Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Nofio Ysgol, rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn cefnogi plant i ddatblygu hyder yn y dŵr, eu gallu i nofio a sgiliau hanfodol o ran diogelwch dŵr drwy gynnig cenedlaethol cyson a ddarperir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion, Nofio Cymru a phartneriaid allweddol eraill.

Mae'r rhaglen yn ymateb i'r ymrwymiad i ddarparu profiad nofio sylfaenol i ddisgyblion ysgol yng Nghymru, sy'n cynnwys 20 o wersi nofio a diogelwch yn y dŵr i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 4 a 5. Mae hefyd yn cefnogi blaenoriaethau ehangach ynghylch iechyd, chwaraeon, diogelwch y cyhoedd, atal boddi, mynediad teg, a disgwyliad y Cwricwlwm i Gymru y dylai dysgwyr gael profiad yn y dŵr ac o'i gwmpas.

Pam mae angen y rhaglen

Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth nofio mewn ysgolion yn anghyson ledled Cymru. Nid yw tua 19% o ysgolion cynradd a gynhelir yn darparu gwersi, a dim ond 13% o blant dan 11 oed sy'n cymryd gwersi nofio allgyrsiol, sy'n golygu bod llawer o ddisgyblion yn dibynnu ar ddarpariaeth ysgol i ddatblygu cymhwysedd dŵr. Mae data Nofio Cymru ar gyfer 2024 i 2025 yn dangos, o'r oddeutu 182,000 o ddisgyblion oedran cynradd sy'n gymwys ar gyfer nofio ysgol, bod tua 66,000 wedi cymryd rhan yn y ddarpariaeth, gyda 25,945 yn ennill Gwobr Aur Nofio Ysgol.

Mae Gwobr Aur Nofio Ysgol yn cynnwys neidio i'r dŵr mewn dillad, nofio mewn dillad am 25 metr, 30 eiliad o sefyll yn yr unfan mewn dŵr wrth ofyn am help, ac adnabod pedair neges ddiogelwch dŵr allweddol. Fe'i bwriedir fel safon hunan-achub sy'n helpu i asesu a oes gan blentyn y sgiliau i oroesi mewn dŵr.

Ymhlith y rhwystrau allweddol i nofio ysgol cyson mae costau trafnidiaeth, cynigion lleol anghyson, eglurder cyfyngedig ar y ddarpariaeth, gwelededd y cwricwlwm, ac anghenion mynediad ychwanegol i ddysgwyr anabl a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anghenion gofal iechyd. Mae trafnidiaeth wedi'i nodi gan Nofio Cymru fel y prif rwystr.

Nodau'r rhaglen

Bydd yr adolygiad yn ceisio:

  • gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr, hyder mewn dŵr a chymhwysedd nofio sylfaenol
  • cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith plant mewn grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol
  • cefnogi canlyniadau iechyd ataliol, gan gynnwys lefelau gweithgarwch ymhlith plant
  • lleihau anghydraddoldeb o ran mynediad at addysg nofio a diogelwch dŵr, gan gynnwys i ddysgwyr anabl, disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu anghenion gofal iechyd, dysgwyr cyfrwng Cymraeg a disgyblion mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd o amddifadedd uchel

Y cynnig cenedlaethol

Bydd Nofio Ysgol yn darparu dull cenedlaethol cyson, gyda chynnig craidd, safonau ansawdd, gofynion data a disgwyliadau adrodd. Y cynnig sylfaenol arfaethedig yw 20 o wersi nofio i bob disgybl, wedi'u targedu at ddisgyblion ar draws Blynyddoedd 4 a 5. Y model cyflawni a argymhellir yw 10 awr y flwyddyn ym Mlwyddyn 4 a Blwyddyn 5, gyda gwers o 45 munud o leiaf, a chaniatáu hyblygrwydd ar draws Blynyddoedd 3 i 6 lle mae'r gofynion leol yn gofyn amdano.

Bydd y rhaglen yn cynnwys ffocws ar ddiogelwch dŵr, hyder mewn dŵr a chymhwysedd nofio sylfaenol. Bydd hefyd yn cynnwys un sesiwn pwll Swim Safe Cymru, adnoddau dosbarth Diogelwch Dŵr Cymru wedi'u halinio â'r Cwricwlwm i Gymru, cymorth ar gyfer costau trafnidiaeth, darpariaeth ddwyieithog, a darpariaeth hygyrch a theg i ddysgwyr anabl a disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu anghenion gofal iechyd.

Mae'r model polisi yn gynnig cyffredinol gyda chefnogaeth ychwanegol wedi'i dargedu. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl ddisgyblion cymwys yn cael eu cynnwys yn y cynnig cenedlaethol, gyda chymorth ychwanegol wedi'i gyfeirio at ddisgyblion, ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fynediad neu gyrhaeddiad, gan gynnwys trafnidiaeth, gwledigrwydd, amddifadedd, darpariaeth cyfrwng Cymraeg, Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth dal i fyny.

Model cyflawni

Y model cyflawni yw cyllid grant uniongyrchol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, gyda chefnogaeth Nofio Cymru fel arweinydd y rhaglen genedlaethol. Mae'r model hwn yn cydbwyso cysondeb cenedlaethol â chyfrifoldebau lleol ar gyfer ymgysylltu ag ysgolion, trafnidiaeth, mynediad i byllau nofio a chapasiti darparwyr. Mae hefyd yn caniatáu i'r rhaglen gael ei chyflwyno fesul cam er mwyn profi a mireinio'r dull cyn ei gyflwyno'n ehangach.

Bydd Nofio Cymru yn cefnogi rheoli'r rhaglen genedlaethol, sicrhau ansawdd, datblygu'r gweithlu, casglu data, adrodd, hyfforddi, cyfathrebu, deunyddiau DPP, tystysgrifau, a darpariaeth i helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei eithrio oherwydd diffyg dillad nofio.

Amserlen gweithredu fesul cam

Cam 1: y cam braenaru, blwyddyn academaidd 2026 i 2027

Bydd Cam 1 yn sefydlu'r cynnig cenedlaethol cyson, yn seiliedig ar 20 gwers fesul disgybl, mewn hyd at naw ardal awdurdod lleol o fis Medi 2026 ymlaen. Bydd y cam braenaru yn profi'r dull gweithredu ar draws gwahanol gyd-destunau Cymreig er mwyn dysgu gwersi cyn ei gyflwyno'n ehangach.

Cam 2: ehangu, blwyddyn academaidd 2027 i 2028

Bydd Cam 2 yn ehangu'r rhaglen o fis Medi 2027, gan gwmpasu cyfanswm o hyd at 16 ardal awdurdod lleol. Bydd dysgu o'r cam braenaru yn cael ei ddefnyddio i wella cysondeb, ansawdd, cynllunio'r gweithlu a threfniadau cyflenwi lleol.

Cam 3: cyflwyno'n genedlaethol, blwyddyn academaidd 2028 i 2029

Bydd Cam 3 yn ymestyn y rhaglen i bob un o'r 22 ardal awdurdod lleol, a fydd yn golygu bod y rhaglen ar waith yn genedlaethol. Yn ystod y cam hwn, bydd partneriaid yn parhau i fonitro cyfranogiad, canlyniadau ac effaith, ac ymgorffori gwelliant parhaus yn lleol ac yn genedlaethol trwy ddata ac adborth

Llywodraethu

Bydd Bwrdd Rhaglen yn cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith o ddylunio, gweithredu a chyflawni'r rhaglen. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o dimau polisi Llywodraeth Cymru, Nofio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill.

Bydd Bwrdd y Rhaglen yn pennu'r cynnig craidd, safonau ansawdd, gofynion data a disgwyliadau adrodd.

