Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o'r dudalen hon

Trosolwg

Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026 (“Deddf 2026”) yn sefydlu fframwaith newydd er mwyn cefnogi ac annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (IAP) yng Nghymru.

Mae Deddf 2026:

  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hybu a hwyluso’r defnydd o IAP;
  • yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Strategaeth IAP Genedlaethol sy’n disgrifio sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o IAP, a sut y maent yn bwriadu annog cyrff cyhoeddus penodol a restrir yn Neddf 2026 i wneud hynny;
  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus rhestredig ynghylch sut y cânt hybu a hwyluso’r defnydd o IAP;
  • yn gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus rhestredig i lunio a chyhoeddi cynlluniau IAP sy’n disgrifio sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau, a dilyn y canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;
  • yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi cynghorydd IAP ac aelodau panel i gynorthwyo’r cynghorydd;
  • yn gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus rhestredig a Gweinidogion Cymru i adrodd ar y cynnydd a wnaed.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi rhagor o fanylion am weithrediad y Ddeddf (darperir dolen at y Nodiadau Esboniadol ar wefan deddfwriaeth.gov.uk pan fyddant ar gael):

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

The Explanatory Notes to the 2026 Act provide more detail about the operation of the Act (a link to the Explanatory Notes on legislation.gov.uk will be provided once available).

Dod i rym

Mae adran 11 yn darparu bod y Ddeddf gyfan yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Daeth y Ddeddf i rym ar 28 Ebrill 2026.    

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi ei gwneud o dan y Ddeddf – bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru os bydd deddfwriaeth o’r fath yn cael ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 14 Gorffennaf 2025 gan Mark Isherwood AS, sef yr Aelod a oedd yn gyfrifol am Bil. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 11 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf 2026 ar gael ar wefan y Senedd gan gynnwys cofnod o hynt y Bil drwy’r Senedd.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi ei ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026: