Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael y cyfle i fynychu'r ysgol yn rheolaidd yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae cofnodi cywir yn hanfodol i ddeall patrymau presenoldeb, cefnogi disgyblion a gwella deilliannau.

Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn nodi'r fframwaith ar gyfer sut mae ysgolion yn cofnodi presenoldeb.

Bydd y diwygiadau i'r codau presenoldeb yn sicrhau eu bod yn glir, yn berthnasol ac yn cael eu defnyddio’n gyson ar draws pob ysgol yng Nghymru ac yn sicrhau bod ein system cofnodi presenoldeb yn parhau i ddiwallu anghenion disgyblion, ysgolion a chymunedau ar draws Cymru.

Diben y ddogfen hon

Mae'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer casglu data gan Lywodraeth Cymru ar godau presenoldeb fel y nodir yn Neddf Addysg 1996 (adrannau 537A a 538) ynghyd ag Atodlen 2(16) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007.

Er nad yw Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024 yn nodi gofynion manwl ar gyfer cofnodi presenoldeb, disgwylir i ysgolion annibynnol gydymffurfio â'r rheoliadau cofrestru disgyblion, sy'n sefydlu'r fframwaith statudol ar gyfer cynnal cofrestrau derbyn a phresenoldeb. O ganlyniad, mae'n ofynnol i ysgolion annibynnol fodloni'r gofynion cofrestru a chofnodi presenoldeb a nodir yn Rheoliadau 2010.

Mae'r ddeddfwriaeth berthnasol ganlynol hefyd yn darparu ar gyfer darparu a chofnodi gwybodaeth:

  • Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2007 yn nodi bod gwybodaeth a restrir yn atodlen 2 i'w darparu gan ysgolion a gynhelir i'w hawdurdodau lleol.
  • Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2007 yn rhestru'r personau rhagnodedig y gellir darparu'r wybodaeth iddynt.
  • Mae rheoliad 6 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yn rhagnodi cynnwys y gofrestr bresenoldeb.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru godau presenoldeb newydd yn 2010 ac nid yw’r codau wedi cael eu diwygio ers hynny. Yn dilyn pandemig COVID-19 yn 2020 bu cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu o bell ac mae'n parhau i gael effaith ar yr ymagwedd gyffredinol tuag at bwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol.

Mewn ymateb i hyn, ac fel rhan o'r diwygiadau arfaethedig, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â swyddogion awdurdodau lleol i adolygu'r codau presennol yng ngoleuni datblygiadau technolegol a modelau cyflawni sy'n esblygu. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y codau am 6 wythnos gan ddod i ben ar 26 Mawrth 2026. Datblygwyd yr ymgynghoriad mewn cydweithrediad â phartneriaid addysgol ehangach gyda'r nod o:

  • ystyried y diffygion yn y codau a’r canllawiau presennol
  • llunio rhestr ddiwygiedig a chynhwysfawr o godau
  • llunio canllawiau atodol ar y codau

Ceir yn y ddogfen hon restr o’r codau diwygiedig y bydd pob ysgol yng Nghymru yn eu defnyddio.

Yr angen am ddiwygio’r system godau bresennol

Dyma ein rhesymeg dros ailedrych ar y codau presenoldeb:

  • maent wedi bod yn eu lle ers 2010
  • mae angen ymateb i resymau dros absenoldeb yn dilyn pandemig COVID-19
  • mae angen rhoi eglurder i awdurdodau lleol ac ysgolion mewn perthynas â dysgu ar-lein
  • mae angen sicrhau bod safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir a bod gwybodaeth am bresenoldeb yn cael ei chofnodi'n gyson ledled Cymru

Rydym wedi cydweithio â chyflenwyr meddalwedd ysgolion i hwyluso’r gwaith o gynnwys y codau mewn pecynnau meddalwedd a ddefnyddir gan ysgolion ar gyfer cofnodi presenoldeb.

Bydd y diwygiadau i’r codau hefyd yn caniatáu mwy o gyfle i ymchwilio ymhellach i’r rhesymau pam y mae disgyblion yn absennol, gan wella’r dulliau o ddiogelu a thracio disgyblion a thrwy hynny caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol roi strategaethau ar waith i ddelio’n effeithiol â rhwystrau penodol i bresenoldeb.

Mae’r term ‘rhieni’ drwy gydol y ddogfen yn cyfeirio at rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid.

Trosolwg o’r newidiadau

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol i'w gweld yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 ac mae'r newidiadau sy’n cael eu cynnig wedi'u gwneud yn unol â'r rheoliadau hyn ac felly ni fydd angen unrhyw ddiwygiadau arnynt. Diben Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 yw sicrhau bod disgyblion yn cael eu cofrestru’n gywir a bod ysgolion yn cadw cofnodion cywir o bresenoldeb.

Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau yn categoreiddio’r codau cyfredol yn fwy manwl. Ceir un newid a fydd yn effeithio ar nodi presenoldeb fel presennol neu absenoldeb awdurdodedig neu anawdurdodedig. Y newid hwn yw bod y cod D1 bellach yn golygu nad oes rhaid bod yn bresennol yn hytrach na chofrestriad deuol (a oedd yn weithgaredd addysgol cymeradwy).

Rydym wedi cadw'r 5 categori ystadegol presennol sydd wedi'u hamlinellu yn y tabl canlynol.

Categori ystadegolCodau yn y categori hwn
  1. yn bresennol
/\ ac L
  1. gweithgaredd addysgol cymeradwy
B, B1, B2, J, P1, P2, V ac W
  1. absenoldeb awdurdodedig
C1, C2, C3, C4, F, H, I1, I2, M, S, E, R a T
  1. absenoldeb anawdurdodedig
N, O, G ac U
  1. dim rhaid bod yn bresennol
D1, X, Y1, Y2, Z a #

Bydd dal yn ofynnol i ysgolion roi disgyblion ar y gofrestr dderbyn ar y diwrnod cyntaf y maent yn disgwyl i’r disgybl fynychu’r ysgol ar sail cytundeb neu hysbysiad blaenorol ac nid ar y diwrnod y maent yn dod i’r ysgol am y tro cyntaf.

Os nad yw disgybl yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl cyfnod o absenoldeb, mae dal yn ofynnol i’r ysgol a’r awdurdod lleol ganfod lle yn union y mae’r disgybl hwnnw. Os bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol yn methu â chanfod lle y mae’r disgybl ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, ac os na fydd y disgybl wedi dychwelyd i’r ysgol am fwy na 10 diwrnod, gall yr ysgol ddileu enw’r disgybl o’r gofrestr dderbyn. Cyn hyn, nid oedd yn ofynnol ceisio canfod lleoliad y disgybl.

Gall ysgol barhau i ddileu enw disgybl o’r gofrestr dderbyn ar y sail y bu’r disgybl yn absennol heb awdurdod am 20 diwrnod ysgol o leiaf, ac nad oes gan yr ysgol reswm dros gredu na all y disgybl fynychu’r ysgol oherwydd salwch neu achos arall nad oes modd ei osgoi ac mae’r ysgol a’r awdurdod lleol fel ei gilydd wedi methu canfod lle mae’r disgybl ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol. Cyn hyn, 4 wythnos oedd cyfnod yr absenoldeb anawdurdodedig yn hytrach nag 20 diwrnod ysgol ac nid oedd yn ofynnol i’r ysgol fod â rheswm dros gredu na allai’r disgybl fynychu’r ysgol oherwydd salwch neu reswm arall nad oedd modd ei osgoi.

Os yw disgybl wedi’i gadw yn y ddalfa o ganlyniad i orchymyn llys am bedwar mis o leiaf ac nad oes gan yr ysgol sail resymol dros gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i’r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, gall yr ysgol barhau i ddileu ei enw o’r gofrestr. Cyn hyn, gallai enw disgybl gael ei ddileu o’r gofrestr petai wedi bod yn absennol am bedair wythnos a’i gadw’n gaeth o ganlyniad i orchymyn llys.

Mae’r gofyniad i ysgolion hysbysu eu hawdurdod lleol pan fydd enw disgybl yn cael ei ddileu yn parhau. Rhaid i’r ysgol roi gwybod i’r awdurdod lleol cyn gynted ag y bydd y sail dros ddileu’r enw wedi’i bodloni a chyn mynd ati i ddileu enw’r disgybl. Yn ogystal â’r gofyniad blaenorol lle bo rhieni yn dewis addysgu eu plant eu hunain, mae’r gofyniad hwn bellach yn gymwys i ddileu enwau:

  • pan fo’r disgybl wedi peidio â mynychu’r ysgol ac nad yw bellach yn byw o fewn pellter rhesymol i’r ysgol (nid yw hyn yn gymwys yn achos disgyblion preswyl)
  • pan fo swyddog meddygol yr ysgol wedi ardystio bod y disgybl yn annhebygol o fod yn ddigon iach i fynychu’r ysgol cyn y daw i derfyn yr oedran ysgol gorfodol ac nad yw’r disgybl na’i rieni wedi dweud wrth yr ysgol ei fod yn bwriadu parhau â’i addysg ar ôl yr oedran ysgol gorfodol
  • pan fo’r disgybl wedi’i gadw yn y ddalfa am gyfnod heb fod yn llai na 4 mis ac nad oes gan yr ysgol sail resymol dros gredu na fydd y disgybl yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl cael ei ryddhau
  • pan fo’r disgybl wedi’i wahardd yn barhaol o’r ysgol

Pan fo cofrestr yr ysgol yn cael ei chadw ar gyfrifiadur, rhaid i’r ysgol wneud copi wrth gefn o’r gofrestr o leiaf unwaith y mis, naill ai’n electronig, ar microfiche neu ar ffurf copi caled wedi’i argraffu . Cyn hyn, roedd yn rhaid i’r copi wrth gefn fod ar ffurf copi caled wedi’i argraffu.

Adran 1: newidiadau i'r codau

Presennol: /\ ac L

Nid oes newidiadau i’r diffiniad o'r codau hyn ond mae'r defnydd o'r codau a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r codau wedi'u hadolygu a'u diweddaru.

Gweithgaredd addysgol cymeradwy: B, B1, B2, J, P1, P2, V ac W

Mae newidiadau i’r rhain gyda chod B1 yn cael ei ddefnyddio pan ddarperir addysg ar-lein i ddisgyblion gan yr awdurdod lleol a chod B2 yn cael ei ddefnyddio pan ddarperir addysg ar-lein i ddisgyblion gan yr ysgol, yn dilyn cytundeb gan banel o’r awdurdod lleol. Newid arall yw nad yw cod D1 (cofrestriad deuol) yn cael ei gategoreiddio fel gweithgaredd addysgol cymeradwy mwyach ond cynigir ei fod yn cael ei gategoreiddio fel 'dim rhaid bod yn bresennol'.

Yn flaenorol, pan oedd disgybl wedi’i gofrestru’n ddeuol, roedd yn rhaid i'r ddwy gofrestr fod yr un peth; ond nid yw hyn yn angenrheidiol mwyach gyda'r ysgol yn defnyddio cod D1 ar y diwrnodau lle mae disgwyl i'r disgybl fod mewn lleoliad arall, a phresenoldeb ac unrhyw absenoldebau yn cael eu cofnodi gan yr ysgol arall neu’r uned cyfeirio disgyblion ar y diwrnodau y mae disgwyl i’r disgybl fod yno.

Mae cod P yn cael ei rannu i'r codau canlynol: P1 (gweithgaredd chwaraeon cymeradwy) a P2 (gweithgaredd perfformio cymeradwy). Mae'r defnydd o'r codau a'r wybodaeth ychwanegol yn yr holl gategorïau gweithgaredd addysgol cymeradwy wedi'u diwygio.

Absenoldeb awdurdodedig: C1, C2, C3, C4, F, H, I1, I2, M, S, E, R a T

Mae newidiadau i god C ar gyfer absenoldeb awdurdodedig sydd bellach wedi’i rannu i'r categorïau canlynol:

  • C1: amgylchiadau awdurdodedig eraill (nas cwmpesir gan god neu ddisgrifiad priodol arall)
  • C2: absenoldeb awdurdodedig ar gyfer perfformiad â thâl
  • C3: absenoldeb awdurdodedig pan fo pennaeth wedi cytuno i gais gan riant i blentyn gael ei addysgu'n hyblyg
  • C4: absenoldeb awdurdodedig ar gyfer amserlen lai

Mae cod I ar gyfer salwch hefyd wedi’i rannu i I1 ac I2, a fyddai’n caniatáu i ysgolion ddefnyddio cod ar gyfer salwch corfforol a salwch nad yw'n gorfforol. Mae'r defnydd o'r codau a'r wybodaeth ychwanegol yn yr holl gategorïau hyn wedi’u diwygio i gyd-fynd â gwahanu’r cod yn 2 gategori ar wahân (I1 ac I2).

Absenoldeb anawdurdodedig: N, O, G ac U

Nid oes newidiadau i'r diffiniad o'r codau hyn ond mae'r defnydd ohonynt a'r wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'r codau wedi'u diwygio.

Dim rhaid bod yn bresennol: D1, X, Y1, Y2, Z a #

Mae newidiadau i’r rhain. Cynigir nad yw cod D1 (cofrestriad deuol) yn cael ei gategoreiddio fel gweithgaredd addysgol cymeradwy mwyach ond yn cael ei gategoreiddio bellach fel 'dim rhaid bod yn bresennol'. Mae cod Y, a oedd gynt yn golygu cau ysgol, wedi cael ei rannu i Y1 a Y2 er mwyn i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gael gwell dealltwriaeth o'r rhesymau dros gau ysgolion. Mae'r defnydd o'r cod Y blaenorol a'r wybodaeth ychwanegol am y cod hwnnw wedi’u diwygio hefyd i gyd-fynd â gwahanu’r cod i 2 gategori ar wahân (Y1 a Y2).

Adran 2: canllawiau newydd ar y codau presenoldeb

Bydd y canllawiau yn cynorthwyo ysgolion (gan gynnwys ysgolion annibynnol) ac awdurdodau lleol i ddefnyddio'r codau i gofrestru presenoldeb ac absenoldeb disgyblion mewn ysgolion. Maent yn ymwneud â phresenoldeb mewn sesiynau cofrestru statudol yn y bore a'r prynhawn ac yn disodli'r nodiadau cwblhau technegol ar gyfer ysgolion sy'n ategu datganiad presenoldeb ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2003, fel y’i diwygiwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fod ar agor i ddisgyblion am 190 o ddiwrnodau mewn blwyddyn academaidd neu 380 o sesiynau (hanner diwrnodau). Diben Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 yw sefydlu'r fframwaith ar gyfer strwythur diwrnodau ysgol a blynyddoedd ysgol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod ysgolion yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol, sydd wedi'i rhannu'n ddwy sesiwn gydag egwyl yn y canol. Mae'r strwythur hwn wedi'i gynllunio i ddarparu isafswm nifer o sesiynau i fyfyrwyr fynychu'r ysgol, gan sicrhau eu bod yn derbyn addysg lawn.

Gellir defnyddio'r canllawiau ar y cyd â systemau i gofnodi presenoldeb mewn systemau ‘fesul gwers’ ond efallai y bydd angen i ysgolion gofnodi rhesymau eraill yn y math hwn o system.

Fodd bynnag, pan ddefnyddir systemau o’r fath a phan ddefnyddir y wers gyntaf yn y bore neu unrhyw sesiwn yn y prynhawn ar ôl egwyl cinio yn lle sesiwn cofrestru'r bore a sesiwn cofrestru'r prynhawn, mae'n rhaid defnyddio'r codau yn y canllawiau hyn ar gyfer y sesiynau hynny. Dylid darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010.

Cred Llywodraeth Cymru mai'r ffordd orau o ddefnyddio'r codau hyn yw mewn systemau electronig ar gyfer cofnodi presenoldeb ac absenoldeb disgyblion. Gall systemau electronig gynhyrchu'r data sydd ei angen ar gyfer y datganiadau absenoldeb i Lywodraeth Cymru heb fod angen cyfrif presenoldeb posibl ac absenoldeb gwirioneddol sy'n cymryd cryn dipyn o amser.

Bydd defnyddio codau penodol yn cynorthwyo ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i fonitro nid yn unig a yw disgyblion yn absennol gyda chaniatâd neu heb ganiatâd yr ysgol, ond pam mae disgyblion yn absennol o'r ysgol. Gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon i lunio ymyriadau i fynd i'r afael â phresenoldeb sy'n gwaethygu, presenoldeb gwael, absenoldeb parhaus a materion eraill a ddatgelir gan y data.

Allwedd i’r codau presenoldeb diwygiedig

Fel y nodwyd eisoes, mae’r codau a argymhellir wedi'u grwpio o dan y pum categori ystadegol canlynol:

  • Yn bresennol.
  • Gweithgaredd addysgol cymeradwy (lle nodir bod y disgybl yn bresennol).
  • Absenoldeb awdurdodedig.
  • Absenoldeb anawdurdodedig.
  • Dim rhaid bod yn bresennol.

Codau presenoldeb diwygiedig

CodYstyrCategori ystadegol
/\Yn bresennol yn ystod y cyfnod cofrestruYn bresennol
LHwyr ond wedi cyrraedd cyn i’r gofrestr gauYn bresennol
BAddysgir oddi ar y safle (nid cofrestriad deuol)Gweithgaredd addysgol cymeradwy
B1Disgybl yn derbyn dysgu ar-lein a ddarperir gan yr awdurdod lleolGweithgaredd addysgol cymeradwy
B2Disgybl yn derbyn dysgu ar-lein a ddarperir gan yr ysgolGweithgaredd addysgol cymeradwy
JCyfweliadGweithgaredd addysgol cymeradwy
P1Gweithgaredd chwaraeon a gymeradwywydGweithgarwch addysgol cymeradwy
P2Perfformiad a gymeradwywydGweithgaredd addysgol cymeradwy
VYmweliad neu daith addysgolGweithgaredd addysgol cymeradwy
WProfiad gwaith (nid hyfforddiant seiliedig ar waith)Gweithgaredd addysgol cymeradwy
C1Amgylchiadau awdurdodedig eraill (nas cwmpesir gan god neu ddisgrifiad priodol arall)Absenoldeb awdurdodedig
C2Absenoldeb oherwydd perfformiad â thâlAbsenoldeb awdurdodedig
C3Disgybl yn cael ei addysgu'n hyblygAbsenoldeb awdurdodedig
C4Disgybl ar amserlen ran-amserAbsenoldeb awdurdodedig
FGwyliau teuluol estynedig y cytunwyd arnyntAbsenoldeb awdurdodedig
HGwyliau teuluol y cytunwyd arnyntAbsenoldeb awdurdodedig
I1Salwch corfforolAbsenoldeb awdurdodedig
I2Salwch nad yw'n gorfforolAbsenoldeb awdurdodedig
MApwyntiad meddygol neu ddeintyddolAbsenoldeb awdurdodedig
SAbsenoldeb astudioAbsenoldeb awdurdodedig
EWedi'i wahardd ond ni wneir unrhyw ddarpariaeth amgenAbsenoldeb awdurdodedig
RDiwrnod a neilltuwyd ar gyfer defodau crefyddol yn unigAbsenoldeb awdurdodedig
TAbsenoldeb i DeithiwrAbsenoldeb awdurdodedig
NNi roddwyd unrhyw reswm eto dros yr absenoldebAbsenoldeb anawdurdodedig
OAbsenoldeb anawdurdodedig arall (nas cwmpesir gan godau na disgrifiadau eraill)Absenoldeb anawdurdodedig
GGwyliau teuluol (na chytunwyd arnynt neu sesiynau sy’n ychwanegol)Absenoldeb anawdurdodedig
UHwyr ac wedi cyrraedd ar ôl i’r gofrestr gauAbsenoldeb anawdurdodedig
D1Cofrestriad deuol (mae'r disgybl yn mynd i leoliad addysg arall)Dim rhaid bod yn bresennol
XSesiynau heb eu rhaglennu ar gyfer disgyblion nad ydynt o oedran ysgol gorfodolDim rhaid bod yn bresennol
Y1Cau ysgol yn rhannolDim rhaid bod yn bresennol
Y2Cau ysgol gyfanDim rhaid bod yn bresennol
ZNid yw'r disgybl ar y gofrestr etoDim rhaid bod yn bresennol
#Ysgol ar gau i bob disgyblDim rhaid bod yn bresennol

Y codau

1. Categori ystadegol: presennol

Cod cofrestru: /\

Defnyddir y cod cofrestru /\ i ddangos bod disgybl yn bresennol yn yr ysgol yn ystod cyfnod cofrestru'r ysgol. Mae gan y cod 2 elfen gyda '/' yn golygu bod disgybl yn bresennol yn y bore a '\' yn golygu ei fod yn bresennol yn y prynhawn. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrYn bresennol /=am a \=pm
Ystyr ystadegolYn bresennol
Ystyr cyfreithiolYn bresennol
Ystyr ffisegolI mewn am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Ni ddylid nodi bod disgyblion yn bresennol os nad oeddent yn yr ysgol yn ystod y cyfnod cofrestru. Ni ddylid cofnodi bod disgyblion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r diwrnod ysgol yn bresennol yn ystod y cyfnod cofrestru ar gyfer sesiwn yn ystod y diwrnod ysgol. Byddai hyn yn rhoi'r camargraff bod y disgybl yn bresennol mewn gwersi yn ystod y sesiwn honno, a allai gael canlyniadau diangen.

Cofnodir disgyblion sy'n bresennol mewn cyfleusterau neu ddarpariaeth yn yr ysgol ac eithrio gwersi prif ffrwd, megis unedau cymorth dysgu ac ystafelloedd gwaharddiadau mewnol, yn yr un ffordd â disgyblion eraill. Mae hyn yn golygu y dylai ysgolion ddefnyddio'r codau arferol os yw'r disgyblion yn bresennol yn y cyfnod cofrestru a'r codau priodol ar gyfer absenoldeb os ydynt yn absennol.

Petai disgybl yn gadael safle'r ysgol ar ôl y cyfnod cofrestru, byddai'n dal i gael ei gyfrif yn bresennol at ddibenion ystadegol.

Fel yr amlinellir yn Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, mae'n rhaid cofrestru'r disgyblion yn y prynhawn ar ddechrau neu yn ystod y sesiwn, nid ar ddiwedd y sesiwn flaenorol nac yn ystod yr egwyl rhwng sesiynau. Er eglurder, sesiwn y prynhawn fyddai'r sesiwn gyntaf ar ôl yr egwyl ginio olaf yn hytrach na sesiwn sydd wedi'i threfnu ar gyfer y prynhawn (pm) ond sy'n digwydd cyn yr egwyl ginio. Am resymau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch a diogelu plant, mae angen i ysgolion wybod lle mae disgyblion, yn enwedig y rhai sy'n gadael neu'n cyrraedd safle'r ysgol yn ystod sesiwn. Gellid gwneud hyn drwy ddefnyddio system bapur yn swyddfa'r ysgol, er enghraifft gofyn i ddisgyblion nodi pan fyddant yn cyrraedd neu’n gadael safle'r ysgol yn ystod y sesiwn. Gall systemau fel ‘monitro gwersi’ hefyd helpu ysgolion i nodi disgyblion sy'n absennol o wersi. Dylai ysgolion sicrhau bod y cofnodion papur hyn yn cael eu bwydo i system reoli'r ysgol cyn gynted â phosibl.

Efallai y bydd ysgolion am gael codau ychwanegol yn eu systemau ‘monitro gwersi’ i gofnodi lle mae disgyblion pan nad ydynt mewn gwersi prif ffrwd. Mae hyn yn dderbyniol ond ni ellir bwydo'r codau ychwanegol hyn i system cyfrifiad yr ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylai ysgolion gau'r gofrestr i ddisgyblion heb fod yn hwyrach na 30 munud ar ôl i'r gofrestr gael ei llenwi.

O dan y Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol (Cymru) 2003, gall ysgolion bennu amseroedd gwahanol i ddisgyblion gwahanol ar gyfer sesiynau, er enghraifft yn ystod arholiadau cyhoeddus.

Am resymau’n ymwneud â diogelu plant a rhesymau addysgol, mae'n rhaid i ysgolion ymchwilio i bob absenoldeb heb ei esbonio a phob absenoldeb annisgwyl yn amserol, er enghraifft drwy weithdrefnau ‘Ymateb ar y Diwrnod Cyntaf’.

1.2 Cod cofrestru: L

Defnyddir y cod cofrestru L os yw disgybl yn cyrraedd ar ôl i'r sesiwn gofrestru ddechrau ond cyn i'r gofrestr gau. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrHwyr (cyn i’r gofrestr gau)
Ystyr ystadegolYn bresennol
Ystyr cyfreithiolYn bresennol
Ystyr ffisegolHwyr i'r sesiwn

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r rheoliadau'n amlinellu y dylid cymryd y gofrestr bresenoldeb ar ddechrau pob sesiwn foreol ac unwaith yn ystod pob sesiwn prynhawn (ar ôl yr egwyl cinio olaf yn hytrach na sesiwn a amserlennwyd ar gyfer y prynhawn (pm) ond sy’n digwydd cyn yr egwyl ginio) ac mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylid cadw’r gofrestr ar agor am 30 munud.

Pan fo ysgolion yn gosod amseroedd sesiynau gwahanol, dylent gau'r gofrestr 30 munud ar ôl i'r gofrestr gael ei chymryd ar gyfer unrhyw ddisgyblion sy'n mynychu unrhyw ddarpariaeth fewnol. Er enghraifft:

  • os yw'r prif ddiwrnod ysgol yn dechrau am 8.30am, dylai'r gofrestr ar gyfer y brif ysgol gau am 9.00am a dylid cofnodi presenoldeb disgybl sy'n cyrraedd ar ôl 9.00am drwy ddefnyddio cod U
  • os yw'r ddarpariaeth fewnol yn dechrau am 9.30am, dylai'r gofrestr ar gyfer y ddarpariaeth fewnol gau am 10.00am a dylid cofnodi presenoldeb disgybl sy'n cyrraedd ar ôl 10.00am drwy ddefnyddio cod U.

Dylai ysgolion annog disgyblion i beidio â chyrraedd yn hwyr a chadw llygad am batrymau cyrraedd yn hwyr.

Am resymau’n ymwneud â diogelu plant a rhesymau addysgol, mae'n rhaid i ysgolion ymchwilio i bob absenoldeb heb ei esbonio a phob absenoldeb annisgwyl yn amserol, er enghraifft drwy weithdrefnau ‘Ymateb ar y Diwrnod Cyntaf’.

