Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae ymgynghoriad ar fin dechrau ar y Fframwaith Safonau Iechyd diwygiedig ar gyfer GIG Cymru ar 3 Tachwedd am gyfnod o 12 wythnos, gan ddod i ben ar 26 Ionawr 2015 gyda lansiad y Safonau Iechyd newydd a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill 2015. I gyd-fynd â hyn bydd canllawiau ategol ar gyfer pob safon a fydd ar gael ar wefan e-Lawlyfr Llywodraethu GIG Cymru. Mae’r Safonau Iechyd yma yn cydnabod pwysigrwydd partneriaeth gyfartal rhwng y rhai sy’n darparu gwasanaeth a’r rhai sy’n derbyn gwasanaeth.

Ar 9 Gorffennaf 2013 ymrwymais yn ‘Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol’, i adolygu a diweddaru’r Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well’ (2010) a’r Safonau Hanfodion Gofal (2003).

Rwy’n falch bod y Fframwaith Safonau Iechyd diwygiedig, sy’n destun ymgynghori, wedi cael ei ddatblygu yn dilyn proses eang yn ymwneud ag adolygu tystiolaeth ryngwladol a chenedlaethol ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol. Mae’r broses hon yn cael ei goruchwylio gan Fwrdd Prosiect, dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Nyrsio, ac yn cael cefnogaeth Tîm Prosiect gydag aelodaeth o sefydliadau ledled Cymru. Roedd cam un yr ymarfer ymgysylltu yn cynnwys holiadur. Dosbarthwyd hwn ymysg rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru rhwng 4 Ebrill ac 13 Mai. Gwahoddwyd ymatebwyr i roi eu sylwadau ar y safonau cyfredol ac i wneud cynigion ar yr hyn yr hoffent ei weld yn y safonau diwygiedig. Roedd cam dau yn cynnwys tri o ddigwyddiadau ymgysylltu. Roedd 182 o gynrychiolwyr yn bresennol yn y digwyddiadau hyn ledled Cymru, gan gynrychioli gofal iechyd, gofal cymdeithasol, y sector gwirfoddol, arolygiaethau, rheoleiddwyr, a chyrff sy’n cynrychioli cleifion.

Mae saith o themâu ansawdd yn y Fframwaith Safonau Iechyd diwygiedig. Fe’u datblygwyd yn wreiddiol yn dilyn y Digwyddiadau Dweud eich Dweud am Ofalu yn 2013, a oedd yn rhan o raglen a oedd yn holi pobl am yr hyn oedd yn bwysig iddynt hwy yn eu gwasanaethau iechyd. O dan y themâu hyn ceir 24 o safonau.

Bydd ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn gallu gweld y dogfennau ymgynghori ar lein, ac anfon ymatebion naill ai mewn e-bost neu’n rhadbost.