Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi amlinellu ei gynlluniau i adeiladu system dysgu gydol oes gydlynol, hygyrch a rhagorol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod archwiliad sgiliau cenedlaethol cynhwysfawr ar y gweill i fapio anghenion y gweithlu ledled Cymru heddiw ac yn y dyfodol, nodi lle mae prinder, a llywio penderfyniadau buddsoddi. Bydd canfyddiadau cynnar yr archwiliad yn bwydo i mewn i Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol yr hydref hwn, gan ddod â busnesau, y sector trydyddol a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd.

Mae strategaeth genedlaethol newydd hefyd yn cael ei datblygu, gan dynnu ar yr Uwchgynhadledd a’r Archwiliad, i gefnogi dysgwyr mewn marchnad lafur sy’n newid a hyrwyddo llwybrau galwedigaethol ac academaidd.

Gan gydnabod y pwysau sy’n wynebu colegau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion, ymrwymodd y Dirprwy Weinidog i weithio’n agos gyda’r sector i fynd i’r afael â heriau ac annog mwy o gydweithio.

Bydd adolygiad o addysg uwch hefyd yn cael ei lansio, a bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd mis Awst.

Ymrwymodd y Dirprwy Weinidog hefyd i wneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru astudio a gweithio yn Ewrop, gan gynnwys drwy ailymuno ag Erasmus+.

Mae opsiynau hefyd yn cael eu harchwilio i ddiwygio Rhwydwaith Seren er mwyn mynd i’r afael yn well â bylchau o ran y rhai sy’n manteisio, a chefnogi dysgwyr o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.

Mae ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws y system drydyddol yn flaenoriaeth graidd, gan gynnwys prentisiaethau a gallu dwyieithog yn y gweithle.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae pob dysgwr yn haeddu’r cyfle i lwyddo, pa bynnag lwybr maen nhw’n ei ddewis. Bydd ein hadolygiad o gyllid addysg uwch yn helpu i sicrhau bod ein prifysgolion yn gallu parhau i gynnig cyfleoedd sydd gyda’r gorau yn y byd i ddysgwyr yng Nghymru. A thrwy wrando ar fusnesau, colegau a darparwyr hyfforddiant, gallwn adeiladu system sgiliau sydd wir yn gweithio i bobl a chymunedau ledled Cymru. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system dysgu gydol oes sy’n gweithio i bawb.