Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r atodiad dros dro hwn yn ategu’r Canllawiau Carbon Sero Net a’r Canllawiau Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae’n darparu cyfarwyddyd ychwanegol ar ystyriaeth o ddur Prydeinig a deunyddiau a gynhyrchir yn lleol o fewn prosesau caffael, gan gydbwyso targedau carbon ymgorfforedig â buddion cymdeithasol, economaidd a chadwyn gyflenwi ehangach.

Er bod yn rhaid i brosiectau gydymffurfio â thargedau carbon ymgorfforedig, dylai partneriaid cyflawni werthuso’r gwerth ehangach a grëir drwy eu dewisiadau caffael. Mae hyn yn cynnwys ystyried defnyddio deunyddiau a gynhyrchir yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan gydnabod y manteision posibl i economïau lleol, lles cymunedol, a chynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi.

Dylai dewis deunyddiau ddilyn dull cytbwys sy’n cefnogi amcanion carbon isel wrth wneud y mwyaf o werth cymdeithasol. Lle bo’n briodol, gall hyn gynnwys penodi deunyddiau a gynhyrchir yn lleol, gan gydnabod y cyfraniadau cadarnhaol y gallant eu gwneud i gyflogaeth, datblygu sgiliau, gwydnwch y gadwyn gyflenwi a ffyniant economaidd ehangach. Dylid hefyd ystyried costau y tu hwnt i bris sylfaenol dur megis costau cludo a mewnforio a’r cynnwys carbon ymgorfforedig ychwanegol cysylltiedig.

Gellir diffinio 'Deunyddiau a Gynhyrchir yn Lleol' fel rhai lleol, rhanbarthol neu genedlaethol yn dibynnu ar y deunydd a chyd-destun y broses a ffynhonnell y deunydd craidd; er enghraifft, dylid diffinio 'lleol' mewn perthynas â dur fel dur a weithgynhyrchir o fewn y DU.

Dylid hefyd is-rannu dur i’w brif elfennau megis Strwythurol, Rebar, Dalennog, er mwyn gwneud y mwyaf o’r buddion sy’n cael eu hystyried ar gyfer pob maes, gan gefnogi cynhyrchiant yn y DU lle bo modd.