Neidio i'r prif gynnwy

Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Digwyddiadau cyfredol:
Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ysgrifennaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth ganser genedlaethol, yn unol â'n hymrwymiad. 

Does dim amheuaeth mai canser – prif achos cyffredinol marwolaethau yng Nghymru – yw un o'r blaenoriaethau iechyd mwyaf dybryd sy'n wynebu pob economi ddatblygedig yn y byd gorllewinol.

Fel y soniais yn ystod y cyfarfod llawn ar 17 Mehefin, bydd llawer ohonom yn gyfarwydd â'r ystadegyn y bydd un o bob dau o bobl yn cael eu heffeithio gan ganser yn ystod eu hoes. Ond ni ddylai hwn fod yn ystadegyn i ddychryn pobl; yn hytrach, dylai ein sbarduno i weithredu.

Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd Strategaeth Ganser Genedlaethol deng mlynedd yn cael ei datblygu ar gyfer Cymru. Strategaeth ganser gyntaf Llywodraeth Cymru ers 2006.

Bydd ein strategaeth ganser newydd yn amlinellu dyfodol uchelgeisiol ar gyfer gofal canser yng Nghymru.

Bydd yn rhoi'r eglurder sydd ei angen ar y GIG yng Nghymru i ganolbwyntio ar y set hon o amodau ac i ddarparu gwell gwasanaethau a gwell canlyniadau i bobl Cymru.

Bydd yn ailddatgan ein hymrwymiad i gyflawni amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer canser sydd gyda'r gorau yn Ewrop, yn cefnogi'r GIG i baratoi ar gyfer newid ac arloesi mewn ymarfer clinigol yn y dyfodol, yn amlinellu ein dull o atal a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a gwledig, ac yn helpu i fwrw ymlaen â'n hymrwymiadau maniffesto ehangach ar ganser.

Rwy'n bwriadu cyflwyno ein strategaeth mewn pryd ar gyfer Diwrnod Canser y Byd ar 4 Chwefror 2027. Bydd hon yn foment bwysig i Gymru nodi ei chyfraniad a'i huchelgais yn yr ymdrech fyd-eang yn erbyn canser.

Fel aelod o Sefydliad Canser Ewrop, rwy'n awyddus ein bod ni yng Nghymru yn dysgu o arferion gorau ac arloesi rhyngwladol a chynnal cysylltiadau agos â'n partneriaid Ewropeaidd.

Byddwn yn cysylltu â'r GIG, y trydydd sector, a phartneriaid eraill dros y misoedd nesaf i drafod gyda nhw a chlywed eu barn am yr hyn sydd angen digwydd.

Rwyf eisoes wedi gofyn am gyfarfod gyda Chynghrair Canser Cymru sy'n cynnwys mwy na deg ar hugain o elusennau sy'n gysylltiedig â chanser i glywed eu barn a'u hawgrymiadau.

Byddwn yn lansio galwad ffurfiol am dystiolaeth o fewn 100 diwrnod cyntaf y llywodraeth newydd, i roi cyfle i bobl helpu i lunio datblygiad y strategaeth, gan sicrhau bod ein dull wedi'i seilio ar y dystiolaeth ddiweddaraf ac yn cael ei arwain yn glinigol.

Ac rwy'n gofyn i'r Aelodau, eu hetholwyr, a'r holl randdeiliaid eraill sydd â buddiant mewn gofal a chanlyniadau canser i rannu eu mewnwelediadau fel rhan o'r broses honno. O ystyried y bydd canser yn effeithio ar un o bob dau ohonom yn ystod ein bywydau, rwy'n benderfynol o sicrhau hynny.

Mae gennym hefyd amryw o ymrwymiadau pwysig eraill yn ymwneud â chanser, ac rydym yn symud ar gyflymder i'w cyflawni.

Yn unol â'n cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, rydym yn datblygu opsiynau ar gyflwyno egwyddorion Hawl i Gael Eich Anghofio i gefnogi pobl sydd wedi gwella o ganser ers peth amser ond a allai wynebu anhawster o hyd wrth gael mynediad at wasanaethau ariannol.

Rydym wedi dechrau edrych ar y potensial o gael cronfa teithio a llety i blant a phobl ifanc sy'n mynd i'w hapwyntiadau canser, a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.

Rydym hefyd yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer sefydlu Canolfan Diagnostig Cyflym newydd ym Mhowys er mwyn mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth yn y sir, rydym wedi gofyn am ymweliad gan fenter Canser Pulse Ewrop ar gyfer 2027 i asesu’r gwahaniaethau rhanbarthol a chymdeithasol mewn ansawdd gofal canser yng Nghymru ac rydym yn y broses o drefnu Cynhadledd Canser Cymru ar gyfer 2027, gan ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid ynghyd i rannu arferion gorau a'r arloesedd diweddaraf ar ofal canser o bob cwr o Gymru. 

Mae cyflawni gwelliannau i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rwyf wedi bod yn glir na all cyhoeddi'r strategaeth aros.

Dros y chwe mis nesaf hyd at Chwefror 2027, byddwn yn symud ar gyflymder sylweddol i adolygu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac i ddrafftio a chytuno ar ein strategaeth, a’i chyhoeddi. 

Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad clir i wella gofal canser a byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid i wella canlyniadau canser i'n pobl.