn, trwy'r ymgyrch recriwtio ar gyfer aelodau ychwanegol.

Statws: Parhaus

Cam gweithredu 4.5

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn parhau i ymgysylltu â strwythurau presennol yn Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer argyfwng er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys.

Statws: Parhaus

Unrhyw fater arall

Cam gweithredu 5.1

Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cylchredeg y nodiadau a adolygir gan y Cyd-Gadeiryddion, ac yna byddant yn cael eu cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain a'r Gymraeg.

Statws: Cwblhawyd