Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 yn un fer iawn, sydd â dim ond pum adran iddi. Mae’n diwygio Deddf Caffael 2023 (Deddf 2023) yn ogystal â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Deddf 2006).

Caiff Deddf 2023 ei diwygio drwy fewnosod adran 120A newydd, sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddatgymhwyso unrhyw ddarpariaethau yn Neddf 2023 o ran caffael rheoleiddiedig y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Caiff adran 10A newydd ei mewnosod yn Neddf 2006 fel y gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth amgen ynghylch gwasanaethau caffael a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Deddf 2024 Act i rym ar 5 Chwefror 2024, sef y diwrnod y cafodd y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 4.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2024 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r Ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd Deddf 2024 ar 13 Chwefror 2023 gan Eluned Morgan AS, sef y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd.  

Pasiwyd Deddf 2024 gan y Senedd ar 14 Tachwedd 2023.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd Deddf 2024 y Cydsyniad Brenhinol ar 5 Chwefror 2024.

Erthyglau neu ddeunyddiau cysylltiedig

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gaffael yn y gwasanaeth iechyd rhwng 7 Tachwedd 2023 a 23 Chwefror 2024. Mae manylion am y papur ymgynghori, a chanlyniad y broses ymgynghori hon, i’w gweld ar:

Nid oes unrhyw wybodaeth bellach am ddeddfwriaeth neu ganllawiau ar gyfer trefn gaffael newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd, sydd i’w datblygu fel rhan o’r broses ymgynghori hon, ar gael ar hyn o bryd.