Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gwahodd barn ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer canllawiau i awdurdodau lleol. 

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 19 Hydref 2026, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • llenwi ein ffurflen ar-lein
  • lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost i: PrivateSectorHousing@llyw.cymru (cofiwch gynnwys y cyfeirnod WG54879 yn llinell destun eich e-bost)
  • lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb, a'i hanfon drwy'r post at:

Ymgynghoriad: WG54879

Y Tîm Fforddiadwyedd Tai
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Mae'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill ar gais

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Y Tîm Fforddiadwyedd Tai
Y Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: PrivateSectorHousing@llyw.cymru

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd: Rent Guarantor Guidance for Local Housing Authorities | GOV.WALES

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gadwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Y Cefndir a cynigion

Y Cefndir

  1. Mae Rhan 38 o Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 ('y Ddeddf') yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â darparu canllawiau i awdurdodau tai lleol ynghylch gwneud trefniadau y mae awdurdod tai lleol, o dan y trefniadau hynny, yn gwarantu y telir rhent gan feddiannydd llety tai yn unol â chytundeb o unrhyw fath.
     
  2. Ar ben hynny, cyn rhoi canllawiau or fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdodau tai lleol ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

Cynigion

  1. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn i chi am eich barn am y canllawiau drafft y mae gofyn i Weinidogion Cymru eu rhoi i'r Awdurdod o dan y Ddeddf. Mae’r canllawiau drafft wedi'u hamlinellu yn Atodiad 1. Maent wedi'u datblygu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol drwy grŵp gorchwyl a gorffen. 

Atodiad 1: Canllawiau i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar Warantwyr Rhent

1. Diben y Canllawiau hyn

Bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi awdurdodau tai lleol yng Nghymru i ddatblygu, adolygu neu weithredu cynlluniau gwarantwyr rhent. Mae cynlluniau o'r fath wedi'u llunio i wella mynediad i'r sector rhentu preifat i aelwydydd a allai fel arall fethu â sicrhau llety oherwydd absenoldeb gwarantwr personol addas.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi dull cyson ar gyfer awdurdodau tai lleol sy'n dewis gweithredu fel gwarantwr rhent ar gyfer unigolion sy'n cael mynediad i'r sector rhentu preifat. Mae'n anelu at:

  • Gefnogi mynediad at lety addas
  • Sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn gyfrifol
  • Darparu eglurder ar rolau, cyfrifoldebau a rheoli risg
  • Hyrwyddo cysondeb ar draws awdurdodau lleol

Dyroddir y canllawiau hyn o dan adran 38 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2026. Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau perthnasol eraill, a pholisïau lleol. Nid yw'n gyngor cyfreithiol.

2. Y Cyd-destun Polisi yng Nghymru

Mae cynlluniau gwarantwyr rhent yn cyfrannu at atal a lliniaru digartrefedd ac yn cefnogi amcanion tai ehangach, gan gynnwys:

  • Dyletswyddau o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i atal a lliniaru digartrefedd.
  • Y fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu contractau meddiannaeth o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
  • Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar atal digartrefedd, ailgartrefu cyflym, a mynediad at lety addas.

Gall cynlluniau gwarantwr rhent chwarae rôl sylweddol wrth atal digartrefedd trwy fynd i'r afael ag un o'r prif rwystrau i gael mynediad at a chynnal llety yn y sector rhentu preifat: y gofyniad am warantwr. 

Drwy ddarparu gwarant i landlordiaid yn erbyn ôl-ddyledion rhent, mae'r trefniadau hyn yn galluogi aelwydydd a allai fod mewn perygl o ddigartrefedd - gan gynnwys pobl ifanc, pobl sy'n gadael gofal, aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd â hanes o ddigartrefedd - i sicrhau a chadw llety addas. 

Mae cynlluniau gwarantwr rhent hefyd yn cefnogi dull Ailgartrefu Cyflym Llywodraeth Cymru drwy helpu pobl i symud yn uniongyrchol i gartrefi sefydlog yn hytrach nag aros mewn llety dros dro neu symud ymlaen trwy sawl cam o dai â chymorth. Gallant hefyd gynyddu hyder landlordiaid wrth osod i aelwydydd a allai fel arall gael eu hystyried fel risg uwch, gan ehangu mynediad i'r sector rhent preifat a lleihau'r pwysau ar wasanaethau digartrefedd. 

Trwy hwyluso symud ymlaen yn gynharach o lety dros dro ac atal chwalu tenantiaeth, mae cynlluniau gwarantwr rhent yn cyfrannu at lai o ddefnydd o lety dros dro costus, canlyniadau tai gwell, a system ddigartrefedd mwy effeithlon sy'n canolbwyntio ar atal a mynediad cyflym at dai parhaol.

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw gynllun gwarantwyr rhent yn cyd-fynd â'u Strategaeth Dai Leol, eu Strategaeth Digartrefedd, a'u Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

3. Beth yw Cynllun Gwarantwyr Rhent?

Mae cynllun gwarantwr rhent yn drefniant lle mae awdurdod lleol (neu ddarparwr sy'n gweithredu ar ei ran) yn cytuno i weithredu fel gwarantwr ar gyfer "talu rhent gan 'feddiannydd' llety yn unol â 'chytundeb o unrhyw fath" – fel  arfer rhwymedigaethau rhentu deiliad contract i landlord preifat, er y gellir cynnwys deiliaid trwydded neu feddianwyr o dan drefniadau eraill. Yn nodweddiadol, mae hyn yn cwmpasu:

  • Ôl-ddyledion rhent (hyd at derfyn ariannol diffiniedig)

Gellir cyflawni cynlluniau:

  • Yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol.
  • Drwy sefydliad trydydd sector a gomisiynwyd
  • Mewn partneriaeth â chynllun lesio neu fynediad i'r sector preifat

4. Amcanion Cynllun Gwarantwyr Rhent

Dylai awdurdodau lleol ddiffinio amcanion eu cynllun yn glir, a all gynnwys:

  • Atal digartrefedd drwy gynnal mynediad i'r sector rhentu preifat
  • Lliniaru digartrefedd drwy sicrhau llety sefydlog
  • Cefnogi aelwydydd nad ydynt yn gallu darparu gwarantwr traddodiadol
  • Lleihau'r ddibyniaeth ar lety dros dro

5. Meini Prawf Cymhwysedd deiliad y contract

Dylai awdurdodau lleol osod meini prawf cymhwysedd tryloyw a theg. Gall y meini prawf gynnwys:

  • Pobl sy'n profi digartrefedd neu dan fygythiad o ddigartrfedd
  • Dros 18 oed
  • Dangos y gallu i gynnal y denantiaeth
  • Dim ôl-ddyledion rhent sylweddol neu heb eu datrys neu broblemau dyled a fyddai'n cyflwyno risg sylweddol i gynaliadwyedd y denantiaeth, oni bai bod trefniadau ad-dalu priodol ar waith

6. Meini Prawf Cymhwysedd Eiddo / Landlord

Er mwyn rheoli risg a sicrhau ansawdd, dylai cynlluniau awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol:

  • Mae'r eiddo/landlord yn bodloni gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru a, lle bo'n berthnasol, ofynion trwyddedu HMO .
  • Mae'r eiddo yn addas ar gyfer byw gan bobl ac yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol perthnasol sy'n ymwneud â chyflwr tai a iechyd a diogelwch preswylwyr
  • Mae'r landlord yn cytuno i roi contract meddiannaeth a chydymffurfio â holl ofynion perthnasol  Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Ma lefel y rhent yn rhesymol ac yn unol â chyfraddau Lwfans Tai Lleol neu renti'r farchnad leol a fforddiadwyedd yr eiddo ar gyfer yr aelwyd arfaethedig

7. Cwmpas y Warant

Dylai awdurdodau lleol ddiffinio cwmpas a therfynau'r warant yn glir, gan gynnwys:

  • Yr uchafswm rhwymedigaeth ariannol (e.e. sy'n cyfateb i rent X wythnos neu fis)
  • Hyd y warant (e.e. cyfnod penodol neu gyfnod cyfyngedig o amser)
  • Yr hyn sy'n cael ei gwmpasu (ôl-ddyledion rhent, difrod i'r eiddo, costau cyfreithiol, neu eithriadau)
  • Amgylchiadau lle gellir tynnu'r warant yn ôl

Dylai'r warant gael ei dogfennu mewn cytundeb ffurfiol rhwng yr awdurdod (neu ddarparwr y cynllun) a'r landlord.

8. Rolau a Chyfrifoldebau

8.1 Awdurdod Lleol / Darparwr Cynllun

Gall awdurdodau lleol ystyried gweithredu fel gwarantwr:

  • Pan na fyddai'r unigolyn fel arall yn gallu sicrhau llety
  • Pan fo'r denantiaeth yn addas, fforddiadwy a chynaliadwy
  • Pan fo'r trefniant yn cefnogi atal digartrefedd neu symud‑ymlaen o lety dros dro
  • Pan fo'r landlord yn gofyn am warantwr fel amod i roi'r denantiaeth

Dylai awdurdodau lleol:

  • Asesu cymhwysedd a fforddiadwyedd
  • Cyhoeddi a rheoli'r cytundeb gwarantu rhent
  • Nodi proses glir ar gyfer hawliadau
  • Gwneud taliadau yn unol â thelerau'r warant, lle bo angen
  • Cefnogi deiliaid contract i gynnal eu tenantiaeth

Dylai awdurdodau lleol osgoi gweithredu fel gwarantwr:

  • Pan fo'r denantiaeth yn anfforddiadwy
  • Nid yw'r eiddo yn cydymffurfio â gofynion statudol perthnasol
  • Pan fo gan yr unigolyn anghenion cymorth heb eu datrys a fyddai'n gwneud y denantiaeth yn anghynaliadwy
  • Pan fo gofynion y landlord yn afresymol neu'n gwahaniaethu

8.2 Cyfrifoldebau deiliad y Contract

Dylid gofyn i ddeiliaid contract:

  • Dalu rhent yn llawn ac ar amser
  • Cydymffurfio â'r contract meddiannaeth
  • Ymgysylltu â gwasanaethau cymorth lle cânt eu cynnig
  • Hysbysu'r awdurdod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar gymhwysedd

8.3 Cyfrifoldeb y Landlord

Dylid gofyn i landlordiaid:

  • Darparu  contract meddiannaeth ysgrifenedig  a chydymffurfio â holl ofynion perthnasol Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Cynnal yr eiddo yn unol â gofynion cyfreithiol
  • Darparu'r holl ddogfennaeth berthnasol yn ôl yr angen (e.e. tystysgrif diogelwch nwy / trydan)
  • Cydymffurfio â gofynion cofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru
  • Cydymffurfio â gofynion trwyddedu HMO, lle bo'n berthnasol
  • Dilyn y drefn briodol cyn ceisio meddiant
  • Cydweithredu â gwasanaethau cymorth lle bo'n briodol
  • Hysbysu'r awdurdod lleol yn brydlon am ôl-ddyledion rhent neu faterion tenantiaeth
  • Hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw newid mewn amgylchiadau

9. Cadw Tenantiaeth a Chymorth

Dylai cynlluniau gwarantwyr rhent fod yn gysylltiedig â chymorth cadw tenantiaeth, a all gynnwys:

  • Cyllidebu a chyngor ariannol
  • Manteisio ar fudd-daliadau
  • Cyfryngu rhwng y landlord a deiliad y contract
  • Atgyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol

Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i osgoi ôl-ddyledion rhent ac atal tenantiaethau rhag chwalu.

10. Cydraddoldeb, Tegwch a'r Gymraeg

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod cynlluniau:

  • Yn cydymffurfio o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Yn hygyrch i bobl â nodweddion gwarchodedig
  • Ddim yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn hawlwyr budd-daliadau
  • Yn cael eu darparu yn unol â safonau'r Gymraeg, gan gynnig gwasanaethau yn Gymraeg lle bo angen

11. Rhannu Data a Gwybodaeth

Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau cydymffurfiaeth â:

  • GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018
  • Cytundebau rhannu gwybodaeth clir gyda landlordiaid a phartneriaid
  • Hysbysiadau preifatrwydd tryloyw i ymgeiswyr

12. Monitro, Adolygu a Llywodraethu

Dylai cynlluniau fod yn destun adolygiad rheolaidd, gan gynnwys:

  • Defnydd a chanlyniadau (e.e. atal/lliniaru digartrefedd)
  • Goblygiadau ariannol a hawliadau yn erbyn y warant
  • Effeithiau ar gydraddoldeb
  • Adborth Landlord a deiliaid y contract

Dylai trefniadau llywodraethu clir fod ar waith, gan gynnwys trothwyon cymeradwyo a threfniadau archwilio.

13. Rheoli Risg

Dylai awdurdodau lleol nodi a rheoli risgiau, gan gynnwys:

  • Goblygiadau ariannol a rheolaethau cyllideb
  • Risg i enw da
  • Cydymffurfiaeth gyfreithiol

Gall mesurau lliniaru risg gynnwys capiau ar atebolrwydd, gwarantau sy'n gyfyngedig o ran amser, a rheoli tenantiaethau yn rhagweithiol.

14. Cwynion ac Anghydfodau

Dylai awdurdodau lleol:

  • Ddarparu gwybodaeth glir am sut i fynegi pryderon
  • Cyfeirio tenantiaid a landlordiaid i'r weithdrefn gwyno berthnasol
  • Sicrhau bod anghydfodau'n cael eu trin yn deg ac yn brydlon

15. Adolygu a Diweddaru Canllawiau

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu:

  • Newidiadau deddfwriaethol
  • Diweddariadau polisi Llywodraeth Cymru
  • Dysgu o weithrediad a chanlyniadau'r cynllun

Mae'r canllawiau hyn wedi'u bwriadu fel man cychwyn a dylid eu haddasu i amgylchiadau lleol, cyngor cyfreithiol, a gallu gweithredol.