Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher - Cyfarwyddwr Anweithredol, Chadeirydd - ARAC LlC a Bwrdd Sicrwydd CS&I
  • Gareth Pritchard - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd ECWL
  • Kevin Roberts - Aelod Annibynnol, Cadeirydd - Bwrdd Sicrwydd LGHCCRA
  • Chris Martin - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd HSC&EY
  • Scott Waddington - Aelod Annibynnol, Cadeirydd – Bwrdd Sicrwydd EET
  • Andrew Goodall - yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp LGHCCRA
  • Claire Bennett - Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Grŵp LGHCCRA
  • Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp CS&I
  • Jacqueline Totterdell - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp HSC&EY
  • Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
  • Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp EET
  • Judith Paget - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
  • Dean Medcraft - Cyfarwyddwr Cyllid
  • David Richards - Cyfarwyddwr, Priodoldeb a Moeseg
  • Georgina Haarhoff - Cyfarwyddwr Addysg (ar gyfer Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL)
  • Helen Morris - Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Stephanie Howarth - Dirprwy Gyfarwyddwr, Prif Ystadegydd
  • Kath Jenkins - Drprwy Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Diogelwch
  • Aimee Symonds - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cynllunio a Chyflenwi AD
  • Clare Thomas - Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock - Archwilio Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Pennaeth Atal Twyll
  • Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
  • Pennaeth yr Uned Cyrff Cyhoeddus
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC

1. Datganiadau o Fuddiant

1.1 Ni ddaeth unrhyw ddatganiadau o fuddiant i law mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2026

2.1 Cytunodd y Pwyllgor fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cyflawn a chywir. Nododd yr Aelodau y cynnydd da a wnaed wrth roi’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith, a chafwyd diweddariadau ar y rhai nad oeddent wedi eu cwblhau.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor yn dilyn canlyniad etholiadau'r Senedd, gyda ffocws penodol ar lywodraethu, risg, a pharodrwydd gweithredol, a oedd yn cynnwys:

  • Y sefyllfa sy'n dod i'r amlwg a oedd yn awgrymu gweinyddiaeth leiafrifol.
  • Y gwaith paratoi a wnaed gan swyddogion, a oedd yn cynnwys trafodaethau mynediad gyda phleidiau gwleidyddol a threfniadau i gefnogi'r weinyddiaeth sy'n dod i mewn.
  • Yr amserlen a ragwelir ar gyfer penodi'r Llywydd, y Prif Weinidog, a'r Gweinidogion.
  • Cynllun 100 diwrnod Plaid Cymru a'r angen i swyddogion gynllunio'n effeithiol i'w gyflawni.
  • Pwysigrwydd sicrhau bod pob penderfyniad yn gyfreithlon, yn ddiogel, ac yn cael ei gefnogi gan reolaethau cymesur.

Cymeradwyodd y Pwyllgor y ffocws cynyddol ar lywodraethu effeithiol a rheoli risg yn ystod y cyfnod pontio gwleidyddol.

4. Llywodraethiant a risg

4.1 Dechreuodd y Pwyllgor graffu ar ddogfennau allweddol ac adroddiadau blynyddol gan roi sicrwydd sy'n sail i'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2025-2026.

4.2 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r adroddiadau canlynol sy'n crynhoi gweithgarwch sicrwydd yn ystod 2025-2026:

  • Yr Adroddiad Sicrwydd blynyddol ar y Defnydd o Fodelau Dadansoddol gan y Prif Ystadegydd.
  • Yr adroddiad blynyddol gan yr Uned Cyrff Cyhoeddus.
  • Yr adroddiad blynyddol gan y Swyddog Diogelu Data.
  • Yr Adroddiad blynyddol ar Ddiogelwch a Rheoli Gwybodaeth gan y Prif Swyddog Diogelwch.
  • Yr adroddiad blynyddol gan y Pennaeth Atal Twyll.

4.3 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y sefyllfa ariannol diwedd y flwyddyn gan y Cyfarwyddwr Cyllid, a chafodd y sefyllfa gadarnhaol, a oedd wedi ei chefnogi gan reolaethau ariannol cadarn, ei chroesawu.

4.4 Gwnaeth y Pwyllgor ystyried a chymeradwyo'r crynodebau gan Fyrddau Sicrwydd y Grwpiau, a oedd yn canolbwyntio ar graffu ar ffurflenni'r Holiadur Rheoli Mewnol (ICQ), rheoli risg, cyllid diwedd y flwyddyn, statws ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, a diweddariadau ar gynllunio ar gyfer y weinyddiaeth newydd. Ni nodwyd unrhyw feysydd i'w huwchgyfeirio i ARAC LlC.

4.5 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y broses ICQ a gadarnhaodd fod yr holl ffurflenni wedi'u cwblhau, eu herio ar lefel grŵp, a'u bod yn cael eu cymedroli gan yr arweinwyr gweithredol. Gofynnodd y Pwyllgor i'r cwestiynau gael eu hailystyried cyn yr ymarfer nesaf i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn briodol ar gyfer cefnogi gwelliant parhaus.

4.6 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, a chymeradwyodd yr ymarfer i adnewyddu'r gofrestr a'r Datganiad ar Barodrwydd i Dderbyn Risg, yn sgil ffurfio'r Llywodraeth newydd.

5. Diweddariad Archwilio Mewnol

5.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2025-2026.

5.2 Hefyd, cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar Asesiad Ansawdd Allanol Archwilio Mewnol. Nodwyd bod yr asesydd allanol wedi darparu barn "yn cydymffurfio'n helaeth" â Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang, a bod cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu i fynd i'r afael â chamau adfer.

6. Diweddariad Archwilio Allanol

6.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan Archwilio Cymru ar eu dull o archwilio cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru a oedd yn canolbwyntio ar lefelau perthnasedd, risgiau sylweddol, a'r ffi archwilio uwch.

6.2 Cafwyd diweddariad hefyd ar astudiaethau ac adolygiadau gwerth am arian Archwilio Cymru, sydd naill ai wedi'u cyhoeddi neu sydd ar y gweill. Tynnwyd sylw at ganlyniad cylch diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru, y bydd Archwilio Cymru yn adrodd yn gyhoeddus arno maes o law.

Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi – Gorffennaf 2026