Codi tâl cerbyd trydan yn y gweithle: canllaw i gyrff cyhoeddus
Sut y gall codi tâl yn y gweithle helpu gweithwyr i newid i geir trydan.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gall gwefru cerbydau trydan batri yn y gweithle gynnig manteision amgylcheddol a chymdeithasol, a gall helpu i ysgogi cyflogeion i newid eu cerbyd preifat am gerbyd trydan, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt efallai yn gallu gwefru yn eu cartref.
Gellir gosod seilwaith gwefru yn y gweithle yn arbennig ar gyfer cerbydau'r staff, neu gallai fod yn rhan o gynllun ehangach, megis caniatáu i staff ddefnyddio seilwaith gwefru yn ystod y dydd a osodwyd yn bennaf i wefru fflyd busnes y sefydliad dros nos.
Yn 2025, roedd 23.4% o gofrestriadau ceir newydd yn gerbydau batri trydan, cynnydd o 16.6% yn 2022. Ym mis Mawrth 2026, mae bron i 2 filiwn o gerbydau trydan batri ar ffyrdd y DU. Ar ôl y cartref, mae'n debyg mai'r gweithle yw'r ail le mwyaf tebygol y caiff cerbyd ei barcio'n rheolaidd, ac am sawl awr.
Mae Cyfrifiad Cymudwyr Mobilityways 2025 yn dangos bod hyd at 97% o weithwyr y DU yn cymudo i'r gwaith o leiaf rywfaint o'r amser, a gweithwyr yn gweithio o'r gweithle am 3.4 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd. Mae ystadegau trafnidiaeth y DU yn dangos bod 67% o weithwyr yn cymudo mewn car fel arfer yn 2024, gan godi i 79% yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod nifer sylweddol o geir wedi'u parcio mewn gweithleoedd yn ystod y dydd. Os gall seilwaith gwefru yn y gweithle ysgogi'r newid i gerbydau trydan, mae cyfle sylweddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac ansawdd aer o gymudo.
Manteision darparu cyfleusterau gwefru yn y gweithle
Gall darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan i gyflogeion yn y gweithle fod ag amrywiaeth o fanteision, i'r cyflogwr a'r cyflogai, gan gynnwys:
Gwella delwedd y cyhoedd
Gwella canfyddiad y cyhoedd o'r sefydliad, gan ddangos ymrwymiad blaenllaw i gynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, i gyflogeion, cwsmeriaid, a'r gymuned ehangach.
Cefnogi recriwtio a chadw staff
Budd o ran recriwtio, boddhad a chadw cyflogeion – o ran darparu budd staff uniongyrchol, a gweithio i sefydliad sydd â gwerthoedd amgylcheddol a chymdeithasol amlwg.
Lleihau allyriadau teithio
Cymell cyflogeion i newid i gerbydau trydan, sydd yn ei dro yn lleihau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 3 yn ogystal ag allyriadau ansawdd aer sy'n gysylltiedig â fflyd lwyd y sefydliad (teithio busnes staff) a chymudo.
Creu refeniw ychwanegol
Cynhyrchu refeniw ychwanegol o ddefnydd dydd o seilwaith gwefru wedi'i osod yn bennaf ar gyfer gwefru cerbydau fflyd dros nos.
Cefnogi iechyd batri a theithiau hwyrach
Galluogi cyflogeion i gynnal batri eu cerbydau trydan o fewn gwefr o 20-80%, sy'n optimaidd ar gyfer iechyd y batri, a lliniaru unrhyw bryderon o ran cyrraedd teithiau arbennig o hir.
Cynorthwyo gweithwyr heb godi cartref
Helpu i oresgyn y rhwystr o wefru yn y cartref: amcangyfrifir nad oes gan 35% o gartrefi yn y DU, neu 25% o gartrefi yng Nghymru, barcio oddi ar y stryd. Trwy ddarparu gwefru yn y gwaith ac am bris tebyg i wefru yn y cartref, gall y cyflogwr ddarparu budd cymdeithasol sylweddol a galluogi'r cyflogeion hyn i newid i gerbydau trydan, heb orfod dibynnu ar seilwaith cyhoeddus drutach.
Cefnogi cynlluniau aberthu cyflog ar gyfer cerbydau trydan
Yn cefnogi cyflwyno cynllun aberthu cyflog am gar trydan yn unig (sy'n fuddiol wrth leihau allyriadau teithio busnes staff), drwy wneud y cynllun yn fwy hygyrch i bob cyflogai cymwys. Gellid rhoi tâl blaenoriaeth a/neu ddisgownt i staff sydd heb le parcio oddi ar y stryd.
Ystyriaethau o ran seilwaith gwefru cerbydau trydan
Er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan yn benderfyniad llwyddiannus, gall fod yn ddefnyddiol gwerthuso'r galw posibl gan gyflogeion, rhai presennol a rhai a rhai yn y dyfodol – yn enwedig os yw'r seilwaith ar gyfer cyflogeion yn bennaf, yn hytrach na gwneud defnydd ychwanegol o seilwaith gwefru'r fflyd. Dylai arolwg cyflogeion effeithiol helpu'r sefydliad i fesur y galw, nodi rhwystrau posibl i hygyrchedd a'u goresgyn, a gwerthuso cynlluniau ad-dalu.
Unwaith y bydd y system wedi'i gosod, bydd hyrwyddo a chyfathrebu'n glir ac yn effeithiol â'r cyflogeion ynghylch sut i ddefnyddio'r mannau gwefru yn allweddol er mwyn sicrhau lefel dda o ddefnydd, gan gynnwys arwyddion clir wrth ymyl y mannau gwefru. Os yw'n bosibl, ceisiwch grwpio'r mannau gwefru gyda'i gilydd yn hytrach na'u gwasgaru o gwmpas y maes parcio, ac efallai yr hoffai'r sefydliad roi system archebu ar waith, yn enwedig os oes llawer o alw.
Gan fod gwefru yn y gweithle yn targedu'r syniad bod cerbydau'n cael eu parcio am gyfnod hir, byddai pwyntiau gwefru AC 11 neu 22 kW yn cael eu hargymell, oni bai bod angen gwefru AC neu DC cyflymach yn y fflyd fusnes. Gall y rhan fwyaf o gerbydau trydan batri cyfredol dderbyn gwefr 11 kW, ac mae gwefr arafach yn well ar gyfer iechyd y batri. Mae pwyntiau gwefru 11 neu 22 kW hefyd yn gost is na phwyntiau gwefru pŵer uwch, ac mae'n golygu y gall mwy o bwyntiau gwefru gael eu defnyddio ar yr un pryd heb ragori ar gapasiti mewnforio trydanol y safle. Mae tair awr o wefru ar 11 kW yn rhoi tua 33 kWh o ynni, sydd tua 100 milltir mewn car trydan canolig. Er mai ychydig o geir trydan batri sy'n gallu derbyn 22 kW AC, am gynnydd bach mewn cost gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer faniau trydan batri mwy gyda chynhwysedd batri o 100 kWh neu fwy.
P'un a yw'r seilwaith gwefru ar gyfer y fflyd, y cyhoedd, neu gerbydau preifat y cyflogeion yn unig, mae angen i'r sefydliad ystyried uchafswm capasiti mewnforio trydan y safle, sef y swm mwyaf o bŵer y gall y safle ei ddefnyddio o'r grid trydan ar unrhyw adeg, a gaiff ei fesur mewn cilofolt amperau (kVA). Yna bydd ffactor pŵer y safle (rhif rhwng 0.9 ac 1 fel arfer) yn pennu swm y pŵer defnyddiadwy (kW) sydd ar gael ar y safle (uchafswm capasiti mewnforio x ffactor pŵer = pŵer defnyddiadwy). Mae'r wybodaeth hon ar gael gan gyflenwr trydan y sefydliad. Hefyd, mae angen i'r sefydliad ystyried defnydd y safle ar hyn o bryd, a'i ddefnydd posibl yn y dyfodol (os yw'n newid i system wresogi drydan hefyd, er enghraifft) – gyda'i gilydd, gallai'r rhain olygu bod angen cynyddu capasiti'r safle yn sylweddol ac, os felly, bydd angen i'r sefydliad drafod hyn â'i Weithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (y Grid Cenedlaethol yw hwn yn Ne a Chanolbarth Cymru, Western Power Distribution gynt, ac SP Energy Networks yng Ngogledd Cymru). Dylid ystyried hefyd y defnydd o fatris ar y safle i storio capasiti safle nas defnyddiwyd yn ystod y diwrnod gwaith ac osgoi'r angen am uwchraddio capasiti drud.
Mae gwefru clyfar deinamig yn golygu bod y cerbyd a'r pwynt gwefru yn rhannu cysylltiad data â system ochr gefn sy'n gallu monitro defnydd y safle i reoli a chyfyngu allbwn kW y ddyfais o bell i elwa i’r eithaf ar y defnydd y safle o ynni. Gellir defnyddio hyn i sicrhau na chaiff capasiti'r safle ei orlwytho wrth i gerbydau wefru, a gellir ei ddefnyddio i leihau dwysedd carbon y trydan a ddefnyddir, drwy wefru ar adegau pan fydd uchafbwyntiau yn yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir – naill ai o fewn y grid, neu drwy ddefnyddio ynni a gynhyrchir ar y safle, os oes system o'r fath wedi'i gosod (defnyddio ynni a gynhyrchir o systemau ffotofoltaidd ar ddiwrnod heulog, er enghraifft).
Cynlluniau ad-dalu
Noda CThEF nad oes budd trethadwy ar gost trydan a ddarperir ar gyfer cerbydau trydan cyflogeion, nac ar gostau darparu'r seilwaith gwefru, ar yr amod y caiff rhai amodau eu bodloni, a gellir cadarnhau hyn gan ddefnyddio'r adnodd ar-lein.
Mae'n rhaid i'r sefydliad benderfynu sut a pha lefel o ad-daliad fyddai'n gweithio orau i'r cyflogwr a'r cyflogai, ac mae'r opsiynau yn cynnwys:
- Ad-dalu'r cyflogwr ar sail 'talu wrth fynd'
- Ad-dalu'r sefydliad am union gost yr ynni a ddefnyddir i wefru
- Gosod pris sefydlog ar gynllun arddull tanysgrifio misol
- Y cyflogwr yn talu'r gost yn llawn o wefru cerbydau trydan cyflogeion, neu gymysgedd (cwmpasu'r £500 cyntaf er enghraifft, yna cynllun talu).
Bydd y penderfyniad yn dibynnu ar ffactorau sy'n bwysig i'r sefydliad, megis lefel ddymunol y cymhelliant i gyflogeion newid i gerbydau trydan, pwysigrwydd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac allyriadau ansawdd aer fflyd lwyd a chymudo, maint a lleoliad y sefydliad, cost y trydan a all fod yn is na phris y farchnad os caiff ei gynhyrchu ar y safle, ac ati. Yn yr un modd â sicrhau eglurder o ran sut mae defnyddio'r cyfarpar, mae darparu cynllun ad dalu clir a thryloyw i bob cyflogai yn hollbwysig.
Adnoddau ychwanegol
Mae gan CLlLC ganllawiau manwl i gefnogi cynghorau i annog staff i deithio'n fwy cynaliadwy. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys cynllun gweithredu ac astudiaethau achos perthnasol ar seilwaith gwefru cerbydau trydan yn y gweithle.
