Trosolwg o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Diben Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 (‘Deddf 2025’) yw:
- tynnu ynghyd a ffurfioli:
- y trefniadau gweithdrefnol ar gyfer gwneud is-ddeddfwriaeth Cymru
- y gofynion ar gyfer cyhoeddi Deddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymreig, ac is-ddeddfwriaeth arall nas gwneir drwy offeryn statudol
- gwella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy:
- ddiddymu, diwygio a datgymhwyso fel arall o ran Cymru ddarpariaethau a deddfiadau nad ydynt o ddefnyddioldeb ymarferol neu o fudd mwyach
- gwneud mân ddiwygiadau i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk
Dod i rym
Mae adran 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dyfodiad Deddf 2025 i rym.
- Deddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025, adran 9 ar legislation.gov.uk
Daeth adrannau 9 a 10 i rym ar 11 Gorffennaf 2025 (drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2025 y Cydsyniad Brenhinol).
Daw adrannau 2, 4 a 7, ynghyd ag Atodlenni 1 a 2, i rym ar 10 Medi 2025.
Daw holl ddarpariaethau eraill Deddf 2025 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru, mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Mae'r Gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2025 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 21 Hydref 2024 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 20 Mai 2025 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 10 Gorffennaf 2025.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Cafodd Memorandwm Esboniadol ei lunio’n wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae hwn wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru bellach i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025:
