Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniadau

Niwroamrywiaeth yw’r amrediad o wahaniaethau yn y modd mae’r ymennydd yn gweithio a’r nodweddion ymddygiadol sy’n rhan o amrywio arferol mewn pobl ac mae’n cynnwys unigolion niwronodweddiadol a niwroamrywiol.

Mae niwrowahaniaeth yn cyfeirio at yr amrywio naturiol yn y modd mae ymennydd pobl yn gweithio, gan gynnwys gwahaniaethau o ran meddwl, dysgu a rhyngweithio.

Mae niwrowahaniaeth yn cwmpasu’r canlynol:

  • Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD)
  • Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
  • Anhwylder Datblygiad Iaith (DLD)
  • Dyslecsia
  • Dyscalcwlia
  • Anhwylder Datblygiad Cydsymud (DCD a Dyspracsia)
  • Syndrom Tourette

Drwy gydol yr adroddiad hwn, gelwir y cyflyrau hyn yn ‘gyflyrau niwroddatblygiadol’.  Yn aml, gall cyflyrau niwroddatblygiadol ddigwydd ochr yn ochr â chyflyrau iechyd meddwl, fel gorbryder neu iselder.

Mae niwronodweddiadol yn cyfeirio at unigolion nad ydynt yn niwrowahanol.

Iaith ‘Niwrowahaniaeth’

Mabwysiadodd Llywodraeth flaenorol Cymru y model cymdeithasol o anabledd yn ffurfiol yn 2002  gan amlygu hyn yn y modd y mae’n datblygu polisïau a’r ffordd y mae’n eu rhoi nhw ar waith. Mae hyn yn golygu bod y ffocws ar y pethau y gall pobl eu gwneud a’u cyflawni pe bai rhwystrau cymdeithasol yn cael eu dileu, yn hytrach nag ar y pethau na allant eu gwneud oherwydd eu hamhariadau. Felly, efallai na fydd termau sy’n cynnwys y geiriau ‘cyflyrau’ neu ‘anhwylder’, y gellir ystyried eu bod yn stigmateiddio, yn cyd-fynd â’r model cymdeithasol o anabledd. Ond rydym wedi defnyddio’r termau a gynhwysir yn y ffynhonnell ddata y cyfeiriwn ati. 

Deallwn fod rhai o’r termau hyn wedi dyddio o bosibl (er enghraifft), ac y gall gwahanol unigolion neu sefydliadau ffafrio iaith arbennig (fel iaith sy’n blaenoriaethu hunaniaeth yn hytrach nag iaith sy’n blaenoriaethu’r person).

Erbyn hyn, mae nifer o dermau, fel Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, Asperger, ‘ar y sbectrwm’, yn dod o dan ambarél ‘awtistiaeth’, a chyfeirir atynt yn bennaf fel Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn yr adroddiad hwn ar ei hyd. Yn yr un modd, er y gall niwrowahaniaeth fod y term a ffefrir gan lawer; defnyddir niwrowahaniaeth, cyflyrau niwrowahanol a chyflyrau niwroddatblygiadol (NDCs) yn gyfnewidiol yn yr adroddiad hwn yn dibynnu ar yr iaith a ddefnyddir yn y data ffynhonnell.

1. Y prif ganlyniadau

Mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol yn cynyddu ac nid yw gwasanaethau yng Nghymru yn meddu ar y gallu i ddiwallu’r galw cynyddol, yn enwedig o ran cael gafael ar gymorth ac asesu cynnar ar gyfer oedolion a phlant. Efallai y bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn yn fuddiol o ran ategu rhagdybiaethau cynllunio a pholisi mewn perthynas ag anghenion addysg a gwasanaethau niwroddatblygiadol/niwrowahaniaeth y presennol a’r dyfodol yng Nghymru. Am ragor o fanylion ar y prif ganlyniadau isod (fel cyfeirnodau, disgrifiadau a rhybuddion/cafeatau), gweler y rhannau perthnasol ym mhrif gorff yr adroddiad.

1.1 Cyffredinrwydd Niwrowahaniaeth yng Nghymru

1.1.1 Cyffredinrwydd Niwrowahaniaeth yng Nghymru

Mae’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD), Disgyblion sy’n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) a’r Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol (ISC) yn casglu data am gyflyrau niwroddatblygiadol pan fo disgyblion wedi cael eu hasesu a bod penderfyniad wedi’i wneud bod angen darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA) (cyfeirir at ‘angen’ o hyn ymlaen). Nid yw pob dysgwr y cofnodwyd fod ganddo gyflwr niwroddatblygiadol yn cael diagnosis ffurfiol. Ni chynhwysir disgyblion a gaiff eu haddysgu gartref yn y data hwn.

Roedd data o CYBLD 2024 i 2025 (ar Ionawr 2025) yn dangos y canlynol:

  • dywedodd 2.5% o ddisgyblion mewn ysgolion fod eu hangen yn cyfateb i Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth.
  • cynyddodd canran y disgyblion ag angen Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025. Rhwng 2018 i 2019 a 2024 i 2025, Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth oedd y cyflwr niwrowahanol mwyaf cyffredin ymhlith disgyblion â darpariaeth ADY a AAA yng Nghymru
  • dywedodd 0.6% o’r holl ddisgyblion mewn ysgolion fod eu hangen yn cyfateb i Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
  • gwnaeth canran y disgyblion â dyspracsia a chanran y disgyblion â dyscalcwlia ostwng rhywfaint o 0.2% yn 2016 i 2017 i 0.1% (neu is) yn 2024 i 2025
  • gostyngodd canran y disgyblion â dyslecsia yng Nghymru rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025 o 1.8% i 0.5%

Mae Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn awgrymu’r canlynol:

Rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024, roedd gan oddeutu 7.8% o ddysgwyr, sef rhai a oedd mewn addysg bellach neu a oedd yn dilyn prentisiaethau, niwrowahaniaeth hunanddiffiniedig. Y niwrowahaniaeth mwyaf cyffredin ymhlith y dysgwyr hyn dros yr un cyfnod oedd dyslecsia, sef 4.1%.

Mae data’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn awgrymu’r canlynol ar gyfer myfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru (rhwng 2014 i 2015 a 2023 i 2024).

Gwelir bod canran y myfyrwyr â gwahaniaeth dysgu fel dyslecsia, dyspracsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a oedd wedi cofrestru ar gyfer addysg uwch (ar ffurf canran o’r holl fyfyrwyr a gofrestrodd ar gyfer addysg uwch a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru) wedi cynyddu o 5.5% (5,425 o fyfyrwyr) i 6.8% (7,010 o fyfyrwyr).

Dros y cyfnod rhwng 2014 i 2015 a 2023 i 2024, gwelir bod canran y myfyrwyr a chyflyrau cymdeithasol/cyfathrebu (amhariad lleferydd ac iaith neu anhwylder sbectrwm awtistiaeth) (ar ffurf canran o’r holl fyfyrwyr a gofrestrodd ar gyfer addysg uwch a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru) wedi cynyddu o 0.4% (360 o fyfyrwyr) i 1.1% (1,135 o fyfyrwyr).

1.1.2 Ystadegau Swyddogol sy’n cael eu datblygu

Yng Nghymru, yn 2023, roedd gan blant sy’n derbyn gofal a chymorth:

  • gyfraddau uwch o ASD (13%) na’r boblogaeth gyffredinol
  • gyfraddau llawer uwch o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yng Ngheredigion o gymharu â’r cyfraddau mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru

Mae hyn yn cyfeirio at blant a oedd yn derbyn gofal, plant a oedd ar y gofrestr diogelu plant ond nad oeddynt yn derbyn gofal, a phlant a gâi ofal a chymorth ond nad oeddynt yn derbyn gofal nac ar y gofrestr diogelu plant. Ffynhonnell: StatsCymru.

Sylwer mai cipolwg yw’r ffigurau hyn ar blant â chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth lle roedd y cynllun wedi bod ar waith ers 3 mis o leiaf. Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy’n derbyn gofal a chymorth 2023 i 2024

1.1.3 Data gweinyddol

Mae cofnodion iechyd ym manc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn dangos bod diagnosisau o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) wedi cynyddu dros amser. Gwelodd cyfraddau diagnosisau newydd o ASD gynnydd o fwy na 150% rhwng 2008 a 2016. Gwelwyd cynnydd hefyd mewn diagnosisau ymhlith pobl dros 35 oed ac ymhlith menywod. Ffynhonnell: Evidence of increasing recorded diagnosis of autism spectrum disorders in Wales, UK: An e-cohort study.

Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd, lle defnyddiwyd cofnodion iechyd rhwng 2000 a 2016, canfuwyd bod 0.51% o bobl â chofnodion ym manc data SAIL wedi cael diagnosis o ASD. Mae hyn yn is na’r amcangyfrifon disgwyliedig o gyffredinrwydd, sy’n awgrymu ei bod yn bosibl nad yw llawer o bobl ag ASD yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gan wasanaethau gofal iechyd.

Mewn astudiaeth o 2023 lle defnyddiwyd cofnodion iechyd SAIL, amcangyfrifwyd bod 0.9% o bobl a anwyd yng Nghymru yn y 1990au wedi cael diagnosis o ASD erbyn eu pen-blwydd yn 18 oed, a bod 1.4% wedi cael diagnosis o ADHD. Roedd gwrywod yn fwy tebygol na menywod o gael diagnosis o ASD (1.5% o gymharu â 0.4%) ac o ADHD (2.2% o gymharu â 0.6%). Ffynhonnell: Can a nation-wide e-cohort of ADHD and ASD in childhood be established using Welsh routinely available datasets?

1.1.4 Gwybodaeth reoli

Roedd data a gasglwyd gan 4 o'r 7 bwrdd iechyd lleol yng Nghymru yn dangos:

  • rhwng Medi 2018 a Mehefin 2021, gwelir bod nifer y plant a’r oedolion a ofynnodd am asesiad diagnostig gan wasanaethau niwroddatblygiadol wedi bod yn gyson uwch na nifer yr asesiadau diagnostig a gynhaliwyd
  • yn fras, ar gyfer pob 2 blentyn a ofynnodd am asesiad niwroddatblygiadol, cynhaliwyd 1 asesiad o’r fath
  • ar gyfer 2.3 oedolyn a ofynnodd am asesiad, cynhaliwyd 1 asesiad o’r fath

Byrddau iechyd a gymerodd ran:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

1.1.5 Astudiaethau pellach

Mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain a’r Sefydliad ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu yn awgrymu:

  • amcangyfrifir cyfraddau o 10% ar gyfer dyslecsia, 6% ar gyfer dyspracsia a 6% ar gyfer dyscalcwlia o amrywiol astudiaethau yn y DU
  • pe bai’r cyfraddau hyn yn cael eu cymhwyso i boblogaeth Cymru, byddent yn awgrymu:
    • 319,000 o bobl â dyslecsia
    • 191,000 o bobl â dyspracsia
    • 191,000 o bobl â dyscalcwlia
  • gall rhai unigolion gyflwyno mwy nag un niwrowahaniaeth ac felly gael eu cynnwys mewn mwy nag un amcangyfrif

Ffynonellau:

1.2 Argymhellion ar gyfer ymchwil bellach

Ar sail canfyddiadau’r papur hwn, argymhellir yr opsiynau canlynol ar gyfer ymchwil bellach.

Cyffredinrwydd a diagnosis

  • adeiladu ar y dadansoddiad blaenorol o ‘gyffredinrwydd yng Nghymru’ a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd trwy ddefnyddio data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ar ôl 2016. Byddai hefyd yn ddefnyddiol defnyddio’r data cofnodion iechyd cysylltiedig i bennu pa mor gyffredin yw cleifion sydd wedi’u diagnosio â chyflyrau cydafiachedd (e.e. claf ag NDC a chyflwr iechyd meddwl cysylltiedig fel gorbryder neu iselder)
  • archwilio a oes yna wahaniaethau yng nghyfraddau cyffredinrwydd cyflyrau niwroddatblygiadol (neu gydnabyddiaeth neu ddiagnosis ohonynt) ar draws gwahanol rannau o Gymru, a’r ffactorau a allai gyfrannu at y gwahaniaethau hynny
  • archwilio’r ffactorau sy’n arwain at gynnydd mewn cydnabod a diagnosio niwrowahaniaeth er mwyn helpu i sicrhau tegwch o ran mynediad at wybodaeth, adnoddau ac asesiadau ledled Cymru

Asesu a gwasanaethau

  • archwilio a yw amseroedd aros ar gyfer asesiadau NDC yn wahanol ledled Cymru (h.y. drwy wahanol fyrddau iechyd) a’r rhesymau am hyn
  • modelu’r galw am wasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru yn y dyfodol er mwyn helpu i lunio gwasanaethau wrth symud ymlaen a helpu i dargedu’r modd y dyrennir asesiadau er mwyn lleihau amseroedd aros ac ôl-groniad

Casglu data ac arolygon

  • canfod a fyddai cynnal arolwg cynrychiadol i bennu cyfraddau cyffredinrwydd ym mhoblogaeth Cymru yn esgor ar ddata sy’n well o ran ansawdd na’r ffynonellau sydd ar gael ar hyn o bryd
  • ystyried cynnwys cwestiwn ar niwrowahaniaeth yn Arolwg Cenedlaethol Cymru neu yng nghyfrifiad 2031.
  • sicrhau cysondeb wrth gasglu data ac ar draws diffiniadau’n ymwneud â niwrowahaniaeth ledled holl fyrddau iechyd lleol Cymru
  • ymchwilio i opsiynau ar gyfer gwella’r data a gesglir am niwrowahaniaeth ymhlith plant a phobl ifanc, yn cynnwys a ydynt wedi cael diagnosis ffurfiol, ac a gafodd y diagnosis ei wneud yn breifat ynteu gan y GIG

Addysg

  • canfod a oes cydberthynas rhwng nifer y disgyblion a gaiff eu haddysgu gartref a chanran y disgyblion â chyflyrau niwroddatblygiadol
  • ystyried a ddylai fod mecanwaith i gasglu data ar anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu niwrowahaniaeth ymhlith disgyblion sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref
  • ystyried a ddylai fod mecanwaith ar gyfer casglu data ar wahân ar ADY a niwrowahaniaeth fel y gellir cynnwys disgyblion â chyflyrau niwroddatblygiadol nad oes ganddynt ADY yn y data hefyd

2. Cefndir

Nod y papur hwn yw amcangyfrif nifer y bobl niwrowahanol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi cael diagnosis gan y GIG (neu sydd ar restr aros am asesiad), y rhai a gafodd ddiagnosis yn breifat, a’r rhai sy’n hunanddiffinio, er y gall y data fod yn gyfyngedig, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n hunanddiffinio.

Mae o ddiddordeb arbennig pennu cyffredinrwydd pob math o niwrowahaniaeth, ynghyd â sefydlu nifer a chanran y bobl niwrowahanol yng Nghymru yn ôl rhanbarth a lefel amddifadedd.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn cydnabod anghenion pobl niwrowahanol drwy’r strategaeth awtistiaeth a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008, a arweiniodd at sefydlu’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a chyflwyno’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn 2016. Yn 2021, cyhoeddodd hefyd y Cod Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a nododd rolau a chyfrifoldebau cyrff cyhoeddus er mwyn helpu i sicrhau bod anghenion pobl awtistig yn cael eu diwallu.

Mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth yn cynyddu ac nid oes gan y gwasanaethau presennol y gallu i ateb y galw cynyddol, yn enwedig o ran cael gafael ar gymorth ac asesu cynnar. Ar 6 Gorffennaf 2022, mewn Datganiad Ysgrifenedig ar welliannau mewn gwasanaethau cyflyrau niwroddatblygiadol, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd adroddiad cryno canlyniadau’r Adolygiad Annibynnol o’r Galw, Capasiti a Chynllun Gwasanaethau Niwroddatblygiadol a chyhoeddodd raglen wella newydd gyda chyllid o £12 miliwn hyd at fis Mawrth 2025.

Fel rhan o’r Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth (NIP), cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru yn 2022 er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodwyd gan bobl niwrowahanol a’u rhieni a’u gofalwyr.

Gan gydnabod nifer yr achosion lle mae cyflyrau niwrowahanol a chyflyrau iechyd meddwl yn cyd-ddigwydd, mae’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yn nodi y bydd gwasanaethau’n cael eu cysylltu er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy’n darparu cymorth iechyd meddwl yr hyder a’r wybodaeth i ymgysylltu’n effeithiol â phobl niwrowahanol sydd angen cymorth.

Ffynonellau

3. Cyffredinrwydd pobl niwrowahanol, Cymru

3. Addysg, Cymru (Ystadegau Swyddogol)

3.1.1 Disgyblion â Chyflyrau Niwroddatblygiadol a darpariaeth ADY neu AAA, Cymru

Yn ôl y CYBLD a chyfrifiad EOTAS, gwelwyd cynnydd yng nghanran y disgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth a oedd hefyd â darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) mewn ysgolion yng Nghymru rhwng blwyddyn academaidd 2016 i 2017 a blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Gwelwyd gostyngiadau yng nghanran y disgyblion â dyslecsia, dyscalcwlia neu ddyspracsia a oedd hefyd â darpariaeth ADY neu AAA. Gweler Tabl 1 a Ffigur 1.

Nid oes angen diagnosis ffurfiol er mwyn i ddysgwr gael ei adnabod fel un sydd ag ADY ac, i’r gwrthwyneb, ni fydd gan bob dysgwr sydd â diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol (NDC) ADY. Felly, nid yw data CYBLD ac EOTAS yn fesur cywir o NDCau ymhlith disgyblion yng Nghymru.

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn cael eu paratoi ar gyfer plant ag ADY, felly gall fod yn wir nad yw pob dysgwr y cofnodwyd fod ganddo gyflwr niwroddatblygiadol yng nghyfrifiad CYBLD neu EOTAS wedi cael diagnosis ffurfiol. Fodd bynnag, mae’r Cod ADY yn nodi y dylid ystyried a chofnodi unrhyw ddiagnosis perthnasol yn adran berthnasol y CDU (adran 2A). Efallai y bydd elfen o farn broffesiynol gan y rhai sy’n gweithio gyda phlant, a gall dulliau amrywio rhwng lleoliadau ac awdurdodau lleol.

Dechreuwyd gweithredu’r system ADY yng Nghymru ym mis Medi 2021. Mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau wedi gwneud cynnydd wrth symud dysgwyr i’r system ADY a nodi a chynllunio ar gyfer eu hanghenion dysgu ychwanegol.

O fis Medi 2025, y system ADY sydd wedi’i gweithredu’n llawn yw’r unig fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag ADY yng Nghymru. Mae data CYBLD wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer gyffredinol y dysgwyr ag AAA neu ADY ers gweithredu’r system newydd.

Dangosodd CYBLD Ionawr 2025, sy’n cwmpasu blwyddyn academaidd 2024 i 2025, fod nifer y disgyblion ag AAA neu ADY mewn ysgolion a gynhelir wedi gostwng ers blwyddyn academaidd 2017 i 2018. Mae rhywfaint o’r gostyngiad yn nifer y disgyblion ag AAA dros y 3 blynedd diwethaf yn deillio o adolygiad systematig ysgolion o’u cofrestri AAA.

Ffynonellau

Tabl 1: Canran y disgyblion niwrowahanol (â darpariaeth ADY neu AAA), yn ôl math o niwrowahaniaeth, yn ôl blwyddyn academaidd, Cymru (Gweler y nodiadau isod Ffigur 1)

 2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 20202020 to 20212021 to 20222022 to 2023 2023 to 20242024 to 2025
Dyslecsia1.81.71.51.31.21.21.10.70.5
Dyscalcwlia 0.20.10.10.10.10.10.10.1[k]
Dyspracsia 0.20.20.20.20.20.20.10.10.1
ADHD 0.60.60.70.70.70.60.60.60.6
Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth 1.51.71.82.02.12.22.32.42.5

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD), Derbyn Addysg Heblaw Yn yr Ysgol (EOTAS) a ffurflen cyfrifiad ysgolion annibynnol 

Ffigur 1: Canran y disgyblion niwrowahanol (â darpariaeth ADY neu AAA), yn ôl math o niwrowahaniaeth, yn ôl blwyddyn academaidd, 2016 i 2017 i 2024 i 2025, Cymru (Gweler y nodiadau)

Image
Siart linell yn dangos canran y disgyblion niwrowahanol yng Nghymru yn ôl math o niwrowahaniaeth rhwng 2016/17 a 2024/25. Mae canran y disgyblion ag anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn cynyddu dros y cyfnod, o tua 1.5% i 2.5%. Mae canran y disgyblion â dyslecsia yn gostwng, o tua 1.8% i 0.5%. Mae’r cyfrannau ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, dyspracsia a dyscalcwlia yn aros yn is ac yn gymharol sefydlog.

Ffynhonnell

Nodyn:

  • Nodyn 1: Canran yr holl ddisgyblion â dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol (dim ond disgyblion â darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig). Ni chynhwysir disgyblion a gaiff eu haddysgu gartref yn y data hwn.
  • Nodyn 2: O fis Ionawr 2017, caniatawyd i ysgolion gofnodi cynifer o anghenion addysgol arbennig ag y bo angen. Er enghraifft, os cofnodwyd ‘dyslecsia’ a ‘dyspracsia’ ar gyfer disgybl, byddai’r disgybl hwnnw’n cael ei gyfrif ddwywaith, sef unwaith o dan bob math.   
  • Nodyn 3: Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y dolenni ar gyfer Cyfrifiad ysgolion: Ionawr 2025  a chyfrifiad EOTAS 2025.
  • Nodyn 4: Yn achos disgyblion a chanddynt y cyflyrau hyn, ond nad oes ganddynt ddarpariaeth AAA/ADY, ni fyddent wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau hyn.
  • Nodyn 5: Mae nifer y disgyblion â darpariaeth AAA/ADY wedi gostwng ers i’r system ADY gael ei rhoi ar waith.
  • Nodyn 6: Mae’r symbol [k] yn golygu nad yw’r eitem ddata yn cyfateb yn union i sero, ond amcangyfrifir ei bod yn sero neu’n llai na hanner y digid olaf a ddangosir.

Cynyddodd canran y disgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth a darpariaeth ADY neu AAA yn ysgolion Cymru o 1.5% ym mlwyddyn academaidd 2016 i 2017 i 2.5% ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Cynyddodd canran y disgyblion ag ADHD a darpariaeth ADY neu AAA ychydig o 0.6% i 0.7% rhwng blwyddyn academaidd 2016 i 2017 a blwyddyn academaidd 2018 i 2019, ond yna gostyngodd yn ôl i 0.6% ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022, lle mae wedi aros hyd at flwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Gwnaeth canran y disgyblion â dyspracsia a darpariaeth ADY neu AAA, a chanran y disgyblion â dyscalcwlia a darpariaeth ADY neu AAA, ostwng rhywfaint o 0.2% ym mlwyddyn academaidd 2016 i 2017 i 0.1% (neu is) ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Gostyngodd canran y disgyblion â dyslecsia a darpariaeth ADY neu AAA yng Nghymru o 1.8% ym mlwyddyn academaidd 2016 i 2017 i 0.5% ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Efallai fod hyn wedi digwydd, yn rhannol, oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref, gan nad yw data ar gyflyrau niwroddatblygiadol yn cael ei gasglu ar gyfer disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref. Roedd cyfradd y disgyblion a ddewisodd gael eu haddysgu gartref ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025 yn 15.3 o bob 1,000 o ddisgyblion, sef cynnydd o 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion ym mlwyddyn academaidd 2009 i 2010, ac mae’r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny. Efallai hefyd fod hyn wedi digwydd oherwydd newid yn y modd y pennwyd yr angen am gymorth ychwanegol.

Ffynhonnell

Disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2024 i Awst 2025

3.1.2 Ystadegau Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru

Mae data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn darparu ffynhonnell swyddogol o ystadegau am ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaid a’r sector dysgu oedolion.

Rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024, roedd gan oddeutu 7.8% o ddysgwyr mewn addysg bellach neu a oedd yn dilyn prentisiaeth niwrowahaniaeth hunanddiffiniedig. Y niwrowahaniaeth mwyaf cyffredin ymhlith y dysgwyr hyn dros yr un cyfnod oedd dyslecsia, sef 4.1%.

Ffynhonnell

Tabl 2: Dysgwyr yn ôl math o ddysgu, a’r prif anabledd neu anhawster dysgu niwrowahanol hunanddiffiniedig mewn colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau, rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024 (Gweler y nodiadau isod Ffigur 2)

Y prif anabledd neu anhawster dysguNifer y dysgwyr% (o blith yr holl ddysgwyr)
ADHD1,8901.2%
Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth3,3452.2%
Dyscalcwlia2400.2%
Dyslecsia6,3504.1%
Dyspracsia3850.2%
   
Cyfanswm y dysgwyr niwrowahanol12,2107.8%

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)

Ffigur 2: Dysgwyr yn ôl math o ddysgu, a’r prif anabledd neu anhawster dysgu niwrowahanol hunanddiffiniedig mewn colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau, rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024 (Gweler y nodiadau)

Image
Siart golofn yn dangos canran y dysgwyr niwrowahanol mewn colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yng Nghymru rhwng Awst 2023 a Gorffennaf 2024, yn ôl prif anabledd neu anhawster dysgu hunanddiffiniedig. Dyslecsia sydd â’r gyfran uchaf o ddysgwyr, tua 4.0%, ac yna anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, tua 2.1%. Mae cyfrannau is ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (tua 1.2%), dyspracsia (tua 0.2%) a dyscalcwlia (tua 0.1%).

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)

Nodyn:

  • Nodyn 1: Caiff y dysgwyr eu cyfrif unwaith oddi mewn i fath o ddysgu neu unwaith gyda’i gilydd yn y categori ‘Pawb’ nodwch fath. Os astudiodd dysgwr mewn amryfal fathau o ddysgu, rhoddir blaenoriaeth i brentisiaethau, ac yna i addysg amser llawn.
  • Nodyn 2: Ni chynhwysir dosbarthiadau chwech, dysgu cymunedol awdurdodau lleol nac addysg uwch yn y tabl hwn.
  • Nodyn 3: Talgrynnir y niferoedd i’r 5 agosaf.

3.1.3 Ystadegau’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA)

Mae’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn cyhoeddi nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru i ddilyn addysg uwch yn ôl anabledd, rhyw, lefel astudio, dull astudio, dynodwr newydd-ddyfodiaid a blwyddyn academaidd ar gyfer y rhai â chyfeiriadau parhaol yn y DU.

Darparodd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) y data cyfatebol ar gyfer myfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru.

Ffynhonnell

Tabl 3: Cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch a chanddynt wahaniaeth dysgu fel dyslecsia, dyspracsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, o bob lefel (israddedigion ac ôl-raddedigion) a phob dull astudio (amser llawn a rhan-amser), 2014/15 i 2024/25, Cymru (Gweler y nodiadau)

 2014 i 20152015 i 20162016 i 20172017 i 20182018 i 20192019 i 20202020 i 20212021 i 20222022 i 20232023 i 2024
Nifer y cofrestriadau myfyrwyr â gwahaniaeth dysgu 5,4255,5305,6655,6205,9806,1306,6306,8006,6757,010
% y cofrestriadau myfyrwyr â gwahaniaeth dysgu5.5%5.6%5.7%5.7%5.9%5.9%6.0%6.2%6.2%6.8%

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (TERM CYMRU)

Ffigur 3: Cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch a chanddynt wahaniaeth dysgu fel dyslecsia, dyspracsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, o bob lefel (israddedigion ac ôlraddedigion) a phob dull astudio (amser llawn a rhan-amser), 2014 i 2015 i 2024 i 2025, Cymru (Gweler y nodiadau)

Image
Siart linell ddwbl yn dangos nifer a chanran y cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru sydd â gwahaniaeth dysgu hunanddiffiniedig, fel dyslecsia, dyspracsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, rhwng 2014/15 a 2023/24. Mae nifer y myfyrwyr yn cynyddu o tua 5,400 i 7,000 dros y cyfnod, tra bo’r ganran yn cynyddu o tua 5.5% i 6.8%.

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (Fersiwn i Gymru yw hon o ddata agored Tabl 15 a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth)

Nodyn:

  • Nodyn 1: Poblogaeth cofrestru safonol yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
  • Nodyn 2: Myfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru
  • Nodyn 3: Talgrynnir nifer y myfyrwyr i’r lluosrif agosaf at 5; caiff niferoedd sy’n is na 2.5 eu hatal (*)

Cynyddodd nifer a chanran y myfyrwyr a gofrestrodd i ddilyn addysg uwch, a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru a gwahaniaeth dysgu (fel dyslecsia, dyspracsia neu ADHD), rhwng blynyddoedd academaidd 2014 i 2015 a 2023 i 2024.

Cynyddodd canran y myfyrwyr hyn a chanddynt wahaniaeth dysgu (ar ffurf canran o’r holl fyfyrwyr a gofrestrodd i ddilyn addysg uwch, a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru) o 5.5% (5,425 o fyfyrwyr) i 6.8% (7,010 o fyfyrwyr) dros y cyfnod hwn.

Tabl 4: Cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch â chyflyrau cymdeithasol neu cyfathrebu fel amhariad lleferydd ac iaith neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth, o bob lefel (israddedigion ac ôl-raddedigion) a phob dull astudio (amser llawn a rhan-amser), 2014 i 2015 i 2024 i 2025, Cymru

 2014 i 20152015 i 20162016 i 20172017 i 20182018 i 20192019 i 20202020 i 20212021 i 20222022 i 20232023 i 2024
Nifer y cofrestriadau myfyrwyr ag amodau cymdeithasol/cyfathrebu           360            430            490            565            730            870            945         1,060            980         1,135 
% y cofrestriadau myfyrwyr  â chyflyrau cymdeithasol/cyfathrebu0.4%0.4%0.5%0.6%0.7%0.8%0.9%1.0%0.9%1.1%

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Ffigur 4: Cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch â chyflyrau cymdeithasol neu cyfathrebu fel amhariad lleferydd ac iaith neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth, o bob lefel (israddedigion ac ôl-raddedigion) a phob dull astudio (amser llawn a rhan-amser), 2014 i 2015 i 2024 i 2025, Cymru

Image
Siart linell ddwbl yn dangos nifer a chanran y cofrestriadau myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru sydd â chyflyrau cymdeithasol neu gyfathrebu hunanddiffiniedig, megis amhariad lleferydd ac iaith neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth, rhwng 2014/15 a 2023/24. Mae nifer y myfyrwyr yn cynyddu o tua 360 i dros 1,100 dros y cyfnod, tra bo’r ganran yn cynyddu o tua 0.4% i tua 1.1%.

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Nodyn:

  • Nodyn 1: Poblogaeth cofrestru safonol yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
  • Nodyn 2: Myfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru
  • Nodyn 3: Talgrynnir nifer y myfyrwyr i’r lluosrif agosaf at 5; caiff niferoedd sy’n is na 2.5 eu hatal (*)

Cynyddodd nifer a chanran y myfyrwyr a gofrestrodd i ddilyn addysg uwch, a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru a chyflyrau cymdeithasol neu gyfathrebu (amhariad lleferydd ac iaith neu anhwylder sbectrwm awtistiaeth), rhwng blwyddyn academaidd 2014 i 2015 a blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o 1% (1,060 o gofrestriadau myfyrwyr) ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022 i 0.9% (980 o gofrestriadau myfyrwyr) ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Dros y cyfnod rhwng blwyddyn academaidd 2014 i 2015 a blwyddyn academaidd 2023 i 2024, cynyddodd canran y cofrestriadau myfyrwyr a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru a chyflyrau cymdeithasol neu gyfathrebu (amhariad lleferydd ac iaith neu anhwylder sbectrwm awtistiaeth), fel canran o’r holl gofrestriadau addysg uwch a chanddynt gyfeiriad parhaol yng Nghymru, o 0.4% (360 o gofrestriadau myfyrwyr) i 1.1% (1,135 o gofrestriadau myfyrwyr).

3.2 Data am Fyrddau Iechyd, Cymru (Gwybodaeth Reoli)

Sylwch fod yr adran hon yn cyfeirio at adolygiad untro a gynhaliwyd yn 2022 o ddata a ddarparwyd gan 4 o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Felly, mae’n debygol bod cyfanswm nifer y plant yng Nghymru a atgyfeiriwyd neu a dderbyniwyd ar gyfer asesiad yn danamcangyfrif.

Mae’r data yn yr adran hon yn cyfeirio at asesiadau’r GIG, er bod rhai achosion lle comisiynodd byrddau iechyd y GIG ddarparwyr preifat i gynnal yr asesiad. Fodd bynnag, nid yw achosion lle ceisiodd unigolion gael asesiad preifat eu hunain ar wahân i’r GIG wedi’u cynnwys yn y data hwn.

Mae nifer y plant sy’n ceisio asesiad diagnostig gan wasanaethau niwroddatblygiadol wedi bod yn gyson uwch na nifer yr asesiadau diagnostig a gynhaliwyd yn y 4 bwrdd iechyd a ddarparodd ddata.

Gostyngodd y galw a’r gweithgarwch yn ystod pandemig COVID-19, ond mae’r gweithgarwch yn parhau’n is nag yr oedd cyn y pandemig, tra bo’r galw wedi cynyddu eto.

Dros y cyfnod rhwng chwarter 3 blwyddyn galendr 2018 a chwarter 2 blwyddyn galendr 2021, atgyfeiriwyd 6,381 o blant am asesiad a chynhaliwyd 3,160 o asesiadau. Mae hyn yn golygu, ar gyfer tua phob 2 blentyn a oedd yn ceisio asesiad, fod 1 asesiad wedi’i gynnal yn y 4 bwrdd iechyd a ddarparodd ddata.

Ffynhonnell

Ffigur 5: Nifer y plant a atgyfeiriwyd at wasanaethau niwroddatblygiadol i gael asesiad diagnostig a nifer y plant a aseswyd ym mhob chwarter o 2019 i 2020 a 2020 i 2021 (y cyfanswm ar gyfer Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys)

Image
Description of Figure 4: The figure shows the number of children referred to neurodevelopmental services for diagnostic assessment and the number of children assessed in each quarter between 2019 and 2021 across Aneurin Bevan, Cardiff and Vale, Hywel Dda and Powys health boards.

Ffynhonnell: Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Yn yr un modd, mae nifer yr oedolion sy’n ceisio asesiad diagnostig wedi bod yn gyson uwch na nifer yr asesiadau diagnostig a gynhaliwyd mewn 4 o’r 7 bwrdd iechyd yng Nghymru.

Gostyngodd y galw a’r gweithgarwch yn ystod pandemig COVID-19. Er bod y galw yn parhau’n is nag yr oedd cyn y pandemig, mae’r gweithgarwch bellach wedi dychwelyd i’r lefelau uchaf a welwyd cyn y pandemig.

Dros y cyfnodau Ebrill 2019 i Fawrth 2020 ac Ebrill 2020 i Fawrth 2021, gofynnodd 3,466 o oedolion am asesiad a chynhaliwyd 1,502 o asesiadau. Mae hyn yn golygu bod 1 asesiad wedi’i gynnal ar gyfer ychydig dros bob 2 oedolyn a oedd yn ceisio asesiad. Y gymhareb rhwng oedolion a oedd yn ceisio asesiad ac asesiadau a gynhaliwyd oedd 2.3:1.

Sylwer na allwn gymryd yn ganiataol y byddai’r un gymhareb i’w gweld yn y 3 bwrdd iechyd na ddarparodd ddata:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

4. Cyffredinrwydd pob math o niwrowahaniaeth

4.1 Awtistiaeth a Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth

Mae cyffredinrwydd awtistiaeth a Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn amrywio ar draws ffynonellau, astudiaethau a gwahanol boblogaethau yng Nghymru. Efallai fod gwahaniaethau mewn poblogaethau (er enghraifft, cleifion â chofnodion digidol yn unig, disgyblion ysgol, neu fyfyrwyr) wrth wraidd hyn. Hefyd, mae rhai astudiaethau’n cofnodi cyfraddau cyffredinrwydd ar sail hunanddiagnosis, mae rhai’n cynnwys diagnosis ffurfiol yn unig, ac mae eraill wedi’u seilio ar anghenion addysgol arbennig (AAA) neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY). 

4.1.1 Disgyblion ag Anhwylder Syndrom Awtistiaeth, Cymru (Ystadegau Swyddogol)

Yn ôl data CYBLD ac EOTAS, roedd cyfran y plant yng Nghymru y cofnododd ysgolion fod ganddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn 2.5% ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Mae’r ffigur hwn eisoes yn uwch na’r gyfradd amcangyfrifedig ar gyfer y boblogaeth gyfan o tua 1%. Nid yw’r niferoedd hyn yr un fath â nifer y bobl sydd â diagnosis o awtistiaeth. Maent yn seiliedig ar ymchwil ynghylch y gwir ffigur, sy’n debygol o fod yn uwch. Mae angen rhagor o ymchwil i wybod yn sicr.

Efallai bod rhagor o ddisgyblion ag ASD mewn ysgolion nad oes ganddynt ddarpariaeth AAA nac ADY.

Ffynhonnell

4.1.2 Cyfraddau awtistiaeth mewn cofnodion gofal iechyd dienw, Cymru [Data gweinyddol]

Defnyddiodd Prifysgol Caerdydd Gyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), sef e-garfan ddienw a oedd yn cynnwys data cofnodion gofal iechyd, i lunio amcangyfrifon o gyffredinrwydd a mynychder achosion cofnodedig o awtistiaeth ar gyfer pob oedran rhwng 2001 a 2016.

Gwelir bod nifer yr achosion cofnodedig newydd o awtistiaeth wedi cynyddu o 0.188 fesul 1,000 o flynyddoedd unigolyn yn 2001 i 0.644 fesul 1,000 o flynyddoedd unigolyn yn 2016.

Roedd cyfradd gyffredinrwydd gyffredinol awtistiaeth mewn cofnodion gofal iechyd yn 0.51% yn 2016. Mae’r ganran hon yn is nag a awgrymir mewn arolygon o’r boblogaeth ac astudiaethau carfannau, ond mae’n debyg i amcangyfrifon eraill sy’n deillio o astudiaethau cofnodion gweinyddol.

Rhwng 2008 a 2016, gwelwyd cynnydd o fwy na 150% mewn cyfraddau diagnosio achosion newydd o awtistiaeth, gyda thuedd tuag at ragor o ddiagnosisau ymhlith pobl dros 35 oed a chynnydd wythblyg mewn diagnosisau ymhlith menywod rhwng 2000 a 2016.

Er bod nifer y bobl a gaiff eu diagnosio ag awtistiaeth yn cynyddu, awgryma’r astudiaeth hon fod cyflyrau nifer o bobl heb gael eu cydnabod gan wasanaethau gofal iechyd.

Mewn astudiaeth arall lle defnyddiwyd cofnodion gofal iechyd SAIL, amcangyfrifwyd bod 0.9% o bobl a anwyd yn y 1990au yng Nghymru wedi cael diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth erbyn iddynt gael eu pen-blwydd yn 18 oed.

Roedd gwrywod yn fwy tebygol na menywod o gael diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, gydag 1.5% o wrywod a 0.4% o fenywod wedi cael diagnosis o’r fath.

Mae cyffredinrwydd Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn debyg ar draws pob lefel amddifadedd.

Ffynonellau

4.1.3 Plant sy’n derbyn gofal a chymorth a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu)

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar ganran y plant sy’n derbyn gofal a chymorth ac sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).

Mae cyffredinrwydd ASD ymhlith plant sy’n derbyn gofal a chymorth yn llawer uwch nag ymhlith poblogaeth gyffredinol y disgyblion, fel y dangosir gan ffigurau CYBLD ac EOTAS uchod.

Cynyddodd cyffredinrwydd ASD ymhlith plant sy’n derbyn gofal a chymorth o 10% yn 2017 i 13% yn 2023.

Fodd bynnag, roedd y ganran yn uwch ymhlith gwrywod nag ymhlith menywod rhwng 2017 a 2023 (yn gynhwysol). Yn 2023, roedd canran y plant sy’n derbyn gofal a chymorth ac sydd ag ASD yn 17% ymhlith gwrywod a 7% ymhlith menywod.

Ffynhonnell

Ffigur 6: Cyfran y plant sy’n derbyn gofal a chymorth ac sydd ag ASD, Cymru, 2017 i 2023, yn ôl rhywedd

Image
Siart linell yn dangos cyfran y plant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yng Nghymru ac a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth rhwng 2017 a 2023, yn ôl rhywedd. Roedd y gyfran yn uwch ymhlith bechgyn na merched drwy gydol y cyfnod. Cynyddodd y gyfran ymhlith bechgyn o tua 14% yn 2017 i 17% yn 2023, tra cynyddodd y gyfran ymhlith merched o tua 4% i 7%. Cynyddodd cyfran Cymru gyfan o tua 10% i 13% dros yr un cyfnod.

Ffynhonnell: StatsCymru (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu)

Rhwng 2017 a 2023, cynyddodd cyfran y plant a dderbyniai ofal a chymorth, a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, ar gyfer gwrywod a menywod fel ei gilydd.

Ffigur 7: Cyfran y plant a dderbyniai ofal a chymorth, a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Cymru yn 2023, yn ôl Awdurdod Lleol

Image
Siart golofn yn dangos cyfran y plant a dderbyniai ofal a chymorth yng Nghymru ac a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yn 2023, yn ôl awdurdod lleol. Roedd y cyfrannau yn amrywio rhwng tua 3% a 28%. Cofnodwyd y cyfrannau uchaf yng Ngheredigion (tua 28%) a Chastell-nedd Port Talbot (tua 22%), a’r isaf yn Nhorfaen (tua 3%), Wrecsam a Sir Ddinbych (tua 4%). Roedd cyfrannau’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol rhwng 10% a 19%

Ffynhonnell: StatsCymru (ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu)

Yn 2023, yr Awdurdod Lleol yng Nghymru â’r gyfran uchaf o blant a dderbyniai ofal a chymorth, a chanddynt Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, oedd Ceredigion (28%). Torfaen oedd yr Awdurdod Lleol yng Nghymru â’r gyfran isaf yn 2023 (3%). 

4.1.4 Cyffredinrwydd awtistiaeth hunangofnodedig yn ôl band oedran, y DU (Ystadegau Swyddogol)

Yn 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol adroddiad ad hoc a amcangyfrifodd fod cyffredinrwydd awtistiaeth hunangofnodedig ymhlith pobl 16 i 64 oed yn y DU yn 2.9% (cyfwng hyder o 95% rhwng 2.7% a 3.1%).

Yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gofynnir i ymatebwyr:

A oes gennych unrhyw gyflyrau neu salwch corfforol neu feddyliol sy’n para neu y disgwylir iddynt bara 12 mis neu fwy?

Os ydynt yn ateb “Oes”, gofynnir iddynt wedyn nodi eu cyflwr neu eu hamhariad o restr. Mae “Awtistiaeth (gan gynnwys cyflwr sbectrwm awtistiaeth a syndrom Asperger)” yn un o’r opsiynau ymateb.

Felly, nid yw’r ystadegau hyn yn dangos cyffredinrwydd awtistiaeth yn y boblogaeth gyffredinol, ond yn hytrach ymhlith y rhai a nododd fod ganddynt gyflwr neu salwch sy’n para neu y disgwylir iddo bara 12 mis neu fwy.

Ffynhonnell

Tabl 5: Cyffredinrwydd awtistiaeth hunangofnodedig ymhlith pobl 16-64 oed â chyflyrau iechyd hirdymor, yn ôl bandiau oedran, 2020, y DU

 Amcangyfrif %Terfyn hyder isaf o 95%Terfyn hyder uchaf o 95%Sampl heb ei bwysoli
16 i 19 oed17.615.719.6294
20 i 24 oed10.18.711.5204
25 i 29 oed6.65.57.7149
30 i 34 oed3.22.54.096
35 i 64 oed0.80.71.0246
16 i 64 oed2.92.73.1989
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth

Ffigur 8: Cyffredinrwydd awtistiaeth hunangofnodedig ymhlith pobl 16-64 oed â chyflyrau iechyd hirdymor, yn ôl bandiau oedran, 2020, y DU 

Image
Siart golofn yn dangos amcangyfrif o gyffredinrwydd awtistiaeth ymhlith pobl 16 i 64 oed sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn y DU yn 2020, yn ôl grŵp oedran. Mae’r amcangyfrif yn uchaf ymhlith pobl 16 i 19 oed, tua 17.5%, ac yn gostwng yn raddol gyda chynnydd mewn oedran i lai nag 1% ymhlith pobl 35 i 64 oed.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn 2020, gostyngodd cyffredinrwydd awtistiaeth hunangofnodedig ymhlith pobl 16 i 64 oed â chyflyrau iechyd hirdymor yn y DU wrth i’r band oedran gynyddu, o 17.6% ymhlith pobl 16 i 19 oed i 0.8% ymhlith pobl 35 i 64 oed.

Efallai fod gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth ymhlith oedolion iau yn cyfrannu at y gwahaniaethau sylweddol mewn cyffredinrwydd cofnodedig yn ôl categori oedran.

Mae’n bosibl bod oedolion awtistig hŷn yn llai tebygol o gael diagnosis o awtistiaeth, yn llai tebygol o wybod digon am awtistiaeth i wneud hunanddiagnosis, neu hyd yn oed yn llai tebygol o ystyried y posibilrwydd eu bod yn awtistig. Gall fod yn anodd i oedolion gael diagnosis oherwydd eu bod wedi mynd drwy fywyd hyd yma (ysgol, perthnasoedd a chyflogaeth) heb ddiagnosis.

Ymhlith yr holl grwpiau oedran a arolygwyd, roedd geiriad y cwestiwn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwyr ystyried bod eu hawtistiaeth yn “gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol”, neu fod ganddynt gyflwr neu salwch arall, er mwyn bwrw ymlaen at y cwestiwn.

Nid oes modd penderfynu o’r ystadegau hyn a oes gwahaniaeth gwirioneddol yng nghyffredinrwydd awtistiaeth yn y boblogaeth yn ôl grŵp oedran.

4.2 Attention-Deficit Hyperactivity (ADHD)

Mae’r gyfradd ddisgwyliedig o ADHD oddeutu 1% i 2% wrth ddefnyddio diffiniad cul (NHS Digital, Lloegr, 2018), ac oddeutu 5% wrth ddefnyddio diffiniad ehangach (NICE, byd-eang, 2021).

Fodd bynnag, mae cyfrifiadau ac astudiaethau sy’n ystyried is-setiau o boblogaethau yng Nghymru (disgyblion ysgol, myfyrwyr a chleifion â chofnodion digidol yn unig) yn esgor ar ystod o gyfraddau cyffredinrwydd ADHD.

4.2.1 Pupils with ADHD and SEN or ALN provision

The increase in the percentage of pupils reported by schools (in PLASC and EOTAS) to have ADHD has been much lower than that observed for ASD.

The proportion of pupils with ADHD and SEN or ALN provision stood at 0.6% in academic year 2024 to 2025. This is lower than the proportion of pupils with ASD and SEN or ALN provision (2.5% in academic year 2024 to 2025).

4.2.2 Cyfraddau ADHD mewn cofnodion gofal iechyd dienw, Cymru (Data gweinyddol)

Mewn astudiaeth lle defnyddiwyd cofnodion gofal iechyd o SAIL, amcangyfrifwyd bod 1.4% o’r rhai a anwyd yn y 1990au yng Nghymru wedi cael diagnosis o ADHD erbyn eu pen-blwydd yn 18 oed.

Roedd gwrywod yn fwy tebygol na menywod o gael diagnosis o ADHD, gydag 2.2% o wrywod a 0.6% o fenywod wedi cael diagnosis o’r fath.

Er eu bod wedi’u paru yn ôl oedran a rhyw, roedd y rhai ag ADHD yn dod o gefndiroedd ychydig yn fwy difreintiedig na’u grwpiau rheoli cyfatebol.

Ffynonellau

4.3 Dyslecsia

Amcangyfrifir bod gan hyd at 1 o bob 10 o bobl yn y DU rywfaint o ddyslecsia.

Byddai hynny’n cyfateb i oddeutu 319,000 o bobl yng Nghymru yng nghanol 2024.

Mae data cyfyngedig ar gael am nifer y bobl sydd â dyslecsia yng Nghymru. Fodd bynnag, mae CYBLD a chyfrifiad EOTAS yn dangos bod gan 0.5% o blant yng Nghymru angen ADY neu AAA cydnabyddedig sy’n ymwneud â dyslecsia ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025 (gweler Tabl 1 a Ffigur 1). Nid yw hyn yn cynnwys data am ddisgyblion a addysgir gartref o ddewis.

Mae Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn dangos cyfraddau cyffredinrwydd hunangofnodedig o 1.2% ymhlith myfyrwyr mewn colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024 (gweler Tabl 2 a Ffigur 2).

Gall hyn olygu nad yw llawer o ddisgyblion a myfyrwyr â dyslecsia yn cael eu hadnabod.

Ceir adran yn y Fframwaith Anawsterau Dysgu Penodol presennol i helpu athrawon i adnabod dysgwyr yng Nghymru a allai fod â dyslecsia a gwneud addasiadau priodol i arferion addysgu ac amgylcheddau ysgol ac ystafell ddosbarth, fel nad yw’r dysgwyr hyn mewn perygl o fynd ar ei hôl hi o gymharu â disgyblion eraill yn eu dosbarth.

Nid oes angen diagnosis ffurfiol i sicrhau y darperir cymorth i ddysgwr pan fo angen, ac ni ddylid oedi cyn darparu cymorth wrth aros am ddiagnosis os oes modd nodi anghenion a chymorth perthnasol.

Mae’n anodd pennu dosbarthiad oedran y rhai sydd wedi cael diagnosis o ddyslecsia.

Defnyddiodd un astudiaeth ddata eilaidd o Astudiaeth Carfan y Mileniwm y DU i archwilio’r ffactorau demograffig-gymdeithasol sy’n rhagweld a yw athro neu athrawes yn adnabod plentyn fel unigolyn dyslecsig erbyn 11 oed.

Canfuwyd bod rhywedd, tymor geni, dosbarth economaidd-gymdeithasol ac incwm rhieni yn rhagfynegyddion arwyddocaol o’r label dyslecsia.

Felly, mae ffactorau nad ydynt yn ymddangos yn gysylltiedig ag agweddau clinigol dyslecsia yn dylanwadu ar ba un a gaiff plentyn ei adnabod fel unigolyn dyslecsig yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn awgrymu ei bod yn bosibl nad yw’r broses adnabod yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ar draws y boblogaeth. Ymhellach, gall olygu nad yw adnoddau cymorth yn cael eu dyrannu’n deg.

Ffynonellau

4.4 Dyscalculia

Yn ôl Cymdeithas Dyslecsia Prydain, amcangyfrifir bod gan 6% o blant, pobl ifanc ac oedolion ddyscalcwlia.

Fodd bynnag, mae cyfrifiadau ysgolion (CYBLD, EOTAS a chyfrifiadau ysgolion annibynnol) yn dangos bod gan lai na 0.1% o ddisgyblion ddyscalcwlia a darpariaeth AAA neu ADY ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Gall hyn olygu nad yw llawer o ddisgyblion â dyscalcwlia yn cael eu hadnabod.

Ffynhonnell

4.5 Dyspracsia

Credir bod dyspracsia yn effeithio ar hyd at 6% o boblogaeth y DU (sy’n cyfateb i 191,000 o bobl yng Nghymru), gyda hyd at 2% yn cael eu heffeithio’n ddifrifol.

Mae gwrywod 4 gwaith yn fwy tebygol o gael eu heffeithio na menywod.

Mae cyfrifiadau ysgolion (CYBLD, EOTAS a chyfrifiadau ysgolion annibynnol) yn dangos bod gan 0.1% o ddisgyblion ddyspracsia a darpariaeth AAA neu ADY ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Gall hyn olygu nad yw llawer o ddisgyblion â dyspracsia yn cael eu hadnabod.

Fodd bynnag, cydnabyddir bod dyspracsia yn gyflwr arwyddocaol sy’n effeithio ar blant ac oedolion yn y DU, gan gynnwys Cymru.

Ffynhonnell

5. Casgliad

Mae’n anodd pennu cyffredinrwydd cyflyrau niwroddatblygiadol penodol ledled Cymru yn fanwl gywir.

Nid oes un ffynhonnell ddata gyffredinol, megis cwestiwn perthnasol mewn cyfrifiad ar gyfer Cymru neu arolwg cenedlaethol, y gellir ei defnyddio (neu y dylid o reidrwydd ei defnyddio) ar ei phen ei hun i amcangyfrif nifer y bobl yng Nghymru sydd â phob cyflwr niwroddatblygiadol.

Yn hytrach, dim ond drwy ddefnyddio nifer o ffynonellau y gellir amcangyfrif cyffredinrwydd cyflyrau niwroddatblygiadol.

Mae pob ffynhonnell yn dangos metrigau ychydig yn wahanol. Er enghraifft, gall un ffynhonnell ymwneud â disgyblion yn unig ar sail y cyfrifiad ysgol, tra gall ffynhonnell arall ymwneud â’r boblogaeth ehangach ar sail cofnodion gofal iechyd. Mae’r ffynonellau hyn wedi’u trafod drwy gydol y papur.

Gyda’i gilydd, gellir eu defnyddio i amcangyfrif ystod ar gyfer nifer neu ganran y bobl yng Nghymru sydd â chyflwr niwroddatblygiadol.

Drwy ddeall pa mor gyffredin yw cyflyrau niwroddatblygiadol yng Nghymru, gan gynnwys eu cyffredinrwydd mewn rhanbarthau penodol ac ymhlith pobl â nodweddion gwahanol, megis oedran a rhywedd, gellir gwneud argymhellion polisi priodol i helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau i unigolion â chyflyrau niwroddatblygiadol yng Nghymru.

6. Atodiad

6.1 Ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio nifer o ffynonellau, gan gynnwys ystadegau swyddogol, gwybodaeth reoli, data gweinyddol ac ymchwil (a ddisgrifir isod). Ceir crynodeb o’r ffynonellau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn yn Nhabl A1.

Tabl A1: Crynodeb o’r ffynonellau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn

(cadwch gynnwys y tabl fel tabl – nid oes angen newid y cynnwys, heblaw am gysondeb geiriad megis ADY neu AAA yn lle ADY/AAA os ydych wedi gwneud hynny drwy weddill y ddogfen).

Diffiniadau

Ystadegau swyddogol

Ystadegau swyddogol yw ystadegau a gynhyrchir gan gyrff y Goron a sefydliadau eraill a restrir mewn Gorchymyn Ystadegau Swyddogol, ar ran llywodraeth y DU neu weinyddiaethau datganoledig.

Maent yn cynnig sail ffeithiol ar gyfer gwneud asesiadau a phenderfyniadau ynglŷn â materion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar bob lefel o gymdeithas.

Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu

Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu yw ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu. Gallant fod yn ystadegau newydd neu’n ystadegau sy’n bodoli eisoes, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr, yn unol â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Tan fis Medi 2023, fe’u gelwid yn ystadegau arbrofol.

Data gweinyddol

Data gweinyddol yw gwybodaeth a gaiff ei chreu pan fydd pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion, y GIG, y llysoedd neu’r system fudd-daliadau, ac a gaiff ei chasglu gan y llywodraeth.

Rhaid i’r cyrff cyhoeddus hyn gadw cofnodion o’r rhyngweithiadau hyn at ddibenion gweithredol er mwyn:

  • galluogi eu gwaith o ddydd i ddydd
  • monitro a gwella eu perfformiad
  • parhau i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol

Gwybodaeth reoli

Gwybodaeth reoli yw data neu ystadegau a gesglir ac a ddefnyddir i fesur perfformiad mewn meysydd busnes penodol, ac i ysgogi gwelliannau pan fo angen.

Ffynonellau