Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi manylion Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol cyllid Llywodraeth Leol yn 2015-16.  Maent yn cynnwys dyraniadau arian craidd ar gyfer Awdurdodau Lleol unigol.

Wrth baratoi’r Setliad Terfynol, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion a gefais i’r ymgynghoriad ar y Setliad Dros Dro. Rwyf yn hyderus ei fod yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio ariannol gan yr Awdurdodau Lleol am y flwyddyn ariannol i ddod.

Am y flwyddyn nesaf, rwyf yn pennu cyllid refeniw Llywodraeth Leol yn  £4.125 biliwn.  Mae hyn rywfaint yn uwch nag y cyhoeddais yn y Setliad Dros Dro.

Mae’r cyfanswm yn ostyngiad o 3.4% (£145 miliwn) o’i gymharu â 2014-15, ar ôl ei addasu ar gyfer trosglwyddiadau.

Fel y cyhoeddais yn y Setliad Dros Dro, er mwyn cyfyngu’r newid ar gyfer unrhyw awdurdod unigol, byddaf unwaith eto’n defnyddio mecanwaith lleddfu fel na fydd unrhyw Awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 4.5% yn ei ddarpariaeth graidd o’i gymharu â 2014-15.  Er mai’r Setliad heb ei neilltuo yw’r ffynhonnell fwyaf o gyllid sydd ar gael i’r awdurdodau, nid dyna’r unig ffynhonnell.  Rhaid i’r Awdurdodau gymryd i ystyriaeth yr holl ffrydiau incwm sydd ar gael iddynt wrth bennu eu cyllidebau ac wrth wneud penderfyniadau ynghylch darparu gwasanaethau ar gyfer 2015-16.

Ochr yn ochr â’r Setliad, rwyf yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2015-16.  Mae hyn yn rhoi darlun cynhwysfawr i’r Awdurdodau Lleol o’r arian oddi wrth Lywodraeth Cymru am 2015-16, gan ganiatáu iddynt gyllidebu yn effeithiol.  

Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad terfynol Cyllid Allanol Cyfun rhwng y 22 Awdurdod ar gyfer 2015-16.  

Yn niffyg gwybodaeth am gynlluniau gwario Llywodraeth y DU, ni allaf ddarparu dangosyddion y tu hwnt i 2015-16.

Mae’r cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Adroddiad Cyllid llywodraeth Leol ar gyfer 2015-16 wedi’i amserlennu i’w drafod ar 13 Ionawr 2015.