Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Aelodau Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion

Annwyl gydweithwyr,

Mae cefnogi a thyfu ein gweithlu ysgolion yn ganolog i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio mewn partneriaeth â’n gweithlu addysg a’n partneriaid cymdeithasol i sicrhau bod addysgu yn yrfa uchel ei pharch, ddeniadol, sy’n dod â boddhad.

Mae’r llythyr hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth fwrw ymlaen â’n blaenoriaeth 100 diwrnod cyntaf i weithredu argymhellion y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol ac i ddechrau lleihau’r baich biwrocrataidd ar athrawon. Fodd bynnag, nid ymrwymiad 100 diwrnod yn unig yw lleihau llwyth gwaith. Mae'n flaenoriaeth a fydd yn siapio'r ffordd rydyn ni'n gweithio trwy gydol y tymor hwn o lywodraeth. Dyna pam, ochr yn ochr â'r camau uniongyrchol hyn, rwyf hefyd wedi amlinellu mesurau ehangach i leihau'r baich ar ymarferwyr addysg trwy dorri biwrocratiaeth a phrosesau gweinyddol diangen, gan gyflawni ein hymrwymiad maniffesto ehangach.

Argymhellion y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol

Rwy’n falch bod y gwaith o fwrw ymlaen ag argymhellion y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol yn mynd rhagddo’n dda gyda’ch cefnogaeth.

Mae’r asesiad effaith llwyth gwaith yn parhau i gael ei ymgorffori ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg. Byddwn yn gofyn am adborth gan staff a phartneriaid dros yr haf a dechrau’r hydref, ac yn mireinio’r dull yn unol â hynny. Rydym yn cymryd camau cynnar i ehangu’r defnydd o’r asesiad effaith llwyth gwaith ar draws adrannau eraill Llywodraeth Cymru, fel y gallwn nodi polisïau sy’n effeithio ar staff addysg ac osgoi canlyniadau anfwriadol ar lwythi gwaith. Rwy’n falch hefyd o nodi bod rhai sefydliadau partner, er enghraifft Estyn, wedi mynegi eu bwriad i gynnal asesiadau tebyg, a byddwn yn parhau i gefnogi ac annog hyn.

Mae’r Egwyddorion ar gyfer Ymgysylltu Proffesiynol wedi’u rhannu â phartneriaid allweddol. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion adolygu sut maent yn cael eu mabwysiadu a sut mae strwythurau ar gyfer ymgysylltu yn cael eu hymgorffori. Byddwn yn ddiolchgar i gael clywed eich barn yn ystod cyfarfod nesaf y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion.

Rydym yn gweithio gyda’r Institute of School Business Leadership (ISBL), y corff proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol, i gynnal ail brosiect peilot 12 mis i gefnogi dysgu a datblygu ar gyfer Gweithwyr Busnes Proffesiynol mewn Ysgolion yn ein hysgolion, a ddechreuodd ym mis Mehefin 2026. Fel yn y cynllun peilot cyntaf, a gefnogodd 50 o Weithwyr Busnes Proffesiynol mewn Ysgolion ledled Cymru ac a gynhaliwyd o fis Mehefin 2025 am 12 mis, mae’r ail gynllun peilot wedi recriwtio 50 o Weithwyr Busnes Proffesiynol mewn Ysgolion eraill. Nod y cynllun peilot yw asesu a chefnogi anghenion datblygu’r proffesiwn, darparu coetsio a mentora ochr yn ochr ag achredu proffesiynol, a chefnogi’r gwaith o greu Hyrwyddwyr Arweinyddiaeth Busnes mewn Ysgolion i ddarparu adolygiadau gan gymheiriaid ac arweinyddiaeth system.

Yn olaf, mae’r gofynion adrodd mewn perthynas â grantiau Llywodraeth Cymru yn cael eu hadolygu’n barhaus, ac mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag awdurdodau lleol i weithredu rheoliadau cyllido ysgolion newydd, i ddarparu mwy o gysondeb, cymharedd a thryloywder.

