Neidio i'r prif gynnwy
BuddsoddiadManylebCost Safonol (heb TAW)Gwerth y grantSgôr yr eitem
Gorsaf fwydo ychwanegolGorsaf fwydo ychwanegol ar gyfer cyfarpar bwydo llaeth i loi y gellir ei raglennu sy'n cynnwys: 

O leiaf 25 coler fesul gorsaf.
Uchafswm o dair gorsaf fwydo.
£2,237£895422.5
Aradr awyru glaswelltirAradr awyru glaswelltir: 

 llafnau o leiaf 100mm o faint. 
Y gellir ei chysylltu â chysylltiad tri phwynt neu gael ei thynnu gan dractor.
 lled o 3m o leiaf.
£5,309£2,124300
Dadansoddydd amonia Dadansoddydd nwy amonia i’w ddefnyddio i wirio a chofnodi lefelau amonia mewn adeiladau da byw. Rhaid iddo gynnwys:

larymau gweledol a/neu glywedol, a 
gallu storio data i’w lawrlwytho nes ymlaen gan ddefnyddio WiFi neu gysylltiad USB â chyfrifiadur neu lechen.
£723£289430
Rowler cnydau ârRowler Cambridge / rowler gylchoedd, aml-adran sy'n cynnwys:
 
Olwynion plygu a chludo hydrolig. 
Isafswm lled gweithio o 6.15m.
Cylchoedd plaen neu falu.
Rowler glaswelltir gwastad ddim yn gymwys
£16,112£6,444.80237.5
Cyfarpar awtomatig ar gyfer bwydo lloi, gydag offer golchiCyfarpar awtomatig ar gyfer bwydo lloi ynghyd ag offer golchi sy'n cynnwys:

Cyfarpar bwydo llaeth i loi y gellir ei raglennu sy'n 
gallu bwydo lloi'n unigol a monitro faint maent yn ei yfed. 
Larwm i ddweud os nad yw'r llo'n yfed neu os yw'n yfed llai nag arfer. 
Tiwb bwydo a'r deth yn cael eu golchi'n awtomatig rhwng pob sesiwn bwydo.
O leiaf un ddyfais fwydo ac un orsaf fwydo. 
Y allu i nodi o leiaf 30 llo unigol.
£12,613£5,045422.5
Dryll drensio EID awtomatig Dryll drensio sy'n gallu: 

Cyfathrebu â chlorian yn ddiwifr i addasu'r dos sy'n cael ei ddrensio neu ei dywallt yn ôl pwysau'r anifail.
Lawrlwytho adroddiadau triniaeth i gyfrifiadur neu ddyfais symudol. 
£795£318430
System awtomatig i lanhau traed gwartheg System awtomatig untro i lanhau carnau gwartheg sy’n gallu:  
Llenwi, dosio, fflysio ac yn ail-lenwi’n awtomatig 
£6,678£2,671422.5
Offer pwyso gwartheg awtomatigOffer annibynnol sy'n pwyso gwartheg yn awtomatig. Mae'r system yn cynnwys:
Llwyfan pwyso gydag ardal rhadfa neu ddal.
Darllenydd EID.
Y gallu i fonitro / cofnodi pwysau'r anifail o bell.
Gall y system gynnwys cafn dŵr, cafn bloc bwyd neu fwynau, neu redfa tywys.
Nid yw costau tanysgrifio blynyddol yn gymwys.
£8,711£3,484580
System ddiheintio esgidiau System ar gyfer diheintio esgidiau, rhaid cynnwys sgwriwr esgidiau a baddon traed diheintio (gall y rhain fod yn un neu ar wahân). Wedi ei wneud o blastig neu fetel. Rhaid i'r holl fetel fod wedi ei galfaneiddio neu wedi ei baentio â phaent powdr.                                                    Rhaid cael isafswm o dri brwsh sefydlog er mwyn glanhau esgidiau. Rhaid cael caead ar y baddon traed, a rhaid iddo fod wedi ei gynllunio i ddal diheintydd.£201£80360
 Twll turioTwll turio ar gyfer codi dŵr sy’n cynnwys:

Pympiau, pibellau, ceblau ac ati. 
Treialu’r pwmp a’r cludiant. 
Mae’n rhaid cael unrhyw drwyddedau neu ganiatadau cyn gwneud cais. 
Dŵr i'w ddefnyddio'n bennaf at ddefnydd da byw / amaethyddol.
£9,856£3,942355
Biniau sympfwyd (10 tunnell)Biniau sympfwyd sy'n cynnwys: 

Bin tŵr dur neu ffeibr gwydr. 
Bin sy’n gallu atal lleithder a fermin.
Llithrfa neu felt cludo wedi’i chysylltu. 
Isafswm capasiti o 10 tunnell. (ni all capasiti o 10t gynnwys mwy na 2 fin llai)
£6,101£2,440245
Crât trin lloi Crât pwrpasol i drin lloi i gynnwys:

Atalydd pen y gellir ei addasu, bar ar y tu ôl a strap bol i gefnogi'r anifail. Rhaid i'r holl fetel fod wedi ei galfaneiddio neu wedi ei baentio â phaent powdr.
£1,125£450407.5
Teclyn pasteureiddio/rhoi llaeth i loiTeclyn pasteureiddio/rhoi llaeth i loi sy'n cynnwys:

Teclyn symudol sy'n gweithio ar fatri i basteureiddio a rhoi llaeth tor/llaeth dros ben i loi.  
Capasiti o 150 litr o leiaf.
Rheolydd tymheredd integredig. 
£7,875£3,150470
Bocsys graddnodi ar gyfer peiriannau gwasgaru gwrtaithBocsys graddnodi ar gyfer peiriannau gwasgaru sy’n cynnwys: 

O leiaf deg bocs (50cm x 50cm).
Bafflau i atal peledi rhag bownsio allan o’r bocsys.  
Offer mesur i gyfrifo’r pwysau a wasgarwyd fesul uned o arwynebedd. 
£275£110377.5
Camerâu ar gyfer monitro da bywCamera Protocol Rhyngrwyd (IP) ar gyfer monitro da byw sy'n cynnwys: 

IP66 sy'n addas ar gyfer yr awyr agored sy'n gallu panio, gwyro a zwmio.
Golwg dydd a nos. 
Cyrhaeddiad isgoch o 50m o leiaf. 
Zwm o 18x o leiaf. 
O leiaf 1080 picsel. 

