Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni yn cael ei ddarparu ledled Cymru gan:

  • NYAS Cymru
  • TGP Cymru
  • Mental Health Matters

Mae'r gwasanaeth wedi cael derbyniad da ac mae'r galw wedi cynyddu wrth i fwy o rieni geisio cymorth i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn gwasanaethau plant statudol.

O ganlyniad, mae cyllid wedi'i sicrhau am flwyddyn arall i ddarparu gwasanaeth mwy cyson i rieni ledled Cymru.

Y Weledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni yn 2026 i 2027

Mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni sydd wedi'u hyfforddi ac sy'n cael eu talu i ymgymryd â'u rôl broffesiynol fel eiriolwyr yn cynnig partneriaeth un-i-un â:

  • rhiant
  • prif ofalwr
  • unigolyn â chyfrifoldeb rhiant am blentyn sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau diogelu gwasanaethau plant awdurdod lleol

Yr hyn y mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn ei wneud

Swyddogaeth yr Eiriolwr yw cefnogi unigolion i:

  • gael dweud eu dweud mewn fforymau lle gwneir penderfyniadau ynghylch eu plant
  • deall prosesau a rolau, a gwneud penderfyniadau gwybodus
  • bod yn glir ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt
  • mynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau i weithwyr proffesiynol a fforymau sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch eu plant

Mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn gweithredu'n annibynnol ar awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol sy'n rheoli gweithdrefnau diogelu, i sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau yn y cymorth a ddarperir i rieni.

Yr hyn nad yw Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn ei wneud

Nid yw Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni:

  • yn darparu cyngor cyfreithiol nac yn gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol
  • yn gwneud penderfyniadau ar ran unigolion
  • yn disodli rôl gweithwyr cymorth, gofalwyr, na gweithwyr proffesiynol statudol
  • yn gweithredu fel corff sy'n ymdrin â chwynion

Fodd bynnag, gall eiriolwyr gefnogi unigolion i ddeall ac ymgysylltu â phrosesau cwyno lle bo hynny'n briodol.

Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Dylai rôl yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni adlewyrchu'r rôl a nodir yn Atodiad 1 o God Ymarfer Rhan 10 (Eiriolaeth) o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rhaid i Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni fod â'r sgiliau a'r cymwysterau addas i gyflawni eu rôl fel Eiriolwyr proffesiynol.

Disgwylir i hyn adlewyrchu achrediad Eirioli Lefel 4.

Dylent ymgymryd â'r gwiriadau a'r hyfforddiant sy'n ofynnol i gefnogi unigolyn agored i niwed, a gallu ei gyfeirio at gefnogaeth bellach.

Dylid cynnal gwiriadau DBS yn rheolaidd ar bob Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni.

Dylent ddilyn hyfforddiant diogelu yn unol â'r gofynion rhanbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol.

Dylai fod ganddynt ddealltwriaeth lawn o ddeddfwriaeth berthnasol fel:

  • GDPR
  • Diogelu Data
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Rhaid i'r gwasanaeth fod ar gael yn Gymraeg i rieni neu ofalwyr sy'n siarad Cymraeg.

Cymhwysedd i wneud gwaith eirioli

Darperir gwasanaethau eiriolaeth rhieni a ariennir drwy'r grant hwn i:

  • riant
  • prif ofalwr
  • unigolyn â chyfrifoldeb rhiant

am blentyn sy'n ddarostyngedig i achos diogelu gwasanaethau plant.

Ni ddylai rhieni, gofalwyr na'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant fod yn derbyn gwasanaethau eiriolaeth eraill a fyddai'n dyblygu'r gwasanaeth a gynigir drwy'r grant hwn.

Bydd y grant yn talu am gost Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni tra bydd y plant yn eu gofal yn mynd drwy brosesau diogelu'r gwasanaethau plant.

Gall hyn gynnwys cymorth o:

-'r pwynt pan fydd rhiant yn cael gwybod am y gynhadledd achos amddiffyn plant gychwynnol

  • pan fydd y plentyn wedi'i gofrestru ar y gofrestr amddiffyn plant
  • pan fydd y plentyn wedi'i ddadgofrestru

Atgyfeirio

Dylai pob darparwr hyrwyddo proses atgyfeirio glir ar gyfer Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni.

