Neidio i'r prif gynnwy

Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i helpu’r rhai yr effeithir arnynt gan y sgandal Gwaed Heintiedig ac mae’n cydnabod yr effaith ddofn a chydol oes y mae wedi’i chael ar unigolion a’u teuluoedd. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU, yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA), Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS), a chynrychiolwyr o’r gymuned gwaed heintiedig i helpu i sicrhau bod iawndal yn cael ei ddyrannu mor gyflym a theg â phosibl. 

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am Argymhelliad 1 sef ‘Iawndal’, a’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig, sy’n gorff ledled y DU, sy’n gyfrifol am weinyddu’r Cynllun Iawndal Gwaed Heintiedig. Asesiad Llywodraeth Cymru yw bod cynnydd wedi’i wneud o ran rhoi’r cynllun ar waith a dechrau dyrannu taliadau iawndal. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pryderon sydd wedi’u mynegi gan lawer o fuddiolwyr yr effeithir arnynt ynghylch hynt y gwaith o ran prosesu hawliadau a dyrannu taliadau. Mae’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig wedi datgan hyder yn y broses ond mae wedi cydnabod ei hun yr angen i barhau i gynyddu hynt a graddfa’r gwaith cyflawni. 

Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU a’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig ynghylch materion sy’n ymwneud ag iawndal a chymorth i’n buddiolwyr. Rydym yn parhau i geisio sicrwydd bod y cynllun yn gweithredu’n effeithiol ac y gall y rhai sy’n cyflwyno hawliad gael y cymorth y mae ei angen arnynt drwy gydol y broses hawlio. Rydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud yn barhaus â chymunedau a sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai yr effeithir arnynt.

Rwy’n ymwybodol o bryderon a godwyd yn ddiweddar ac rwyf wedi ysgrifennu at Nick Thomas-Symonds, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet, ynglŷn ag oedi yn y broses iawndal ac agweddau ar weinyddu’r hawliadau. Rydym yn deall rhwystredigaeth y rhai sydd eisoes wedi aros degawdau am gydnabyddiaeth ac iawndal. Pan gaiff pryderon eu rhannu â ni, cânt eu rhannu â Llywodraeth y DU yn ogystal â’r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig yn ystod cyfarfodydd rheolaidd swyddogion. Mae hyn yn sicrhau bod profiadau’r rhai sy’n cyflwyno hawliadau yn llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r cynllun. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael iawndal a chymorth ehangach heb unrhyw oedi diangen. Yn sgil Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru, mae cymorth yn parhau i fod ar gael i’n buddiolwyr, ac mae’r trefniadau o ran iawndal yn cael eu cyflawni gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig. 

Rydym yn cydnabod yn llawn na all unrhyw swm o iawndal ddadwneud y niwed sydd wedi’i achosi gan y sgandal hwn. Serch hynny, mae’n hollbwysig bod y rhai sydd wedi’u heintio a’u heffeithio yn cael yr iawndal, y gydnabyddiaeth a’r cymorth y mae ganddynt hawl ar eu cyfer. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fynnu cynnydd tuag at gyflawni’r nod hwnnw.