Cydnawsedd ag ap gwylio ar-lein ar gyfer ffôn, gliniadur neu lechen.
£503£201495
Dadansoddydd carbon deuocsid Dadansoddydd carbon deuocsid i’w ddefnyddio i wirio a chofnodi lefelau o garbon deuocsid mewn storfeydd cnydau ac adeiladau da byw. Rhaid iddo gynnwys: 

larymau gweledol a/neu glywedol sy’n gywir i blws neu finws 40ppm neu lai, a 
gallu storio data i’w lawrlwytho nes ymlaen gan ddefnyddio WiFi neu gysylltiad USB â chyfrifiadur neu lechen.
£271£108450
Gât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatigGât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatig sy'n cynnwys:

Gât sy'n gweithio drwy system hydrolig neu niwmatig.
Cysylltiad ag offer rheoli cyfrifiadurol/system EID
Tagiau electronig, coleri neu dransbonderau pigwrn/ffêr i adnabod yr anifail, sy’n 
gweithredu yn awtomatig gyda system bwyso ddigidol ac sy’n gallu didoli buchod yn ddau grŵp o leiaf. 
£13,104£5,242420
Gwartheg: Synhwyrydd bwrw lloUned synhwyro bwrw llo sydd:

Wedi ei chysylltu â ffôn/dyfais llaw er mwyn rhoi rhybudd pan fydd buwch ar fin bwrw llo.  
(heb gynnwys teledu cylch cyfyng)
£231£92500
Gwartheg: Gât i ddal buwch sy'n bwrw lloGât i ddal buwch sy'n bwrw llo sy'n cynnwys:

Gât o fewn y ffrâm sy'n cau am y fuwch i'w dal yn ddiogel. 
Iau pen y gellir ei haddasu.
Cadwyn gloi i'w rhwystro rhag symud yn ei hôl.
Rheiliau ar yr ochrau a phaneli mynediad o fewn y gât siglo i ganiatáu mynediad diogel at ddibenion rhoi triniaeth feddygol, i helpu'r fuwch i fwrw'r llo, er mwyn i'r llo sugno neu i odro'r fuwch.
Metel wedi'i galfaneiddio neu wedi'i baentio â phaent powdr.
£706£282420
Craets gwarthegCraets gwartheg sy’n cynnwys:

Lled mewnol heb fod yn llai na 720mm.
Iau pen hyd llawn y gellir ei haddasu.
Ochrau sy'n agor i roi mynediad i anifail.
Cyfleuster i atal gwartheg rhag symud yn eu hôl a weithredir o du allan y rhedfa.
Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.
£4,399£1,759.60407.5
Gwartheg: System drafod sefydlogSystem gorlannu wedi'i chodi i fodloni gofynion y safle unigol sy’n cynnwys: 

Ardal ddal ddiogel, effeithiol a rhedfa sydd wedi'i chysylltu â chraets gwartheg.
2 gorlan ddal fetel sy'n dal o leiaf 25 o wartheg (24 mis +).
Corlan gornelu gron ag o leiaf radiws o 3m, a'r ochrau wedi'u gorchuddio i atal gwartheg rhag gweld allan, sy’n arwain at 
redfa syth neu gam 3–5m (yn dibynnu ar y system) a'r ochrau wedi'u gorchuddio â gât cau wedi'i gosod yn y rhedfa. 
Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.
£12,401£4,960420
Gwartheg: Ychwanegyn tocio carnau ar gyfer craets Ychwanegyn tocio carnau gwartheg sy'n cynnwys: 

Harnais/cynhalydd bol. 
Winsh coesau blaen ac ôl â strapiau codi a phedwar bloc carnau. 
£784£314485
Gwartheg: Sgŵp penSgŵp pen gwartheg sy'n: 

Rhwystro anifail rhag symud ei ben ochr i ochr, gan gynyddu diogelwch ar gyfer yr anifail a'r gweithredwr.  
Lleihau'r risg y bydd yr anifail yn cwympo o fewn y craets. 
£708£283387.5
Gwartheg: System drafod symudolSystem trafod gwartheg symudol sy’n cynnwys: 

Rhedfa
Craets â lled mewnol heb fod yn llai na 720mm.
Ochrau sy'n agor i roi mynediad i anifail. 
Corlan ar gyfer o leiaf 25 o wartheg (24 mis +).
Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd.
Bar ffolen y gellir ei weithredu o du allan y craets a'r rhedfa.
Iau pen addasadwy hyd llawn.  
Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr. 
£17,259£6,903417.5
Corlan ynysu dros dro ar gyfer gwarthegCorlan ynysu dros dro ar gyfer gwartheg i'w defnyddio dan do neu yn yr awyr agored. Yn darparu cyfleuster i wahanu anifeiliaid unigol, gan ystyried yr angen i odro gwartheg llaetha.

Corlan i gynnwys o leiaf pedair clwyd 3m / 10 troedfedd o'r un maint, gan ddarparu isafswm arwynebedd o tua 9m2.
Un rhwystr i gynnwys giât mynediad integredig.
Uchder lleiaf y clwydi 1.5m.
Rhaid cynnwys cafn bwydo bachyn a / neu rac gwair.
Metel wedi'i orchuddio â phaent galfanedig neu bowdr.