Dylai hyn gynnwys:

  • proses hunanatgyfeirio
  • atgyfeirio proffesiynol

Dylai cymorth eirioli fod ar gael cyn gynted ag y bydd y gwasanaethau plant yn cychwyn y gweithdrefnau diogelu.

Ar adegau, efallai y bydd gan deuluoedd â phlant sy'n gweithio gyda gwasanaethau plant drwy Gynlluniau Gofal a Chymorth anghenion mawr, gan gynnwys pryderon diogelu, ac y byddai'r teuluoedd yn elwa o ddeall goblygiadau a chamau nesaf y prosesau gofal cymdeithasol.

Dylai pob darparwr hefyd hyrwyddo gwasanaethau eiriolaeth rhieni eraill neu gymheiriaid drwy:

  • eu grwpiau eu hunain
  • Gaffis Rhieni os ydynt yn gweithredu o fewn eu hardal

Cynllun Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn, dylai'r eiriolwr sicrhau bod y rhiant neu'r gofalwr yn deall:

  • natur gwasanaeth yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni
  • sut y gall gefnogi'r rhiant neu'r gofalwr
  • hyd a lled y gefnogaeth
  • y disgwyliadau o ran ymgysylltu

Dylai hyn gael ei nodi mewn cytundeb neu gynllun hawdd ei ddarllen fel bod gan y rhiant neu'r gofalwr a'r eiriolwr yr un ddealltwriaeth o ran:

  • beth y mae'r rhiant eisiau ei gyflawni drwy'r gefnogaeth
  • pa mor hir y darperir y gefnogaeth
  • beth y bydd y gefnogaeth yn ei gynnwys ac na fydd yn ei gynnwys

Dylid adolygu'r cytundeb hwn yn rheolaidd.

Y gefnogaeth

Gellir darparu gwasanaeth Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni drwy brosesau diogelu ffurfiol.

Mae'r cyfarfodydd allweddol mewn gweithdrefnau diogelu yn cynnwys:

  • Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant Cychwynnol
  • Cyfarfodydd y Grŵp Craidd
  • Cyfarfodydd Adolygu Amddiffyn Plant

Yn ogystal â'r uchod, bydd angen i eiriolwyr gwrdd â'r rhieni neu'r gofalwyr i:

  • baratoi ar gyfer cyfarfodydd
  • cael sesiynau trafod

Dylid cynnwys lefel y gefnogaeth a ddisgwylir gan y darparwr yn y Cynllun.

Gall darparwyr annog rhieni neu ofalwyr hefyd i gymryd rhan mewn:

  • cyfarfodydd gyda rhieni eraill
  • fforymau gyda rhieni eraill

Yr hyn nad yw'n gymwys o dan gyllid Llywodraeth Cymru

Os bydd y broses ddiogelu yn arwain at gychwyn achos cyfreithiol, a rhieni yn cael eu hysbysu am gyfarfod cyn yr achos, ni fydd modd defnyddio'r cyllid ar gyfer gwasanaeth eiriolaeth yn ystod proses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO).

Ar y pwynt hwn, bydd cymorth cyfreithiol ar gael i rieni, a dylai eu cynghorydd cyfreithiol esbonio'r broses a'r goblygiadau iddynt.

Os bydd angen cymorth pellach, yr awdurdod lleol ddylai gomisiynu hyn fel y gall y rhiant fod yn rhan lawn o'r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus a gychwynnwyd.

Mae'r cymorth eirioli i rieni cyn achos wedi'i nodi yn Best practice guidance: Support for and work with families prior to court proceedings, Mawrth 2021, a gymeradwywyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae'r canllawiau yn nodi:

“It is...important that appropriate support is in place to facilitate the effective participation of the family. This may include non-legal advocacy services, intermediaries or interpreters, for example”.

Mae'r canllawiau yn mynd ymlaen i ddweud:

“It is crucial that the parents clearly understand this process and what is expected of them. It is important to consider learning disabilities and/or mental capacity here. Parents may require the support of an advocate or an intermediary or an interpreter if English is not their first language.”

Yn yr un modd, ni fydd y cyllid yn cwmpasu eirioli mewn perthynas ag achosion sy'n datblygu i'r pwynt lle bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cais i'r llys o dan Ddeddf Plant 1989.

Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai'r awdurdod lleol ddilyn Canllawiau Ymarfer ar y defnydd o Gyfryngwyr, Eiriolwyr Lleyg ac Asesiadau Gwybyddol.

Mater i'r Barnwr fydd y penderfyniad.

Eiriolaeth oedolion o dan Ran 10

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth i unigolion at ddibenion sy'n ymwneud â'u gofal a'u cefnogaeth eu hunain.

Gan fod gwasanaeth eiriolaeth rhieni yn ymwneud ag anghenion gofal a chymorth eu plant, efallai na fydd ganddynt hawl i wasanaeth eiriolaeth o dan Ran 10 at y dibenion hyn.

Prynu darpariaeth untro

Nid yw darparwyr wedi'u gwahardd rhag cynnig Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni i awdurdodau lleol mewn perthynas ag agweddau eraill ar brosesau statudol neu ataliol, gan gynnwys:

  • Gofal a Chymorth
  • Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO)

os yw'r awdurdod lleol yn barod i ariannu hyn ar wahân.

Fodd bynnag, bydd angen i bob darparwr asesu:

  • y capasiti o fewn eu sefydliad
  • eu gallu i gyflawni eu hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru

cyn cyflawni gwaith ychwanegol.

Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni sydd wedi'u hyfforddi ac sy'n cael eu talu i ymgymryd â'u rôl broffesiynol fel eiriolwyr yn cynnig partneriaeth un-i-un â:

  • rhiant
  • prif ofalwr
  • unigolyn â chyfrifoldeb rhiant am blentyn sy'n ddarostyngedig i weithdrefnau diogelu gwasanaethau plant awdurdod lleol

Yr hyn y mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn ei wneud

Swyddogaeth yr Eiriolwr yw cefnogi unigolion i:

  • gael dweud eu dweud mewn fforymau lle gwneir penderfyniadau ynghylch eu plant
  • deall prosesau a rolau, a gwneud penderfyniadau gwybodus
  • bod yn glir ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt
  • mynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau i weithwyr proffesiynol a fforymau sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch eu plant

Mae Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn gweithredu'n annibynnol ar awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol sy'n rheoli gweithdrefnau diogelu, i sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau yn y cymorth a ddarperir i rieni.

Yr hyn nad yw Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni yn ei wneud

Nid yw Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni:

  • yn darparu cyngor cyfreithiol nac yn gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol
  • yn gwneud penderfyniadau ar ran unigolion
  • yn disodli rôl gweithwyr cymorth, gofalwyr, na gweithwyr proffesiynol statudol
  • yn gweithredu fel corff sy'n ymdrin â chwynion

Fodd bynnag, gall eiriolwyr gefnogi unigolion i ddeall ac ymgysylltu â phrosesau cwyno lle bo hynny'n briodol.

Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Dylai rôl yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni adlewyrchu'r rôl a nodir yn Atodiad 1 o God Ymarfer Rhan 10 (Eiriolaeth) o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rhaid i Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni fod â'r sgiliau a'r cymwysterau addas i gyflawni eu rôl fel Eiriolwyr proffesiynol.

Disgwylir i hyn adlewyrchu achrediad Eirioli Lefel 4.

Dylent ymgymryd â'r gwiriadau a'r hyfforddiant sy'n ofynnol i gefnogi unigolyn agored i niwed, a gallu ei gyfeirio at gefnogaeth bellach.

Dylid cynnal gwiriadau DBS yn rheolaidd ar bob Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni.

Dylent ddilyn hyfforddiant diogelu yn unol â'r gofynion rhanbarthol ar gyfer gofal cymdeithasol.

Dylai fod ganddynt ddealltwriaeth lawn o ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys:

  • GDPR
  • Diogelu Data
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Rhaid i'r gwasanaeth fod ar gael yn Gymraeg i rieni neu ofalwyr sy'n siarad Cymraeg.

Cymhwysedd i wneud gwaith eirioli

Darperir gwasanaethau eiriolaeth rhieni a ariennir drwy'r grant hwn i:

  • riant
  • prif ofalwr
  • unigolyn â chyfrifoldeb rhiant

am blentyn sy'n ddarostyngedig i achos diogelu gwasanaethau plant.

Ni ddylai rhieni, gofalwyr na'r rhai sydd â chyfrifoldeb rhiant fod yn derbyn gwasanaethau eiriolaeth eraill a fyddai'n dyblygu'r gwasanaeth a gynigir drwy'r grant hwn.

Bydd y grant yn talu am gost Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni tra bydd y plant yn eu gofal yn mynd drwy brosesau diogelu'r gwasanaethau plant.

Gall hyn gynnwys cymorth o:

-'r pwynt pan fydd rhiant yn cael gwybod am y gynhadledd achos amddiffyn plant gychwynnol

  • pan fydd y plentyn wedi'i gofrestru ar y gofrestr amddiffyn plant
  • pan fydd y plentyn wedi'i ddadgofrestru

Atgyfeirio

Dylai pob darparwr hyrwyddo proses atgyfeirio glir ar gyfer Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni.

Dylai hyn gynnwys:

  • proses hunanatgyfeirio
  • atgyfeirio proffesiynol

Dylai cymorth eirioli fod ar gael cyn gynted ag y bydd y gwasanaethau plant yn cychwyn y gweithdrefnau diogelu.

Ar adegau, efallai y bydd gan deuluoedd â phlant sy'n gweithio gyda gwasanaethau plant drwy Gynlluniau Gofal a Chymorth anghenion mawr, gan gynnwys pryderon diogelu.

Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddai'r teuluoedd yn elwa o ddeall goblygiadau a chamau nesaf y prosesau gofal cymdeithasol.

Dylai pob darparwr hefyd hyrwyddo gwasanaethau eiriolaeth rhieni eraill neu gymheiriaid drwy:

  • eu grwpiau eu hunain
  • Gaffis Rhieni os ydynt yn gweithredu o fewn eu hardal

Cynllun Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn, dylai'r eiriolwr sicrhau bod y rhiant neu'r gofalwr yn deall:

  • natur gwasanaeth yr Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni
  • sut y gall gefnogi'r rhiant neu'r gofalwr
  • hyd a lled y gefnogaeth
  • y disgwyliadau o ran ymgysylltu

Dylai hyn gael ei nodi mewn cytundeb neu gynllun hawdd ei ddarllen.

Dylai hyn roi'r un ddealltwriaeth i'r rhiant neu'r gofalwr a'r eiriolwr o:

  • beth y mae'r rhiant eisiau ei gyflawni drwy'r gefnogaeth
  • pa mor hir y darperir y gefnogaeth
  • beth y bydd y gefnogaeth yn ei gynnwys
  • beth na fydd y gefnogaeth yn ei gynnwys

Dylid adolygu'r cytundeb hwn yn rheolaidd.

Y gefnogaeth

Gellir darparu gwasanaeth Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni drwy brosesau diogelu ffurfiol.

Mae'r cyfarfodydd allweddol mewn gweithdrefnau diogelu yn cynnwys:

  • Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant Cychwynnol
  • Cyfarfodydd y Grŵp Craidd
  • Cyfarfodydd Adolygu Amddiffyn Plant

Yn ogystal â'r uchod, bydd angen i eiriolwyr gwrdd â'r rhieni neu'r gofalwyr i:

  • baratoi ar gyfer cyfarfodydd
  • cael sesiynau trafod

Dylid cynnwys lefel y gefnogaeth a ddisgwylir gan y darparwr yn y Cynllun.

Gall darparwyr annog rhieni neu ofalwyr hefyd i gymryd rhan mewn:

  • cyfarfodydd gyda rhieni eraill
  • fforymau gyda rhieni eraill

Yr hyn nad yw'n gymwys o dan gyllid Llywodraeth Cymru

Os bydd y broses ddiogelu yn arwain at gychwyn achos cyfreithiol, a rhieni yn cael eu hysbysu am gyfarfod cyn yr achos, ni fydd modd defnyddio'r cyllid ar gyfer gwasanaeth eiriolaeth yn ystod proses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO).

Ar y pwynt hwn, bydd cymorth cyfreithiol ar gael i rieni, a dylai eu cynghorydd cyfreithiol esbonio'r broses a'r goblygiadau iddynt.

Os bydd angen cymorth pellach, yr awdurdod lleol ddylai gomisiynu hyn fel y gall y rhiant fod yn rhan lawn o'r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus a gychwynnwyd.

Mae'r cymorth eirioli i rieni cyn achos wedi'i nodi yn Best practice guidance: Support for and work with families prior to court proceedings (Mawrth 2021), a gymeradwywyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Mae'r canllawiau yn nodi:

“It is...important that appropriate support is in place to facilitate the effective participation of the family. This may include non-legal advocacy services, intermediaries or interpreters, for example”.