Camau gweithredu pellach sy’n cefnogi mesurau lleihau llwyth gwaith i arweinwyr ac ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth

Byddwch eisoes yn ymwybodol ein bod yn cymryd camau i gryfhau’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) mewn perthynas ag amser neilltuedig arweinwyr. Rwy’n ddiolchgar ichi am eich cymorth adeiladol wrth gytuno ar newidiadau a chamau gweithredu i gefnogi ein harweinwyr ysgolion. Byddwn yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig maes o law.

Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi cael y cyfle i drafod â’m Grŵp Cynghori ar gyfer Penaethiaid i ddeall rhai o’u pryderon a’u hawgrymiadau a allai gefnogi mesurau lleihau llwyth gwaith.

Roeddwn i’n falch o osod rheoliadau yn ddiweddar i wneud y ddarpariaeth o chweched diwrnod HMS yn hawl barhaol. Rwy’n ymwybodol iawn bod angen i’n hymarferwyr gael amser i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a deialog broffesiynol. Rwy’n gobeithio y bydd y canllawiau diwygiedig yn rhoi mwy o eglurder i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ein disgwyliadau o ran y defnydd o HMS.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu â phrosiect OECD i ddysgu gan wledydd eraill sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i gefnogi mesurau lleihau llwyth gwaith. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i weithredu argymhellion Estyn ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol.

Byddwch eisoes yn ymwybodol ein bod wedi ymgynghori ar safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer athrawon, arweinwyr a’r rhai sy’n cynorthwyo addysgu. Bydd gan y safonau newydd ddisgrifyddion a chwestiynau penodol a fydd yn sicrhau bod pob ymarferydd yn ystyried ac yn myfyrio ar eu llwyth gwaith a’u lles eu hunain a’r staff y maent yn eu cefnogi.

Mae’n bwysig bod pob rhan o’r system yn chwarae eu rhan, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, wrth leihau llwyth gwaith ymarferwyr ysgol. Rwy’n falch bod CBAC, gan weithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru, yn gweithredu ar bryderon ynghylch y llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â chyflwyno TGAU ar ei newydd wedd, a fydd hefyd yn gwella lles dysgwyr. Yn ogystal â’r newidiadau y maen nhw wedi’u cyhoeddi’n ddiweddar mewn pedwar pwnc, maen nhw bellach hefyd yn ystyried a ddylai rhai o’r newidiadau hynny hefyd fod yn berthnasol i unedau nad sy’n cael eu harholi mewn cymwysterau eraill.

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ystyried ystod ehangach o fesurau er mwyn gwella’r telerau ac amodau, gyda’r nod o godi lefelau recriwtio a chadw. Byddwn yn ystyried sut y gellid symud ymlaen â gweithio hyblyg a newidiadau i amser cynllunio, paratoi ac asesu. Byddwch yn ymwybodol ein bod hefyd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag ymddygiad dysgwyr, sydd hefyd yn effeithio ar lwyth gwaith ymarferwyr.

Gyda’i gilydd, bwriedir i’r pecyn gwaith hwn gefnogi gweithlu addysg fwy cynaliadwy, lle mae llwythi gwaith yn cael eu rheoli’n weithredol a beichiau diangen yn cael eu lleihau.

Y camau nesaf

Bydd y Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith sydd newydd ei sefydlu, sy’n is-grŵp o’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion, yn darparu fforwm pwrpasol i yrru’r gwaith hwn ymlaen ar y cyd. Bydd gweithio mewn partneriaeth barhaus yn cefnogi dull mwy systematig a chydgysylltiedig o nodi pwysau llwyth gwaith ar draws y system ac i lunio a blaenoriaethu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt, gan sicrhau bod barn ymarferwyr wrth wraidd ein penderfyniadau.

Hoffwn ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus a’u hymrwymiad i’r agenda hon. Rwy’n edrych ymlaen at barhau’r drafodaeth wrth inni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.

Yn gywir,

Anna Brychan AS/MS
Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg