Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Bydd Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i godi ardoll ar ymwelwyr dros nos sy'n aros mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Bydd yr ardoll yn ddisgresiynol ei natur, gan mai mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a ddylid ei chyflwyno, ar ôl ymgynghori â'u cymunedau a busnesau lleol. Mae Deddf 2025 yn rhoi'r cyfrifoldeb i Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli'r ardoll ymwelwyr ar ran awdurdodau lleol.

Mae Deddf 2025 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru sefydlu cofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am y mathau o lety ymwelwyr a'r lleoliadau y maent yn eu gweithredu ledled Cymru. Gall Awdurdod Cyllid Cymru sicrhau bod gwybodaeth a gedwir ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2025 yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Coming into force

Mae adran 67 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dod â Deddf 2025 i rym:

Daeth Rhannau 1 a 3 (gan gynnwys Rhan 2 o Atodlen 2) a Rhan 4 i rym ar 19 Medi 2025 (y diwrnod ar ôl y Cydsyniad Brenhinol).

Daw Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 1 o Atodlen 2), a Phennod 1 o Ran 4 fel y mae'n gymwys mewn perthynas â'r gofrestr o dan Ran 2, i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig. Mae’r Gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2025 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o'r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i'r Senedd ar 25 Tachwedd 2024 gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 8 Gorffennaf 2025, a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i'w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â'r Bil. Mae'r Memorandwm hwn bellach wedi'i ddiwygio a'i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol Deddf 2025:

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

The Welsh Revenue Authority (“WRA”) collects and manages the visitor levy on behalf of local authorities that have implemented the levy in their area. Section 24A of the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 (“the 2016 Act”) sets out the WRA’s duties in relation to any levy proceeds collected on behalf of a local authority, including that the WRA must pay the proceeds to a local authority but only after it has deducted its costs and disbursements.

Section 24A(5) of the 2016 Act provides the Welsh Ministers with a power to makes regulations dealing with the deduction of the WRA’s costs and disbursements including a power to limit any deductions. The Welsh Ministers exercised this power in the Tax Collection and Management (Visitor Levy Costs) (Wales) Regulations 2026, which limit the deductions that the WRA can make to either 10% of the levy proceeds for a local authority’s area or a lower equal percentage for all local authorities if a 10% deduction for each local authority would result in deductions, when aggregated for all local authorities, exceeding the WRA’s total visitor levy operating costs.