Neidio i'r prif gynnwy

Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y dywedais yn fy Natganiad Llafar ar 9 Mehefin, mae cartref diogel a chynnes yn rhywbeth y dylai pawb yng Nghymru ei gael. Cartref ydy'r sylfaen ar gyfer ein hiechyd a'n lles, ein cysylltiad â'n cymunedau a'n gallu ni i ddysgu ac i weithio. Rwy'n benderfynol o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon, a fydd yn ein galluogi i fynd i'r afael â digartrefedd, i gadw pobl allan o lety dros dro anaddas, i wneud tai yn fwy fforddiadwy ac i roi mwy o ddewis i bobl dros ble maen nhw'n byw.

Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi'r gwaith o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030, gan sicrhau eu bod o ansawdd uchel ac yn effeithlon o ran ynni. Ers dechrau yn y swydd hon, mae'r cyflenwad presennol o dai cymdeithasol y mae ein partneriaid wedi'u datblygu, a'r rhai sydd yn yr arfaeth, wedi creu argraff arnaf. Byddaf yn gweithio'n ddiflino gydag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, grwpiau cymunedol ac adeiladwyr cartrefi eraill i gyflawni'r targed hwn.

Rwyf wedi ei gwneud yn glir y bydd y targed hwn yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy a fydd yn parhau i fod yn hygyrch i gymunedau yn yr hirdymor. Felly, bydd wedi'i gyfyngu i dai ar renti cymdeithasol a thai a osodir ar lefelau rhent canolraddol pan fo fforddiadwyedd wedi'i sicrhau yn barhaol. Mae hyn yn cynnwys tai, sy'n perthyn i'r categorïau hynny, a gaiff eu darparu gan brosiectau tai dan arweiniad y gymuned.

Ochr yn ochr â chartrefi newydd, bydd stoc ychwanegol sy'n dod i'r sector cymdeithasol drwy gaffael hefyd yn rhan o'r broses o gyflawni'r targed. Mae angen rhagor o gartrefi ym mhob cwr o Gymru ar unwaith. Felly, mae'n hanfodol bod partneriaid wedi'u harfogi i ymateb i'r mater brys hwn, gan gynnwys drwy ddefnyddio prosesau caffael yn briodol. 

Mae ystadegau swyddogol perthnasol eisoes yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol fel rhan o ystadegau Darpariaeth Tai Fforddiadwy

Bydd unrhyw gartrefi a ddarperir ar gyfer renti cymdeithasol neu a osodir ar lefelau rhent canolraddol a werthir, yn cael eu didynnu o'r cynnydd o ran cyflawni'r targed. 

Er nad yw'r data swyddogol a gesglir yn cynnwys gwybodaeth benodol am lefelau carbon, mae'n ofynnol i bob cartref sy'n cyfrif tuag at y targed fodloni safonau penodol gan gynnwys effeithlonrwydd ynni. Bydd manylion y safonau yn parhau i gael eu nodi mewn adroddiad ansawdd sy'n cyd-fynd ag ystadegau swyddogol ar Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy.

O ran y cerrig milltir a mesur cynnydd, rydym wedi gosod cyfnod cyfunol o bedair blynedd ledled y wlad i gyflawni'r targed, gan gydnabod nad yw'r cylch o ddod â chartrefi o'r cam cyflenwi arfaethedig i gwblhau'r gwaith adeiladu yn un llinol.

Bydd cyfnod cyflawni'r targed yn rhedeg o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2030 i gyd-fynd ag ystadegau swyddogol.

Drwy ddiffinio'r targed yn y modd hwn, rydym yn bod yn gwbl dryloyw ac yn sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n gadarn ar ddarparu cartrefi sy'n parhau i fod yn fforddiadwy yn yr hirdymor 

At hynny, bydd sicrhau cynnydd mewn perthynas ag argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy, ochr yn ochr â symud y broses o sefydlu Unnos yn ei blaen, yn golygu ein bod yn canolbwyntio'n gadarn ar gefnogi'r gwaith cyflawni.

Bydd Unnos yn ein cefnogi i ddatgloi'r rhwystrau sydd wedi dal yn ôl cyflawni tai ers blynyddoedd. Byddaf yn egluro ei bwrpas a'i gyfundrefn yn fwy manwl, yn ystod y 100 diwrnod cyntaf o’n Llywodraeth.

Rwy’n benderfynol hefyd o leihau cymhlethdod a biwrocratiaeth y prosesau cynllunio. Fel cam cyntaf, yn ystod ein 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 a Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026, gan nodi ein dull, y camau allweddol a'r amserlen ar gyfer eu gweithredu.

Rydym hefyd wedi ymrwymo yn ein maniffesto i archwilio cyfleoedd i gael mwy o hawliau datblygu caniatáu yn ymwneud â thai dan arweiniad y gymuned a gwneud yn haws troi adeiladau gwag ar brif strydoedd a lleoedd uwchben siopau yn breswylfeydd. Gallai’r mesurau hyn helpu i sicrhau mwy o dai cymdeithasol yn y cymunedau lleol ac adfywio canol trefi.

Fel yr wyf wedi bod yn glir eisoes, bydd y llywodraeth hon hefyd yn parhau i hyrwyddo a chefnogi ystod o bolisïau tai eraill sy'n darparu cartrefi fforddiadwy, sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau.