Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’) yn sefydlu’r fframwaith statudol ar gyfer cwricwlwm i rai 3 i 16 oed – y Cwricwlwm i Gymru – sy’n seiliedig ar feysydd dysgu a phrofiad. Nodir pedwar diben cwricwlwm yn adran 2, sef galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu:

  • yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru a’r byd; 
  • yn unigolion iach a hyder us, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

Mae Deddf 2021 hefyd:

  • yn nodi’r gofynion cyffredinol y mae’n rhaid i gwricwlwm eu bodloni
  • yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau cynnydd ac asesu cysylltiedig
  • yn sefydlu continwwm dysgu ar gyfer rhai 3 i 16 oed
  • yn datgymhwyso’r gofyniad i ddysgu Saesneg hyd at 7 oed
  • yn cynnwys rhai effeithiau ar y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr uwchlaw oed ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir. 

Mae'r Crynodeb hwn o’r Bil, a luniwyd gan y Senedd, yn rhoi trosolwg defnyddiol pellach:

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 7 o’r Ddeddf  rym ar 30 Ebrill 2021, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 84(1). Mae adran 84(2) i (4) yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion

Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi’u gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n BwysigDdim yn berthnasol15 Tachwedd 2021Ddim yn berthnasolDdim yn berthnasol
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod CynnyddDdim yn berthnasol15 Tachwedd 2021Ddim yn berthnasolDdim yn berthnasol
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 17 (Cy. 9)7 Ionawr 2022Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 hyd 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1.2022 Rhif 17 (Cy. 9): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Addysg Cyd-berthynas a RhywioldebDdim yn berthnasol25 Ionawr 2022Ddim yn berthnasolDdim yn berthnasol
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 111 (Cy. 39)7 Chwefror 20228 Mawrth 20222022 Rhif 111 (Cy. 39): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth)(Rhif 1) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 666 (Cy. 149)14 Mehefin 2022Rheoliadau 1 a 2 mewn grym o 1 Medi 2022, a daw rheoliadau 3 i 13 i rym fel y nodir yn rheoliadau 3(2), 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2), 10(2), 11(2), 12(2) a 13(2).2022 Rhif 666 (Cy. 149): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 ar legislation.gov.uk  2022 Rhif 679 (Cy. 155)15 Mehefin 2022Rhan 1 o’r Rheoliadau – 1 Medi 2022 
Rhan 2 o’r Rheoliadau – fel y nodir yn y rheoliadau unigol
2022 Rhif 679 (Cy. 155): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 20222022 Rhif 676 (Cy. 153)15 Mehefin 2022Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 i 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1.2022 Rhif 676 (Cy. 153): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk  2022 Rhif 670 (Cy. 150)15 Mehefin 2022Daw’r Rheoliadau i rym ar wahanol adegau i wahanol grwpiau o ddisgyblion (o 1 Medi 2022 i 1 Medi 2026) – gweler rheoliad 1.2022 Rhif 670 (Cy. 150): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Nodyn Esboniadol a Chyfarwyddyd o dan Adran 57 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021Ddim yn berthnasol23 Mehefin 20229am ar 24 Mehefin 2022Ddim yn berthnasol
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 744 (Cy. 161)29 Mehefin 20221 Medi 20222022 Rhif 744 (Cy. 161): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth)(Rhif 3) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 758 (Cy. 164)4 Gorffennaf 2022    1 September 2022, but regulations 7(4), 9(2) (3), 10(3), (5), (7), (8), 11(4), 13(3), 14(3), 15(2) (3), 16(2) (3), 17(2), 19(2) and (3) specify the dates on which specific provisions of Part 2 of these Regulations come into force2022 Rhif 758 (Cy. 164): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024 ar legislation.gov.uk2024 Rhif 607 (Cy. 86)9 Mai 20241 Medi 2024 2024 Rhif 607 (Cy. 86): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg (ar y pryd) ar 6 Gorffennaf 2020 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2021.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021.