Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd pryderon cynyddol ynghylch mynediad at wasanaethau deintyddol yn y GIG – pryderon sy'n amlycach fyth mewn ardaloedd gwledig a chymunedau mwy difreintiedig. Mae adroddiadau am 'anialwch deintyddol', fel y'i gelwir, ac am y nifer cynyddol o gleifion sy'n rhoi'r gorau i driniaeth neu'n defnyddio gofal preifat, yn peri pryder ac yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gymryd o ddifrif.
Er bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran gwella iechyd y geg ymysg plant yng Nghymru, rydym yn llwyr gydnabod bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi a chryfhau gwasanaethau deintyddiaeth fel rhan annatod o'r GIG. Rydym, fel Llywodraeth newydd, yn benderfynol o sicrhau bod y rhwystrau rhag cael mynediad at ddeintyddiaeth yn y GIG yn cael eu datrys, ac yn rhoi pwyslais gref ar ataliaeth, sydd bellach yn cael ei ymgorffori i wasanaethau deintyddol o ddydd i ddydd trwy'r gwaith o ddiwygio'r maes deintyddol yn y GIG.
Mae'r contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol newydd yn cynrychioli'r newid mwyaf arwyddocaol i'r maes ddeintyddiaeth yn y GIG yng Nghymru ers bron i ugain mlynedd. Am y tro cyntaf, mae atal a gofal sy'n seiliedig ar anghenion wedi'u hymgorffori mewn modd priodol yn y fframwaith cytundebol ei hun. Mae'r system newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar atal, asesu risg, angen clinigol a chanlyniadau hirdymor i iechyd y geg, ac yn dileu'r metrig Uned o Weithgaredd Deintyddol a fu'n asgwrn cynnen ers tro byd. Bydd y gwir effaith yn cymryd amser i'w asesu, fel sy'n wir am unrhyw waith diwygio eang, ond rydym eisoes yn gweld mwy o ofal ataliol yn cael ei ddarparu a chapasiti'r GIG wedi'i gyfeirio at y rhai sydd ei angen fwyaf.
Mae'r Porth Mynediad Deintyddol bellach yn cael ei ystyried yn un o'r newidiadau pwysicaf ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru. Am y tro cyntaf, bydd gan y Byrddau Iechyd ddarlun cynhwysfawr o ble mae pobl yn ceisio gofal deintyddol yn y GIG a ble y dylid targedu unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol. Byddwn yn annog yn gryf i unrhyw un sy'n chwilio am wasanaethau deintyddol yn y GIG gofrestru eu manylion ar y Porth. Mae pob cofrestriad yn helpu Byrddau Iechyd i ddeall yr anghenion lleol yn well ac yn sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol yn cyrraedd y cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Mae mynediad yn parhau i fod yn heriol mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n benderfynol o weld gwelliant yn ystod tymor y llywodraeth hwn. Nawr rwyf am droi fy sylw at fodelau darparu gwasanaethau a'r gweithlu.
Mae gwasanaeth deintyddol cynaliadwy yn y GIG yn dibynnol ar weithlu cynaliadwy. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gefnogi cynnig Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth i agor Ysgol Ddeintyddol newydd i Gymru. Byddai ehangu capasiti hyfforddi yn cynyddu argaeledd y gweithlu mewn meysydd sydd, yn hanesyddol, wedi cael trafferth o ran recriwtio a chadw staff. Byddai hefyd yn cryfhau cynaliadwyedd hirdymor deintyddiaeth o fewn y GIG. Ochr yn ochr â hyn, mae angen i ni gryfhau'r broses o gynllunio'r gweithlu er mwyn sylwi ar feysydd a fydd o dan bwysau yn y dyfodol, cyn i hynny effeithio ar wasanaethau. Bydd y Llywodraeth hon yn cyhoeddi strategaeth gweithlu hirdymor ar gyfer GIG Cymru yn yr hydref, gan nodi camau gweithredu ymarferol i gryfhau'r cyflenwad o staff, trefniadau cynllunio'r gweithlu, ymdrechion i gadw gweithwyr a chynaliadwyedd gwasanaethau dros y degawd nesaf.
Mewn ardaloedd gwledig, rwyf am weld byrddau iechyd yn datblygu modelau cyflogedig mwy arloesol, gwneud mwy o ddefnydd o ganolfannau cymunedol gyda darpariaeth ddeintyddol, ac ail-archwilio'r ddarpariaeth symudol ar gyfer ein cymunedau mwyaf gwledig.
Mae'r hyn sydd angen i ni ei wneud yn glir: helpu i gael plant iachach, mesurau ataliol gwell, gwell mynediad a gwasanaeth deintyddol GIG mwy cynaliadwy i'r dyfodol.