Monitro, adrodd a gwerthuso

Bydd y rhaglen yn defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i ddarparu sicrwydd ar gyflawni, gwerth am arian ac effaith. Bydd y dangosyddion hyn yn cwmpasu argaeledd, cyflawni'r cynnig o 20 gwers, cyrhaeddiad, tegwch, ansawdd, cost effeithlonrwydd a'r dysgu o Gam 1. Cynhelir gwerthusiad o Gam 1 a fydd yn cael ei ddefnyddio i fireinio'r cynllun cyflwyno ar gyfer camau dilynol.

Cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth

Bydd y rhaglen yn cael ei chynllunio i gefnogi mynediad a chanlyniadau teg. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar ddysgwyr anabl, disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu anghenion gofal iechyd, dysgwyr cyfrwng Cymraeg, disgyblion mewn ardaloedd gwledig, ac ysgolion neu gymunedau sy'n profi amddifadedd. Bydd asesiad effaith cydraddoldeb cychwynnol yn cael ei gynnal yn ystod Cam 1, gydag asesiad parhaus yn ystod y flwyddyn fraenaru. Bydd y rhaglen hefyd yn monitro dangosyddion tegwch trwy gydol y broses weithredu.

Gweithlu ac ansawdd

Bydd Nofio Cymru yn cefnogi datblygu'r gweithlu, hyfforddiant a sicrhau ansawdd. Bydd hyn yn cynnwys nodi bylchau capasiti, cefnogi datblygiad athrawon nofio, a darparu hyfforddiant ychwanegol i helpu staff ysgol i ymgysylltu â gwersi a chefnogi disgyblion yn effeithiol. Bydd y gwaith o gynllunio'r gweithlu hefyd yn ystyried argaeledd hyfforddwyr a staff sy'n siarad Cymraeg sy'n gallu cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Trafnidiaeth, cyfleusterau a chyflawni'n lleol

Mae trafnidiaeth wedi'i nodi fel rhwystr mawr i ddarparu nofio ysgol yn gyson. Bydd y rhaglen felly'n cynnwys cymorth ar gyfer costau trafnidiaeth, ochr yn ochr ag ymgysylltu cynnar ag awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth i archwilio atebion trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae argaeledd pyllau nofio a chapasiti cyfleusterau hefyd yn ddibyniaeth sylweddol. Bydd y rhaglen yn cynnwys asesiadau o barodrwydd awdurdodau lleol, comisiynu amser pwll yn gynnar ac ymgysylltu â darparwyr hamdden i nodi materion sy'n peri pryder cyn y broses gyflwyno.

Mae'r rhaglen yn gysylltiedig â gwaith ehangach ar archwilio cyfleusterau chwaraeon.

Cerrig milltir o ran gweithredu

Haf 2026: y gwaith paratoi

Allbynnau allweddol

Sefydlu'r trefniadau llywodraethu, nodi'r awdurdodau lleol braenaru, paratoi'r fframwaith cyflawni, trefniadau grant, disgwyliadau data a chyfathrebiadau.

Medi 2026: cam 1 yn dechrau

Allbynnau allweddol

Y broses weithredu yn dechrau mewn hyd at naw awdurdod lleol braenaru.

Blwyddyn academaidd 2026 i 2027: y cam braenaru - profi

Allbynnau allweddol

Cymorth i'r gweithlu, cynllunio trafnidiaeth, asesu cydraddoldeb a llwyth gwaith, adborth disgyblion a mesur effaith.

2027: gwerthuso cam 1

Allbynnau allweddol

Cwblhau gwerthusiad a'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i fireinio Cam 2.

Medi 2027: cam 2 yn dechrau

Allbynnau allweddol

Ehangu'r rhaglen i hyd at 16 ardal awdurdod lleol i gyd.

Medi 2028: cam 3 yn dechrau

Allbynnau allweddol

Ehangu'r rhaglen i bob un o'r 22 ardal awdurdod lleol.

Blwyddyn academaidd 2028 i 2029: y rhaglen ar waith yn genedlaethol

Allbynnau allweddol

Monitro, gwerthuso a gwelliant parhaus yn cael ei ymgorffori ledled Cymru.