Trosolwg o Ddeddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026 (“Deddf 2026”) yn cryfhau atebolrwydd Aelodau’r Senedd drwy wella’r systemau sy’n rheoleiddio ac yn sancsiynu eu hymddygiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru estyn y modd y mae ymddygiad ymgeiswyr yn cael ei reoleiddio mewn etholiadau.
Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer system adalw. Mae hyn yn caniatáu i etholwyr ddiswyddo Aelod yn ystod ei dymor yn dilyn naill ai euogfarn a dedfryd o garchar sy’n flwyddyn neu lai, neu pan fo’r Senedd yn penderfynu y dylai Aelod fod yn destun pôl adalw yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a sefydlir gan Ran 2, lunio canllawiau drafft ynghylch pryd y dylid argymell sancsiwn adalw.
Mae Rhan 2 yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mhob Senedd, ac i bwyllgor o’r fath benodi o leiaf un aelod lleyg (sef person nad yw’n Aelod etholedig o’r Senedd). Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud newidiadau i’r fframwaith deddfwriaethol y mae Comisiynydd Safonau y Senedd yn gweithredu odano.
Mae Rhan 3 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy’n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffaith anwir neu gamarweiniol, cyn neu yn ystod etholiad, at ddiben effeithio ar ddychwelyd unrhyw ymgeisydd. Mae’r Rhan hon hefyd yn diwygio adran 13 o Ddeddf 2006, i egluro cwmpas presennol y pŵer hwnnw.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2026 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Mae adran 26 o Ddeddf 2026 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â’r Ddeddf i rym:
- daeth darpariaethau Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf) a Rhan 4 i rym ar 28 Ebrill 2026
- daw darpariaethau Rhan 3 i rym ar 27 Mehefin 2026
- daw darpariaethau Rhan 1 o’r Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig
Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026, adran 26 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 3 Tachwedd 2025 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 17 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae’r Memorandwm hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2026:
