Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Nod Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yw lleihau’r tebygolrwydd o dirlithriadau ar domenni glo a thomenni nad ydynt yn domenni glo nas defnyddir drwy sefydlu corff cyhoeddus newydd a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.

Yn gryno, mae Deddf 2025:

  • yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru (“yr Awdurdod”) fel corff corfforedig. Rhaid i’r Awdurdod arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf gyda golwg ar sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd
  • yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu, cofrestru a monitro tomenni nas defnyddir
  • yn gosod gofynion arolygu ar yr Awdurdod mewn cysylltiad â thomenni nas defnyddir, categori 1 a 2
  • yn cynnwys darpariaethau sy’n galluogi’r Awdurdod i ddelio ag ansefydlogrwydd tomen a bygythiadau i sefydlogrwydd tomen. Mae hyn yn cynnwys pwerau i’w gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau ac i’r Awdurdod gynnal gweithrediadau ei hun, a darpariaethau cysylltiedig mewn perthynas â thaliadau mewn cysylltiad â gweithrediadau o’r fath
  • yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod sefydlu a chynnal gwefan
  • yn cynnwys darpariaethau atodol gan gynnwys pwerau mynediad i’r Awdurdod, darpariaethau rhannu gwybodaeth a phwerau i wneud gwybodaeth yn ofynnol
  • yn creu troseddau cysylltiedig i gefnogi gorfodi’r drefn

Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Mae adran 92(1) yn darparu bod Rhan 5 o Ddeddf 2025 yn dod i rym drannoeth y Diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Felly, daeth darpariaethau Rhan 5 i rym ar 12 Medi 2025.

Mae adran 92(2) yn darparu y bydd adrannau 1, 2 a 5 ac Atodlen 1 yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027.

Yn unol ag adran 92(3), bydd holl ddarpariaethau eraill Deddf 2025 yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

Darllenwch Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025, adran 92 ar legislation.gov.uk

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2025 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 9 Rhagfyr 2024 gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Fe’i pasiwyd gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 11 Medi 2025.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025: