Neidio i'r prif gynnwy

Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng Nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf, ymrwymais i adolygu’r Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol, a gweithio i gyflwyno newidiadau er mwyn mynd ymhellach ac yn gyflymach i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – codi safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon mwy o aelwydydd, yn gyflymach.

Dechreuais weithio ar unwaith, gan adolygu’n gyflym y cynlluniau cyflawni presennol yng nghyd-destun polisi ehangach, gan gynnwys mentrau a chyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Cyhoeddais adroddiad heddiw ar yr adolygiad a gallaf nawr nodi fy ymateb uniongyrchol i'w ganfyddiadau.

Rwy'n defnyddio'r gyllideb bresennol yn fy mhortffolio i chwistrellu £17 miliwn pellach o gyllid i gynlluniau ôl-osod tai. 

Mae £5 miliwn wedi'i ddyrannu i gynllun Nyth, gan fynd â chyfanswm y cyllid ar gyfer y cynllun sy'n cael ei arwain gan alw i £37 miliwn y flwyddyn ariannol hon. Profwyd bod y cynllun yn darparu gosodiadau o safon a manteision rhagorol i aelwydydd ac mae'n achubiaeth i sawl aelwyd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer a llaith. 

Mae £8 miliwn ychwanegol i'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn dod â chyfanswm ei chyllideb i £106.75 miliwn y flwyddyn ariannol hon, er mwyn parhau â'r momentwm i wella ein stoc tai cymdeithasol. Dyma flwyddyn olaf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, a bydd yr hyn a ddysgir ohoni yn llywio ein polisi a'n hymyriadau yn y dyfodol.

Rwy'n awyddus i roi cynnig ar fodelau a dulliau cyflwyno newydd – gan brofi, dysgu, adeiladu ar lwyddiannau a bod yn barod i fethu er mwyn gwneud yn well yn y dyfodol. Mae'n bleser gennyf roi £4 miliwn pellach i ariannu modelau cyflawni amgen ac arloesol, gan weithio gyda phartneriaid lleol arloesol ledled Cymru. Nodir manylion y cynlluniau hyn maes o law.

Bydd y cynlluniau peilot hyn yn ategu Tai Clyd Caerdydd, prosiect peilot seiliedig ar ardal yn ardaloedd y Sblot, Adamsdown a’r Tyllgoed yn y ddinas. Ymrwymodd y llywodraeth flaenorol £3 miliwn i'r prosiect, yr ydym yn ei gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd. Bydd yn ystyried gwerth mabwysiadu dull lefel cymdogaeth ar gyfer ôl-osod traws-ddeiliadaeth – gan gefnogi cymunedau i weithredu gyda'i gilydd. Heddiw, gallaf gadarnhau y bydd y prosiect yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Medi, pan gysylltir â thrigolion cymwys er mwyn rhoi rhagor o fanylion iddynt.

Nododd yr adroddiad hefyd fod angen gwneud gwaith ychwanegol dros y misoedd nesaf, i lywio'r cynllun lleihau allyriadau nesaf. Bydd hyn yn dechrau ar unwaith drwy adolygu'r dystiolaeth ar gost-effeithiolrwydd, gan gynnwys ble y dylem dargedu cyllid Llywodraeth Cymru a pholisïau ehangach i sicrhau'r effaith fwyaf. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd i wneud y mwyaf o’r budd i Gymru o ffrydiau cyllido Llywodraeth y DU.

Fore heddiw, ymwelais â theulu mewn cartref cymdeithasol yn Rhydaman. Mae eu bywydau wedi gwella'n sylweddol oherwydd y gwelliannau i'w cartref, gyda biliau is ac amgylchedd byw gwell. Rwyf am i fwy o bobl gael y profiad hwn. Rwyf am i gartrefi oer, llaith, afiach fod yn rhywbeth o'r gorffennol. Dyma sy'n fy ysgogi i wneud y swydd hon bob dydd, ac mae'n dechrau gyda'r buddsoddiadau hyn.