2. Categori ystadegol: gweithgaredd addysgol cymeradwy

2.1 Cod cofrestru: B

Defnyddir y cod cofrestru B pan fo disgybl sydd ar y gofrestr yn cael ei addysgu oddi ar y safle ar hyn o bryd mewn gweithgaredd dan oruchwyliaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAddysgir oddi ar y safle (nid cofrestriad deuol)
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i unrhyw weithgaredd addysgol cymeradwy arall
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Gellir defnyddio'r cod hwn ar gyfer pob disgybl sy'n bresennol mewn darpariaeth addysgol a drefnir gan yr ysgol ond nad yw'n digwydd yn yr ysgol. Ni ellir defnyddio'r cod hwn lle cytunwyd bod y dysgu’n cael ei gyflwyno ar-lein. Dylai hyn gael ei gwmpasu gan y cod B1 os yw'r dysgu o bell ar-lein yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gallu mynychu darpariaeth ysgol, a cod B2 os yw'r dysgu o bell ar-lein yn cael ei ddarparu gan yr ysgol lle cytunwyd gan banel o’r awdurdod lleol bod dysgu ar-lein yn briodol.

Enghreifftiau o pryd y byddai'r cod hwn yn cael ei ddefnyddio:

  • disgyblion sy'n mynychu ysgol arall fel ‘disgyblion gwadd’ (noder: mae'n rhaid i ddisgybl sy'n mynd i ysgol arall fel rhan o batrwm rheolaidd fod wedi’i gofrestru’n ddeuol – gweler cod D1)
  • disgyblion sy'n mynychu cwrs prentisiaeth iau neu gyrsiau galwedigaethol mewn coleg
  • disgyblion sy'n mynychu darpariaeth addysgol a drefnwyd gan yr ysgol fel rhan o gwricwlwm yr ysgol neu fel rhan o gynnig dysgu ehangach yr ysgol (lle mae’n cael ei darparu’n bersonol ac nid ar-lein)
  • disgyblion ar brofiad gwaith fel rhan o gwricwlwm yr ysgol neu fel rhan o gynnig dysgu ehangach yr ysgol

Nodyn: dylid cofnodi disgyblion sy'n ymgymryd â phrofiad gwaith o dan adran 560 o Ddeddf Addysg 1996 o dan y cod W. Mae adran 560 o Ddeddf Addysg 1996 yn ymwneud â gwahardd neu reoleiddio cyflogi plant. Mae'n nodi na fydd y deddfiadau sy'n ymwneud â gwahardd neu reoleiddio cyflogi plant yn gymwys i gyflogaeth plentyn yn ei ddwy flynedd olaf o addysg orfodol os yw'r cyflogaeth yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol ar ran awdurdod o'r fath, gyda'r bwriad o ddarparu profiad gwaith iddo fel rhan o’i addysg.

Am resymau’n ymwneud â diogelu plant a rhesymau addysgol, dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith lle gall unrhyw ddarparwr sy'n darparu darpariaeth ‘oddi ar y safle’ hysbysu'r ysgol ddwywaith y dydd am bresenoldeb neu absenoldeb disgyblion unigol yn unol â chyfnodau cofrestru'r ysgol fel y gall yr ysgol gofnodi presenoldeb neu absenoldeb y disgybl gan ddefnyddio'r cod absenoldeb perthnasol.

Mae'n rhaid i weithgaredd addysgol cymeradwy gael ei oruchwylio gan rywun a gymeradwywyd gan yr ysgol. At hynny mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ystod y sesiwn y cofnodir y marc ar ei gyfer.

Dim ond pan fydd y gweithgaredd yn digwydd yn bersonol ac yn cael ei gyflwyno gan hwylusydd a gymeradwywyd gan yr ysgol, er enghraifft gweithwyr ieuenctid, staff cymorth, tiwtor, neu athro arall, y gellir defnyddio cod B. Gall hyn hefyd gynnwys tiwtora a drefnwyd gan sefydliad sy’n cyflogi plentyn ar gyfer perfformiad â thâl.

Dylid defnyddio cod B1 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn yr ysgol yn bersonol ac sy’n derbyn addysg ar-lein a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Yn yr un modd, dylid defnyddio cod B2 ar gyfer disgyblion nad ydynt yn yr ysgol yn bersonol ac sy’n derbyn addysg ar-lein a ddarperir gan yr ysgol y cytunwyd ei bod yn briodol gan banel o’r awdurdod lleol.

Pan na ddylai ysgolion ddefnyddio cod B

Ni ddylid defnyddio'r cod hwn pan fydd disgyblion yn mynychu darpariaeth ar safle'r ysgol e.e. darpariaeth cynhwysiant.

Ni ddylai ysgolion ddefnyddio'r cod B ar gyfer sesiynau lle nad oes darpariaeth os oes gan ddisgybl amserlen ran-amser y cytunwyd arni fel rhan o broses ailintegreiddio neu bontio. Mae'r ysgol yn awdurdodi'r absenoldeb ar gyfer y sesiynau pan nad oes rhaid i'r disgybl fod yn yr ysgol a dylid rhoi cod C4 ar gyfer y sesiynau hynny.

Ni ddylai ysgolion ddefnyddio'r cod hwn i gofnodi absenoldeb astudio. Mae amser astudio yn amser i ffwrdd o'r ysgol i ddisgyblion gael paratoi heb oruchwyliaeth ar gyfer eu harholiadau cyhoeddus ac mae llawer o ddisgyblion yn trin yr amser hwnnw fel gwyliau ychwanegol ac nid ydynt yn astudio. O ganlyniad, nid yw absenoldeb astudio yn bodloni'r diffiniad cyfreithiol o weithgaredd addysgol cymeradwy. Rhaid defnyddio cod S ar gyfer absenoldeb astudio.

Ni ddylai ysgolion ddefnyddio'r cod hwn i gofnodi diwrnodau adolygu disgyblion os mai'r cyfan a wnânt yw anfon disgyblion adref gyda gwaith cartref ac astudio preifat. Yn debyg i absenoldeb astudio nid yw'n cael ei oruchwylio a gall gael ei drin fel gwyliau ychwanegol gan ddisgyblion. Felly ni fyddai'n bodloni'r diffiniad cyfreithiol o weithgaredd addysgol cymeradwy. Gellir defnyddio'r cod hwn pan fydd ysgolion wedi trefnu gweithgareddau addysgol dan oruchwyliaeth oddi ar y safle yn lle'r gwersi arferol tra bod cyfweliadau adolygu yn cael eu cynnal.

2.2 Cod cofrestru: B1

Defnyddir y cod cofrestru B1 pan fo disgyblion yn cael dysgu ar-lein gan awdurdod lleol neu pan fydd gan yr awdurdod lleol gytundeb addysg heblaw yn yr ysgol sy’n galluogi ysgolion i ddarparu hyn ar eu rhan. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrDysgu ar-lein
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i weithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan mewn dysgu ar-lein

Gwybodaeth ychwanegol

Dylai pob awdurdod lleol gefnogi'r disgyblion hyn a'u galluogi i ddychwelyd i'r ysgol yn bersonol. Dylai fod gan yr awdurdod lleol bolisi addysg heblaw yn yr ysgol sy'n amlinellu sut y bydd y garfan hon o ddisgyblion yn cael eu goruchwylio a’u cefnogi. Dylai'r ysgol weithio gyda'r awdurdod lleol i benderfynu a ddylid ystyried darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Disgybl nad yw'n gallu mynychu'r ysgol am resymau’n ymwneud â llesiant ac sy'n cael dysgu ar-lein gan yr awdurdod lleol (neu gan yr ysgol os yw’r awdurdod lleol wedi sefydlu trefniadau ffurfiol gyda'r ysgol ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol) fel rhan o ddull gweithredu y cytunwyd arno gan yr awdurdod, ar y ddealltwriaeth bod y ddarpariaeth ar-lein am y cyfnod byrraf posibl o amser gyda’r nod o ailintegreiddio'r disgybl yn ôl i bresenoldeb amser llawn.

Ni ddylid defnyddio dysgu ar-lein cydamserol ar gyfer disgyblion os mai ymddygiad neu waharddiadau dro ar ôl tro yw’r prif rwystr i ddysgu. Dylid cyfeirio'r disgyblion hyn at ddarpariaethau eraill yr awdurdod lleol fel unedau cyfeirio disgyblion neu addysg heblaw yn yr ysgol lle gellir eu cefnogi mewn lleoliad ffisegol lle byddant yn elwa ar ryngweithio a staff sydd â phrofiad o weithio gyda disgyblion ag ymddygiad heriol.

Rhaid i'r disgybl a'r rhiant gydsynio cyn i atgyfeiriad gael ei wneud i banel o’r awdurdod lleol (a dylid ystyried unrhyw bryderon diogelu presennol neu flaenorol cyn cytuno i ddarparu dysgu ar-lein). Os cynigir darpariaeth ar-lein i ddisgybl â phrofiad o fod mewn gofal, yna byddai'r cydsyniad yn cael ei ddarparu gan bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant (mewn rhai achosion yr awdurdod lleol fydd â’r cyfrifoldeb hwn, a byddai angen ymgynghori â'r gweithiwr cymdeithasol i gytuno bod dull ar-lein cydamserol yn briodol).

Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu mai dysgu ar-lein yw'r ddarpariaeth fwyaf priodol, rhaid iddynt sicrhau bod y seilwaith TGCh priodol ar waith ynghyd â chyngor yn unol â pholisïau’r awdurdod lleol neu’r ysgol ar fynediad i'r rhyngrwyd a’r defnydd cyfrifol ohono. Pan fydd hyn yn cael ei ddarparu gan unrhyw ddarparwr annibynnol, rhaid i’r awdurdod lleol asesu ei ansawdd a rhaid i'r darparwr annibynnol fod yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau perthnasol gan Lywodraeth Cymru neu’r awdurdod lleol yn y maes hwn.

Rhaid i'r awdurdod lleol neu’r ysgol gyfleu’n glir i'r disgybl a'r rhiant bod disgwyl i’r camera fod ymlaen bob amser i’r dysgu gael ei ystyried yn gydamserol a chael ei gofnodi fel gweithgaredd addysgol cymeradwy, a hefyd er mwyn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith.

Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r ysgol ystyried unrhyw bryderon diogelu presennol neu flaenorol, ac ni ddylid darparu dysgu ar-lein lle na ellir lliniaru'r pryderon hyn yn ddiogel.

2.3 Cod cofrestru: B2

Defnyddir y cod cofrestru B2 pan fo dysgwyr sydd ar y gofrestr yn cael ei addysgu oddi ar safle’r ysgol mewn gweithgaredd a oruchwylir a gymeradwywyd gan yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAddysgir oddi ar y safle (nid cofrestriad deuol)
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i unrhyw weithgaredd addysgol cymeradwy arall
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Dylai pob awdurdod lleol gefnogi'r disgyblion hyn a'u galluogi i ddychwelyd i'r ysgol yn bersonol. Dylai'r ysgol weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod unrhyw ddisgybl y maent yn dymuno ei gynnig ar gyfer darpariaeth dysgu ar-lein yn cael ei drafod a'i gytuno gan banel priodol o’r awdurdod lleol.

Pan nad yw disgybl yn gallu mynychu'r ysgol am resymau’n ymwneud â llesiant ac mae’n cael dysgu ar-lein gan yr ysgol ac nad yw’n gallu dychwelyd i’r ysgol (ac mae’n bodloni meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol), dylai’r ysgol ei gyfeirio at yr awdurdod lleol am ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ffurfiol am y cyfnod byrraf posibl o amser gyda’r nod o ailintegreiddio'r disgybl yn ôl i bresenoldeb amser llawn.

Ni ddylid defnyddio dysgu ar-lein cydamserol ar gyfer disgyblion os mai ymddygiad neu waharddiadau dro ar ôl tro yw’r prif rwystr i ddysgu. Dylid cyfeirio'r dysgwyr hyn at ddarpariaethau eraill yr awdurdod lleol fel unedau cyfeirio disgyblion neu addysg heblaw yn yr ysgol lle gellir eu cefnogi mewn lleoliad ffisegol lle byddant yn elwa ar ryngweithio a staff sydd â phrofiad o weithio gyda disgyblion ag ymddygiad heriol.

Rhaid i'r disgybl a'r rhiant gydsynio cyn i atgyfeiriad gael ei wneud i banel o’r awdurdod lleol (a dylid ystyried unrhyw bryderon diogelu presennol neu flaenorol cyn cytuno i ddarparu dysgu ar-lein). Os cynigir darpariaeth ar-lein i ddisgybl â phrofiad o fod mewn gofal, yna byddai'r cydsyniad yn cael ei ddarparu gan bwy bynnag sydd â chyfrifoldeb rhiant (mewn rhai achosion yr awdurdod lleol fydd â’r cyfrifoldeb hwn, a byddai angen ymgynghori â'r gweithiwr cymdeithasol i gytuno bod dull ar-lein cydamserol yn briodol).

Pan fo’r awdurdod lleol yn penderfynu mai dysgu ar-lein yw'r ddarpariaeth fwyaf priodol, rhaid iddynt sicrhau bod y seilwaith TGCh priodol ar waith ynghyd â chyngor yn unol â pholisïau’r awdurdod lleol neu’r ysgol ar fynediad i'r rhyngrwyd a’r defnydd cyfrifol ohono.

Rhaid i'r awdurdod lleol neu’r ysgol gyfleu’n glir i'r disgybl a'r rhiant bod disgwyl i’r camera fod ymlaen bob amser i’r dysgu gael ei ystyried yn gydamserol a chael ei gofnodi fel gweithgaredd addysgol cymeradwy, a hefyd er mwyn sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith.

Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r ysgol ystyried unrhyw bryderon diogelu presennol neu flaenorol, ac ni ddylid darparu dysgu ar-lein lle na ellir lliniaru'r pryderon hyn yn ddiogel.

2.4 Cod cofrestru: J

Defnyddir y cod cofrestru J ar gyfer cyfweliadau â darpar gyflogwyr neu sefydliad addysgol arall. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrCyfweliad allanol
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolYn bresennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Dylid defnyddio'r cod hwn i gofnodi'r amser a dreulir mewn cyfweliadau â darpar gyflogwyr neu gyfweliadau ar gyfer lle mewn ysgol arall neu sefydliad addysg bellach neu uwch, ar raglen brentisiaeth neu mewn darparwr hyfforddiant.

Dylai'r ysgol fod yn fodlon bod y cyfweliad yn gysylltiedig â rhagolygon addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol, a dylai staff yr ysgol fel arfer ofyn am rybudd ymlaen llaw a thystiolaeth o'r apwyntiad.

Dylid darparu tystiolaeth o unrhyw gyfweliad i sicrhau y cofnodir bod y disgybl yn mynd i weithgaredd addysgol cymeradwy.

2.5 Cod cofrestru: P1

Defnyddir y cod cofrestru P1 os yw'r disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon cymeradwy. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrGweithgaredd chwaraeon cymeradwy
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i weithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'n rhaid i'r gweithgaredd gael ei oruchwylio gan unigolyn a awdurdodwyd o ran hynny gan bennaeth yr ysgol. Mae'n rhaid sicrhau bod y disgybl yn cymryd rhan yn y gweithgaredd. Ni ddylid trin gwylio mewn digwyddiadau megis dilyn clwb pêl-droed lleol a gorymdeithiau i ddathlu buddugoliaeth mewn chwaraeon fel gweithgaredd addysgol cymeradwy. Os oes gan ysgolion bryderon ynghylch pa mor briodol yw gweithgaredd, gallant geisio cyngor gan y corff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol. Fodd bynnag, pennaeth yr ysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol a dylai ystyried yr effaith ar addysg gyffredinol y disgybl.

Mae'n rhaid i Weithgaredd Addysgol Cymeradwy gael ei oruchwylio gan rywun a gymeradwywyd gan yr ysgol. At hynny mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ystod y sesiwn y cofnodir y marc ar ei chyfer.

Dylid cofnodi absenoldeb oherwydd amser teithio i gystadleuaeth ac oddi yno drwy ddefnyddio cod C1 (os cytunir gan yr ysgol).

2.6 Cod cofrestru: P2

Defnyddir y cod cofrestru P2 os yw'r disgybl yn cymryd rhan mewn perfformiad di-dâl gan blentyn. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrGweithgaredd perfformio cymeradwy
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i weithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'n rhaid i'r gweithgaredd gael ei oruchwylio gan unigolyn a awdurdodwyd o ran hynny gan bennaeth yr ysgol. Mae'n rhaid bod y disgybl yn cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Os oes gan ysgolion bryderon ynghylch pa mor briodol yw gweithgaredd, gallant ofyn am gyngor gan swyddog yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyhoeddi trwyddedau perfformio. Dylai ysgolion fodloni eu hunain bod trefniadau goruchwylio, asesiadau risg a mesurau amddiffyn plant priodol ar waith gan y trefnydd cyn cytuno i ryddhau disgyblion i gymryd rhan.

Mae'n rhaid i weithgaredd addysgol cymeradwy gael ei oruchwylio gan rywun a gymeradwywyd gan yr ysgol. At hynny mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ystod y sesiwn y cofnodir y marc ar ei chyfer. Fodd bynnag, pennaeth yr ysgol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol a dylai ystyried yr effaith ar addysg gyffredinol y disgybl.

Dylid cofnodi absenoldeb oherwydd amser teithio i ymarferion ac oddi yno drwy ddefnyddio cod C1 (os cytunir gan yr ysgol).

2.7 Cod cofrestru: V

Defnyddir y cod cofrestru V ar gyfer teithiau ac ymweliadau wedi'u trefnu gan ysgolion, gan gynnwys teithiau preswyl a diwrnodau pontio ysgolion. Gellir eu defnyddio hefyd ar gyfer teithiau eraill o natur gwbl addysgol, sy'n cael eu trefnu gan sefydliadau eraill, ar yr amod eu bod yn cael eu goruchwylio gan berson sydd wedi'i awdurdodi gan y pennaeth. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrYmweliad neu daith addysgol
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i weithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'n rhaid i weithgaredd addysgol cymeradwy gael ei oruchwylio gan rywun o'r ysgol neu gan berson a awdurdodwyd gan y pennaeth, er enghraifft gweithiwr ieuenctid, staff cymorth, tiwtor neu athro arall. At hynny mae'n rhaid iddo ddigwydd yn ystod y sesiwn y cofnodir y marc ar ei chyfer.

Pan fydd yr ysgol yn trefnu diwrnodau pontio, rhaid i'r ysgol sicrhau bod y gofrestr yn cael ei chymryd yn yr ysgol neu gan athro o'r ysgol lle mae'r disgybl ar y gofrestr.

2.8 Cod cofrestru: W

Defnyddir y cod cofrestru W ar gyfer profiad gwaith o dan adran 560 o Ddeddf Addysg 1996. Rhaid i ysgolion sicrhau eu bod yn gwirio presenoldeb y disgybl yn y lleoliad profiad gwaith ac yn marcio'r gofrestr yn unol â hynny. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrProfiad gwaith
Ystyr ystadegolGweithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr cyfreithiolMynd i weithgaredd addysgol cymeradwy
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Bwriedir profiad gwaith ar gyfer disgyblion yn nwy flynedd olaf addysg orfodol. Ystyrir bod disgybl yn ei flwyddyn olaf o addysg orfodol o ddechrau'r tymor yn ei ysgol sy'n rhagflaenu dechrau'r flwyddyn ysgol pan fyddai'n peidio â bod o oedran addysg orfodol.

Ni ddylid defnyddio'r cod hwn i gofnodi profiad gwaith sy’n rhan arferol o drefniant addysgol sy’n digwydd oddi ar safle’r ysgol a dylid ei gofnodi gan ddefnyddio cod B.

3. Categori ystadegol: absenoldeb awdurdodedig

3.1 Cod cofrestru: C1

Defnyddir y cod cofrestru C1 ar gyfer amgylchiadau y cytunwyd arnynt yn ôl disgresiwn yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAmgylchiadau awdurdodedig eraill (nas cwmpesir gan god neu ddisgrifiad priodol arall)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol: amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau cyfnod o absenoldeb

Mae'r enghreifftiau hyn yn rhai dangosol ac nid ydynt yn rhestr gynhwysfawr. Dim ond amgylchiadau eithriadol a all gyfiawnhau cyfnod o absenoldeb. Dylai ysgolion ystyried pob cais yn unigol gan roi sylw i'r canlynol:

  • y math o ddigwyddiad y mae'r disgybl yn ceisio caniatâd i fod yn absennol o'r ysgol ar ei gyfer
  • pa mor aml y mae'n digwydd (a yw'n ddigwyddiad untro, neu a yw'n debygol o fod yn ddigwyddiad rheolaidd)
  • a roddodd y rhiant rybudd ymlaen llaw
  • patrwm presenoldeb y disgybl yn gyffredinol.

Gallai enghreifftiau gynnwys amgylchiadau arbennig fel:

  • mynd i briodas aelod o'r teulu
  • profedigaeth teuluol
  • ymweld â rhywun yn y carchar
  • gofalwyr ifanc (mewn gwir argyfwng gall ysgol gymeradwyo cyfnod o absenoldeb i blentyn ofalu am berthynas hyd nes y gellir gwneud trefniadau eraill ond dylai'r ysgol bennu terfyn amser ar gyfer y cyfnod o absenoldeb a gosod rhywfaint o waith ysgol fel na fydd y disgybl yn cael ei adael ar ôl tra bydd gartref)
  • genedigaeth plentyn – dylid rhoi cymorth i gadw'r disgybl yn yr ysgol lle bynnag y bo modd a'i ddychwelyd i addysg amser llawn cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr enedigaeth gyda chefnogaeth briodol. Ni ddylid caniatáu mwy na 18 wythnos o absenoldeb awdurdodedig i ddisgybl sy'n beichiogi ar gyfer y cyfnod yn union cyn ac ar ôl genedigaeth y plentyn. Dylai’r ysgol atgyfeirio’r disgybl ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol os nad yw’n gallu dychwelyd i’r ysgol.
  • methu â mynychu oherwydd bod y disgybl yn destun dedfryd gadw (hynny yw bod y disgybl wedi'i gadw yn unol â gorchymyn terfynol a wnaed gan lys neu orchymyn adalw a wnaed gan lys neu'r Ysgrifennydd Gwladol, a bod y gorchymyn hwnnw am gyfnod o ddim llai na 4 mis, ac nad oes gan y perchennog sail resymol i gredu y bydd y disgybl yn dychwelyd i'r ysgol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw). Disgwylir i ysgolion gyfathrebu â gweithiwr y disgybl yn y Tîm Troseddau Ieuenctid tra bod y disgybl yn y ddalfa ac yn parhau i fod ar gofrestr yr ysgol i drafod anghenion addysgol y disgybl, ei gynnydd a’i ddychwelyd i'r ysgol ar ôl cael ei ryddhau lle bo'n briodol. Mae addysg yn rhan allweddol o ailsefydlu effeithiol, ac felly mae'n bwysig bod ysgolion yn cadw mewn cysylltiad â'r Tîm Troseddau Ieuenctid trwy gydol y ddedfryd i gefnogi ailsefydlu'r plentyn lle bo'n briodol
  • pan fo disgyblion o oedran ysgol statudol ond yn mynychu darpariaeth Blwyddyn 12 ac yn dilyn cyrsiau ôl-TGAU, dylai unrhyw sesiynau lle nad oes angen iddynt fynychu'r ysgol gael eu cwmpasu gan ‘god C1’ ac nid ‘cod X’.

Er enghraifft, os yw disgybl ym Mlwyddyn 11 yn dilyn darpariaeth Safon Uwch, yna byddai unrhyw sesiynau lle nad oes rhaid iddo fod yn bresennol yn cael eu cofnodi drwy ddefnyddio cod C1.

3.2 Cod cofrestru: C2

Defnyddir y cod cofrestru C2 ar gyfer amgylchiadau y cytunwyd arnynt yn ôl disgresiwn yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAmgylchiadau awdurdodedig eraill, er enghraifft perfformiadau â thâl
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Pan fydd disgybl yn absennol am ei fod yn cymryd rhan mewn perfformiad â thâl, yr ysgol sy'n dal i benderfynu a ddylid awdurdodi'r absenoldeb hyd yn oed os yw'r disgybl yn cael ei gyflogi o dan drwydded a roddwyd gan yr awdurdod lleol.

Pan fo'r sefydliad sy'n cyflogi'r disgybl yn rhoi tystiolaeth eu bod yn darparu darpariaeth addysg i'r disgybl yn bersonol tra ei fod ar set, gellid defnyddio cod B, B1 neu B2.

3.3 Cod cofrestru: C3

Defnyddir y cod cofrestru C3 ar gyfer amgylchiadau y cytunwyd arnynt yn ôl disgresiwn yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAmgylchiadau awdurdodedig eraill (er enghraifft addysg hyblyg)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Cais rhiant bod ei blentyn yn cael addysg hyblyg

Mae ‘addysg hyblyg’ neu ‘bresenoldeb hyblyg yn yr ysgol’ yn drefniant rhwng y rhiant a’r ysgol lle mae’r plentyn wedi’i gofrestru yr ysgol yn y ffordd arferol ond mae’n mynychu’r ysgol yn rhan-amser; am weddill yr amser, mae’r plentyn yn cael ei addysgu yn y cartref (ar absenoldeb gydag awdurdod o’r ysgol). Weithiau, gwneir hyn fel mesur tymor byr am reswm penodol. Mae addysg hyblyg yn ddewis cyfreithlon cyn belled â bod pennaeth yr ysgol dan sylw ac, mewn llawer o achosion, yr awdurdod lleol hefyd, yn cytuno i’r trefniant.

Penderfyniad y pennaeth yw a ddylid cytuno i unrhyw geisiadau gan rieni am addysg hyblyg yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol a chan ystyried unrhyw faterion diogelu.

3.4 Cod cofrestru: C4

Defnyddir y cod cofrestru C4 ar gyfer amgylchiadau y cytunir arnynt yn ôl disgresiwn yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAmgylchiadau awdurdodedig eraill (er enghraifft amserlen lai neu amserlen ail-integreiddio)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae disgybl wedi’i roi ar amserlen lai neu ailintegreiddio. Rhaid bod y rhiant a’r plentyn wedi cytuno i hyn ar y cyd â’r ysgol.

Dylai unrhyw amserlen lai neu ailintegreiddio gael ei hategu gan gynllun cymorth bugeiliol y cytunir arno gyda'r rhiant a'r disgybl.

Dylai awdurdodau lleol gael polisi ar y defnydd o amserlenni llai neu ailintegreiddio a sicrhau bod mecanweithiau ar waith i sicrhau bod gan yr awdurdod lleol oruchwyliaeth glir o'r holl ddisgyblion sydd ar amserlenni rhan-amser i gefnogi ail-integreiddio i ddarpariaeth lawnamser. Dylai polisi pob awdurdod lleol fod â nodau clir o ran dychwelyd y disgyblion hyn i ddarpariaeth lawnamser o fewn amserlen ddiffiniedig, ddim mwy na chyfnod o 6 wythnos yn gyffredinol. ac yn unol â'r canllawiau Perthyn, Ymgysylltu a Chyfranogi. Mae’r canllawiau hyn yn ddogfen gynhwysfawr sy'n anelu at wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr yn ddogfen gynhwysfawr sydd â'r nod o wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb disgyblion mewn lleoliadau addysgol.

Os yw'r ysgol yn dymuno i broses ailintegreiddio barhau am fwy na 6 wythnos, yna dylent drafod y rhesymeg gyda'r awdurdod lleol er mwyn iddynt ystyried a yw hyn er budd gorau'r dysgwr ac a ddylid ystyried darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol hefyd i ategu presenoldeb yn yr ysgol.

3.5 Cod cofrestru: F

Defnyddir y cod cofrestru F ar gyfer absenoldeb y cytunwyd arno ar gyfer gwyliau teuluol os credir bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau hynny. Ni ddylai rhieni fel arfer fynd â disgyblion ar wyliau yn ystod y tymor. Rhaid iddynt wneud cais am absenoldeb cyn cymryd y gwyliau. Dylid ystyried pob cais am absenoldeb ar gyfer gwyliau yn unigol gan ystyried oedran y plentyn; yr adeg o'r flwyddyn a gynigir ar gyfer y daith; natur y daith a dymuniadau’r rhieni; patrwm presenoldeb cyffredinol y disgybl; a chyfnod addysg a chynnydd y plentyn. Dylai ysgolion wahodd rhieni i drafod unrhyw geisiadau am absenoldeb ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor.

Dim ond os credir bod amgylchiadau eithriadol y gall ysgol gytuno i absenoldeb o fwy na 10 diwrnod ysgol ar gyfer gwyliau teuluol estynedig. Os yw'r ysgol o'r farn bod amgylchiadau eithriadol pam y dylid caniatáu cymeradwyaeth i'r disgybl ar gyfer taith o fwy na 10 diwrnod, gellir rhoi cymeradwyaeth, a byddai'r absenoldeb yn cael ei awdurdodi.

Os yw rheini’n gwneud cais am wyliau estynedig o fwy na 10 diwrnod, dylid defnyddio cod H ar gyfer y 10 diwrnod cyntaf ac wedyn y cod F ar gyfer unrhyw absenoldebau pellach o ddiwrnod 11 ymlaen os yw’r ysgol wedi cytuno i’r gwyliau estynedig.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrGwyliau teulu estynedig (gwyliau yn ystod y tymor y cytunwyd arnynt)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r categori hwn ar gyfer cyfnod cyfan o wyliau estynedig (o ddiwrnod 11 yr absenoldeb ymlaen) lle y cytunodd pennaeth yr ysgol fod amgylchiadau eithriadol.

Os na fydd y rhieni yn gwneud cais am gyfnod o absenoldeb cyn cymryd y gwyliau, mae'n rhaid cofnodi bod y disgybl yn absennol heb awdurdod gan ddefnyddio cod G.

Os na fydd yr ysgol yn cytuno i gais rhiant am yr absenoldeb a bod y disgybl yn dal i fynd ar wyliau, mae'r absenoldeb yn absenoldeb anawdurdodedig (a dylid defnyddio cod G). 

Dylid darparu dyddiad dychwelyd i’r ysgol. Os bydd rhieni yn cadw plentyn i ffwrdd am fwy o amser nag y cytunwyd arno, cofnodir unrhyw amser ychwanegol fel absenoldeb anawdurdodedig (cod G).

Os bydd rheini’n gwneud cais am absenoldeb ar gyfer gwyliau estynedig o fwy na 10 diwrnod, a bod yr ysgol o'r farn bod amgylchiadau eithriadol ac yn caniatáu’r gwyliau estynedig, dylid defnyddio cod H ar gyfer y 10 diwrnod cyntaf ac wedyn y cod F ar gyfer diwrnod 11 ymlaen.

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • rhiant sy'n gorfod gweithio dramor am gyfnod tymor canolig penodol oherwydd natur a lleoliad ei gyflogaeth
  • ymweliad treftadaeth i'w gwlad wreiddiol neu enedigol, gan gynnwys i weld aelodau o’u teulu

3.6 Cod cofrestru: H

Defnyddir y cod cofrestru H ar gyfer absenoldeb y cytunwyd arno ar gyfer gwyliau teuluol os credir bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau hynny. Rhaid i rieni wneud cais ymlaen llaw am absenoldeb ar gyfer gwyliau neu daith tramor yn ystod y tymor. Cyfyngir hyn i 10 diwrnod ym mhob blwyddyn academaidd. Dylid ystyried ceisiadau am absenoldeb yn unigol, a dylai ysgolion wahodd rhieni i drafod unrhyw gynigion o'r fath ac ystyried oedran y plentyn; yr adeg o'r flwyddyn a gynigir ar gyfer y daith; natur y daith a dymuniadau’r rhieni; patrwm presenoldeb cyffredinol y disgybl; a chyfnod addysg a chynnydd y plentyn. Dim ond os credir bod amgylchiadau eithriadol y gall ysgolion gytuno i gais am absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol.

Gallai enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol gynnwys:

  • teuluoedd personél y lluoedd arfog lle nad ydynt yn gallu cymryd gwyliau yn ystod y cyfnod gwyliau ysgol sydd i ddod
  • rhiant neu blentyn sy'n profi salwch sy'n cyfyngu ar fywyd sy'n gofyn iddynt fynd ar wyliau ar yr adeg honno ac nid yn ystod cyfnod gwyliau ysgol
  • pan fo rhieni wedi darparu tystiolaeth gan eu cyflogwyr bod eu patrymau gwaith yn eu hatal rhag cymryd gwyliau yn unol â dyddiadau tymor ysgol cyhoeddedig ac nad ydynt yn gallu cymryd gwyliau yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrGwyliau teuluol (y cytunwyd arnynt)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Os bydd ysgol yn cytuno i gais gan rieni am gyfnod o absenoldeb ar gyfer gwyliau a bod y disgybl yn mynd ar wyliau am 10 diwrnod neu lai, mae'r absenoldeb wedi'i awdurdodi (dylid defnyddio cod H).

Os na fydd y rhieni yn gwneud cais am gyfnod o absenoldeb cyn mynd ar wyliau, mae'n rhaid cofnodi bod y disgybl yn absennol heb awdurdod gan ddefnyddio cod G, am na all ysgolion gytuno i gais am absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ôl-weithredol.

Os na fydd yr ysgol yn caniatáu cyfnod o absenoldeb a bod y disgybl yn mynd ar wyliau, mae'r absenoldeb yn absenoldeb anawdurdodedig (cod G).

3.7 Cod cofrestru: I1

Defnyddir y cod cofrestru I1 ar gyfer colli cofrestru oherwydd salwch, sy’n absenoldeb awdurdodedig. Os yw disgybl yn bresennol ar gyfer cofrestru ond yn dychwelyd adref oherwydd salwch, nid oes angen cofnodi absenoldeb ar gyfer y sesiwn honno. Dylai ysgolion gadw cofnod o ddisgyblion sy'n gadael neu'n dychwelyd i'r safle rhag ofn y bydd argyfwng.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrSalwch corfforol (nid apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol etc)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r cod hwn i'w ddefnyddio pan fydd rhieni yn cysylltu â’r ysgol i ddweud bod eu plentyn yn sâl yn gorfforol, hynny yw lle mae'r prif reswm a roddwyd dros yr absenoldeb yn gysylltiedig â salwch corfforol, er enghraifft byg stumog, salwch heintus neu esgyrn wedi torri. Dylid cynghori rhieni bob amser i hysbysu'r ysgol cyn gynted â phosibl pan fydd plentyn yn sâl.

Er y gall ysgolion ofyn am dystiolaeth feddygol i ategu absenoldeb oherwydd salwch, cynghorir ysgolion i beidio â gofyn am dystysgrifau meddygol yn ddiangen (yn arbennig tystysgrifau ôl-weithredol), yn enwedig os na chafodd y salwch ei drin gan feddyg ar y pryd. Bydd ceisiadau diangen yn rhwystro apwyntiadau meddygon teulu a allai, yn ei dro, arwain at oedi cyn trin eraill ac mae meddygon yn nodi ei bod yn anodd rhoi tystiolaeth ôl-weithredol, yn enwedig os na chafodd y disgybl ei drin ganddynt hwy. Gall tystiolaeth feddygol fod ar ffurf presgripsiynau golwg, cardiau apwyntiad ac ati yn hytrach na nodyn gan feddyg.

Os oes amheuaeth ynghylch a yw salwch yn ddilys neu os na ddarperir tystiolaeth feddygol ar ôl cyfnod addas o amser, gall ysgolion gofnodi'r absenoldeb (cod O) ond rhaid iddynt roi gwybod i'r rhieni am fwriad yr ysgol i ddefnyddio'r cod hwnnw.

Dylid cofnodi bod disgybl sy'n cael triniaeth feddygol ar safle'r ysgol yn 'bresennol'.

Pan fo salwch yn ffactor yn absenoldeb y disgybl a bu sawl achos o absenoldeb, ac os teimlir nad yw'r rhieni wedi ceisio cymorth meddygol priodol ac mae'r absenoldeb yn parhau, dylid gwneud ymholiad i'r gweithiwr meddygol proffesiynol perthnasol gyda chydweithrediad y rhieni. Hefyd, os nodir salwch fel pyliau ysgafn o asthma, meigryn neu boenau mislif fel rheswm dros absenoldeb mynych neu estynedig, efallai y bydd angen ceisio barn feddygol gan y gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol, gan gofio bod cysylltiad yn aml rhwng y cyflyrau hyn a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Pan fo absenoldebau yn dod yn arfer oherwydd patrymau salwch ac mae ysgolion wedi tystio eu bod wedi defnyddio pob ffordd o gefnogi ac ymgysylltu, dylent gyfeirio’r disgybl at yr awdurdod lleol i ystyried darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn unol ag adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Dylid cofnodi absenoldeb yn ystod y cyfnod cofrestru oherwydd apwyntiad meddygol, apwyntiad deintyddol neu apwyntiad ysbyty drwy ddefnyddio cod M.

3.8 Cod cofrestru: I2

Defnyddir y cod cofrestru I2 ar gyfer colli’r cyfnod cofrestru oherwydd salwch, sy’n absenoldeb awdurdodedig. Os bydd disgybl yn bresennol yn y cyfnod cofrestru ond yn dychwelyd adref oherwydd salwch, nid oes angen cofnodi unrhyw absenoldeb ar gyfer y sesiwn honno. Dylai ysgolion gadw cofnod o ddisgyblion sy'n gadael safle'r ysgol neu'n dychwelyd iddo rhag ofn y bydd argyfwng. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio system lle mae disgyblion yn cofrestru pan maent yn cyrraedd ac yn gadael safle'r ysgol.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrSalwch nad yw'n gorfforol, (er enghraifft pryderon llesiant)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r cod hwn i'w ddefnyddio pan fydd rhieni yn cysylltu â’r ysgol i ddweud bod eu plentyn yn absennol oherwydd salwch nad yw'n gorfforol, er enghraifft pryderon llesiant. Dylid cynghori rhieni bob amser i hysbysu'r ysgol cyn gynted â phosibl.

Er y gall ysgolion ofyn am dystiolaeth feddygol i ategu absenoldeb oherwydd salwch, cynghorir ysgolion i beidio â gofyn am dystysgrifau meddygol yn ddiangen (yn arbennig tystysgrifau ôl-weithredol), yn enwedig os na chafodd y salwch ei drin gan feddyg ar y pryd. Bydd ceisiadau diangen yn rhwystro apwyntiadau meddygon teulu a allai, yn ei dro, arwain at oedi cyn trin eraill ac mae meddygon yn nodi ei bod yn anodd rhoi tystiolaeth ôl-weithredol, yn enwedig os na chafodd y disgybl ei drin ganddynt hwy. Gall tystiolaeth feddygol fod ar ffurf presgripsiynau golwg, cardiau apwyntiad ac ati yn hytrach na nodyn gan feddyg.

Os oes amheuaeth a yw salwch yn ddilys neu os na ddarperir tystiolaeth feddygol ar ôl cyfnod addas o amser, gall ysgolion gofnodi'r absenoldeb (cod O) ond rhaid iddynt hysbysu'r rhieni am fwriad yr ysgol i ddefnyddio'r cod hwnnw.

Pan fo salwch yn ffactor yn absenoldeb y disgybl a bu sawl achos o absenoldeb, ac os teimlir nad yw'r rhieni wedi ceisio cymorth meddygol priodol a bod yr absenoldeb yn parhau, dylid gwneud ymholiad i'r gweithiwr meddygol proffesiynol perthnasol gyda chydweithrediad y rhieni. Yn ogystal, lle mae salwch fel asthma ysgafn, meigryn neu boenau stumog yn cael eu rhoi fel rheswm dros absenoldeb aml neu hir, efallai y bydd angen gofyn am farn feddygol gan y gweithiwr meddygol proffesiynol perthnasol, gan gofio bod cysylltiad yn aml rhwng y rhain a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Pan fo absenoldebau yn dod yn arfer oherwydd patrymau salwch ac mae ysgolion wedi tystio eu bod wedi defnyddio pob ffordd o gefnogi ac ymgysylltu, dylent gyfeirio’r disgybl at yr awdurdod lleol i ystyried darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yn unol ag adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Dylid cofnodi bod disgybl sy'n cael triniaeth feddygol ar safle'r ysgol yn 'bresennol'.

Dylid cofnodi absenoldeb yn ystod y cyfnod cofrestru oherwydd apwyntiad meddygol, apwyntiad deintyddol neu apwyntiad ysbyty drwy ddefnyddio cod M.

3.9 Cod cofrestru: M

Defnyddir y cod cofrestru M ar gyfer colli’r cyfnod cofrestru i fynd i apwyntiad meddygol neu ddeintyddol, sy’n absenoldeb awdurdodedig.

Dylid annog rhieni a disgyblion i drefnu apwyntiadau y tu allan i oriau'r ysgol. Cynghorir gofyn am weld cadarnhad o apwyntiad.

Os bydd disgybl yn bresennol yn y cyfnod cofrestru ond bod ganddo apwyntiad meddygol yn ddiweddarach, nid oes angen cofnodi unrhyw absenoldeb ar gyfer y sesiwn honno. Dylai ysgolion gadw cofnod ffurfiol o ddisgyblion sy'n gadael safle'r ysgol neu'n dychwelyd iddo rhag ofn y bydd argyfwng.

Os yw disgybl yn cyrraedd o apwyntiad meddygol yn ystod y cyfnod y mae'r gofrestr dal ar agor, dylid defnyddio cod L gan eu bod wedyn yn cael eu hystyried yn bresennol. Os yw disgybl yn cyrraedd ar ôl i’r gofrestr gau, dylid defnyddio cod M.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrApwyntiadau meddygol neu deintyddol
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Am resymau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch mae'n rhaid sicrhau bod system ar waith i gofnodi bod disgybl wedi cyrraedd yr ysgol neu adael y safle yn ystod y sesiwn. Mae apwyntiadau meddygol yn cynnwys:

  • mynd i feddygfa
  • mynd i ddeintyddfa
  • apwyntiadau ysbyty neu CAMHS (nid arhosiad mewn ysbyty, y dylid defnyddio’r cod priodol ar ei gyfer (I1 neu I2))

3.10 Cod cofrestru: S

Defnyddir y cod cofrestru S ar gyfer absenoldeb astudio, a dylid ei ddefnyddio’n gynnil ac yn ôl disgresiwn y pennaeth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 sy’n eistedd arholiadau (uchafswm o 15 diwrnod) a dim ond ar gyfer disgyblion sy'n paratoi ar gyfer arholiadau cyhoeddus.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAbsenoldeb astudio (uchafswm o 15 diwrnod)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae llawer o ysgolion yn dewis chwilio am opsiynau eraill yn lle absenoldeb astudio am fod tystiolaeth nad oes gan gyfran fawr o fyfyrwyr y sgiliau i wneud y defnydd gorau o lawer o amser adolygu distrwythur heb ei oruchwylio neu nid ydynt yn tueddu i wneud y defnydd gorau ohono.

Am nad yw absenoldeb astudio yn cael ei oruchwylio ac am na all ysgolion gymryd yn ganiataol iddo digwydd yn ystod y sesiwn ysgol, nid yw'r bodloni'r gofynion rheoliadol ar gyfer cod B1 neu B2.

Dylai ysgolion gofio fod i unrhyw sesiwn a roddir i ddisgyblion fel absenoldeb astudio ystyr ystadegol absenoldeb awdurdodedig ac y dylai'r ysgol ei gofnodi a'i adrodd fel y cyfryw.

Gan ei bod yn ofynnol i ddisgyblion gael eu cadw ar gofrestr yr ysgol, mae cyfrifoldebau ysgolion ar gyfer pob disgybl yn aros fel y maent. Byddai pob disgybl yn elwa ar gymorth astudio wyneb yn wyneb ac arweiniad gan athrawon yn eu hysgol, yn enwedig grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed fel y rhai a nodwyd yn ôl diffiniad Estyn, ac felly dylid defnyddio absenoldeb astudio yn gynnil yn ystod cyfnod arholiadau. Rhaid i'r awdurdod lleol neu'r ysgol ystyried unrhyw bryderon diogelu presennol neu flaenorol, ac ni ddylid darparu absenoldeb astudio lle na ellir lliniaru'r pryderon hyn yn ddiogel.

Wrth fesur y defnydd o absenoldeb astudio, ac felly absenoldeb awdurdodedig, mae'n rhaid i ysgolion gofio na all disgyblion adael yr ysgol tan y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin. Unwaith y bydd y 15 diwrnod o absenoldeb astudio wedi'u defnyddio, dylid defnyddio codau eraill yn ôl yr angen pan fydd absenoldebau wedi'u hawdurdodi neu'n anawdurdodedig.

Ni ddylid marcio disgyblion sy'n bresennol mewn arholiadau gyda’r cod hwn.

3.11 Cod cofrestru: E

Defnyddir y cod cofrestru E ar gyfer disgybl sydd wedi’i wahardd am gyfnod penodol ac sy’n aros ar gofrestr yr ysgol ond ni all ddod i'r ysgol. Mae disgybl sy'n cael ei wahardd yn barhaol yn aros ar gofrestr yr ysgol hyd nes y bydd y broses apelio wedi'i chwblhau. Mae hyn yn cynnwys yr apêl i Banel Disgyblu'r Corff Llywodraethu a'r amserlenni ar gyfer apêl i banel apelio annibynnol (adran 4.12.4 o Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion).

Dylid trefnu darpariaeth amgen i bob disgybl sydd wedi'i wahardd o'r unfed diwrnod ar bymtheg ar ôl dyddiad y gwaharddiad, ond mae rhai ysgolion ac awdurdodau lleol yn dewis gwneud darpariaeth cyn hynny.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrWedi'i wahardd (ni wneir unrhyw ddarpariaeth amgen)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Defnyddir y cod hwn i gofnodi absenoldeb disgyblion oherwydd eu bod wedi'u gwahardd ac na wnaed unrhyw ddarpariaeth eto i'w galluogi i barhau â'u haddysg tra eu bod wedi'u gwahardd.

Mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol am wneud trefniadau amgen ar gyfer disgybl sydd wedi'i wahardd sy'n aros ar gofrestr yr ysgol naill ai'n uniongyrchol neu ar y cyd â darparwr darpariaeth amgen y cytunwyd arno. Dyle'r ddarpariaeth hon fod ar gael o'r unfed diwrnod ar bymtheg ar ôl y dyddiad y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol a'r unfed diwrnod ar bymtheg o waharddiad cyfnod penodol. Mae canllawiau pellach ar waharddiadau ar gael yn Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.

Os cadarnheir gwaharddiad parhaol, dylid dileu enw’r disgybl o gofrestr yr ysgol ar y diwrnod ysgol:

  • ar ôl i'r panel apêl gadarnhau bod y disgybl wedi'i wahardd yn barhaol
  • pan ddaw'r amser a ganiateir ar gyfer gwneud apeliadau i ben
  • ar ôl i'r rhiant gadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n bwriadu apelio
  • os yw'r disgybl yn cael lle yn rhywle arall dewis rhieni o dan y ddeddf addysg

3.12 Cod cofrestru: R

Defnyddir y cod cofrestru R ar gyfer absenoldeb i gymryd rhan mewn unrhyw ddiwrnod a neilltuwyd ar gyfer defodau crefyddol yn unig gan y corff crefyddol y mae'r rhieni a’r plentyn yn perthyn iddo, gan gynnwys gwyliau crefyddol. Dylid annog rhieni i roi rhybudd ymlaen llaw.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrDefodau crefyddol
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Dehonglir hyn i olygu, os bydd sefydliad crefyddol y rhieni yn nodi bod y diwrnod yn ŵyl grefyddol, fod yn rhaid i'r ysgol awdurdodi'r absenoldeb. Pan fo angen, dylai ysgolion geisio cyngor gan gorff crefyddol y rhieni ynghylch a yw wedi neilltuo'r diwrnod ar gyfer defodau crefyddol.

Os na fydd y corff crefyddol wedi neilltuo'r diwrnod, nid yw'n ofynnol i'r ysgol gymeradwyo'r absenoldeb na chaniatáu cyfnod o absenoldeb. Nid yw gwyliau ychwanegol a diwrnodau i ffwrdd sy'n gysylltiedig â'r ŵyl grefyddol ond nad ydynt “wedi'u neilltuo ar gyfer defodau crefyddol yn unig” gan y corff crefyddol yn cael eu marcio gyda chod R.

Os yw rhieni yn gofyn am wyliau ychwanegol nad ydynt wedi'u neilltuo ar gyfer defodau crefyddol yn unig, dylent gyflwyno cais i'r ysgol am absenoldeb yn ystod y tymor i'r ysgol ei ystyried.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau blynyddol i awdurdodau lleol ar y dyddiadau hyn.

3.13 Cod cofrestru: T

Defnyddir y cod cofrestru T os yw plentyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn absennol oherwydd bod ei deulu yn teithio ar gyfer gwaith, fel rhan o adran 444(6) o Ddeddf Addysg 1996. Mae adran 444(6) o’r Ddeddf hon yn caniatáu absenoldebau awdurdodedig ar gyfer disgyblion sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr a disgyblion nomadaidd sy’n teithio gyda’i rheini ar gyfer gwaith.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAbsenoldeb Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Ystyr ystadegolAbsenoldeb awdurdodedig
Ystyr cyfreithiolAbsennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cynnwys sawl grŵp ethnig a diwylliannol. Caiff hyn ei esbonio yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion ‘Dathlu a chyfranogi: canllawiau addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr’. Dylai penaethiaid gyfeirio at y canllawiau hyn er mwyn deall pa grwpiau sy'n cael eu cwmpasu gan y term cyffredinol Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

I helpu i sicrhau parhad dysgu i blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, caniateir eu cofrestru mewn dau leoliad. Yn yr achos hwn, byddai eu hysgol yn marcio'r disgybl fel D1 (dim rhaid bod yn bresennol) os yw’n mynychu darpariaeth addysgol arall. Mae'r ddwy ysgol yn rhannu’r cyfrifoldeb am y plentyn. Mae methu â mynychu'r ddarpariaeth y cytunwyd arni ar yr adeg briodol yn yr ysgol sy'n disgwyl y disgybl, a hynny heb reswm da yn absenoldeb anawdurdodedig.

Os yw'n hysbys bod teulu'r disgybl yn teithio (ar gyfer gwaith) ac nad yw'r disgybl yn gallu mynd i'r ysgol lle mae wedi'i gofrestru, ond nad yw'n hysbys a yw'r plentyn yn mynd i ddarpariaeth addysgol (mewn ysgol neu gyda darparwr arall), dylid awdurdodi'r absenoldeb a'i gofnodi gan ddefnyddio cod T.

Ni all ysgol ddileu plentyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr o gofrestr yr ysgol tra bydd yn teithio os mai'r ysgol yw'r ysgol sefydlog.

Mae'n ofynnol i blant o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr fynychu'r ysgol. Fodd bynnag, mae amddiffyniad ar gael i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr os cânt eu herlyn am beidio ag anfon eu plentyn i'r ysgol, ar yr amod bod y plentyn wedi bod yn bresennol mewn ysgol am o leiaf 200 o sesiynau yn ystod y 12 mis sy'n dod i ben pan ddechreuir yr achos cyfreithiol.

4. Categori ystadegol: absenoldeb anawdurdodedig

4.1 Cod cofrestru: N

Defnyddir y cod cofrestru N os nad oes rheswm dros absenoldeb. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrNi roddwyd unrhyw reswm eto dros yr absenoldeb
Ystyr ystadegolAbsenoldeb anawdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Dylid gwneud pob ymdrech i ddarganfod pam roedd y disgybl yn absennol o'r ysgol. Hyd nes y ceir esboniad, mae'n rhaid cofnodi'r absenoldeb gan ddefnyddio cod N. Os na roddir unrhyw reswm dros yr absenoldeb o fewn 5 diwrnod ysgol a bod ysgolion wedi defnyddio pob ffordd o ymholi, dylid rhoi cod O yn lle cod N ac mae’n rhaid i’r ysgol roi gwybod i'r rhiant y bydd yr absenoldeb bellach yn cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig.

Os bydd disgyblion yn absennol yn annisgwyl ac nad yw eu rhieni yn cysylltu â'r ysgol, dylai'r ysgol gysylltu â hwy o dan drefniadau ymateb ar y diwrnod cyntaf.

Ni ddylid gadael cod N ar gofnod presenoldeb disgybl am fwy na 5 diwrnod ysgol.

Dylai ysgolion sicrhau fod ganddynt systemau a gweithdrefnau ar waith i ymchwilio i'r achosion hyn o absenoldeb a chadarnhau'r rheswm dros yr absenoldeb, yn ddelfrydol o fewn 5 diwrnod.

Pan fydd disgybl wedi'i gofnodi fel cod N i ddechrau a newidir hyn wedyn â rheswm dros absenoldeb y disgybl, ystyrir mai'r wybodaeth newydd hon yw'r cofnod cyntaf yn y gofrestr ac nid oes angen cysylltu'r newid o god N gyda'r sawl a wnaeth y newid, pryd na pham. Y rheswm syml yw bod yr wybodaeth newydd ei rhoi. Mae'n rhaid i unrhyw newid arall i unrhyw wybodaeth arall a gofnodir ar y gofrestr bresenoldeb neu'r gofrestr dderbyn gael ei hategu â manylion y cofnod gwreiddiol a'r cofnod newydd, a’r sawl a wnaeth y newid, pryd a pham.

4.2 Cod cofrestru: O

Defnyddir y cod cofrestru O os yw disgybl allan am y sesiwn gyfan. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrAbsenoldeb anawdurdodedig (nas cwmpesir gan unrhyw god neu ddisgrifiad arall)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb anawdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Dylai ysgolion hysbysu'r rhieni pan fo'r absenoldeb yn anawdurdodedig. Mae'r enghreifftiau hyn yn rhai dangosol ac nid ydynt yn gynhwysfawr:

  • pen-blwydd y disgybl, rhiant, brawd, chwaer neu berthynas
  • siopa
  • torri gwallt
  • trît arbennig
  • diwrnod marchnad
  • ‘allwn i ddim codi o'r gwely’
  • cau ysgol brawd neu chwaer ar gyfer hyfforddiant mewn swydd (neu ddibenion eraill)

4.3 Cod cofrestru: G

Defnyddir y cod cofrestru G ar gyfer gwyliau teuluol os ydynt yn credu bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau hynny os nad yw'r cais am absenoldeb i fynd ar wyliau tymor wedi'i gytuno, lle nad yw'r absenoldeb yn fwy na'r amser y cytunwyd arno gan yr ysgol neu nad yw rhieni wedi gwneud cais am absenoldeb cyn gwyliau. Dim ond os credir bod amgylchiadau eithriadol y gellir cytuno i absenoldeb o fwy na 10 diwrnod ysgol mewn blwyddyn ysgol. Ni ddylai rhieni fel arfer fynd â disgyblion ar wyliau yn ystod y tymor a rhaid iddynt wneud cais am absenoldeb cyn mynd ar wyliau. Dylid ystyried pob cais am absenoldeb gwyliau yn unigol, gan ystyried oedran y plentyn; yr adeg o'r flwyddyn a gynigir ar gyfer y daith; natur y daith a'i ddymuniadau rhieni; patrwm presenoldeb cyffredinol y disgybl; a chyfnod addysg a chynnydd y plentyn. Dylai ysgolion wahodd rhieni i'r ysgol i drafod unrhyw wyliau arfaethedig yn ystod y tymor. Dim ond os ydynt yn credu bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau hynny y gall ysgolion gytuno i gais am absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol.

Ni fyddai cod G yn briodol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • teuluoedd personél y lluoedd arfog lle nad ydynt yn gallu cymryd gwyliau yn ystod y cyfnod o wyliau ysgol sydd i ddod
  • rhiant neu blentyn sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd sy'n gofyn iddynt fynd ar wyliau ar yr adeg honno ac nid yn ystod cyfnod o wyliau ysgol
  • pan fo rhieni wedi darparu tystiolaeth bod eu patrymau gwaith yn eu hatal rhag cymryd gwyliau yn ystod dyddiadau tymhorau ysgol cyhoeddedig, er enghraifft llythyr wrth eu cyflogwr yn nodi pam fod angen iddynt gymryd eu gwyliau yn ystod y cyfnod hwn

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrGwyliau teuluol (na chytunwyd arnynt neu ddiwrnodau sy’n ychwanegol at yr hyn y cytunwyd arno)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb anawdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Os na fydd y rhieni yn gwneud cais am gyfnod o absenoldeb cyn cymryd gwyliau, mae'n rhaid cofnodi bod y disgybl yn absennol heb awdurdod gan ddefnyddio cod G, am nad yw'r rheoliadau yn caniatáu i ysgolion roi caniatâd ar ôl i’r gwyliau ddigwydd.

Os na fydd yr ysgol yn caniatáu cyfnod o absenoldeb a bod y disgybl yn mynd ar wyliau, mae'r absenoldeb yn absenoldeb anawdurdodedig (cod G).

Os bydd rhieni yn cadw plentyn i ffwrdd am gyfnod hwy na'r hyn y cytunwyd arno, cofnodir unrhyw amser ychwanegol fel absenoldeb anawdurdodedig (cod G).

4.4 Cod cofrestru: U

Defnyddir y cod cofrestru U os yw hwyr ar ôl i'r cyfnod cofrestru ddod i ben. Dylai ysgolion annog disgyblion i beidio â bod yn hwyr a chadw llygad am batrymau cyrraedd yn hwyr. Dylai fod gan ysgolion bolisi ar ba mor hir y dylid cadw’r gofrestr ar agor. Mae Llywodraeth Cymru’n cynghori y dylai’r gofrestr aros ar agor am 30 munud.

Er enghraifft, os yw’r cyfnod cofrestru yn dechrau am 8.30am, dylai’r gofrestr gau am 9.00am.

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrHwyr (ar ôl i'r cyfnod cofrestru ddod i ben)
Ystyr ystadegolAbsenoldeb anawdurdodedig
Ystyr cyfreithiolYn absennol
Ystyr ffisegolHwyr i'r sesiwn

Gwybodaeth ychwanegol

Dylid defnyddio'r cod pan fydd disgybl wedi cyrraedd ar ôl i'r cyfnod cofrestru ddod i ben ac nad oes unrhyw reswm perthnasol dros roi cod arall.

Enghraifft:

Os bydd disgybl yn cyrraedd yn hwyr (ar ôl i’r gofrestr gau) oherwydd apwyntiad meddygol neu ddeintyddol, byddai cod M yn cael ei ddefnyddio.

Os yw disgybl yn cyrraedd yn hwyr (ar ôl i’r gofrestr gau) a bod rhieni’n rhoi rheswm annerbyniol am hyn, byddai cod U yn cael ei ddefnyddio.

Am resymau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, mae angen i ysgolion wybod ble mae’r disgyblion, yn enwedig y rhai sy'n gadael neu'n cyrraedd safle'r ysgol yn hwyr yn ystod sesiwn. Gellid gwneud hyn drwy system bapur yn swyddfa'r ysgol i gofnodi bod disgybl wedi cyrraedd safle'r ysgol yn ystod y sesiwn, a bwydo’r wybodaeth i system electronig yr ysgol cyn gynted â phosibl.

O dan Reoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 fel y'u diwygiwyd, gall ysgolion bennu amseroedd gwahanol ar gyfer sesiynau i ddisgyblion gwahanol, er enghraifft yn ystod arholiadau cyhoeddus, ond mae'n ofynnol iddynt agor am 380 o sesiynau.

Am resymau’n ymwneud â diogelu plant a rhesymau addysgol, mae'n rhaid i ysgolion ymchwilio i bob absenoldeb heb ei esbonio a phob absenoldeb annisgwyl yn amserol, er enghraifft drwy weithdrefnau ‘Ymateb ar y Diwrnod Cyntaf’.

5. Categori ystadegol: dim rhaid bod yn bresennol

5.1 Cod cofrestru: D1

Mae’r cod cofrestru D1 ar gyfer disgyblion sydd wedi’u cofrestru’n ddeuol mewn mwy nag un ysgol.

Enghraifft o hyn yw pan fo disgybl wedi'i gofrestru yn ysgol X ac yn ysgol neu leoliad Y ac yn mynychu ysgol neu leoliad Y. Mae Ysgol X yn rhoi cod D1 ar gyfer y disgybl (dim rhaid bod yn bresennol) tra ei fod yn mynychu ysgol neu leoliad Y ac i'r gwrthwyneb. Mae'r ddau sefydliad yn rhannu'r cyfrifoldeb am y plentyn. Mae methu â mynychu'r ddarpariaeth y cytunwyd arno ar yr adeg briodol pan fydd y darparwr yn disgwyl y disgybl a hynny heb reswm da yn absenoldeb anawdurdodedig.

Defnyddir y cod hwn i nodi nad yw'n ofynnol i'r disgybl fynd i'r ysgol y mae wedi'i gofrestru ynddi, ond mae'n ofynnol iddo fynd i'r sefydliad sy'n darparu'r ddarpariaeth. Y prif enghreifftiau o gofrestru deuol yw disgyblion sy'n mynychu uned cyfeirio disgyblion, darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, ysgol ysbyty neu ysgol arbennig dros dro. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrCofrestriad deuol (er enghraifft mae'r disgyblion yn mynd i ysgol neu leoliad addysgol arall)
Ystyr ystadegolDim rhaid bod yn bresennol
Ystyr cyfreithiolDim rhaid bod yn bresennol
Ystyr ffisegolAllan am y sesiwn gyfan

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r gyfraith yn caniatáu i ddisgybl gael ei gofrestru mewn mwy nag un ysgol.

Dylid defnyddio'r cod hwn pan fo disgybl wedi'i gofrestru'n ddeuol mewn dwy ysgol ac nad oes rhaid iddo fod yn bresennol yn eich ysgol chi ar gyfer y sesiwn dan sylw.

Defnyddir y cod hwn i nodi nad oes yn rhaid i’r disgybl fod yn bresennol yn yr ysgol ond mae disgwyl i’r disgybl fod yn bresennol yn yr ysgol arall y mae wedi’i gofrestru ynddi. Y prif enghreifftiau o gofrestru deuol yw disgyblion sy'n mynychu uned cyfeirio disgyblion, darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, ysgol ysbyty neu ysgol arbennig dros dro.

Yr ysgol y disgwylir i'r disgybl fod yn bresennol ynddi y diwrnod hwnnw sy’n gyfrifol am gofnodi presenoldeb y disgybl yn gywir ac ymchwilio i unrhyw achos o absenoldeb.

Dylid cofrestru disgyblion sydd wedi'u cofrestru'n ddeuol mewn dwy ysgol fel y cyfryw yn systemau gwybodaeth reoli (MIS) y ddwy ysgol o dan ‘statws cofrestru disgybl’. Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod ganddynt drefniadau ar waith i alluogi'r ysgol lle mae disgwyl i’r disgybl fod yn bresennol i hysbysu'r ysgol ‘arall’ am unrhyw absenoldeb, fel y gall y ddwy ysgol gofnodi absenoldeb y disgybl gan ddefnyddio'r cod absenoldeb cywir a thrafod unrhyw bryderon yn ymwneud â phresenoldeb. At ddibenion diogelu plant ac addysgol, yr ysgol lle mae disgwyl i’r disgybl fod yn bresennol sy’n gyfrifol am ymchwilio i bob absenoldeb heb ei esbonio a phob absenoldeb annisgwyl yn amserol, er enghraifft drwy weithdrefnau ‘Galw ar y Diwrnod Cyntaf’ safonol.

5.2 Cod cofrestru: X

Defnyddir y cod cofrestru X ar gyfer sesiynau heb eu hamserlennu ar gyfer disgyblion nad ydynt o oedran ysgol orfodol, sef disgyblion nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran ysgol statudol o 5 oed ar ddechrau'r tymor y cynhelir y sesiwn neu disgybl a oedd yn 16 oed cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y cynhelir y sesiwn. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrSesiynau heb eu rhaglennu ar gyfer disgyblion nad ydynt o oedran ysgol gorfodol
Ystyr ystadegolNi chyfrifir mewn presenoldeb posibl
Ystyr cyfreithiolAbsennol
Ystyr ffisegolNid oes angen bod yn yr ysgol

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i alw'r gofrestr ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol a disgyblion nad ydynt o oedran ysgol gorfodol.

Fodd bynnag, dylai'r cod hwn gael ei ddefnyddio i gofnodi sesiynau na ddisgwylir i blant nad ydynt o oedran ysgol gorfodol fod yn bresennol ynddynt a dylid defnyddio codau safonol i gofnodi categorïau eraill o absenoldeb. Ni fydd hyn yn effeithio ar ystadegau presenoldeb ysgolion ac awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, am nad yw Llywodraeth Cymru yn casglu ystadegau ar gyfer disgyblion nad ydynt o oedran ysgol gorfodol. Bydd yn helpu ysgolion i nodi'n hawdd pryd mae disgyblion wedi colli gwersi. Ni ddylid defnyddio'r cod hwn i gofnodi absenoldeb plant o oedran ysgol gorfodol nac unrhyw fath o waharddiad.

Os bydd ysgol yn rhoi disgybl o oedran ysgol gorfodol ar amserlen ran-amser, er enghraifft fel rhan o broses ailintegreiddio, yna mae'r ysgol yn awdurdodi absenoldeb y disgybl o'r sesiynau nad ydynt ar yr amserlen. Dylid cofnodi'r absenoldeb hwnnw drwy ddefnyddio cod C4. Ni ddylai ysgolion osod amserlenni rhan-amser i ddisgyblion am gyfnod amhenodol a dylent fonitro'r defnydd ohonynt.

Os yw disgybl wedi'i gofrestru mewn mwy nag un ysgol, bydd y disgybl eisoes wedi cael cod D1 ‘nid oes rhaid iddo fod yn yr ysgol lle mae wedi'i gofrestru’, a byddai'r ysgol y mae'n ei mynychu ar y diwrnod hwnnw yn cofnodi ei bresenoldeb.

Disgybl ym Mlwyddyn 11 sy’n dilyn amserlenni Blwyddyn 12 eisoes

Pan fo disgyblion o oedran ysgol statudol ond yn mynychu darpariaeth blwyddyn 12 ac yn dilyn cyrsiau ôl-TGAU, dylai unrhyw sesiynau lle nad oes angen iddynt fynychu'r ysgol gael eu cwmpasu gan god C1 nid cod X.

Disgyblion Blwyddyn 11 sy'n mynd ymlaen i Flwyddyn 12 (Chweched Dosbarth)

O dan Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 ni all ysgolion ddileu disgyblion Blwyddyn 11 sy'n bwriadu aros yn yr ysgol a mynd i'r Chweched Dosbarth (Blwyddyn 12) o gofrestrau'r ysgol. Unwaith y bydd y disgyblion dros yr oedran ysgol gorfodol, sef ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, gellir eu cofnodi gan ddefnyddio'r cod hwn os na fydd yr ysgol wedi gofyn iddynt fod yn bresennol.

5.3 Cod cofrestru: Y1

Defnyddir y cod cofrestru Y1:

  • os nad yw disgybl yn gallu mynychu’r ysgol am nad yw'r ysgol o fewn pellter cerdded i gartref y disgybl ac nid yw cludiant yn cael ei ddarparu i'r ysgol ac oddi yno
  • os nad yw’r disgybl yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd tarfu eang ar deithio a achosir gan argyfwng lleol neu oherwydd bod rhan o’r adeilad ar gau yn sgil tywydd garw
  • os yw rhan o safle’r ysgol allan o ddefnydd am resymau na ellir eu hosgoi ac ni ellir rhoi lle i'r disgyblion yn y rhannau o'r safle sy'n dal i fod ar agor

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrCau ysgol yn rhannol
Ystyr ystadegolNi chyfrifir fel presenoldeb posibl
Ystyr cyfreithiolAbsenoldeb oherwydd amgylchiadau eithriadol
Ystyr ffisegolNid oes angen bod yn yr ysgol

Gwybodaeth ychwanegol

  • Nid yw'r disgybl yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd nad yw'r ysgol o fewn pellter cerdded i'w gartref ac nid yw'r cludiant i'r ysgol ac oddi yno a ddarperir i'r disgybl fel arfer gan yr ysgol neu'r awdurdod lleol ar gael. Mae hyn yn berthnasol i:
    • ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu ysgol gynradd ac sy'n byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol addas agosaf
    • ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu ysgol uwchradd ac sy'n byw 3 milltir neu fwy o'r ysgol addas agosaf
  • Nid yw'r disgybl yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd tarfu eang i deithio o ganlyniad i argyfwng lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.
  • Nid yw rhan o adeiladau'r ysgol yn cael ei defnyddio am resymau na ellir eu hosgoi ac nid oes lle i'r disgyblion yn yr adeiladau sydd ar gael. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gysylltiedig â thywydd eithafol (er enghraifft, system awyru ddim yn gweithio mewn un rhan o'r ysgol a fyddai'n gofyn am ganslo'r gwersi y diwrnod hwnnw).
  • Mae’r disgyblion yn ddigon iach i fynychu ond mae rheolau neu ganllawiau ar waith gan y Llywodraeth i gyfyngu ar ledaeniad haint neu glefyd (pandemig) 

At ddibenion ystadegol, ni chyfrifir y cod hwn fel presenoldeb posibl.

5.4 Cod cofrestru: Y2

Defnyddir y cod cofrestru Y2:

  • os nad yw disgyblion yn gallu mynychu'r ysgol oherwydd tarfu eang ar deithio a achosir gan argyfwng lleol, cenedlaethol neu ryngwladol
  • os yw’r ysgol gyfan ar gau pan oedd yr ysgol i fod i gyfarfod ar gyfer sesiwn, ond mae’r sesiwn wedi’i chanslo
  • os byddai teithio i'r ysgol neu bresenoldeb yn yr ysgol yn groes i neu wedi'i gwahardd gan ganllawiau neu gyfraith yn ymwneud ag achosion o haint neu glefyd neu drosglwyddo haint neu glefyd

Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrCau ysgol gyfan
Ystyr ystadegolNi chyfrifir mewn presenoldeb posibl
Ystyr cyfreithiolAbsenoldeb oherwydd amgylchiadau eithriadol
Ystyr ffisegolNid oes angen bod yn yr ysgol

Gwybodaeth ychwanegol

  • Nid yw'r disgybl yn gallu mynychu'r ysgol oherwydd tarfu eang ar deithio a achosir gan argyfwng lleol, cenedlaethol neu ryngwladol.
  • Pan gynlluniwyd i ysgol fod ar agor am sesiwn, ond mae'r ysgol gyfan ar gau yn annisgwyl (er enghraifft oherwydd tywydd garw) ac nid yw'r gofrestr presenoldeb yn cael ei chymryd yn ôl yr arfer oherwydd nad oes sesiwn ysgol. Yn hytrach, mae'n rhaid i bob disgybl sydd wedi'i restru yn y gofrestr derbyn ar y pryd gael ei gofnodi gyda’r cod Y2 i gofnodi'r ffaith bod yr ysgol ar gau. Ni chaniateir defnyddio'r cod hwn ar gyfer unrhyw adegau lle cynlluniwyd i gau’r ysgol gyfan, megis penwythnosau neu wyliau.
  • Mae'r disgybl yn ddigon da i fynd i'r ysgol (neu byddai cod I1 wedi'i gofnodi) ond mae rheolau neu ganllawiau ar waith gan y Llywodraeth i gyfyngu ar ledaeniad haint neu glefyd sy'n dweud na ddylai fynd yno.

At ddibenion ystadegol, ni chyfrifir y cod hwn fel presenoldeb posibl.

5.5 Cod cofrestru: Z

Defnyddir y cod cofrestru Z at ddibenion gweinyddol ar gyfer disgyblion y disgwylir iddynt ymuno â chofrestr yr ysgol. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrNid yw’r disgybl ar y gofrestr eto
Ystyr ystadegolNi chyfrifir mewn presenoldeb posibl
Ystyr cyfreithiolNid yw’r disgybl wedi’i gofrestru yn yr ysgol
Ystyr ffisegolNid oes angen bod yn yr ysgol

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r cod hwn ar gael i alluogi ysgolion i sefydlu eu cofrestrau cyn y disgwylir i ddisgyblion ymuno.

Mae systemau MIS ysgolion yn storio manylion disgyblion y bwriedir eu derbyn mewn ‘grŵp cyn derbyn’ a drosglwyddir wedyn ar ddechrau'r tymor. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gan ysgolion fanylion am ddisgyblion newydd yn eu system MIS cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, nid yw rhai disgyblion yn dod i'r ysgol (am eu bod wedi dechrau yn rhywle arall) ond maent yn dal i fod ‘ar y gofrestr’ ar y cyfrifiadur nes y byddant yn cael eu cofnodi fel rhywun sydd wedi gadael yr ysgol. Tra byddant ‘ar y gofrestr’ fel hyn, fe'u dangosir fel disgyblion sy'n absennol ‘heb awdurdod’ oni ellir nodi ‘nad ydynt ar y gofrestr eto’ ar y cyfrifiadur.

O dan Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010, rhaid i ysgolion roi disgyblion ar y gofrestr dderbyn ar y diwrnod y mae'r awdurdod derbyn yn rhoi dyddiad dechrau iddynt ac nid pan fyddant yn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf, fel o'r blaen. Dylai ysgolion hefyd gofio bod yn rhaid cofnodi enw pob disgybl sydd ar y gofrestr dderbyn ar y gofrestr bresenoldeb hefyd a chofnodi eu presenoldeb.

Os disgwylir i ddisgybl gyrraedd ysgol er enghraifft mewn ‘grŵp cyn derbyn’, ond nad yw'n dod i'r ysgol, dylai'r ysgol hysbysu'r awdurdod lleol ar unwaith a marcio’r disgybl gan ddefnyddio cod N. Pan fydd yr ysgol a'r awdurdod lleol yn dod o hyd i'r disgybl drwy system a phrosesau CME yr awdurdod, dylent farcio'r disgybl yn unol â hynny.

5.6 Cod cofrestru: #

Defnyddir y cod cofrestru # ar gyfer achosion lle cynlluniwyd i gau’r ysgol gyfan. Mae'r tabl canlynol yn dangos ystyr y cod mewn gwahanol gyd-destunau.

Cyd-destunYstyr
Ystyr byrYr ysgol ar gau i ddisgyblion
Ystyr ystadegolNi chyfrifir mewn presenoldeb posibl
Ystyr cyfreithiolNi chynhaliwyd unrhyw sesiwn
Ystyr ffisegolNid oes angen bod yn yr ysgol

Gwybodaeth ychwanegol

Dylid defnyddio'r cod hwn ar gyfer achosion lle cynlluniwyd i gau'r ysgol gyfan. Er enghraifft:

  • rhwng tymhorau
  • hanner tymhorau
  • diwrnodau achlysurol pan fydd yr ysgol gyfan (gan gynnwys staff) ar wyliau
  • penwythnosau (os yw'n ofynnol gan y system)
  • ar gyfer diwrnodau hyfforddiant mewn swydd pan fo athrawon yn y gwaith ond nad ydynt yn addysgu ac nad oes angen i ddisgyblion fod yn bresennol yn yr ysgol
  • unrhyw ddiwrnodau dim cyswllt ychwanegol a ddiffinnir gan reoliadau i'w defnyddio at ddibenion cynllunio cwricwlwm neu hyfforddiant
  • defnyddio ysgolion fel gorsafoedd pleidleisio

Ni ddylid defnyddio'r cod hwn ar gyfer achosion lle mae safle ysgol gyfan neu ran ohono yn gorfod cau. Mae'r codau hyn yn cael eu diffinio gan y cod Y priodol (Y1 ar gyfer cau ysgol yn rhannol neu Y2 ar gyfer cau ysgol gyfan).

Geirfa

Addysg heblaw yn yr ysgol

Dyma unrhyw addysg a ddarperir mewn gwahanol leoliadau heblaw amgylcheddau ysgol traddodiadol gan awdurdodau lleol. Gall gynnwys ysgolion mewn ysbytai, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion arbennig annibynnol, dysgu ar-lein a darpariaeth drwy sefydliadau trydydd sector.

Addysg hyblyg

Addysg hyblyg yw lle mae’r pennaeth yn cytuno i gais gan riant i'w plentyn fynychu'r ysgol yn rhan-amser ac yn cymryd cyfrifoldeb am yr addysg ar y diwrnodau nad yw'r plentyn yn mynychu'r ysgol.

Amserlenni rhan-amser

Dyma lle mae disgyblion yn mynychu ysgolion ar sail rhan-amser yn dilyn cytundeb rhwng yr ysgol, y rhieni a'r disgybl. Mae'r amserlenni rhan-amser hyn yn aml yn cael eu rhoi ar waith ar ôl salwch neu waharddiad i gefnogi'r disgybl i ddychwelyd i'r ysgol ac ail-integreiddio’r disgybl i ddarpariaeth lawnamser.

CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed)

Mae CAMHS yn helpu plant a phobl ifanc ag anawsterau emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl.

Darpariaeth ar-lein

Mae darpariaeth ar-lein yn ddull hyblyg a chefnogol o ddarparu addysg sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddysgu o bell gyda chysylltiad â'r rhyngrwyd.

Diwrnodau hyfforddiant mewn swydd (HMS)

Mae diwrnodau HMS yn canolbwyntio ar arfogi athrawon a staff cymorth gyda'r sgiliau, yr hyder a'r strategaethau ymarferol i gyflawni'r cwricwlwm.

MIS

System wybodaeth rheoli MIS a ddefnyddir gan ysgolion i gefnogi rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd.

Uned cyfeirio disgyblion

Dyma fath o ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol sydd angen darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. Mae canran uchel o blant sy'n mynychu’r unedau hyn wedi cael eu gwahardd yn barhaol o ysgolion prif ffrwd, ond gall grwpiau eraill o ddisgyblion megis y rhai sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn barhaol, mamau beichiog ac yn eu harddegau, disgyblion ag anghenion meddygol, disgyblion yn yr ysbyty, a'r rhai a fyddai'n elwa ar gwricwlwm sy'n gysylltiedig â gwaith hefyd gael mynediad i'r math hwn o ddarpariaeth.

Ymateb ar y diwrnod cyntaf

Mae’r ysgol yn ymateb ar y diwrnod cyntaf drwy gysylltu â'r rhiant neu’r prif gyswllt i ofyn am reswm dros absenoldeb y plentyn.

Ysgolion arbennig

Gall ysgolion arbennig fod yn annibynnol neu wedi’u cynnal gan awdurdod lleol. Maent yn darparu addysg a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol y mae eu hanghenion yn rhy gymhleth neu ddifrifol i'w diwallu'n effeithiol o fewn ysgol brif ffrwd.