Cyfarfod y Cabinet: 1 Mehefin 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 1 Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd)
- Sioned Williams AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Anna Brychan AS
- Heledd Fychan AS
- Llŷr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
- Adam Price AS
- Dafydd Trystan Davies AS
- Y Gwir Anrhydeddus Elfyn Llwyd
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol
- Carwyn Wycherley, Dirprwy Bennaeth Swyddfa’r Cabinet
- Aled ap Dafydd, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Emily Edwards, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Elin Roberts, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Francess Ifan, Uwch-gynghorydd Arbennig
- Cai Elis, Cynghorydd Arbennig
- Luke Fletcher, Cynghorydd Arbennig
- Jonathan Evershed, Cynghorydd Arbennig
- Lewis Owen, Cynghorydd Arbennig
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Katie Mason, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Tom Nicholls, y Prif Economegydd (Eitem 3)
- Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Polisi a Strategaeth Economaidd (Eitem 4)
- Claire McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd (Eitem 4)
Eitem 1: Eitemau’r Prif Weinidog
1.1 Croesawodd y Prif Weinidog y Cabinet a nododd y croeso a’r awyrgylch gwresog yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn yr wythnos flaenorol, ynghyd â’r drafodaeth Cabinet ddefnyddiol yn swyddfa Cyffordd Llandudno ar Gynllun y 100 Diwrnod Cyntaf.
1.2 Diolchodd y Prif Weinidog i Aelodau’r Cabinet am eu hymatebion amserol ar gyfer busnes y Cabinet a’r Cyfarfodydd Llawn.
1.3 Nodwyd sut y byddai’r misoedd nesaf hyn yn hanfodol i wneud cynnydd ar amcanion Cynllun y 100 Diwrnod Cyntaf.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Nododd y Trefnydd y busnes ar gyfer y diwrnod canlynol, yn unol â Grid y Cyfarfodydd Llawn a gylchredwyd gyda phapurau’r Cabinet.
2.2 Byddai’r datganiadau cyntaf o flaenoriaethau’r Gweinidogion yn cael eu gwneud y diwrnod canlynol.
2.3 Nodwyd y byddai cwestiynau llafar a phrynhawn llawn o fusnes y gwrthbleidiau yn dechrau’r dydd Mercher canlynol, ac y byddai cwestiynau llafar a chynigion ar gyfer dadleuon y gwrthbleidiau yn cael eu cyhoeddi nos Fercher yr wythnos honno.
2.4 Nodwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd. Felly, gofynnwyd i’r Gweinidogion wneud pob ymdrech i ymateb o fewn y targed o 8 diwrnod gwaith.
Eitem 3: Diweddariad arbenigol gan y Prif Economegydd ar gyflwr economi Cymru
3.1 Croesawodd y Prif Weinidog Tom Nicholls, y Prif Economegydd i’r cyfarfod a’i wahodd i gyflwyno ei ddadansoddiad o gyflwr economi Cymru.
3.2 Ar y cyfan, roedd y sefyllfa yn dangos bod Cymru yn dilyn tueddiadau economaidd y DU yn gyffredinol; fodd bynnag, roedd rhai materion heriol yn wynebu Cymru o ran cynhyrchiant is a safonau byw cymharol wannach.
3.3 Er bod perfformiad y farchnad lafur yn parhau i fod yn gryf yn ôl safonau hanesyddol, roedd yn gwanhau ar hyn o bryd, gydag anweithgarwch yn parhau i fod yn gymharol uchel.
3.4 Mae’n debygol y byddai cyfyngiadau parhaus ar gyllid cyhoeddus heb welliannau parhaus yng nghynhyrchiant neu gyfranogiad y DU.
3.5 Roedd nifer o bwysau strwythurol, gan gynnwys y rhai a achoswyd gan ddemograffeg poblogaeth sy’n heneiddio, ochr yn ochr ag effeithiau parhaus newid hinsawdd, a oedd yn debygol o ddwysáu dros y degawd nesaf.
3.6 Er bod cwmpas cyfyngedig i Lywodraeth Cymru newid y llwybr twf yng Nghymru yn sylweddol dros y tymor byr, roedd dewisiadau polisi y gellid eu gwneud. Gallai’r rhain lywio canlyniadau tymor canolig drwy gynyddu cyfranogiad a sgiliau, cefnogi buddsoddiad a lledaenu cynhyrchiant, a blaenoriaethu o fewn amlen gyllidol gyfyngedig.
