Dafydd Trystan Davies AS, Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Fel rhan o ymrwymiadau 100 Diwrnod Cyntaf y Llywodraeth, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Arwain wedi'i dynodi'n ysgol lywodraethu genedlaethol Cymru. Bydd Arwain yn adeiladu ar sylfeini cadarn Academi Wales, gan ddod â ffocws cenedlaethol o'r newydd ar arweinyddiaeth, dysgu a gallu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu dull Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un o arweinyddiaeth, gan ddod â sefydliadau ynghyd i weithio ar y cyd ar draws ffiniau traddodiadol, er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru.
Bydd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn Estyn, yn cadeirio Bwrdd Llywio newydd Arwain, gan ddod â chyfoeth o wybodaeth, profiad o uwch arweinyddiaeth ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus i gefnogi'r cam pwysig hwn yn natblygiad y sefydliad. Bydd aelodau'r Bwrdd Llywio yn helpu i lywio a hyrwyddo Arwain ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan ddefnyddio eu harbenigedd, eu rhwydweithiau a'u dylanwad ar lefel uwch.
Drwy Arwain, byddwn yn sefydlu'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth a gallu. Wedi'i wreiddio yng nghyd-destun Cymru ac wedi'i seilio ar ethos Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un, bydd y ganolfan hon yn cefnogi arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r nod cyffredin sydd eu hangen i arwain newid, cryfhau'r broses gyflawni a gwella canlyniadau i bobl Cymru.
