Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn prosesu'r data personol a gesglir gan y ffurflen adborth ymgeiswyr penodiadau cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Gall y Tîm Penodiadau Cyhoeddus wahodd ymgeiswyr i gwblhau arolwg byr ar-lein i rannu adborth ar eu profiad o’r broses recriwtio, gan gynnwys sut y daethant i wybod am y cyfle a sut y gweithiodd y broses iddynt hwy.

Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i ddeall pa mor effeithiol, hygyrch a theg yw’r dull a ddefnyddir gennym, a nodi meysydd i’w gwella.

Nid yw’r arolwg yn gofyn am enwau na manylion cyswllt oni bai y byddwch yn dewis eu darparu. Nid ydym yn mynd ati i geisio casglu data personol. Fodd bynnag, gall ymatebion testun rhydd weithiau gynnwys gwybodaeth a allai olygu y bydd modd adnabod unigolion.

Ar gyfer dibenion gwerthuso a gwella’r broses penodiadau cyhoeddus yn unig y defnyddir pob ymateb. Ni fyddant yn cael eu defnyddio i adnabod ymgeiswyr unigol os na fyddwch wedi cytuno’n benodol i’ch sylwadau gael eu priodoli i chi.

Beth byddwn ni’n ei wneud â’ch gwybodaeth

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i werthuso profiadau ymgeiswyr o’r broses recriwtio penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys sut y daethoch i wybod am y cyfle a sut y gweithiodd y broses i chi. Bydd hyn yn ein helpu i wella ymgyrchoedd yn y dyfodol a sicrhau bod ein prosesau yn parhau i fod yn deg, yn agored ac yn hygyrch.

Bydd eich ymatebion yn cael eu storio yn ddiogel a dim ond y Tîm Penodiadau Cyhoeddus fydd yn gallu cael mynediad atynt.

Os byddwch yn dewis rhoi caniatâd i’ch sylwadau gael eu rhannu’n gyhoeddus (er enghraifft, ar ein gwefan neu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol), a byddwch yn dewis darparu eich enw a’ch rôl/sefydliad, dim ond at y diben hwnnw y defnyddir yr wybodaeth hon. Mae darparu’r wybodaeth hon yn fater cwbl ddewisol.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol y byddwch yn eu darparu.

Ar gyfer gwerthuso’r broses recriwtio

Erthygl 6(1)(e) – Tasg gyhoeddus

mae angen prosesu er mwyn ymgymryd â thasg a gyflawnir er budd y cyhoedd ac wrth arfer yr awdurdod swyddogol a freiniwyd yn Llywodraeth Cymru.

Rydym yn defnyddio eich adborth i werthuso profiadau ymgeiswyr o’r broses recriwtio penodiadau cyhoeddus ac i wella sut yr eir ati i gyflawni penodiadau yn y dyfodol. Mae hyn yn cefnogi ein cyfrifoldeb i sicrhau bod prosesau recriwtio yn deg, yn agored ac yn hygyrch.

Ar gyfer rhannu sylwadau yn gyhoeddus

Caniatâd

Dim ond os ydych wedi rhoi eich caniatâd penodol y byddwn yn defnyddio eich sylwadau at ddibenion hyrwyddo.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ba hyd y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth

Dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen i werthuso a gwella’r broses recriwtio y bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei chadw.

Dim ond cyhyd ag y byddant wedi eu cyhoeddi ar ein sianeli y bydd sylwadau a rennir yn gyhoeddus yn cael eu cadw.

Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru ac eithrio pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i’ch sylwadau gael eu rhannu’n gyhoeddus.

Eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth

O dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU, mae gennych yr hawl: 

  • i gael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
  • i ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data 

Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r defnydd ohoni, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

I gael gwybod rhagor am eich hawliau mewn perthynas â gwybodaeth, cysylltwch â: 

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.