3.7 Nodwyd pa mor ddwfn oedd Cymru wedi’i gwreiddio yn economïau ehangach y DU a’r byd, gyda gwerthiannau a phryniannau busnes-i-fusnes yn y DU ac yn rhyngwladol yn ffurfio rhan sylweddol o’r fasnach flynyddol.
3.8 Roedd cynhyrchiant yng Nghymru wedi bod yn gyson is na chyfartaledd y DU, gyda Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yr awr a weithiwyd yng Nghymru yn debyg i Ogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr, a oedd hefyd wedi tanberfformio o’i gymharu â gweddill y DU.
3.9 Roedd y dystiolaeth yn datgelu bod twf mewn allbwn economaidd a safonau byw wedi arafu’n sylweddol ers yr argyfwng ariannol yn 2008, gydag alldro yn parhau’n sylweddol is na’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r argyfwng wedi digwydd, ac yna hyd yn oed yn is ers Covid-19.
3.10 Roedd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) y pen rhwng 1998 a 2023 yn dangos bod Cymru wedi perfformio’n debyg i wledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr dros y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, roedd gan Gymru gyfansoddiad sectoraidd gwahanol i’r DU, gyda chyfrannau allbwn economaidd cymharol uwch mewn rhai sectorau megis gweithgynhyrchu, gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn; a gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol yn cynhyrchu mwy o’i gymharu â sectorau gwerth uchel eraill fel gwasanaethau ariannol ac yswiriant, TG a chyfathrebu a gwasanaethau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol.
3.11 Roedd y gyfradd cyflogaeth yn debygol o fod ar ei huchaf ar hyn o bryd, gyda rhai arwyddion o arafu graddol. Er hynny, roedd ansicrwydd yn y data ar yr adeg hon. Yn ogystal, er bod diweithdra yn gymharol isel ar hyn o bryd, roedd problemau gyda lefelau anweithgarwch yn parhau i fod yn gymharol uchel.
3.12 O ran y rhagolygon dros y deuddeg mis nesaf a’r risgiau allweddol i Gymru, roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â: chynhyrchiant a buddsoddiad gwan; cyfyngiadau ar y cyflenwad llafur, yn enwedig anweithgarwch sy’n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a chorfforol; risg pellach o siociau allanol a risgiau byd-eang, fel y rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol ac Wcráin; y pwysau a’r galw o ran aelwydydd; a pholisi cyllidol y DU a’r amgylchedd cyllido yn tynhau dros weddill tymor y Senedd hon.
3.13 Roedd nifer o bwysau strwythurol allweddol ar ragolygon economaidd Cymru, gan gynnwys demograffeg poblogaeth sy’n heneiddio a gostyngiad yng nghyfran y bobl o oedran gweithio o ganol y 2030au ymlaen. Byddai’r rhain yn arwain at bwysau ar y cyflenwad llafur a newidiadau yn y galw ar wasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal, roedd y cyd-destun cyllidol yn awgrymu cyfnod hir o gyfyngiadau cyllidol yn y DU, a oedd yn golygu twf adnoddau ariannol cyfyngedig ac o bosibl yr angen am ailflaenoriaethu a diwygio. Yn olaf, roedd newid hinsawdd yn peri heriau a risgiau sylweddol i economïau byd-eang a byddai costau pontio, waeth beth fo’r camau lliniaru a gymerir.
3.14 I grynhoi, roedd tri maes allweddol lle’r oedd cyfleoedd a chwmpas ar gyfer ymateb, gan gynnwys: gwella cynhyrchiant a chyfranogiad; trawsnewid diwydiannol gan gynnwys yn y sector ynni; a diwygio gwasanaethau cyhoeddus.
3.15 Diolchodd y Prif Weinidog i’r Prif Economegydd am ei gyflwyniad.
Eitem 4: Cenhadaeth genedlaethol ar gynhyrchiant - Cau’r Bwlch â’r DU - CAB(26-27)04
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni y papur, a oedd yn nodi’r her sy’n wynebu Cymru o ganlyniad i fwlch cynhyrchiant parhaus a dwfn ei wreiddiau yng Nghymru o’i gymharu â chyfartaledd y DU. Cynhyrchodd Cymru lai o allbwn fesul awr a weithir na chyfartaledd y DU, ac roedd y bwlch hwnnw wedi bod yn barhaus dros gyfnod hir iawn o amser. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod cynhyrchiant Cymru yn cyfateb i tua 85% o gynhyrchiant y DU, sy’n golygu bod bwlch o tua 15%.
4.2 Cafwyd tystiolaeth o genhedloedd a rhanbarthau eraill yn llwyddo i gulhau’r bwlch cynhyrchiant yn sylweddol o fewn degawd, megis yng ngogledd Iwerddon, gyda’r rhanbarth pwerdy gogledd Lloegr ym Manceinion hefyd yn perfformio’n gryf ar y metrig hwn mewn cyfnod cymharol fyr o amser.
4.3 Roedd y mater hwn yn hollbwysig i Gymru, gan mai cynhyrchiant yw’r sylfaen ar gyfer safonau byw. Mae’n sbarduno cyflogau, yn pennu gallu busnesau i gystadlu, ac yn sail i’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Heb welliant cyson mewn cynhyrchiant, ni fyddai cynnydd mewn cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yn golygu gwell canlyniadau i bobl ledled Cymru.
4.4 Roedd y rhesymau dros y bwlch hwn yn strwythurol ac yn barhaus eu natur, yn hytrach nag yn rhai tymor byr, gan gynnwys lefelau is o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu gan fusnesau o gymharu â chyfartaledd y DU. Roedd cwmnïau bach yn amlwg iawn yn y sylfaen fusnes, ond dim ond ychydig ohonynt oedd â’r gallu i ehangu a thyfu. Gwelwyd hefyd fod lefelau mwy anwastad o arloesi a mabwysiadu technolegau newydd, a hynny o fewn cyd-destun o gyfyngiadau hirsefydlog mewn meysydd megis cynllunio, seilwaith, cysylltedd, ynni a mynediad at gyllid.
4.5 Law yn llaw â hyn, roedd daearyddiaeth economaidd Cymru yn cyflwyno heriau ychwanegol, gyda chysylltedd gwannach mewn rhai rhannau o Gymru, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig ac ôl-ddiwydiannol, a oedd yn cyfyngu ar fynediad at farchnadoedd llafur, cadwyni cyflenwi a chwsmeriaid. O ganlyniad, roedd hyn yn lleihau gallu cwmnïau a gweithwyr i elwa ar gyfleoedd i ehangu a chydgrynhoi. Yn bwysig, roedd cyfran fawr o’r bwlch yn adlewyrchu gwahaniaethau mewn perfformiad ar lefel cwmnïau, o ran pa mor effeithiol yr oedd busnesau yn defnyddio eu cyfalaf, eu sgiliau a’u harloesedd, yn hytrach na dim ond arbenigeddau y sectorau hynny.
4.6 Goblygiad hyn oedd y byddai angen mwy nag un math o ymyrraeth i wella cynhyrchiant. Byddai angen canolbwyntio’n fwy cyson ac yn fwy bwriadol ar sbardunau craidd perfformiad economaidd, megis buddsoddi, arloesi, sgiliau a gweithrediad lleoedd. Byddai hynny’n golygu helpu cwmnïau i fuddsoddi ac ehangu, gwella sut y caiff technolegau newydd eu mabwysiadu, alinio sgiliau â gweithgarwch uwch ei werth, a chryfhau cysylltedd a’r amodau a fyddai’n caniatáu i fusnesau weithredu’n effeithiol.
4.7 Yn y bôn, roedd yr holl waith hwn yn fater traws-lywodraethol, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud ar draws portffolios, boed hynny ym meysydd sgiliau, trafnidiaeth, cynllunio, tai, iechyd neu bolisi rhanbarthol. Roedd pob un o’r penderfyniadau hynny yn llywio i ba raddau yr oedd pobl yn gallu cymryd rhan yn y farchnad lafur, sut yr oedd cwmnïau’n perfformio, a sut yr oedd lleoedd yn gweithredu’n economaidd. Gyda’i gilydd, roedd y penderfyniadau hyn yn pennu'r canlyniadau cyffredinol o ran cynhyrchiant.
4.8 Y cynnig oedd i’r Llywodraeth ymrwymo i fabwysiadu cenhadaeth genedlaethol o ran cynhyrchiant ynghyd â nod i haneru’r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a’r DU, wedi’i fesur yn ôl GVA fesul awr a weithir. Yn ogystal, y cynnig oedd i’r Llywodraeth sicrhau ei bod yn llawer mwy eglur a chyson o ran sut yr ystyrir cynhyrchiant wrth wneud penderfyniadau. Byddai hynny’n golygu bod yn fwy clir ynghylch y canlyniadau y ceisir eu cyflawni, canolbwyntio ar yr effeithiau yn hytrach na’r gweithgarwch, a sicrhau bod penderfyniadau polisi a gwario yn cyd-fynd â gwella perfformiad economaidd dros y tymor hir.
4.9 Roedd hefyd yn bwysig bod yn glir am natur yr her, a oedd yn hirdymor ac yn strwythurol. Byddai’r cynnydd yn raddol, a gellir canlyniadau cael eu dylanwadu gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth ddatganoledig. Roedd hyn yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi ar waith ddull gweithredu disgybledig a chyson dros amser a chryfhau'r ffordd y caiff cynnydd ei fonitro, gan gynnwys drwy well defnydd o ddangosyddion canolraddol fel buddsoddi, twf cwmnïau, a defnyddio sgiliau.
4.10 Nodwyd y byddai datganiad llafar yn cael ei wneud y diwrnod olynol, a fyddai’n cadarnhau bwriad y Llywodraeth i fwrw ati â’r genhadaeth hon a’r amcan.
4.11 Y nod yn y pen draw oedd codi perfformiad sylfaenol economi Cymru, a gwella cynhyrchiant oedd yr ateb i hynny. Tros amser, byddai’n arwain at sicrhau cyflogau uwch, busnesau cryfach a chyllid cyhoeddus mwy cynaliadwy.
4.12 Nododd y Cabinet argymhellion y papur a chytuno arnynt.
Eitem 5: Diweddariad llafar - Rhestrau Aros y GIG a’r camau nesaf
* Rhannwyd fersiwn wedi’i diweddaru o’r nodyn cefndir a rannwyd â’r Cabinet yn wreiddiol yn dilyn y cyfarfod.
5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yr eitem drwy nodi prif flaenoriaeth y Llywodraeth sef cael gwared ar yr holl arosiadau dwy flynedd o hyd yn y GIG yng Nghymru.
5.2 Nodwyd bod tua 2,600 o bobl ar hyn o bryd yn aros dros ddwy flynedd ac nad oedd hynny’n dderbyniol.
5.3 Croesawodd y Cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf.
Eitem 6: Diweddariad llafar – canllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
6.1 Rhannodd y Dirprwy Brif Weinidog yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch goblygiadau dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch rhyw a rhywedd yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a Chod Ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Gwasanaethau, Swyddogaethau a Chymdeithasau. Nodwyd y byddai’r dyfarniad hwn yn arwain at oblygiadau ar draws pob maes polisi.
6.2 Er nad oedd y materion a ystyriwyd gan y Goruchaf Lys o dan y Ddeddf Cydraddoldeb yn faterion sydd wedi’u datganoli, byddai goblygiadau sylweddol i’r ffordd y darperir gwasanaethau yng Nghymru.
6.3 Byddai’n bwysig parchu dyfarniad y Goruchaf Lys a chydnabod ei fod wedi egluro’r sefyllfa gyfreithiol bresennol.
6.4 Rhaid i’r Llywodraeth gydymffurfio â’r gyfraith, a rhaid iddi hefyd ystyried sut i gymhwyso hyn yng Nghymru ar sail ein gwerthoedd yn ymwneud â thegwch, urddas a chynhwysiant.
6.5 Byddai’n bwysig trin pawb yr effeithir arnynt gydag urddas, parch a charedigrwydd, gan gydnabod bod ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddai hyn yn golygu, wrth gydymffurfio â’r gyfraith, y dylid ystyried effaith gronnol y penderfyniadau a wneir mewn ymateb i’r dyfarniad ar draws pob maes polisi.
6.6 O ran camau gweithredu cynnar i nodi safbwynt y Llywodraeth a'i chefnogaeth i’r gymuned draws, byddai’r rhain yn cael eu nodi yn natganiad y Dirprwy Brif Weinidog ynghylch ei blaenoriaethau, i’w gyflwyno gerbron y Senedd yr wythnos ganlynol.
6.7 Yn ogystal, byddai cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid yr effeithir arnynt ar bob ochr i’r ddadl yn cael eu trefnu.
6.8 Byddai’n hanfodol cydymffurfio â’r gyfraith, ond parhau i fod yn dosturiol, yn barchus ac yn gynhwysol tuag at bawb.
6.9 Croesawodd y Cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf.
Eitem 7: Diweddariad arbenigol – Cyflwr Cymru
7.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog Toby Mason, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Strategol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr presennol Cymru.
7.2 Diolchodd y Prif Weinidog i Toby Mason am y cyflwyniad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2026