Uchafswm o 2 gorlan ynysu fesul blwyddyn ariannol.
£714£286450
Ffan awyru wedi'i osod ar nenfwd neu walFfan wedi'i osod ar nenfwd neu wal gyda blwch rheoli ar gyfer gwella awyru ac ansawdd aer mewn adeiladau da byw. Manyleb lleiaf:
• Diamedr lleiaf i’r ffan - 1.3m
• Gosodiadau cyflymder lluosog.
• Blwch rheoli gyda'r gallu i droi ffan ymlaen ac i ffwrdd yn awtomatig mewn ymateb i amodau sy'n newid. 
• Gall blwch rheoli fod â gallu i reoli sawl ffan.
• Lle prynir mwy nag un ffan, dim ond un blwch rheoli sydd ei angen.
£1,591£536460
Storfa gemegionAdeilad ar gyfer storio cemegion y mae'n rhaid iddo fod:

Yn ddiogel ac yn gloadwy. 
Wedi'i fyndio. 
 draeniau addas i gasglu unrhyw gemegion sy'n gollwng. 
Â'r gallu i wrthsefyll rhew. 
£3,654£1,462402.5
Gwartheg: Unedau golchi cwpanau godroSystem golchi cwpanau godro sy'n: 

Golchi cwpanau godro er mwyn diheintio'r uned rhwng gwartheg. 

Pris fesul uned
£951£380387.5
Caledwedd gyfrifiadurol sy’n gydnaws â meddalwedd busnes a rheoli ffermCaledwedd gyfrifiadurol ar gyfer rheoli busnes ffermydd. 

Cyfrifiadur Personol (PC) Pen Bwrdd, Cyfrifiadur Personol Integredig neu Liniadur sy’n gydnaws â meddalwedd busnes, meddalwedd rheoli fferm.

Manyleb ofynnol: Monitor PC 19" neu liniadur 15" Windows 10 â  system weithredu gartref 64Bit neu system gyfatebol; 
O leiaf Intel Core i5 neu AMD Ryzen 5 sy’n seiliedig ar CPU neu system gyfatebol i Apple Mac.
Cof sydd ag o leiaf 8GB o RAM. 
Gyriant caled mewnol sydd ag o leiaf 1TB neu yriant galed cyflwr soled sydd ag o leiaf 256GB.
Noder: Gellir ehangu’r lle storio mewnol drwy storio ar y cwmwl neu gysylltu â Rhwydwaith Storio, ond ni ddylid defnyddio’r rhain yn lle storio mewnol.

Uchafswm o un eitem i bob blwyddyn ariannol.
£510£204492.5
Gorchudd neu orchudd arnofiol ar gyfer storfeydd slyri (fesul metr sgwâr) Gorchudd arnofiol dros lagŵn neu danc storio i: 

atal dŵr glaw rhag mynd i’r storfa
atal nwyon sy’n dod o slyri rhag dianc, ac sy’n 
hyblyg, yn wydn ac yn anhydraidd. 

Pris fesul metr
£7.44£3357.5
Gorsaf dywydd ddigidol, wedi’i chysylltu â chyfrifiadur a meddalweddGorsaf dywydd ddigidol, wedi’i chysylltu â chyfrifiadur, sy’n gallu mesur o leiaf pump o’r canlynol :

Gwasgedd baromedrig 
Tymheredd
Lleithder
Glawiad
Gwynt
Ymbelydredd yr haul
Golau uwchfioled
Lleithder a thymheredd y pridd

Mae’r pris yn cynnwys bracedi gosod a synwyryddion. 

Ni chynhwysir costau gosod, costau gwasanaethu, graddnodi na thrwyddedau blynyddol.
£778£311397.5
Peiriant hau uniongyrchol Peiriant hau uniongyrchol neu slot sy'n gallu hau hadau gwair, meillion, perlysiau a chnydau porthiant i bridd heb ei aflonyddu.

Isafswm lled gweithio o 2.7m.
Hadau'n cael eu mesur a'u hau drwy fecanwaith niwmatig neu fecanyddol.
Hadau'n cael eu hau'n uniongyrchol i slot wedi'i wneud ymlaen llaw gan ddisg neu fecanwaith slotio mewn pridd heb ei aflonyddu. 
Hadau'n cael eu hau ar ddyfnder cyson. 

(Nid yw offer sy'n gwasgaru hadau ar wyneb y tir a'u claddu â pheiriant tyllu a/neu rowleri, neu driliau sy’n aflonyddu / trin y pridd cyn hau yn gymwys o dan yr eitem hon)
£26,030£10,412290
Bar diferion Gwasgarydd bar diferion sydd ag:

Isafswm lled gweithio o 6m.
Y gallu cael ei gosod ar dancer slyri presennol neu ei chysylltu â system bibellau/llinell y bogail hyblyg.
(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)
£13,210£5,284392.5
Unedau cywasgu/cyddwyso effeithlonSystemau a chydrannau oeri effeithlon iawn sy’n cynnwys: 

Uned cyddwyso arwynebedd estynedig. 
Falfiau ehangu electronig. 
£4,877£1,951325
Gwresogydd dŵr effeithlon/rheolyddion thermostatig Silindr dŵr poeth sy’n cynnwys:

Isafswm maint tanc 180 litr
System rheoli tymheredd ac amseru. 
Y gallu i ddefnyddio trydan oriau tawel a/neu drydan adnewyddadwy a gynhyrchir ar y fferm. 
£2,332£933352.5
Dyfeisiau llaw ar gyfer EIDDyfais llaw ar gyfer darllen EID sy'n cynnwys: 

Technoleg adnabod amledd radio (RFID) i ddarllen a chofnodi manylion anifeiliaid unigol
Technoleg sy’n gallu cofnodi pwysau, triniaethau, genedigaethau a symudiadau unigol.
Technoleg sy’n gallu allforio data i becyn meddalwedd cyfrifiadurol neu raglen yn y cwmwl er mwyn monitro da byw yn weithredol.
£1,098£439520
Panel darllen EID ar gyfer adnabod defaidPanel darllen EID ar gyfer adnabod defaid sy'n cynnwys: 

Darllenydd statig/rhedfa.
Rhaid iddo allu darllen tagiau HCX ac FCXB.
Dylai gynnwys antena a bod yn 
addas i’w gysylltu â chlorian pwysau.
Nid yw dyfeisiau llaw yn gymwys. 
Rhaid iddo gael i osod ar system trafod defaid.
£1,808£723560
Offer ffens drydanOffer ffens drydan, sy'n cynnwys lleiafswm o:

50 x Polion ffensys dros dro,
3 x Rîl / sbŵl ar gyfer gwifren, 
1 x rîl a phostyn (i ddal o leiaf 3 rîl)
3 x dolenni gât wedi'u hinswleiddio / darnau diwedd.
1200m Gwifren ffens drydan, gwifren blethedig neu polywire.
£407£162.80485
Energiser' ar gyfer ffens drydanEnergiser' ar gyfer ffens drydan sy’n gweithio drwy ynni’r haul, sydd â phaneli a batri solar integredig. Isafswm o 0.5 Joule.£426£170477.5
Systemau crafu trydanSystem crafu slyri trydan i’w defnyddio yn lle tractor sy’n cynnwys: 

system grafu sy’n gweithio â gyriant hydrolig neu winsh raff/gadwyn 
motorau trydan
systemau rheoli ac amseru, ac sy’n 
gallu gweithio’n awtomatig. 
£8,135£3,254455
Gwartheg:System bwyso electronigDyfais bwyso ddigidol sy'n gallu: 

Cofnodi pwysau anifail unigol.
Olrhain cyfraddau pesgi.
Didoli gwartheg gan ddefnyddio gât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatig. 
Cysylltu â chyfrifiadur neu ddyfais symudol. 

Mae bariau a llwyfannau pwyso'n eitemau ar wahân. 
£938£375.20410
Llociau perchyll wedi’u hamgáu a phadiau gwresLlociau perchyll wedi’u hamgáu a phadiau gwres y mae'n rhaid iddynt fod:

Wedi’u gwneud o baneli GRP (plastig wedi’i atgyfnerthu â gwydr) sydd wedi’u hinswleiddio.
Yn addas i'w glanhau a'u diheintio'n effeithiol.
Rhaid i’r padiau gwres fod addas ar gyfer hyd at 1800 Watt.
Rhaid i'r ddau fod â'r gallu i reoli tymheredd i sicrhau eu bod yn defnyddio ynni mor effeithlon â phosib.
£386£154480
Meddalwedd rheoli fferm a cofnodi ffisegol (ni chynhwysir ffioedd tanysgrifio)Pecynnau meddalwedd fferm ar gyfer da byw, rheoli cnydau, neu'r ddau. Rhaid i becynnau allu cofnodi gwybodaeth ffisegol i reoli perfformiad y fenter a chynorthwyo â chydymffurfedd. Un taliad tanysgrifio blynyddol yn gymwys. Ni chynhwysir taliadau misol na ffioedd blynyddol am gymorth. 
Ni chynhwysir ffioedd blynyddol am gymorth na thanysgrifiadau. 
£456£182512.5
System monitro llif ar gyfer gwasgaru slyriSystem monitro llif ar gyfer mesur a chofnodi gwasgaru slyri sy’n cynnwys:

mesurydd llif slyri,
dangosfwrdd/rheolydd yn y cab, sydd
yn gydnaws â system GPS ac 
yn gallu cofnodi a chadw gwybodaeth am gyfaint y slyri sy’n cael ei wasgaru i arwynebedd penodol, a 
lawrlwytho’r wybodaeth i gyfrifiadur.
£4,342£1,737422.5
Tanciau tanwydd (Diesel)Tanciau dosbarthu tanwydd diesel y mae’n rhaid iddynt fod: 

ag isafswm capasiti o 1,500 litr
wedi'u byndio, 
wedi’u gwneud o bolythen neu ddur,
yn gloadwy,
â mannau archwilio, ac rhaid iddynt
gydymffurfio â SSAFO


Ni chynhwysir tanciau at ddibenion domestig. 
£1,791£716355
GPS ar gyfer ffermio manwlUned GPS annibynnol sy'n: 

cynnwys swyddogaeth i fesur ffiniau ac adnabod caeau yn awtomatig, ac sy’n gallu wneud o leiaf y canlynol:
Lanlwytho a storio gwybodaeth. 
Cofnodi llinellau syth a chrwm.
Lawrlwytho gwybodaeth i gyfrifiadur.
Rhaid i eitem fod yn uned annibynnol na chafodd ei phrynu fel uned wedi'i hymgorffori mewn cerbyd nac offer amaethyddol.
£2,541£1,016.40442.5
Pedestal a phichell sychu grawnPedestal neu phicel sychu grawn gydag:

Isafswm uchder o 2.5 metr
Wedi’i adeiladu o blastig neu fetel
Yn cynnwys ffan pedestal ar gyfer echdynnu aer
£762£305420
Synwyryddion tymheredd grawnSynwyryddion wedi'u cynllunio i fonitro tymheredd grawn gyda sgrin ddigidol.
Synwyryddion sy'n gallu troi ffaniau ymlaen yn awtomatig pan fo'r tymheredd amgylchynol yn addas ar gyfer oeri grawn.
£259£104420
Gwartheg: System llaw awtomatig i olchi tethiBrwsh llaw awtomatig i olchi tethi sy'n gallu: 

Golchi, diheintio, ysgogi a sychu'r fuwch – i gyd ar yr un tro. 
£6,726£2,690405
Mesurydd lleithder (gwair a gwellt) Mesurydd lleithder cludadwy ar gyfer mesur cynnwys dŵr mewn bêls gwair a gwellt. 

