Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Heddiw, caiff ymgynghoriad ei lansio ynghylch ein cenhadaeth i fynd i’r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc ledled Cymru a rhoi diwedd ar y ffordd y caiff fêps eu dylunio a’u targedu at blant. Mae’r ymgynghoriad pedair gwlad yn nodi cynigion ar ddeunyddiau pecynnu cynhyrchion fepio, cynhyrchion tybaco a chynhyrchion nicotin, eu dyluniad a sut y cânt eu harddangos ledled y DU. Eu nod yw atal y cynhyrchion hyn rhag cael eu marchnata gan ddefnyddio lliwiau llachar, brandio cartŵn ac enwau blasau apelgar sy’n eu gwneud yn ddeniadol i blant. O ran dyfeisiau fepio, bydd hyn yn golygu cyflwyno deunyddiau pecynnu gwyn a phlaen a chyfyngu ar y disgrifiadau blasau a’r lliwiau a ddefnyddir arnynt. Yn ogystal, bydd y cynlluniau yn sicrhau bod cynhyrchion fepio yn cael eu cadw o’r golwg mewn siopau, meysydd awyr a mannau cyfanwerthu, gan ddod â’r stondinau manwerthu amlwg, sydd hefyd yn ddeniadol i blant, i ben.
Ceir lefelau pryderus iawn o fepio ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae data diweddaraf y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion o 2023 yn dangos bod dros chwarter y bobl ifanc 11-16 oed yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar fepio a bod 6.9% ohonynt yn defnyddio fêps yn wythnosol. O ran y rhai 16 oed yn benodol, mae’r ffigur defnydd wythnosol yn 16.2%. Mae ffigurau ehangach o ran y defnydd ymhlith pobl ifanc 11-17 oed ledled Prydain Fawr yn dangos bod dros 1 miliwn wedi rhoi cynnig ar fepio. Er bod fêps yn llai niweidiol na chynhyrchion tybaco, a gallant hefyd fod yn ffordd effeithiol i smygwyr sy’n oedolion roi’r gorau iddi, ceir risgiau sy’n gysylltiedig â fepio ac nid yw ei effeithiau iechyd hirdymor yn hysbys o hyd. Mae’n destun pryder felly fod plant a phobl ifanc, a phobl nad ydynt erioed wedi smygu, yn defnyddio’r cynhyrchion hyn; cynhyrchion y mae llawer ohonynt yn cynnwys nicotin sy’n sylwedd sy’n gallu gwneud pobl yn gaeth iawn iddo. Ceir hefyd enghreifftiau o gynhyrchion anghyfreithlon yn cael eu gwerthu sy’n cynnwys sylweddau peryglus fel plwm a nicel. Yn sgil y ffaith bod fepio yn gallu achosi i bobl ddod yn gaeth i nicotin a bod tystiolaeth hefyd yn awgrymu y gallai plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i’r risgiau hyn, mae hyn yn bryder mawr i’r llywodraeth hon, yn yr un modd ag i rieni, gofalwyr, ysgolion a phobl ifanc sydd eisiau rhoi’r gorau iddi. Rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â’r mater hwn, ac mae’r gwaith hwn yn gam allweddol i gyflawni hynny.
Smygu yw un o’r prif achosion o salwch a marwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru o hyd, gan achosi tua 3800 o farwolaethau bob blwyddyn, yn ogystal ag arwain at gostau o tua £1.56 biliwn bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi pob mesur angenrheidiol ar waith i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol tybaco ar iechyd yng Nghymru ac atal pobl ifanc rhag defnyddio fêps. Mae Deddf Tybaco a Fêps 2026, a ddatblygwyd ar y cyd gan bedair Llywodraeth y DU, yn creu cenhedlaeth ddi-fwg yn y DU drwy atal rhag gwerthu tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn cryfhau mesurau gorfodi, yn cyflwyno gwaharddiad ar hysbysebu a noddi fêps, ac yn cynnwys ystod o bwerau gwneud rheoliadau newydd sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc. Rwyf wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda gwledydd eraill y DU a defnyddio’r pwerau newydd hyn cyn gynted â phosibl er mwyn diogelu plant a phobl ifanc rhag y cynhyrchion hyn a sicrhau’r manteision ehangach mwyaf posibl o ran iechyd y cyhoedd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod fêps yn apelio at blant am sawl rheswm, gan gynnwys y deunyddiau pecynnu a ddefnyddir, dyluniad y cynhyrchion, eu blasau a’u bod yn hawdd cael gafael arnynt. Mae pryderon cynyddol hefyd ynghylch sut y mae cynhyrchion nicotin, fel cydau nicotin, yn ddeniadol i blant, a’r ymwybyddiaeth a’r defnydd cynyddol ohonynt ymhlith pobl ifanc. Nod y cynigion yw mynd i’r afael ag atyniad a hygyrchedd y cynhyrchion hyn er mwyn lleihau eu defnydd, yn arbennig i blant a phobl ifanc, gan hefyd barhau i sicrhau bod fêps ar gael fel cymorth rhoi’r gorau iddi i oedolion sy’n smygu. Yn benodol, mae’r ymgynghoriad yn cynnig y dylai cynhyrchion fepio a nicotin fod mewn deunyddiau pecynnu gwyn a phlaen heb lawer o ddelweddau a brandio arnynt. Cynigir hefyd y dylai dyfeisiau fod yn wyn, du neu lwyd yn unig, a hynny er mwyn lleihau eu hatyniad i blant. O ran blasau, y cynnig yw cyfyngu ar ddisgrifwyr blasau i un blas cyffredin (er enghraifft, ‘Apple’) a chyfyngu ar y defnydd o enwau sy’n apelio at blant, megis cyfeiriadau at bethau melys, losin, pwdinau neu alcohol (er enghraifft ‘Chocolate’, ‘Candy’ a ‘Bubblegum’). Ar hyn o bryd, mae’r rhai sy’n cynhyrchu fêps yn gallu, ac yn copïo dyluniad cynhyrchion eraill; cynhyrchion fel pennau amlygu, poteli ail-lenwi a dyfeisiau gemau. Mae’r ymgynghoriad felly yn cynnig y dylid cyfyngu ar atyniad posibl fêps drwy eu hatal rhag edrych fel cynhyrchion eraill.
Yn ogystal, mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gyflwyno rheoliadau newydd i sicrhau bod gofynion presennol pecynnu tybaco yn gyson ar draws yr holl gynhyrchion tybaco, cynhyrchion smygu llysieuol a phapurau sigaréts, yn ogystal â chyfyngu ar ddyluniad dyfeisiau cynhesu tybaco. Er bod sigaréts a thybaco rholio â llaw eisoes yn ddarostyngedig i reoliadau pecynnu llym, mae cynhyrchion tybaco eraill, cynhyrchion smygu llysieuol, papurau sigaréts a dyfeisiau cynhesu tybaco yn parhau i gael eu gwerthu mewn deunyddiau pecynnu deniadol sy’n aml yn lliwgar gyda brandio penodol. Bydd y cynigion ymgynghori yn golygu y bydd gan yr holl gynhyrchion hyn ddeunyddiau pecynnu plaen a byddant hefyd yn cynnwys rhybuddion ar ffurf llun (ar wahân i bapurau sigaréts oherwydd eu maint bach) i wneud defnyddwyr yn fwy ymwybodol o’r niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cynhyrchion hyn. Er mwyn helpu mwy o bobl i roi’r gorau i ddefnyddio tybaco, rydym hefyd yn cynnig ychwanegu at becynnau cynhyrchion negeseuon cadarnhaol ynghylch rhoi’r gorau iddi. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig y dylid sicrhau bod y cyfyngiadau o ran arddangos mewn siopau yn gyson ar draws y cynhyrchion hyn yn ogystal â chael gwared â’r eithriad arddangos ar gyfer swmpwerthwyr tybaco, a hynny er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer lleihau gwelededd cynhyrchion tybaco.
Er bod y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad ar gyfer y DU gyfan, mae gan Weinidogion Cymru y pwerau i wneud rheoliadau o ran ble y caniateir arddangos y cynhyrchion hyn mewn siopau yng Nghymru. Rwyf felly, yn rhan o’r cam ymgynghori, wedi cyhoeddi asesiadau effaith ar gyfer y mesurau hyn ar wefan Llywodraeth Cymru a byddwn yn croesawu barn arnynt. Gellir darllen yr asesiadau effaith hyn law yn llaw â’r asesiad a gynhaliwyd ar gynigion ehangach yr ymgynghoriad sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos a bydd yn cau ar 2 Hydref 2026. Rwy’n annog yr holl randdeiliaid a’r rhai sydd â diddordeb yn y cynigion hyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a mynegi eu barn.