Mae'r canllawiau yn mynd ymlaen i ddweud:

“It is crucial that the parents clearly understand this process and what is expected of them. It is important to consider learning disabilities and/or mental capacity here. Parents may require the support of an advocate or an intermediary or an interpreter if English is not their first language.”

Yn yr un modd, ni fydd y cyllid yn cwmpasu eirioli mewn perthynas ag achosion sy'n datblygu i'r pwynt lle bydd yr awdurdod lleol yn gwneud cais i'r llys o dan Ddeddf Plant 1989.

Mewn amgylchiadau o'r fath, dylai'r awdurdod lleol ddilyn Canllawiau Ymarfer ar y defnydd o Gyfryngwyr, Eiriolwyr Lleyg ac Asesiadau Gwybyddol.

Mater i'r Barnwr fydd y penderfyniad.

Eiriolaeth oedolion o dan Ran 10

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth i unigolion at ddibenion sy'n ymwneud â'u gofal a'u cefnogaeth eu hunain.

Gan fod gwasanaeth eiriolaeth rhieni yn ymwneud ag anghenion gofal a chymorth eu plant, efallai na fydd ganddynt hawl i wasanaeth eiriolaeth o dan Ran 10 at y dibenion hyn.

Prynu darpariaeth untro

Nid yw darparwyr wedi'u gwahardd rhag cynnig Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni i awdurdodau lleol mewn perthynas ag agweddau eraill ar brosesau statudol neu ataliol, gan gynnwys:

  • Gofal a Chymorth
  • Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO)

os yw'r awdurdod lleol yn barod i ariannu hyn ar wahân.

Fodd bynnag, bydd angen i bob darparwr asesu:

  • y capasiti o fewn eu sefydliad
  • eu gallu i gyflawni eu hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru

cyn derbyn gwaith ychwanegol.

Gwasanaeth Eiriolaeth Cymheiriaid

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Cymheiriaid, a ddisgrifir yng Nghod Ymarfer Rhan 10, yn cyfeirio at sefyllfa lle mae unigolyn sy’n rhannu profiad neu gefndir cyffredin yn eirioli ar ran unigolyn arall.

O fewn y fframwaith hwn, mae modd i rieni sydd â phrofiad personol o wasanaethau plant statudol eirioli ar ran rhieni eraill sy'n delio â phrosesau tebyg.

Gall y rhieni hyn sy'n eirioli ar ran cyd-rieni eu helpu i:

  • ddeall prosesau
  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd
  • mynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau
  • adeiladu hyder
  • lleihau'r ymdeimlad eu bod wedi'u hynysu

Gall eu profiad personol helpu i feithrin ymddiriedaeth ac ategu, ond nid disodli, rôl Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni.

Gellir defnyddio gwasanaeth eiriolaeth cymheiriaid:

  • cyn cymorth Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni
  • ochr yn ochr â chymorth Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni
  • ar ôl cymorth Eiriolwyr Proffesiynol Annibynnol ar ran Rhieni

Gall fod yn fodd gwerthfawr o gynyddu neu o leihau'r mewnbwn, yn dibynnu ar anghenion y rhiant.

Cyd-eiriolaeth rhieni ar ran ei gilydd

Mae cyd-eiriolaeth rhieni ar ran ei gilydd yn dod â rhieni ynghyd i:

  • rannu profiadau
  • adeiladu rhwydweithiau cymorth
  • lleihau'r ymdeimlad o fod wedi'u hynysu
  • cryfhau eu hyder wrth ymgysylltu â gwasanaethau

Gallai hyn gynnwys grwpiau wedi'u hwyluso a mentrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel model Caffis Rhieni Teuluoedd Cryf.

Bydd cyllid ar gyfer 2026 i 2027 yn cefnogi'r gwaith o ehangu model Caffis Rhieni drwy Rwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru, ac o'i ymestyn i ardaloedd awdurdodau lleol ychwanegol.

Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru: Caffi Rhieni a Chaffi Lles Teuluoedd Cryf

Rôl Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yw darparu cymorth cydlynu, hyfforddi a gweithredu cenedlaethol ar gyfer modelau Caffis Rhieni a Chaffis Lles ledled Cymru.

Nod modelau Caffis Rhieni a Chaffis Lles yw:

  • cefnogi ymyrraeth gynnar ac atal problemau
  • bod o ddefnydd priodol o fewn cyd-destunau diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys lle mae angen cymorth mewn sefyllfa sy'n gwaethygu, meithrin ymddiriedaeth a chryfhau ffactorau sy'n gwarchod lles unigolion

Rôl Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yw meithrin gallu yn hytrach na gweithredu'n uniongyrchol.

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar arfogi awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredu â'r sgiliau, yr hyder a'r strwythurau sydd eu hangen i ddarparu'r Caffis yn annibynnol ac mewn ffordd gynaliadwy o fewn eu gwasanaethau a'u cymunedau eu hunain.

Bydd gofyn i awdurdodau lleol ac asiantaethau partner ystyried a chynllunio ar gyfer yr adnoddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y model yn ymwreiddio mewn ffordd gynaliadwy y tu hwnt i'r cyfnod hyfforddi cychwynnol.

Gall Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru ddarparu:

  • cymorth gweithredu ychwanegol
  • gwasanaeth ymgynghori
  • camau datblygu dilynol lle bo angen

Byddai'r cymorth hwn ar gael drwy gomisiwn, ac yn dilyn strwythur ffioedd y cytunir arno.

Trosolwg o fodelau Caffis Rhieni a Chaffis Lles

Sgyrsiau strwythuredig a hwylusir yw Caffis Rhieni, sy'n dod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd mewn mannau emosiynol ddiogel, heb feirniadaeth.

2026 i 2027 yw Blwyddyn 1 proses gyflwyno Caffis Rhieni yn genedlaethol, sy’n dechrau gyda 4 i 6 awdurdod yn y flwyddyn gyntaf hyd nes y sicrheir cyllid pellach.

Mae'r model yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar:

  • leihau ynysu
  • cryfhau hyder a gwydnwch rhieni
  • rhoi cyfle i ystyried, cydgefnogi a chysylltu

Mae Caffis Lles yn seiliedig ar yr un fframwaith, ac mae iddynt ffocws ychwanegol ar lesiant ac adferiad, gan gynnwys:

  • iechyd emosiynol
  • iechyd corfforol
  • iechyd perthynol

Mae'r ddau fodel wedi'u cynllunio i ategu'r systemau statudol, nid eu disodli.

Maent yn arbennig o addas ar gyfer meithrin perthynas, strategaeth a ddefnyddir mewn cymorth cynnar a diogelu.

Yr hyn y bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn ei gyflawni

Cydlynu cenedlaethol a goruchwylio ansawdd

Bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn:

  • darparu arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer rhaglen Caffis Rhieni a Chaffis Lles yng Nghymru
  • gweithredu fel pwynt cyswllt canolog rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau partner
  • cydlynu'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau hyfforddi
  • goruchwylio llywodraethiant a sicrhau ansawdd
  • sicrhau y dilynir fframwaith Caffis Rhieni Teuluoedd Cryf Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni
  • cefnogi cysondeb yn yr arferion ledled Cymru, gan ganiatáu hyblygrwydd i ddiwallu anghenion lleol ar yr un pryd

Mae'r swyddogaeth hon yn sicrhau bod y model yn cael ei weithredu'n ddiogel, yn egwyddorol ac mewn ffordd gyson, yn enwedig yng nghyd-destun diogelu.

Hyfforddiant a chymorth gweithredu

Bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn darparu:

  • hyfforddiant deuddydd i hwyluswyr Caffis Rhieni
  • hyfforddiant undydd ar gyfer Caffis Lles
  • dau ddiwrnod o gymorth pwrpasol gan gynghorwyr i helpu ardaloedd i sicrhau bod y model yn ymwreiddio'n ymarferol

Mae carfanau hyfforddi fel rheol yn cynnwys:

  • gweithwyr proffesiynol
  • rhieni sydd â phrofiad personol

Fel arfer, mae tua 20 ym mhob carfan, ond gall y nifer amrywio rhwng 6 a 25, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.