I gynnwys chwiliedydd / picell.
£275£110430
Gwartheg: System i ganfod buwch sy'n gofyn neu derbyn tarw (system goler)System i ganfod buwch sy'n gofyn ac sydd wedi derbyn tarw sy'n cynnwys:

System sy’n canfod ar sail agosrwydd drwy goler a wisgir gan y tarw. 
Tagiau clust electronig y gellir eu hailddefnyddio. 
Coler ganfod ac o leiaf 50 tag clust y gellir eu hailddefnyddio. 
Rhaid i'r tag clust fod â disgwyliad oes o bum mlynedd o leiaf. 
Ni ddylid defnyddio tagiau ar gyfer adnabod anifeiliaid mewn perthynas â gofynion olrhain gwartheg BCMS.

Dim mwy na dwy system fesul blwyddyn ariannol.
£1,095£438510
Gwartheg: System canfod buwch sy'n gofyn tarw –   uned sylfaenolSystem canfod gwartheg sy'n gofyn tarw sy'n cynnwys: 

System awtomatig ar gyfer canfod buchod sy'n gofyn tarw yn seiliedig ar ymddygiad, ac 
sy’n cael ei defnyddio gyda naill ai dagiau clust electronig, coleri gwddf neu dransbonderau pigwrn/ffêr i nodi anifeiliaid unigol. 
Mae systemau y gellir eu defnyddio ar gyfer olrhain lleoliad at ddibenion rheoli hefyd yn gymwys.
£3,226£1,290457.5
Gwartheg: System canfod buwch sy'n gofyn tarw – coleri, tagiau neu fand ffêrSystem awtomatig ar gyfer canfod buchod sy'n gofyn tarw, i fesur ymddygiad sy'n gysylltiedig ag arwyddion gofyn tarw, sy’n cynnwys yr eitemau canlynol:

Coleri gwddf unigol, tagiau clust, band pigwrn/ffêr â thransbonder.  
Mae'r gost fesul coler gwddf/band pigwrn, tag glust neu folws. Mae tagiau clust, coleri gwddf, transbondwyr pigwrn neu folysau a ddefnyddir ar gyfer olrhain lleoliad at ddibenion rheoli hefyd yn gymwys.
Er mwyn i dagiau clust fod yn gymwys rhaid iddynt fod â disgwyliad oes o bum mlynedd o leiaf, a rhaid gallu eu hailddefnyddio (cael eu trosglwyddo i anifail arall). 
Nid yw tagiau a ddefnyddir at ddibenion y System Olrhain Gwartheg yn gymwys ar gyfer cyllid. 
£77£31457.5
Uned adfer gwres i gynhesu dŵr ar gyfer system dŵr poeth bresennol Uned adfer gwres sy'n gallu: 

Cynhesu dŵr ymlaen llaw gan ddefnyddio ynni sy'n cael ei ryddhau gan y system oeri llaeth. 
Defnyddio’r ynni a adferir i gynhesu dŵr ymlaen llaw ar gyfer system dŵr poeth bresennol sy’n cael ei defnyddio i olchi tanc/parlwr godro.
£5,816£2,326422.5
Olwyn pibell – system llinyn y bogailOlwyn pibell (system llinyn y bogail) sy’n gallu: 

cael ei weindio’n rhydd neu ei rannu yn adrannau
cael ei lusgo neu ei osod ar dractor, ac sy’n 
cynnwys pibell ac sydd o leiaf 400m o hyd.
£13,237£5,295300
Unedau rheoli lleithder a dadleithyddion ar gyfer sychu grawnUnedau rheoli lleithder a dadleithyddion ar gyfer sychu grawn yn barhaus sy’n cynnwys: 

System reoli i synhwyro lleithder ac i reoli dwysedd y broses sychu. 
System rhybuddio i fonitro’r broses o sychu sympiau o rawn. 
Rheolydd tymheredd ar gyfer nifer o ffannau oeri. 
£6,075£2,430375
Craets gwasgu gwartheg sy’n gweithio drwy system hydroligCraets gwasgu sy’n gweithio drwy system hydrolig neu niwmatig. Bydd gan y craets:

Iau pen hyd llawn awtomatig y gellir ei haddasu â llaw, ac iddi gyfleuster ailosod awtomatig.
Mynediad llawn at y ddwy ochr.
Cyfleuster i atal gwartheg rhag symud yn eu hôl a weithredir o du allan y rhedfa.
System addasu hydrolig neu niwmatig sy'n cael ei phweru gan bwmp hydrolig neu gywasgydd. 

Nid yw craetsys lle mae'r swyddogaeth gwasgu'n cael ei gweithredu â llaw yn gymwys. 
Nid yw craetsys tocio carnau arbenigol yn gymwys. 
£11,807£4,723407.5
Cysgodfan ar gyfer grŵp mawr o LoiCysgodfan wedi'i hawyru ar gyfer grŵp mawr o loi:

O leiaf 7m2
 system gorlannu allanol.
 chorlan wedi'i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn.
£2,618£1,047455
Porth a synwyryddion LoRaWAN IoTPorth LoRaWAN IoT sydd â’r fanyleb ganlynol o leiaf:

Porth 868Mhz sy’n cydymffurfio â LoRa Alliance/wedi’i ardystio ganddynt, gan gynnwys bracedi gosod
Antena LoRaWAN
Addas i gael pŵer dros yr ether-rwyd (PoE) – gan gynnwys chwistrellydd/addasydd PoE. 
IP67
Cydnaws â ‘Rhyngrwyd y Pethau’ neu rwydweithiau LoRaWAN eraill. 
O leiaf pum synhwyrydd i fonitro gweithgarwch fferm mewn perthynas ac anifeiliaid a chynhyrchu cnydau, a/neu berfformiad amgylcheddol. 
£1,042£417490
Synhwyrydd LoRaWAN IoTSynhwyrydd i fonitro gweithgarwch fferm sy'n ymwneud â chynhyrchu anifeiliaid a chnydau, a/neu berfformiad amgylcheddol.
Cydnaws a LoRaWAN Gateway.
£107£43490
Peiriant hadu microPeiriant hadu bach, sy'n addas ar gyfer hau hadau bach fel glaswellt, meillion, rêp, maip sofl etc. 
Isafswm maint hopys 75 litr
Wedi'i bweru gan fodur trydan,
Y gallu i raddnodi ac addasu cyfradd hadu
System rheoli electronig troi ymlaen/diffodd
Gellir ei osod ar y bras-droi’r pridd/peiriant tyrchu, tractor neu ATV.
£2,118£847.20396.7
Peiriant bras-droi'r priddPeiriant aml-ddarn cyfunol / bras-droi’r pridd, yn cynnwys: 
:

O leiaf dair gwahanol ran sy’n dod i gysylltiad â’r phridd
Y ddwy ran sy’n dod i gysylltiad â’r pridd ar resi gwahanol, naill ai: pigau sefydlog, disgiau, coesau llacio, pigau hyblyg 
Rhaid i’r drydedd ran sy’n dod i gysylltiad â’r pridd fod yn: 
 cywasgydd ôl, malwr, rowler, cylchoedd neu gylchoedd ysgwydd.
Isafswm lled gweithio o 3m. 

Nid yw peiriant palu na rhychog pŵer yn gymwys o dan yr eitem hon.
£22,892£9,157400.1
Systemau trafod symudol (100 dafad)Systemau Trafod Symudol sy'n addas ar gyfer isafswm o 100 dafad ac yn cynnwys:
 
Isafswm o 50 troedfedd o glwydi/gatiau ar gyfer creu:
Corlan grynhoi. 
Corlan gornelu. 
Corlan ddidoli.
Corlannau ochr. 
Gatiau guillotine. 
Gallu ffitio baddon traed 
Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd
Metel wedi’i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.
Nid yw trelar gneifio yn gymwys.
£6,791£2,716415
Systemau trafod symudol (250 dafad)System sy’n addas ar gyfer isafswm o 250 dafad ac yn cynnwys:

Isafswm o 125 troedfedd o glwydi/gatiau ar gyfer creu: 
Corlan grynhoi. 
Corlan gornelu. 
Corlan ddidoli.
Corlannau ochr. 
Cynnwys gatiau guillotine. 
Gallu ffitio baddon traed 
Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd 
Metel wedi’i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.
Nid yw trelar cneifio yn gymwys.
£10,914£4,365.60415
Mesurydd lleithder (grawn) Mesurydd lleithder grawn cludadwy gyda grinder grawn integredig.£372£149420
Mesurydd porfa (llaw) Dyfais llaw i asesu gorchudd y glaswellt drwy fesur cyfanswm ei uchder a nifer y mesuriadau. Rhaid i'r ddyfais allu: 

Storio gwybodaeth am gaeau ar wahân. 
Storio'r data i'w lawrlwytho i gyfrifiadur. 
£715£286402.5
Moch: Clorian bwyso electronigClorian bwyso ddigidol sy'n gallu: 

Cofnodi pwysau byw moch unigol neu grwpiau o foch. 
Didoli anifeiliaid â llaw neu'n ddigidol. 
Cael ei defnyddio mewn systemau cynhyrchu naill o dan do neu yn yr awyr agored. 
Defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd â rhyngwyneb â system rheoli data electronig. 
£1,795£718407.5
Moch: System drafod sefydlogRhedfa moch sy'n cynnwys: 

Clwydi dalennog.
Gatiau dalennog.
Rhedfa ddiogel ac effeithiol. 
Rhaid iddi fod yn addas i’w chysylltu â chlorian a’i 
haddasu i systemau cynhyrchu naill ai o dan do neu yn yr awyr agored. 
£1,706£682422.5
Plât cyfnewid gwres (PHE) sy’n cynnwys falf solenoid ar gyfer oeri llaeth Plât cyfnewid gwres wedi’i ddylunio i arbed dŵr ac ynni sy’n gallu:

oeri llaeth ymlaen llaw cyn iddo fynd i’r tanc swmp, gan ddefnyddio dŵr oer, ac sy’n 
cynnwys falf solenoid i reoli llif y dŵr i cyd-fynd â llif y llaeth cynnes.
£4,254£1,702357.5
System awyru drwy diwbiau pwysau positifSystem awyru pwysau positif sydd â'r nod o wella awyru naturiol, drwy wthio aer lân i'r adeilad. Bydd yr eitem yn cynnwys o leiaf: 

Tiwb awyru mewnol, llorweddol wedi'i wneud o bolythen / ffabrig (neu ddeunydd tebyg) wedi'i lenwi ag aer, sy'n estyn hyd yr adeilad, ac ynddo dyllau i gyfeirio'r aer i lle mae ei angen.
Ffan wedi'i osod ar y wal sy'n tynnu aer lân i'r adeilad. 
Rheolydd a/neu fecanwaith amseru i'w gychwyn a'i ddiffodd. 
£2,305£922460
System gwthio silwair robotaiddSystem robotaidd sy’n cynnwys:

Meddalwedd ddeallus y gellir ei rhaglennu i’r llwybr bwydo, ac
sy’n gallu synhwyro’r pellter o’r bar bwydo 
a chanfod faint o fwyd sydd yn y llwybr. 
£16,330£6,532455
System gwthio/casglu slyri robotaiddBocsys graddnodi ar gyfer peiriannau gwasgaru sy’n cynnwys: 

O leiaf deg bocs (50cm x 50cm).
Bafflau i atal peledi rhag bownsio allan o’r bocsys.  
Offer mesur i gyfrifo’r pwysau a wasgarwyd fesul uned o arwynebedd. 
£34,316£13,726550
Brwsh troi ar gyfer buchodBrwsh troi pwrpasol: 

sy'n dechrau ac yn stopio'n awtomatig. 
£1,844£738387.5
Systemau chwistrellu basSystem chwistrellu i chwistrellu slyri i arwyneb y pridd sy’n gallu: 

Cael ei gosod ar dancer slyri presennol neu ei chysylltu â system bibellau/llinell y bogail hyblyg 
Isafswm lled gweithio 3m. 
(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)
£22,169£8,868382.5
Cludydd defaid Cludydd dau felt ar gyfer gwneud gwaith rheoli/trin defaid cyffredinol. Uned symudol neu sefydlog. Rhaid i'r cludydd fod yn 3m o hyd, o leiaf.£14,434£5,773.60417.5
Defaid: Clorian bwyso awtomatigCrât bwyso electronig â system bwyso electronig. 
Rhaid i'r system fod yn:

Ddyfais bwyso ddigidol sydd â'r gallu i gofnodi anifeiliaid unigol a thracio cyfraddau pesgi, a bod yn
addas ar gyfer ei defnyddio gydag EID.

Os caiff system bwyso electronig ei phrynu ar wahân, gellir defnyddio’r darllenwr digidol gyda’r eitem hon.
£2,837£1,134.80372.5
Defaid: Systemau trafod sefydlogSystem trafod defaid sefydlog sy'n cynnwys: 

Corlan grynhoi.
Corlan gornelu.
Rhedfa.
Gât ddidoli.
Corlannau ochr.
Rhaid iddo fod yn addas ar gyfer gosod baddon traed, yn
addas ar gyfer o leiaf 100 o ddefaid ac 
wedi’i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.
£3,790£1,516417.5
Offer trin defaidOffer trin defaid ar ffurf crât neu graets sy'n gallu tagio, dosio a didoli defaid yn effeithlon. (Er mwyn didoli'r defaid bydd y triniwr yn eu rhyddhau'r drwy gât ddidoli)
Rhaid defnyddio metel wedi'i galfaneiddio neu wedi'i baentio â phaent powdr.
£4,199£1,680417.5
Corlan ynysu dros dro ar gyfer defaidLloc ynysu dros dro ar gyfer defaid at ddefnydd dan do neu yn yr awyr agored. Yn darparu cyfleuster i wahanu anifeiliaid unigol.
Lloc i gynnwys o leiaf pedair clwyd 1.5m / 5 troedfedd y gellir eu cloi, gan ddarparu arwynebedd lleiaf o 2.2 m2.
Uchder gofynnol y clwydi 0.9m.
Un rhwystr i gynnwys giât mynediad integredig.
Rhaid cynnwys cafn bwydo bachyn a / neu rac gwair.
Metel wedi'i orchuddio â phaent galfanedig neu bowdr.

Uchafswm o 2 loc ynysu fesul blwyddyn ariannol.
£351£140450
Gwahanydd slyri Gwahanydd slyri i wahanu hylif oddi wrth y ffibr mewn slyri anifeiliaid sy’n cynnwys: 

Pwmp slyri. 
Uned gwahanu. 
£18,405£7,362345
Bin swmpfwyd bachBin swmpfwyd bach. Isafswm capasiti 0.5 tunnell ac uchafswm capasiti 1 dunnell. Gall fod yn sefydlog neu'n symudol.                      
Yn gallu atal lleithder a fermin (rhaid bod â chaead arno).                                                                   
Wedi ei adeiladu o ddur neu blastig, rhaid i'r holl fetel fod wedi ei galfaneiddio neu wedi ei baentio â phaent powdr.
£1,418£567245
Cysgodfan ar gyfer grŵp bychan o LoiCysgodfan symudol wedi'i hawyru ar gyfer grŵp bychan o loi: 

Rhai gallu symud y lloches i'w glanhau neu ei hadleoli heb ei datgymal
O leiaf 4.5m2
 system gorlannu allanol.
Wedi'i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn. 
£799£320455
Pwmp dŵr tanddwr pŵer solarMae pwmp dŵr pŵer solar i gyflenwi dŵr i dda byw ar gyfer rheoli glaswelltir ac atal sathru cyrsiau dŵr, yn cynnwys: 
Pwmp dŵr, 
Batri 
Panel solar i ail-wefru batri
Isafswm pibell 25m
£2,586£1,034350
Ychwanegyn tocio carnau ar gyfer craets gwartheg Mae craets gwartheg arbenigol ar gyfer tocio carnau ac nid yw wedi'i fwriadu at ddibenion eraill o ran rheoli anifeiliaid. Bydd y craets yn cynnwys:

Lled mewnol o 720 mm o leiaf,
Iau pen hyd llawn, 
Bar ffolen a/neu gatiau er mwyn helpu i fynd i mewn i'r craets.
Winshis mecanyddol neu drydanol. 
Rhaid cynnwys strapiau codi harnais/cynhalydd bol.
O leiaf ddau floc carnau. 
Bydd pob rhan metel fferrus o'r craets wedi'i chalfaneiddio'n llawn neu wedi'i phaentio â phaent powdr.

