Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2026 (WGC 007/2026)
Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at reoliadau a gaiff eu llunio i gywiro materion technegol a hepgoriadau mewn rheoliadau adeiladu a rheoliadau cysylltiedig.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 007/2026
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2026
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2026
Cyhoeddwyd gan: Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheolaeth Adeiladu
At sylw:
Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas y Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd
Crynodeb: Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu sylw at reoliadau a gaiff eu llunio i gywiro materion technegol a hepgoriadau mewn rheoliadau adeiladu a rheoliadau cysylltiedig.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Llinell uniongyrchol: 0300 062 5223
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cyflwyniad
- Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn imi dynnu eich sylw at y newidiadau a gyflwynir gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2026 sy'n dod i rym ar 20 Gorffennaf 2026.
- Diben y Cylchlythyr hwn yw tynnu eich sylw at yr is-ddeddfwriaeth newydd a chyflwyno'r newidiadau a ddaw yn ei sgil.
- Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau teipio a hepgoriadau yn y rheoliadau canlynol:
- Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010,
- Rheoliadau Adeiladu 2010,
- Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024,
- Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024,
- Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025, a
- Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.
- Nodwyd rhai o'r mesurau gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar ôl i Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 a Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 gael eu gwneud. Mae diwygiadau eraill yn mynd i'r afael â hepgoriadau mewn perthynas â chynlluniau codi tâl awdurdodau lleol.
Cwmpas y cylchlythyr hwn
- Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i bob rhanddeiliad sy'n ymwneud â gwaith adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys:
- Dylunwyr, contractwyr, a phobl sy'n cael gwaith adeiladu wedi'i wneud (cleientiaid)
- Awdurdodau lleol
- Cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu
- Awdurdodau gorfodi diogelwch tân
- Yr ymgymerwr carthffosiaeth
- Mae'n amlinellu'r darpariaethau allweddol a gyflwynir gan y Rheoliadau.
Darpariaethau Allweddol a Gyflwynir
Rheoliad 2 – Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010
- Mae'r rheoliad hwn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010. Mae'n diweddaru darpariaethau sy'n ymwneud â thaliadau cynlluniau a thaliadau arolygu fel eu bod yn berthnasol nid yn unig i geisiadau o dan Reoliadau Adeiladu 2010 ond i geisiadau a wneir o dan Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025 hefyd.
- Mae'r rheoliad hefyd yn gwneud diwygiadau i sicrhau bod amseriad a dilysrwydd ceisiadau yn adlewyrchu'n briodol y gofyniad i wneud taliadau.
- Yn ogystal, gwneir mân ddiwygiadau i gael gwared ar hen derminoleg a sicrhau cysondeb â newidiadau diweddar eraill i'r fframwaith rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Rheoliad 3 – Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010
- Mae'r rheoliad hwn yn gwneud cyfres o ddiwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010. Mae'r rhain yn cynnwys cywiriadau i derminoleg, dileu cyfeiriadau at ddiwrnodau “gwaith” nad oedd eu hangen, a mân addasiadau drafftio i wella eglurder a chysondeb.
- Mae'r diwygiadau hefyd yn cywiro croesgyfeiriadau o fewn Rheoliadau Adeiladu 2010 ac yn diweddaru rhai darpariaethau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â newidiadau deddfwriaethol diweddar i'r gyfundrefn rheolaeth adeiladu.
- Mae diwygiadau eraill yn cynnwys mân newidiadau i eiriau i sicrhau cysondeb iaith yn Rheoliadau Adeiladu 2010 ac i egluro sut y bwriedir i ddarpariaethau penodol weithio.
- At ei gilydd, mae'r diwygiadau'n dechnegol eu natur a'u bwriad yw sicrhau bod Rheoliadau Adeiladu 2010 yn gweithredu fel y bwriadwyd o fewn y fframwaith deddfwriaethol diwygiedig.
Rheoliad 4 – Diwygiad i Reoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024
- Mae'r rheoliad hwn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024. Mae'n cywiro cyfeiriad yn y swyddogaeth gyfyngedig sy'n ymwneud â phenderfynu ar geisiadau am dystysgrif cwblhau o dan Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.
- Mae'r diwygiad hwn yn sicrhau bod Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 yn adlewyrchu'n gywir gwmpas y swyddogaethau y bwriedir iddynt gael eu cyfyngu o fewn y gyfundrefn rheolaeth adeiladu.
Rheoliad 5 – Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024
- Mae'r rheoliad hwn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024. Mae'n mewnosod diffiniadau ychwanegol yn rheoliad 2 i sicrhau bod termau allweddol a ddefnyddir ar draws y fframwaith rheolaeth adeiladu yn cael eu diffinio'n gyson, gan gynnwys termau sy'n deillio o Ddeddf Adeiladu 1984.
- Mae diwygiadau eraill yn cywiro terminoleg, yn diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf Adeiladu 1984, ac yn gwneud mân newidiadau drafftio i wella eglurder a chysondeb. Mae hyn yn cynnwys diwygiadau i ffurflenni ac atodlenni i sicrhau bod y geiriad yn gyson â diwygiadau diweddar i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac yn adlewyrchu terminoleg newydd.
- At ei gilydd, mae'r diwygiadau hyn yn dechnegol eu natur er mwyn sicrhau cysondeb wrth ddrafftio ar draws rheoliadau adeiladu.
Rheoliad 6 – Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025
- Mae'r rheoliad hwn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025. Mae'n cywiro cyfeiriadau at Ddeddf Adeiladu 1984 ac yn symud darpariaethau deongliadol ar gyfer Rhan 4 o'r Rheoliadau hynny, gan gynnwys diffiniadau o dermau allweddol fel “hysbysiad adeiladu”, “planiau”, a “hysbysiad cychwynnol”, i'w rheoliad eu hunain er mwyn gwella eglurder.
- Mae'r diwygiadau'n dechnegol eu natur a'u bwriad yw gwella eglurder a chysondeb â deddfwriaeth arall.
Rheoliad 7 – Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025
- Mae'r rheoliad hwn yn gwneud amrywiaeth o ddiwygiadau i Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.
- Mae'n ychwanegu ac yn diwygio diffiniadau yn rheoliad 2, gan gynnwys diwygio'r diffiniad o “ceisydd” a symud y diffiniad o “gwybodaeth am ddiogelwch tân”, er mwyn egluro eu cwmpas a'u cymhwysiad o fewn y Rheoliadau, heb newid eu hystyr bwriadedig.
- Gwneir mân ddiwygiadau drwy gydol y Rheoliadau i gywiro gwallau drafftio, gan gynnwys mewnosod neu ddileu geiriau, cywiro croesgyfeiriadau, a diwygiadau i'r testun Cymraeg lle bo angen. At ei gilydd, mae'r diwygiadau'n dechnegol eu natur a'u bwriad yw gwella eglurder a chysondeb â deddfwriaeth arall.
Rhagor o wybodaeth
- Mae'r Memorandwm Esboniadol llawn a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gael ar Wefan y Senedd. Anogir rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r gofynion newydd a pharatoi i'w rhoi ar waith.
- Mae'r Rheoliadau hyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y Weithdrefn Cyhoeddiad Am Ddim ac felly byddant yn cael eu rhoi am ddim i unrhyw un sydd wedi prynu copi caled o fersiwn Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025, Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 neu Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026.
Rhagor o Wybodaeth
- Mae'r Memorandwm Esboniadol llawn a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gael ar Wefan y Senedd. Anogir rhanddeiliaid i ymgyfarwyddo â'r gofynion newydd a pharatoi i'w rhoi ar waith.
- Mae'r Rheoliadau hyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y Weithdrefn Cyhoeddiad Am Ddim ac felly byddant yn cael eu rhoi am ddim i unrhyw un sydd wedi prynu copi caled o fersiwn Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru o Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025, Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 neu Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2026.
Ymholiadau
Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:
Mark Tambini
Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu
