Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn i hysbysu’r Aelodau bod Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), Ruth Glazzard, wedi cael ei ail-phenodi i’r swydd. Bydd tymor nesaf Ruth Glazzard yn para tan Hydref 2030.
Bydd y penodiad yn rhoi arweinyddiaeth barhaus wrth i ACC baratoi i lansio Cofrestriad Cenedlaethol Llety Ymwelwyr ym mis Hydref eleni, ac i weithredu Ardoll Ymwelwyr ar ran Awdurdodau Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ruth am ei hymrwymiad parhaus i ACC.
