Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Cyn diwedd y tymor, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau a'n gweithlu addysg ar y dyfarniad cyflog i athrawon ac ymarferwyr ôl-16 mewn colegau.
Pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, byddaf yn ymgynghori ar ddyfarniad cyflog o 3.5% i athrawon ac arweinwyr ysgolion. Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd gan bartneriaid y tu hwnt i'r broses adolygu cyflogau, byddaf hefyd yn ymgynghori ar gynnydd o 5% ar gyfer athrawon sydd heb gymhwyso.
Byddaf yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar gyfer y dyfarniad cyflog hwn. Byddaf hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i Medr i gynnal lefelau cydradd cyflogau ymarferwyr ôl-16 mewn ysgolion a cholegau.
Yn ogystal, rwy'n cyhoeddi adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru heddiw. Rwyf wedi ystyried yn ofalus argymhelliad y Corff y dylid cynyddu cyflogau a lwfansau 4.25% o fis Medi 2026. Mae sylwadau wedi dod i law hefyd ynghylch ariannu unrhyw ddyfarniad cyflog yn llawn.
Rwy'n ymwybodol o'r amgylchiadau ariannol anodd sy'n effeithio ar ysgolion a cholegau, a goblygiadau dyfarniadau cyflog heb eu hariannu i gyllidebau a niferoedd staff. Nid yw argymhelliad y Corff Adolygu Cyflogau yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol. Wrth ddod i'm penderfyniad, rwyf wedi gorfod cydbwyso'r gyllideb sydd ar gael â'r angen i gydnabod a gwobrwyo ein gweithlu.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi argymhellion eraill y byddaf yn parhau i'w hystyried dros yr haf. Yn y cyfamser, rwy'n falch o allu cadarnhau heddiw y byddaf yn ymgynghori ar weithredu dau o argymhellion blaenorol y Corff Adolygu Cyflogau.
- Un raddfa gyflog ar gyfer athrawon dosbarth fel eu bod yn symud i fyny'r raddfa gyflog ac yn gweld eu cyflog yn cynyddu yn unol â hynny, bob blwyddyn.
- Newidiadau i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) i sicrhau bod cyfnodau gwyliau a phenwythnosau arweinwyr yn cael eu diogelu.
Yn y dyfodol rwy'n bwriadu dechrau proses ystyried dyfarniadau cyflog yn gynharach fel y gellir cytuno arnynt a rhannu'r wybodaeth yn fwy prydlon.
Byddaf hefyd yn ymrwymo cyllid i gefnogi dyblu'r cyfnod pan delir cyflog llawn i athrawon yn ystod absenoldeb mamolaeth, os bydd awdurdodau lleol ac undebau yn cytuno i wneud y newid hwn drwy gontractau cyflogaeth athrawon.