Mae'r cymorth gweithredu yn canolbwyntio ar:

  • gefnogi gwasanaethau i ddarganfod sut i ddefnyddio'r ddarpariaeth yn briodol mewn llwybrau cymorth cynnar neu ddiogelu
  • sicrhau eglurder ynghylch hyd a lled y ddarpariaeth a llwybrau atgyfeirio priodol
  • cefnogi'r ddarpariaeth a'r dysgu cychwynnol wrth i'r Caffis ymsefydlu

Rhannu gwybodaeth ac adnoddau dysgu

Bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn darparu:

  • dysgu creiddiol a deunyddiau hyfforddi
  • adnoddau ymarferol sy'n gydnaws â'r model
  • cyfleoedd i rannu'r hyn a ddysgir ar draws awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig

Graddfa a ffocws y ddarpariaeth 2026 i 2027

Bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn parhau i gefnogi'r ddarpariaeth sydd eisoes ar y gweill yn:

  • Sir Benfro – gan sicrhau bod y model yn ymwreiddio yn dilyn hyfforddiant cychwynnol Caffis Rhieni
  • Caerdydd – gan barhau i hyfforddi ac ehangu ar gyfer carfan fwy
  • Castell-nedd Port Talbot – gan adeiladu ar hyfforddiant cynnar Dechrau'n Deg/Gwasanaethau Cymorth i Rieni a gwasanaethau mewnol yr ALl

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar gryfhau ac ymwreiddio, gan sicrhau bod yr hyfforddiant yn arwain at arfer cyson.

Ochr yn ochr â hyn, bydd Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru yn dechrau proses ymgysylltu strwythuredig â 4 i 6 awdurdod lleol arall, yn amodol ar eu parodrwydd a'r capasiti sydd ar gael, gan sicrhau bod y Gogledd yn cael ei chynnwys yn weithredol yng ngweithgarwch Blwyddyn 1.

Defnydd o'r caffis mewn cyd-destunau cymorth cynnar a diogelu

Gall awdurdodau lleol ddefnyddio modelau Caffis Rhieni a Chaffis Lles mewn ffordd hyblyg.

Cymorth cynnar / Atal problemau

  • Meithrin ffactorau sy'n gwarchod lles unigolion
  • Cefnogi teuluoedd wrth i anghenion ddod i'r amlwg
  • Cymorth mewn sefyllfa sy'n gwaethygu i osgoi atgyfeirio i wasanaethau statudol

Diogelu a Amddiffyn Plant

  • Cefnogi datblygiad perthynol ochr yn ochr â phrosesau statudol
  • Darparu mannau diogel, nad ydynt yn stigmateiddio, i rieni dan straen
  • Atal sefyllfa rhag gwaethygu ac ymgysylltu

Nid yw'r model yn disodli penderfyniadau neu brosesau statudol.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth wedi'i fwriadu ar gyfer:

  • awdurdodau lleol
  • asiantaethau partner sy'n gweithio gyda theuluoedd
  • gwasanaethau sy'n darparu cymorth cynnar, cymorth i deuluoedd neu swyddogaethau diogelu

Rhaid wrth ymrwymiad i sicrhau bod y model yn ymwreiddio'n lleol ar ôl yr hyfforddiant.

Beth nad yw wedi'i gynnwys?

Nid yw'r cyllid bras a nodwyd yn cwmpasu:

  • darpariaeth uniongyrchol, barhaus y Caffis Rhieni gan staff Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru
  • cyllid gweithredol hirdymor ar gyfer darparu Caffi yn lleol
  • cludiant, gofal plant, llogi lleoliad neu dreuliau'r gweithwyr
  • gweithgarwch gwerthuso ffurfiol
  • y gwaith cyson o oruchwylio neu reoli'r hwyluswyr lleol

Pryd daw cysylltiad Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru â'r gwaith i ben

Fel rheol, daw cysylltiad a chymorth Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Cymru i ben ym mhob awdurdod unwaith:

  • y bydd yr hyfforddiant wedi'i gyflwyno
  • y bydd y cymorth gweithredu y cytunwyd arno wedi'i ddarparu

Adrodd

Bydd darparwyr yn adrodd ar eu gweithgareddau a’u heffaith drwy dempled adrodd cenedlaethol.

Caiff yr adroddiadau eu defnyddio i:

  • werthuso canlyniadau ac effaith y gwasanaethau
  • helpu i ledaenu’r arferion gorau.

Adrodd

Bydd darparwyr yn adrodd ar eu gweithgareddau a’u heffaith drwy dempled adrodd cenedlaethol.

Caiff yr adroddiadau eu defnyddio i:

  • werthuso canlyniadau ac effaith y gwasanaethau
  • helpu i ledaenu’r arferion gorau

Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm: PlantSynDerbynGofal@llyw.cymru