Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (y Ddeddf) yn moderneiddio ac yn symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru drwy sefydlu proses gydsynio unigol ar gyfer rhai mathau o brosiectau seilwaith mawr. Bydd hyn yn cyflymu’r broses gydsynio ar gyfer prosiectau mawr ar y tir neu yn y môr tiriogaethol, gan greu mwy o gysondeb a sicrwydd o ran gallu Cymru i ddenu prosiectau seilwaith yn y dyfodol.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn egluro pa bryd y mae datblygiad yn dod o fewn y diffiniad o “brosiect seilwaith arwyddocaol” ac yn rhoi arweiniad ynghylch pa bryd y mae prosiectau penodol, fel adeiladu neu newid cyfnewidfa nwyddau rheilffordd, cyfleuster harbwr neu faes awyr (gweler adrannau 9-11), yn dod o fewn y diffiniad hwnnw. Mae’r Ddeddf hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio Rhan 1 er mwyn ychwanegu mathau newydd o brosiectau at y diffiniad o brosiect seilwaith arwyddocaol, neu amrywio neu ddileu’r prosiectau seilwaith arwyddocaol sy’n cael eu diffinio yn y Ddeddf. 

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru gydsynio ar gyfer datblygiad sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol, neu’n rhan o un. Mae hyn yn cael ei alw’n “gydsyniad seilwaith”. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio’r gofynion sydd ynghlwm wrth y cydsyniad hwn. 

Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn disgrifio’r weithdrefn ar gyfer cael cydsyniad seilwaith; mae Rhan 4 yn dweud sut y bydd ceisiadau am gydsyniad seilwaith yn cael eu harchwilio; ac mae Rhan 5 yn dweud sut y bydd penderfyniadau ar geisiadau am gydsyniad seilwaith yn cael eu gwneud. 

Mae Rhan 6 yn esbonio’r hyn y gellir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, a’r ffordd y gellir dirymu neu newid y gorchmynion hyn. Mae Rhan 7 yn ymdrin â gorfodi, er enghraifft, pan fo datblygiad yn cael ei wneud heb gydsyniad seilwaith, neu’n groes i delerau gorchymyn cydsyniad seilwaith. Mae’r Rhan hon hefyd yn egluro beth yw hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig a hysbysiadau stop dros dro.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth Rhan 1, rhai darpariaethau penodol yn Rhannau 2 i 8, a Rhan 9 (ac eithrio adran 145) i rym ar 4 Mehefin 2024, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 147(1). Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu fwy o orchmynion. 

Darllenwch adran 147 o Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk.

Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

a'r Memorandwm Esboniadol:

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
EnwRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 8517 Mawrth 20262 Mehefin 20262026 Rhif 85: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 704 Mawrth 202616 Mawrth 20262026 Rhif 70: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 654 Mawrth 202616 Mawrth 2026M2026 Rhif 65: emorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Cywiro Gwallau a Cheisiadau i Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Gweithdrefn) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 252 Chwefror 202616 Mawrth 20262026 Rhif 25: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaeth Drosiannol, Darpariaeth Ddirymu a Darpariaeth Arbed) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 1192 (Cy. 193)11 Tachwedd 2025Yn unol â rheoliad 1(2)2025 Rhif 1192 (Cy. 193): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk
 
2025 Rhif 1091 (Cy. 181)14 Hydref 202514 Rhagfyr 20252025 Rhif 1091 (Cy. 181): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 887 (Cy. 154)16 Gorffennaf 202515 Rhagfyr 20252025 Rhif 887 (Cy. 154): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 883 (Cy. 153)16 Gorffennaf 202515 Rhagfyr 20252025 Rhif 883 (Cy. 153): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk
 
2025 Rhif 692 (Cy. 116)14 Mehefin 202515 Rhagfyr 20252025 Rhif 692 (Cy. 116): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk
 
2025 Rhif 691 (Cy. 115)14 Mehefin 202515 Rhagfyr 20252025 Rhif 691 (Cy. 115): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 ar legislation.gov.uk2025 Rhif 690 (Cy. 114)16 Mehefin 202515 Rhagfyr 20252025 Rhif 690 (Cy. 114): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 12 Mehefin 2023 gan Julie James AS, sef y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 16 Ebrill 2024, a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Mehefin 2024.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol: