Neidio i'r prif gynnwy

Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 a 25 Mehefin 2026 ymwelais i â Dulyn a Llundain. 

Y chweched Fforwm Gweinidogol blynyddol rhwng Iwerddon a Chymru yn Nulyn oedd fy ymweliad tramor cyntaf ers dod yn Brif Weinidog. Roedd yn gyfle pwysig i nodi ymrwymiad cynnar i'r berthynas barhaus hon.

Cwrddais â Helen McEntee TD, y Gweinidog Materion Tramor a Masnach, i drafod sut y gall ein dwy wlad weithio gyda'i gilydd i gyflwyno'r Cyd-ddatganiad sy'n amlinellu cydweithredu mewn chwe maes: Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol; y Hinsawdd, Ynni, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; yr Economi a Masnach; Addysg, Ymchwil ac Arloesi; Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a Chymunedau, Cymry/Gwyddelod ar wasgar a Chwaraeon. 

Yn ystod y Fforwm, clywais gan dderbynwyr o Gynllun Grant Charlemont am brosiectau ymchwil sydd wedi cael eu datblygu ar gyfer Iwerddon a Chymru, a sut mae'r cydweithio rhwng ein gwledydd wedi cryfhau cysylltiadau academaidd ac ymchwil. Cyhoeddais i gymorth ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru i adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau newydd yn Iwerddon ar gyfer 2026–27. 

Ymunais â thrafodaeth banel, a drefnwyd gan Lywodraeth Iwerddon ar ddiplomyddiaeth chwaraeon, pwysigrwydd cefnogi cyfranogi ar lawr gwlad, yn ogystal â defnyddio chwaraeon i hyrwyddo cyfnewid diwylliannol a chryfhau cysylltiadau rhyngwladol.       

Fel rhan o’m hymweliad cefais gwrdd â'r Taoiseach, Micheál Martin TD, a’m croesawu yn yr Áras an Uachtaráin gan Arlywydd Iwerddon, Catherine Connolly. 

Ar 25 Mehefin, roeddwn i yn Llundain i gwrdd â Llysgennad yr UE i'r DU, Ei Ardderchogrwydd Pedro Serrano, a 27 Pennaeth Llysgenhadaeth yr UE. Roedd hwn yn ddigwyddiad pwysig i nodi ymrwymiad Cymru i weithio'n agosach gydag Ewrop, ddeng mlynedd ers Refferendwm yr UE. 

Gydag Iwerddon ar fin dechrau Llywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, a'r ymweliad ag Iwerddon y diwrnod blaenorol, dangosodd y ddau ddigwyddiad hyn ein hymrwymiad i weithio'n agosach gyda'r UE ar faterion a phroblemau sy'n berthnasol i Gymru.

Nodais fy uchelgeisiau i atgyfnerthu cysylltiadau economaidd a diwylliannol ag Ewrop ar ford gron ar gyfer Penaethiaid Llysgenadaethau yr UE, lle ailddatganais fy nymuniad i weithio gyda phartneriaid i ailosod y berthynas â'r UE, a chlywais sut allant gefnogi'r gwaith hwn.