Nid yw craets troi/rholio yn gymwys.
£6,408£2,563450
Aradr isbriddAradr isbridd sy'n cynnwys:

Isafswm lled gweithio o 2.7m.
O leiaf ddwy goes.
Disg dorri o flaen pob coes isbridd.  
Rowler cefn er mwyn cywasgu’r pridd.
Rheolydd dyfnder. 
£8,735£3,494300
Olwyn pibell lusg adrannolOlwyn pibell lusg adrannol ar gyfer gwasgaru slyri. Rhaid iddo gynnwys o leiaf 1600m o bibell.£11,161£4,464257.5
System slyri ‘Trailing Shoe’ sy’n cynnwys offer maluGwasgarydd slyri ‘Trailing Shoe’ sy’n cynnwys: 

Isafswm lled gweithio o 6m
Y gallu i ffitio i dancer slyri sy'n bodoli eisoes neu ei atodi i system bibellau/llinell y bogail hyblyg.
(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)
£25,842£10,337392.5
Offer rheoli cyfradd ar gyfer chwistrellwyr a pheiriannau gwasgaru gwrtaithDyfais electronig i gysylltu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith sy’n bodoli eisoes. Dylai gynnwys y canlynol: 

Y gellir ei chysylltu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith er mwyn gwasgaru ar gyfradd amrywiol heb mewnbwn gan y gweithredwr; sy’n
cynnwys system reoli sy'n gweithio drwy synhwyrydd pwysau neu synhwyrydd llif; sy’n gallu
rheoli rhannau unigol o offer (e.e. breichiau chwistrellu),
gwasgaru yn seiliedig ar faint arfaethedig y cnwd a ffrwythlondeb y pridd, 
cofnodi cyfraddau gwasgaru a'u lawrlwytho i gyfrifiadur; ac sy’n 
cynnwys rheolydd ac dangosfwrdd yn y cab. 

Nid yw’r eitem yn gymwys os caiff ei phrynu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith newydd.
£3,893£1,557452.5
Gyriannau amrywio cyflymder ar bympiau gwactod a/neu bympiau llaethPwmp gwactod amrywio cyflymder sy’n gallu: 

Amrywio cyflymder pwmp gwactod fel nad yw’n gwneud ond y gwaith sydd ei angen. 
£4,444£1,778377.5
Tanceri dŵr gyda chafn integredigTancer Dŵr gydag isafswm capasiti 1000 litr i gyflenwi dŵr i dda byw ar gyfer rheoli glaswelltir ac atal sathru cyrsiau dŵr.
Yn cynnwys cafn dŵr integredig sy'n llenwi o'r tanc yn awtomatig. 
Rhaid i'r eitem fod yn system integredig,
Nid yw prynu trelar, tanc dŵr a chafn ar wahân yn gymwys
£3,094£1,237350
System casglu a hidlo dŵr glaw (uwchlaw wyneb y tir) Systemau casglu a hidlo dŵr glaw sy’n cynnwys: 

Tanc uwchlaw wyneb y tir.
System hidlo a’r tapiau a’r ffitiadau cysylltiedig. 
Tanc sy’n dal o leiaf 10,000 litr. 
System hidlo ar y mewnlif. (lle mae mwy nag un tanc wedi'i osod a'i gysylltu, dim ond un system hidlo mynediad sydd ei hangen)
Gorlif yn cael ei ailgyfeirio i ddraen dŵr glân. 
Bydd y dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, a bydd y tanc yn cael ei gysylltu â system defnyddio dŵr addas. 
Dŵr a gynaeafir o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.
£2,000£800280
System casglu dŵr glaw (islaw arwyneb y tir)System casglu dŵr glaw sy’n cynnwys: 

Tanc islaw arwyneb y tir.
Tanc sy’n dal o leiaf 20,000 litr.
System hidlo a’r cysylltyddion a’r ffitiadau cysylltiedig.
Pwmp dŵr.
Hidlydd UV.
System hidlo’r mewnlif. 
Gorlif yn cael ei ailgyfeirio i ddraen dŵr glân.

Bydd y dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, a bydd y tanc yn cael ei gysylltu â system defnyddio dŵr addas.
Dŵr a gynaeafir o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.
£9,000£3,600280
Weed wiper‘Weed Wiper’ i ganiatáu rheoli chwyn mewn modd dethol â llai o chwynladdwr. Rhaid iddo: 

Fod yn addas i gael ei dynnu gan beic cwad neu ei osod ar dractor 
Cynnwys tanc a phwmp ar gyfer dosbarthu cemegion. 
Bod o leiaf 2m o led. 
£3,199£1,280452.5
Gwartheg: Bariau/Platfformau pwysoBariau/Llwyfannau Pwyso sy’n cynnwys: 

Bariau neu lwyfan pwyso sy'n gydnaws â'r craets, ac  
sy’n gydnaws â system bwyso electronig.
 
£1,217£487410
Cafnau bwyd sy'n atal bywyd gwylltCafn bwyd gwartheg sy'n cynnwys: 

Roleri neu fecanweithiau eraill sy'n rhwystro neu'n atal bywyd gwyllt rhag cael at y bwyd gwartheg.

Pris fesul cafn.
£356£142422.5
Daliwr torthau mwynau sy'n atal bywyd gwylltDaliwr torthau mwynau i wartheg, sy'n atal bywyd gwyllt rhag dod i gysylltiad â'r dorth fwynau. 

Pris fesul daliwr.
£188£75402.5
Dyfais monitro maint cnwdDyfais monitro cnwd electronig i gysylltu â chynaeafwr combein neu borthiant sy'n bodoli eisoes 
Monitro maint y cnwd yn ystod y cynhaeaf.
Dylai gynnwys synwyryddion ac dangosfwrdd yn y cab. 
Dylai allu lawrlwytho'r wybodaeth sy'n cael ei chofnodi i gyfrifiadur, a darparu gwybodaeth am y gyfradd cynaeafu, gan fesur maint y cnwd yn ôl arwynebedd y cae neu ran o'r cae. 
£4,730£1,892432.5