Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud deddfwriaeth bellach i newid neu addasu elfennau penodol o’r ddeddfwriaeth drethi sy’n gymwys yng Nghymru, er mwyn:

  • sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru (y dreth gwarediadau tirlenwi a’r dreth trafodiadau tir ar hyn o bryd) yn cael eu gosod yn groes i rwymedigaethau rhyngwladol;
  • amddiffyn rhag osgoi trethi datganoledig Cymru;
  • ymateb i newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i drethi blaenorol y DU (treth dir y dreth stamp neu’r dreth dirlenwi) sy’n effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, neu a allai effeithio ar hynny; ac
  • ymateb i benderfyniadau’r llysoedd/tribiwnlysoedd sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y modd y mae Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt, yn gweithredu. (Mae’r term ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn cyfeirio at Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.)

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Ddeddf i rym ar 9 Medi 2022, sef y diwrnod ar ôl iddi gael y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 9:

 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (Estyn Dyddiad Dod i Ben) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 8618 Mawrth 202620 Mawrth 20262026 Rhif 86: Memorandwm Esboniadol ar senedd.wales

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (ar y pryd) ar 13 Rhagfyr 2021 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2022.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2). 
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi 2022: